Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Hoffwn diolch yn fawr i olygydd bARN, y cylchgrawn misol Cymraeg ar gwleidyddiaeth, llenyddiaeth a ddiwilliant, am caniatai i ni ail-gyhoeddu erthyglau, adolygiadau a sylwadau ar Theatr yng Nghymru yma ar ein wefan. Ar hyn o bryd mae 169 eitem yn ein harchif .

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com


Cyfrol:530, Mawrth 2007
Cysgod y Cryman gan Dafydd Llewelyn
Adolygiad

Cyfrol:525, Hydref 2006

Enfys dros Ddyfed gan Mandi Morse
Aeth Mandi Morse i weld sioe un fenyw newydd Sharon Morgan, Holl Liwie’r Enfys.

Beckett a Bara Caws gan Gwenan Mared
Yn ystod yr Eisteddfod, aeth Gwenan Mared i weld Jac yn y Bocs Bara Caws ac Wrth Aros Beckett, dehongliad y Theatr Genedlaethol o ddylanwad Samuel Beckett ar ddramodwyr Cymraeg. Yma fe berfformiwyd hefyd dwy o’i ddramâu byrion mewn cyfieithiadau newydd o

Cariad Mr Bustl gan Gareth Miles
Ddeugain mlynedd wedi iddo daro ar un o ddramâu Molière ar hap yn Paris, dyma Gareth Miles yn mynd ati i gyfieithu un arall o’i gomedïau cymdeithasol.

Mudiad y Bobl gan Dafydd Morgan Lewis
Gwerth cymunedol ac nid esthetig oedd i’r ddrama Gymraeg yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Felly y dehongla Dafydd Morgan Lewis neges llyfr newydd gan Ioan Williams, Y Mudiad Drama yng Nghymru 1880-1940.

Dramâu’r Wyl gan Dafydd Llewelyn
Dafydd Llywelyn sy’n bwrw golwg ar gystadlaethau’r Fedal Ddrama a’r Ddrama Hir yn yr Eisteddfod eleni, ac yn awgrymu ffyrdd ymlaen i ddarpariaeth theatrig Eisteddfodau’r dyfodol.

Cyfrol:522/523 Awst 2006

Colofn Gareth Miles gan gareth miles
Mae’n rhaid i ddrama wynebu croestyniadau cymdeithas yn onest medd Gareth Miles.

Urddas Cenedl a Theatr gan Dafydd Llewelyn
Roedd cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther yn llawn haeddu’r ganmoliaeth a roddwyd iddo yn ôl Dafydd Llywelyn.

Pwy yw’r Mordecai Modern? gan Emyr Hywel
Er cymaint y ganmoliaeth i gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Esther, ni ddylid anghofio, ynghanol y drafodaeth ar gamp theatrig, ei neges. Dyna farn Emyr Hywel.

Theatr Cylch Meithrin gan Jeremy Turner
Ar hyn o bryd, mae Arad Goch yn teithio gyda sioe plant newydd Penbobi Hapus, a honno’n darparu ar gyfer plant mor ifanc â thair oed. Jeremy Turner sy’n sôn am gelfyddyd sy’n apelio at y gynulleidfa ieuengaf oll.

Y Dieithredig gan Roger Owen
Gyda chyhoeddi dramâu Aled Jones Williams ar ffurf cyfrol yn ddiweddar daeth yn bryd, medd Roger Owen, i fwrw golwg beirniadol ar ei gyfraniad fel dramodydd hyd yma.

Diafol Drama gan Elin llwyd Morgan
Ydy o’n bryd noddi’r dramâu festri? Elin Llwyd Morgan sy’n dweud fod rhaid cefnogi’r noswaith ddrama gymunedol.

Cyfrol:519, Ebrill 2006

Chwarae Gêm gan Gwenan Mared
Cafodd Gwenan Mared gryn hwyl wrth fynd i weld Dominos – cynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol – ond nid oedd yno, gwaetha’r modd, yr x ffactor.

Colofn Gareth Miles gan Gareth Miles
Mae Gareth Miles yn bwrw golwg ar waith Harold Pinter wedi iddo ennill ei Wobr Nobel.

O Gelloedd Walton gan Gareth Evans
Mae drama gyntaf Dewi Prysor DW2416 yn adrodd ei brofiadau fel carcharor gwleidyddol sy’n disgwyl sefyll ei brawf. Ym marn Gareth Evans mae’n fonolog pwerus ac effeithiol.

Rhyw Dwyll yng Nghymru Fach gan Dafydd a Mandi Morse
Astudiaeth o ragrith cymdeithasol yw Cymru Fach, drama newydd Wiliam Owen Roberts, yn ôl Dafydd a Mandi Morse. A rhyw ydy’r ddolen gyswllt sy’n dal y rhagrith hwn ynghyd.

Yr ifanc a Wyr gan Dafydd Llewelyn
Aeth Dafydd Llywelyn i weld cynhyrchiad Coleg Cerdd a Drama Caerdydd o ddrama newydd gan Siôn Eirian, Hedfan drwy’r Machlud. Ond beth yw ei farn am safon yr hyfforddiant theatrig a gynigir i bobl ifanc heddiw?

Cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

‘Pobol Gyffredin’ gan Gareth Miles
Sut mae llunio drama am y dosbarth gweithiol? Aeth Gareth Miles i weld drama am griw o deilswyr Gwyddelig.

Ffani a Dic yn Ffestiniog gan Gareth Evans
Gydag un o sioeau clybiau Bara Caws unwaith eto ar daith, tybia Gareth Evans fod angen gwell plot a strwythur ar y cynhyrchiad.

Y Diwygiad di-ddigwyddiad gan Dafydd Llewelyn
Oni bai am y canu, perfformiad fflat. Dyna ddyfarniad Dafydd Llywelyn ar Hen Rebel – drama Theatr Genedlaethol Cymru am Ddiwygiad 1904/5.

Trasiedi a Chomedi gan Gwenan Mared
Sut mae ysgrifennu drama sy’n seiliedig ar bobl y mae rhai yn y gynulleidfa yn eu hadnabod yn bersonol? Dyna, i Gwenan Mared Jones, y cwestiwn canolog y mae Life of Ryan... and Ronnie Meic Povey yn ei godi.

Bôrd neu beidio â bod? Dyna’r Cwestiwn. gan Eurgain Haf
Bu Eurgain Haf yn gweld perfformiad Cymraeg Cwmni Theatr Cymru o Hamlet yn ddiweddar. Ond a gafodd ei hargyhoeddi?

Cyfrol:513, Hydref 2005

Byd y Cyfarwyddwr gan Angharad Elen
Ar Theatr y Maes yn Eisteddfod Eryri eleni cafwyd sgwrs gydag Angharad Elen, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru yn holi Elen Bowman, Cyfarwyddwr Cyswllt y cwmni hwnnw am gyfarwyddo, actio a chyflwr y theatr Gymraeg yn gyffredinol.

Gwyntoedd Croesion gan Gareth Miles
Mae Gareth Miles yn cynnig dehongliad ar ‘ddrama ar wleidyddiaeth Cymru’ a luniwyd yn y 1920au; drama sy’n dweud llawer am Sosialaeth a Chenedlaetholdeb yng Nghymru heddiw.

Amrywiaeth mewn ’Steddfod gan Gwenan Mared
Er gwaetha’ diffyg drama gomisiwn, roedd digonedd o weithgarwch theatrig yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau. Gwenan Mared aeth i weld dramâu’r Steddfod ar ran Barn.

Cyfrol:510, Gorffenaf / Awst 2005

Mae Newid yn ‘Change’ gan Dafydd Llewelyn
Dafydd Llywelyn sy’n crynhoi datblygiadau diweddar ym myd y ddrama.

Y Gwyddyl a’r Brits gan Aran Jones
Wrth fynd i weld Frongoch yng Nghaernarfon, argyhoeddwyd y cenedlaetholwr Aran Jones gan ei neges wleidyddol. Ond beth tybed oedd ei farn am ei rhagoriaethau fel drama?

Theatr Lwcus gan Emyr Edwards
Fe blesiwyd Emyr Edwards yn arw gan gynhyrchiad Theatr Bara Caws o gyfieithiad Bryn Fôn o Ffernols Lwcus John Godber.

Cyngor i Ddramodydd Ifanc gan Gareth Miles
Yn ôl Gareth Miles mae’n rhaid i ysgrifenwyr ifainc drechu haniaeth a negyddiaeth os am lwyddo i greu llenyddiaeth gofiadwy.

Y Ffair a’r Ty gan Gwenan Mared
Ar gyfer ei Doethuriaeth astudiodd Gwenan Mared waith Gwenlyn Parry. Ond taith ddiweddar Theatr Genedlaethol Cymru gydag un o’i ddramâu enwocaf oedd ei chyfle cyntaf i weld Ty ar y Tywod ar y llwyfan Cymraeg.

Hwyl mewn esgidiau jazz gan Luned Emyr
Gyda’r Eisteddfod eleni ar stepen drws Ysgol Glaenaethwy, mae Luned Emyr yn cofio am y cyflwyniad i fyd y theatr a gafodd yn yr ysgol honno.

Cyfrol:507 ebrill 2005

Iffigenia yn Awlis gan gareth miles
Mae colofn Gareth Miles yn theatr yn ei hôl. Prolog i Yr Unbennes, sef cyfaddasiad o Yr Oresteia gan Aischolos y mae'r awdur yn ei lunio y tro hwn.

Yr Ifanc a wyr gan kate woodward
Ganol mis Mawrth, cynhaliwyd G_yl Theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaoedd Ifanc. Aeth Kate Woodward yno ar ran Barn.

Nes na'r hanesydd gan ifor ap glyn
Yn 1916 carcharwyd 1800 o Wyddelod mewn hen ddistylldy whisgi yn Frongoch ger y Bala, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn. Hanes y gwersyll carchar hwn yw cefndir y ddrama ddiweddar gan Ifor ap Glyn, Frongoch.

Agor Dipyn ar Gil y Drws gan eurgain haf
Fe aeth Eurgain Haf hithau ar gwrs ysgrifennu drama Sgript Cymru a’i gael yn brofiad diddorol.

Mentro i Gae Drama gan Caryl Lewis ac Eurgain Haf
Yn y gwanwyn, llwyfanwyd gwaith pump o ddramodwyr ifanc gan Sgript Cymru yn y cywaith Drws arall i’r Coed. Tri o’r dramodwyr hynny oedd Gwyneth Glyn, Dyfrig Jones a Manon Wyn. Y ddau arall oedd Caryl Lewis ac Eurgain Haf sy’n ymateb i’w phrofiadau gyda Sg

Plas Llwyddiant gan gwenan mared
Drama newydd gan Gwyneth Glyn, a chynhyrchiad llwyddiannus gan y Cwmni Cenedlaethol. Fe blesiwyd Gwenan Mared yn arw pan aeth i weld Plas Drycin.

Cyfrol:503, Rhagfyr 2004

Romeo, Romeo, Lle Goblyn Oeddach Chdi? gan Dafydd Llewelyn
Dafydd Llywelyn sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet.

Newyddiadur y Byd Theatr gan Kate Woodward
Prif ffynhonnell newyddiadura, adolygu a thrafod theatr yng Nghymru (yn yr iaith Saesneg, o leia’) yw gwefan annibynnol yng ngofal y ffotograffydd Keith Morris. Mae Kate Woodward yn bwrw golwg ar ei chyfraniad i’r theatr yng Nghymru.

I Glustiau Plant Bychain gan Jeremy Turner
Un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yn y theatr Gymraeg yw theatr i blant. Jeremy Turner sy’n sôn am ei llwyddiant.

Y Comisiwn gan Angharad Jones
Mae Comisiynydd Drama a Ffilm S4C, Angharad Jones, yn edrych ar ei rôl yn comisiynu dramâu ar gyfer S4C.

Cyfrol:502, Tachwedd 2004

Beryl – Y Rhyfeddod Prin gan Dyfan Roberts
Mae DYFAN ROBERTS yn talu teyrnged i’r actoress Beryl Williams a fu farw yn gynharach eleni.

Lyshio gan Gwenan Mared
Aeth GWENAN MARED i weld cynhyrchiad Cwmni Bara Caws o ddrama newydd Aled Jones Williams, Lysh, yn yr Eisteddfod.

Colofn Gwyneth Glyn gan Gwyneth Glyn
Hud a Llediaith

Cyfrol:495, Ebrill 2004

Y Farchnad a’i Psyche gan Hefin Wyn
Ydy Ar y Lein yn cyhoeddi dyfodiad dramodydd ifanc newydd gwefreiddiol? Dyna yw barn HEFIN WYN am ddrama gyntaf Gwyneth Glyn.

Gobaith Wil gan Dafydd Llewelyn
Gyda’r Theatr Genedlaethol wedi ei lansio ym mis Mawrth, bu DAFYDD LLYWELYN ar drywydd gwaith ein dramodwyr ifanc, gan ganolbwyntio yn arebennig ar waith Sgript Cymru.

Cysgod Columbine gan Meleri Wyn James
Aeth Meleri Wyn James i weld sioe newydd Arad Goch, Riff.

Cyfrol:491/492, Rhagfyr/Ionawr 2003/04

Does unman yn debyg i gartref gan Gwyneth Glyn
Drama lawn mwynhad pur yw Dulce Domum i GWYNETH GLYN.

Glaw mawr gan Gwenan Mared
Cafodd GWENAN MARED olwg newydd ar ddramâu ddiwedd y nawdegau Ed Thomas yn y gyfrol Selected Work 95-98 sy’n cynnwys ei waith detholedig yn y cyfnod hwnnw.

Tranc y Dramodydd? gan Dafydd Llewelyn
Mae DAFYDD LLYWELYN yn bwrw golwg ar ddogfen newydd sy’n honni nad yw Cyngor Celfyddydau Cymru yn gwneud ndigon i hyrwyddo ysgrifennu creadigol gan ddramodwyr.

Cyfrol:489, Hydref 2003

Ar Sgwâr Maenclochog gan Terwyn Tomos
TERWYN TOMOS sy’n bwrw golwg yn ôl ar Carnabwth, perfformiad panaromig yn adrodd hanes terfysg Beca a lwyfanwyd yn Sir Benfro ganol yr haf. Dyma’r gyntaf o ddwy erthygl yn edrych ar ‘sioeau cymunedol’.

Ci Tintin gan Eluned Jones
Bu Meinir Eluned Jones yn gweld drama ddiweddaraf Aled Jones Williams, Be’ o’dd enw ci Tintin?

Y Theatr Lawn gan Meleri Wyn James
Coron Driphlyg, ond dim Grand Slam, oedd hi i fersiwn llwyfan Amdani, medd MELERI WYN JAMES, wrth adolygu cynhyrchiad sy’n cylchdroi i’r dim yr ymdrech i greu theatr boblogaidd.

Cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003

Y Wenallt a’i Swyn gan Gwenan Mared
Gwelodd GWENAN MARED gynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o Dan y Wenallt, cyfieithiad T. James Jones o Under Milk Wood Dylan Thomas, yn y gwanwyn, a’i gael yn brofiad gwefreiddiol.

Theatr a’i Chyfarwyddwr gan Dafydd Llewelyn
Gyda phenodi Cefin Roberts i swydd Cyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol Gymraeg, dywed DAFYDD LLYWELYN fod darnau’r freuddwyd theatrig hon yn disgyn i’w lle.

Ar ein liwt ein hunain gan Gwyneth Glyn
GWYNETH GLYN yw un o awduron Anterliwt yr Ynys Las, anterliwt wleidyddol am yr argyfwng tai a’r mewnlifiad. Yma, mae’n ystyried sut beth yw llwyfannu drama gymunedol heb arian cyhoeddus, a’r ffin fregus rhwng celfyddyd a phropaganda.

Cyfrol:483, Ebrill 2003

Diwrnod Dwynwen gan Llinos Nelson
Chwech o ddramâu byr gan chwe dramodydd ifanc fu cynhyrchiad diweddaraf Sgript Cymru. LLINOS NELSON sy’n bwrw golwg ar eu gwaith.

Cyfrol:482, Mawrth 2003

Yn ôl i Dir Na n’Og gan Iwan Llwyd
Mae IWAN LLWYD yn cofio llwyfaniad cyntaf Nia Ben Aur.

Nid Aur yw pop-eth Melyn gan Gwyneth Glyn
Fe siomwyd GWYNETH GLYN gan berfformiad Theatr na n’Og o Nia Ben Aur

Colofn Gareth Miles – Theatr Genedlaethol Cymru gan Gareth Miles
Daeth GARETH MILES yn aelod o Fwrdd Rheoli Theatr Genedlaethol Cymru ers ei gyfraniad diwethaf i theatr.

Dy Daith dy Hun gan Meinir Eluned Jones
Aeth MEINIR ELUNED JONES i weld y fersiwn llwyfan o Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun gan Aled Jones Williams.

Cyfrol:479/480 Rhagfyr/Ionawr 2002/2003

Prynwch Fuwch, rhag ofn gan Dafydd Llewelyn
Prynu buwch yw cyngor DAFYDD LLYWELYN ar gyfer 2003, ac yntau’n bwrw golwg yn ôl dros gynnyrch 2002 ym myd theatr Cymru.

Mole Vama gan Jerry Hunter
Mae Theatr Gwynedd newydd lwyfannu drama newydd gan Aled Jones Williams am y mewnlifiad, Ta-Ra Teresa. Gofynnwyd i JERRY HUNTER gyflwyno dadansoddiad o nod yr awdur, a chyhoeddir fersiwn o’r llith hwnnw yma.

A55 Dwy Ffordd gan Nic Ros
Aeth NIC ROS i weld cynhyrchiad Theatr Gwynedd o ddrama Aled Jones Williams am y mewnlifiad

Cyfrol:477, Hydref 2002

Wil Sam gan Twm Morys
Gyda’r cynhyrchiad Fel Hen Win ar ddiwedd ei daith, TWM MORYS sy’n sôn am Wil Sam.

Y fewnfudwraig gan Dyfrig Jones
Buddugoliaeth cenedlaetholdeb ceidwadol dros ryddfrydiaeth seciwlar yw Blodeuwedd medd DYFRIG JONES, ac roedd dehongliad Theatr Gwynedd o’r cynhyrchiad yn rhannol llwyddianus.

Colofn Gareth Miles – Dramâu a’u Hawduron gan Gareth Miles
Treuliodd GARETH MILES y mis diwethaf yn theatrau Cymru

Chwerthin anaddas gan Nic Ros
Aeth NIC ROS i weld cynhyrchiad Whare Teg o Perthyn Meic Povey a chael ei siomi.

Cyfrol:476, Medi 2002

Steddfod yn y Dosbarth gan Luned Emyr
Aeth LUNED EMYR i weld Dosbarth, drama gomisiwn yr Eisteddfod. Y cymeriadu a’r dychan ar uchelgais cymdeithasol aeth â’i bryd hi.

Cyfrol:474/475, Gorffennaf/Awst 2002

LLAIS UNIG YNG NGHANOL ANIALWCH O ANOBAITH gan Dafydd Llewelyn
Bu DAFYDD LLYWELYN yn darllen y gyfrol o fonologau Cymraeg sydd newydd ei chyhoeddi.

BIG BROTHER A GWLAD FFRIS gan Lisa Jen
LISA JEN sy’n bwrw golwg yn ôl ar ei chyfnod fel actores yn Skylke, Gwlad Ffris yn gweithio ar y cynhyrchiad amlieithog – Salted.

Cyfrol:470, Mawrth 2002

Y Cam â Glanaethwy gan Dafydd Llewelyn
Ydy’r beirniadu a’r broffesiynoldeb Ysgol Glanaethwy yn enghraifft o bla plwyfoldeb, gofynna DAFYDD LLYWELYN

Mwnci Nel! gan Gwenan Mared
Aeth GWENAN MARED i Glwb Cymdeithasol Bangor i weld y cynhyrchiad o sioe ddiweddaraf Theatr Bara Caws, Mwnci Nel.

Cyfrol:465, Hydref 2001

Hiwmor Du a Chegin Gefn gan Mared Lewis
Aeth Mared Lewis i weld Dynes Ddela Leenane, cyfieithiad Huw Roberts o The Beauty Queen of Leenane gan Martin McDonough

Colofn Gareth Miles gan Gareth Miles
Ymateb i: Cais gan Gyngor Celfyddydau Cymru ar gyfer Cwmni Theatr Teithiol Cymraeg Newydd Mae GARETH MILES yn feirniadol o gynlluniau Cyngor y Celfyddydau ar gyfer theatr yng Nghymru.

Gramadeg Gwenlyn gan Elaan Closs Stephens
Oherwydd diffyg adnoddau y theatr Gymraeg, ar y teledu yn bennaf y perfformwyd gwaith Gwenlyn Parry, fel yr edrydd Elan Closs Stephens.

Gwenlyn Zapata gan GWENAN MARED ROBERTS
Mae’n ddeng mlynedd ers marwolaeth Gwenlyn Parry. GWENAN MARED ROBERTS sy’n bwrw golwg ar y casgliad cyflawn cyntaf o ddramâu Gwenlyn Parry, a gyhoeddwyd gan Wasg Gomer yn yr Eisteddfod.

Drama Cefn Gwlad gan ELINOR WYN REYNOLDS
Bu’r ddrama Ysbryd Beca ar daith drwy Gymru ym mis Hydref. Mae ELINOR WYN REYNOLDS yn bwrw golwg ar yr hyn a ysgogodd y ddrama.

Cyfrol:458, Mawrth 2001

Newyddion ac Ati.. gan Euros Lewis
Yn sgil ymosodiadau gwahanol gyrff y Llywodraeth, a phlaid y Llywodraeth, ar ddiwylliant cefn gwlad Cymru, gwahoddwyd EUROS LEWIS i sôn am ei brofiadau yn Theatr Felin-Fach, Dyffryn Aeron.

Technoleg Wybodaeth gan Kate Woodward
Sut beth yw dawn gwybodaeth. Mae KATE WOODWARD yn llawn clod i ddrama newydd gan Siôn Eirian sydd yn trafod chwydro gwybodaeth Oes y We Fyd Eang

GWREIDDYN Y DRWG gan Aled Jones Williams
Mae ymdriniaeth Aled Jones-Williams o gam-drin plant yn codi cwestiynau pwysig yn ô MEG ELIS

ELYRCH A GWYDDAU gan Dyfrig Jones
DYFRIG JONES sy’n tafoli perthynas cymuned a chelf mewn adolygiad ar lyfr diweddar yn trafod y theatrau bach Cymraeg.

Cyfrol:453, Hydref 2000

Chwerthin Parchus gan Dafydd Llewelyn
Yn ddiweddar, aeth DAFYDD LLYWELYN i weld comedi, math gwahanol iawn ar berfformiad cyhoeddus. Ond beth yw’r tebygrwydd rhwng y genre yma a theatr?

Newyddion ac ati gan Meg Ellis
MEG ELIS sy’n crynhoi newyddion y misoedd diwethaf, gan gnoi cil ar dynged anffodus Cyngor Celfyddydau Cymru.

Sosialaeth ar lwyfan gan Gareth Miles
Yn rhifyn y gwanwyn o theatr, ysgrifennodd GARETH MILES am y dylanwad Ibsenaidd ar ddramâu Cymraeg rhwng y ddau ryfel byd. Yma, mae’n trafod enghreifftiau penodol o’r dramâu cegin hyn, ac yn theatrig ynghlwm wrth ddiwylliant Cymraeg dosbarth gweithiol.

Theatr a’i haml-gyfryngau gan Emyr Edwards
Eddie Ladd ac Al Pacino EMYR EDWARDS sy’n trafod perfformiad diweddaraf Eddie Ladd a’r modd mae’n gweu theatr, dawns a ‘hip-hop’ ynghyd.

Cyfrol:450/451, Gorffennaf/Awst 2000

Y PERFFORMIADOL gan Ceri Sherlock
CERI SHERLOCK yw ymgynghorydd y Cynulliad yng nghyd-destun yr archwiliad i ddyfodol y Celfyddydau yng Nghymru. Ar gais Barn, cytunodd i lunio ychydig o nodiadau ar y traddodiad theatrig yng Nghymru.

SAMWELL A’R GYMRU GYFOES gan Ian Rowlands
IAN ROWLANDS yw awdur drama gomisiwn yr Eisteddfod eleni. Yma, mae’n sôn am y syniadaeth y tu ôl i’w waith.

COLOFN GARETH MILES gan Gareth Miles
THEATR GENEDLAETHOL CYMRU Mae gan GARETH MILES lond côl o newyddion da.

YR IAITH AR WAITH gan Ioan Kidd
Natsiaid yn darllen ar y radio mewn Cymraeg croyw a phur. IOAN KIDD sy’n adolygu drama Wiliam Owen Roberts, Radio Cymru

Cyfrol:445, Chwefror 2000

Y ddrama gerbron y rheithgor gan amrywiol
Ganol Ionawr, plygodd Cyngor y Celfyddydau i bwysau gwleidyddol a gohirio rhan o’i strategaeth ddrama. Ond beth yn uniion ddigwyddodd yn y cyfarfod yn y Cynulliad a seiliodd ei thynged? Mae gan theatr yr hanes...

Ymateb Dalier Sylw i gynlluniau’r CCC gan dalier sylw
Fel y gellir gweld yn yr adroddiad blaenorol, fe arweiniodd y penderfyniad i ohirio’r strategaeth gogyfer â Theatr i Bobl Ifanc at ddryswch yngl_n â rhannau eraill o’r Strategaeth. Awgrymodd Cynog Dafis y dylai’r Cyngor ystyried gohirio cynlluniau i gyfu

Cyfrol:443/444, Ionawr 2000

Nodiadau gan Gareth Miles
O hyn ymlaen, bydd GARETH MILES yn llunio colofn ddrama reolaidd i theatr. Y tro yma, mae’n beio trafferthion diweddar polisi drama Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfuniad dieflig o Seisnigrwydd a masnach.

Drama yn y Cyngor gan Jon Gower
Sut mae cael golwg wrthrychol a theg ar yr ymafael parhaol yngl_n â’r polisi drama? Gofynnodd theatr i JON GOWER fentro draw i Gyngor Celfyddydau Cymru ar ein rhan.

Problemau pur ysol gan WILLIAM OWEN ROBERTS
Awdur arall sydd yn gwrthwynebu cynlluniau Cyngor Celfyddydau Cymru yw WILLIAM OWEN ROBERTS. Ei ddrama yntau, Radio Cymru, fydd y ddrama olaf – os caiff cynlluniau’r CCC eu gwireddu – yr â’r cwmni Dalier Sylw â hi ar daith.

Eiconau gan Nia Roberts
Elvis Presley a Marilyn Monroe, dau o eiconau pwysica’r ugeinfed ganrif. Aeth NIA ROBERTS i weld Plant Gladys, drama amdanynt.

Cyfri mawrion fesul deg gan Dafydd Llewelyn
Deg dramodydd gorau’r mileniwm. DAFYDD LLYWELYN gafodd y fraint o gyfri’r jeremeiaid

Cyfrol:441, Hydref 1999

Clapio yn y gwagle gan Dafydd Llewelyn
Mae’r trafod diweddar ar ddrama yn digwydd yn erbyn cefndir o gynulleidfaoedd yn crebachu. Bu DAFYDD LLYWELYN yn tyrchu ymhellach...

Rhegi dy fam gan Bethan Gwanas
Cafodd BETHAN GWANAS ei chyfareddu gan Sundance, drama newydd Aled Jones Williams.

y ddrama yn y Cynulliad gan Barn
Mae’r Strategaeth Ddrama wedi bod dan y chwyddwydr yn y Cynulliad hefyd. Gan nad adroddwyd fawr ddim ar y trafodaethau hyn, mae theatr yn cofnodi cyfraniadau ein cynrychiolwyr etholedig.

Bargen Newydd i’r Ddrama Gymraeg gan Paul Griffiths
Cafodd PAUL GRIFITHS ei siomi gan ddiffyg darpariaeth dramatig yr Eisteddfod. Diffyg sydd, yn ei farn ef, yn adlewyrchu diffyg parch cyffrediinol ein cymdeithas at ddoniau’r llwyfan. Ac nid oes diben ychwaith beio Cyngor Celfyddydau Cymru o hyd ac o hyd.

Camau Strategol gan Barn
Dal i rygnu ymlaen y mae’r dadleuon am strategaeth ddrama Cyngor Celfyddydau Cymru, gyda’r dadlau – a’r drwgdeimlad, waeth bod yn onest – bron cyrraedd ei anterth.

Cyfrol:438/439, Gorffenaf/Awst 1999

Ffrwd Ceinwen a’i ffawd gan Meg Ellis
William Lewis yw awdur y ddrama gomisiwn yn yr Eisteddfod eleni. Aeth MEG ELIS i’w holi ar ran theatr.

Saunders ar y Teli gan Nia Roberts
Dramodydd radio a llwyfan oedd Saunders Lewis, yn ôl y comisiynau a dderbyniodd, beth bynnag. Ond tybed, fel yr awgryma NIA ROBERTS, nad yw ei ymwybyddiaeth weledol gref yn gwneud ei ddramâu yn fwy addas ar gyfer y teledu.

Hyffordda Blentyn gan Geoorge Owen
GEORGE OWEN sy’n trafod y berthynas rhwng Steddfod ac ieuenctid.

Chwilio am gynulleidfa ‘fyw’: Cip ar Theatr Fach, Llangefni... gan Dafydd Arthur Jones
Mae Theatr Fach, Llangefni yn enghraifft wych o theatr gymunedol. DAFYDD ARTHUR JONES sy’n sôn am ei chyfraniad.

Cyfrol:431/432, Ionawr 1999

Milltir Sgwâr a Mwy gan Menna Baines
Theatr Felin-fach yw theatr fwyaf gwledig Cymru, ac un o’r rhai sydd â mwyaf o hawl i’r label ‘cymunedol’. Ond beth yw ystyr hynny’n ymarferol? MENNA BAINES fu’n siarad ag Euros Lewis, sy’n arwain y gwaith.

Yr Ifanc a W^yr gan Jeremy Turner
Mae Cyngor y Celfyddydau newydd gyhoeddi dogfen o’r enw Y Celfyddydau a Phobl Ifanc yng Nghymru, a fydd yn sail i strategaeth newydd yn y maes. Un o’r gweithgor a’i paratodd oedd JEREMY TURNER, ac yma mae’n trafod gwerth a photensial un o’r gweithgareddau

Y Madogwys a Dalier Sylw gan Bethan Jones
BETHAN JONES, cyfarwyddwr artistig y cwmni, sy’n disgrifio’r siwrnai hyd yn hyn

Cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

Y Ddrama Gomisiwn gan GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES
Mae’n argoeli am Eisteddfod brysur iawn i’r selogion drama ym Mro Ogwr. I’ch helpu chi i gynllunio’ch wythnos, mae GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES yn edrych ymlaen at rai o’r cynyrchiadau ar gyfer oedolion.

Rhoi Bywyd Mewn Bocs gan Menna Baines
Merch 31 sy’n hanu o Lanfairfechan ond a aeth i’r ysgol uwchradd ym Mangor yw arweinydd artistig newydd Theatr Gwynedd. Bu SIÂN SUMMERS yn sôn am ei chefndir a’i chynlluniau wrth MENNA BAINES.

Rhoi Bywyd Mewn Bocs gan Menna Baines
Merch 31 sy’n hanu o Lanfairfechan ond a aeth i’r ysgol uwchradd ym Mangor yw arweinydd artistig newydd Theatr Gwynedd. Bu SIÂN SUMMERS yn sôn am ei chefndir a’i chynlluniau wrth MENNA BAINES.

Cadw’r Freuddwyd yn Fyw gan Menna Baines
Dyddiau Difyr oedd enw cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Gwynedd. Dyddiau anodd yw’r rhain, fodd bynnag, i’r cwmni a’r adeilad ym Mangor sy’n gartref iddo. Theatr Gwynedd sydd dan y chwyddwydr yn yr ail yn ein cyfres erthyglau ar theatrau Cymru. Stori:

Drama, Dawns a Dana gan George Owen
GEORGE OWEN, Swyddog Drama’r Eisteddfod sy’n crynhoi arlwy Theatr y Maes a’r cystadlaethau.

Cyfrol:426/427 Gorffennaf/Awst 1998

Rhoi siâp ar y freuddwyd gan Lowri Hughes
Fel cyw gyfarwyddwr hollol ddibrofiad,un o’m prif ofnau wrth geisio chwythu anadl einioes i House of America oedd na fuaswn i’n gallu gwneud cyfiawnder â gwaith Ed Thomas. Lle oedd dechrau? A sut ac ymhle y dylid llwyfannu’r gymysgedd gynhyrfus hon o ‘ryw

Gwerth Siwrnai Seithug gan Iwan England
Mae’r Coleg Ger y Lli wedi bod yn feithrinfa i sawl cwmni theatr dros y blynyddoedd. Mae’r diweddaraf ohonynt, Cwmni Theatr Seithug, newydd fod ar daith gyda’u cynhyrchiad cyntaf, T_’r Amerig. Dau o’r aelodau sy’n dweud pam a sut y sefydlwyd y cwmni.

Cyfrol:424, Mawrth 1999

Nid Dyma’r Ffordd gan Graham Laker
Mae drafft Cyngor y Celfyddydau o strategaeth ddrama ar gyfer Cymru yn argymell newidiadau mwy radical nag oedd neb yn eu disgwyl. Ond mae GRAHAM LAKER yn rhybuddio mai arwain at ddirywiad pellach mewn theatr sydd eisioes mewn gwendid a wnaiff y cynllunia

Grotofsci, y Theatr Dlawd a Chymru gan Nic Ros
Fis Ionawr fe fu farw Jerzy Grotofsci (1933-1999), cyfarwyddwr ac arloeswr theatr o Wlad Pwyl a gafodd ddylanwad pwysig ar y theatr arbrofol yn Ewrop yn y chwedegau a’r saithdegau.

Pedwar Llais gan Jon Gower
State of Play: Four Playwrights of Wales, Gol. Hazel Walford Davies, Gomer, £19.95

Mwy o Ymateb gan Menna Baines
Bu theatr yn holi barn nifer o unigolion am y strategaeth ddrafft. Mae’r atebion yn adlewyrchu teimladau cryf a chymysg.

Brwydr ar y Campws gan Gwenan Roberts
Olenna gan David Mamet, addas. Gareth Miles, Cwmni Theatr Gwynedd, Cyfr. Siân Summers

Mwy Na Rhegi gan Gwenan Roberts
Y Folsan Fawr gan Robin Griffith a Dyfed Thomas, Theatr Bara Caws, Cyfr. Robin Griffith

Chwilio am Wlad Bell gan Meg Elis
Y Madogwys gan Gareth Miles, Dalier Sylw, Cyfr. Bethan Jones

Cyfrol:422, Mawrth 1998

TREIALON GLASFYFYRIWR gan Gwenno Francon
Cwrw, Chips a Darlith Deg gan Siân Summers Arad Goch Cyfr. Jeremy Turner

Crac yn y Leino gan Mared Lewis
Oedolion yn Unig GAN Robin Griffith a Dyfed Thomas Theatr Bara Caws Cyfr. Robin Griffith

LLWYFAN RHWNG CLORIAU gan John Gower
Staging Wales; Welsh Theatre 1979 – 1997

ATEB CWYN gan George Owen
(Colofn George Owen)

AMDDIFFYN WBW GYMRO gan Gareth Miles a Menna Price
Yn y rhifyn diwethaf o theatr roedd Emyr Edwards yn beirniadu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Ieuenctid Cymru, Wbw Frenin, yn hallt. Dyma ymateb GARETH MILES, a addasodd y ddrama o’r Ffrangeg gwreiddiol, a MENNA PRICE, a gyfarwyddodd y cynhyrchiad.

Cyfrol:422 Mawrth 1998

THEATR CLWYD: BREUDDWYDWYR YMARFEROL gan Menna Baines
Mae gan TERRY HANDS a TIM BAKER, y ddau sydd wrth y llyw yn Theatr Clwyd, gynlluniau mawr ac ambell i neges ddi-flewyn-ar-dafod hefyd, fel y canfu Menna Baines.

THEATR CLWYD – YR HANES gan Bob Roberts
Mae theatrau Cymru’n amrywio’n fawr o ran maint, natur eu lleoliad a natur eu gwaith. Yn y rhifynnau nesaf o theatr byddwn yn ymweld â nifer ohonynt yn eu tro mewn cyfres o erthyglau a fydd yn ceisio rhoi darlun mwy cyflawn nag a geir fel arfer o’r hyn sy

Cyfrol:416 Medi 1997

Drama yn y Bala : Arbrawf Brith Gof gan Anwen Huws
Roedd cynhyrchiad Brith Gof yn Eisteddfod y Bala, Hafod, yn gam mewn prosiect a ddechreuodd fisoedd yn ôl. Mae ANWEN HUWS wedi bod yn dilyn y gwaith ar ran theatr.

RHOI LLWYFAN I’R SGOTEG gan Ceri Sherlock
Mae cyfieithu ar gyfer y theatr yn bwnc trafod mawr ar hyn o bryd. Bydd yn cael ei drafod mewn cynhadledd ym Mhrifysgol Hull ddechrau’r mis hwn, ac yn y Chapter, yng Nghaerdydd, fis Tachwedd yn ystod tymor o waith Cymraeg sydd i’w gynnal yno.

CYMRU YNG NGHAEREDIN gan Owen Dudley Edwards
Argraffiadau OWEN DUDLEY EDWARDS o waith Cymreig yr Wyl

I ACADEMIA, OND NID I GUDDIO gan Menna Baines
Newid byd i Graham Laker

O FORGANNWG I GLWYD gan Menna Baines
Her Newydd i Tim Baker

Drama yn y Bala : Lot o Eiriau gan Meg Ellis
Argraffiadau MEG ELLIS o waith tri chwmni arall yn yr Eisteddfod

Cyfrol:413, Mehefin 1997

Dau Gwmni, Un Nod gan Menna Baines
Cwmni newydd yn cael ei sefydlu, un arall yn cael ei atgyfodi, a hynny mewn dyddiau o gwtogi ar nawdd i’r theatr fel i’r celfyddydau eraill. Beth yw’r agenda? Stori: MENNA BAINES

Gwenu Tra’n Gweu Tun o Spam! gan Huw Roberts
Holi David Llewelyn: Yn yr atodiad diwethaf, roedd cyfweliad gydag un o ddau awdur newydd y perfformir eu gwaith yn yr Eisteddfod eleni. Y tro hwn, mae HUW ROBERTS yn holi’r ail, David Llewelyn, yr ennillydd ar ysgrifennu drama ym Mro dinefwr y llynedd.

Agit-prop – Theatr fel Arf gan Emyr Edwards
Lladaenu propeganda a chynhyrfu pobl yr un pryd – fel yr awgryma’r enw, dyna swyddogaeth theatr agit-prop. Mae’n ffurf sydd wedi’i defnyddio gan wladwriaethau ac yn eu herbyn, fel cyfrwng protest. Y cyn-ddarlithydd drama EMYR EDWARDS sy’n edrych ar ei dat

Cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

Rhialtwch Meddylgar gan
Stâd o dai mewn cwm deheuol yw Maes Peryddon. Ar eu ffordd sha thre un noson daw tri ffrind (Rhodri Evan, Maria Pride a Richard Harrington) ar draws Steve Brace (Jeremi Cockram) yn llechu’n ddiymadferth ar lawr. Mae’n feddw. Neu’n farw. Y ddau, o bosibl.

Cloddio Haenau’r Co’ gan Menna Baines
Gyda phum drama lwyfan wedi dod o’i law ers dechrau’r nawdegau, chweched ar y ffordd yn y flwyddyn newydd a dwy arall yn ei ben, MEIC POVEY yw awdur mwyaf cynhyrchiol y theatr Gymraeg ar hyn o bryd. Bu’n sôn wrth Menna Baines am yr hyn sy’n ei ysbrydoli.

TEYRNGED gan John Ogwen
Ddechrau Tachwedd, bu farw Wilbert Lloyd Roberts (1926-1996), sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, ac yma mae ein dau golofnydd, y ddau wedi cydweithio ag ef, yn talu teyrnged iddo.

TEYRNGED gan George Owen
Ddechrau Tachwedd, bu farw Wilbert Lloyd Roberts (1926-1996), sefydlydd Cwmni Theatr Cymru, ac yma mae ein dau golofnydd, y ddau wedi cydweithio ag ef, yn talu teyrnged iddo.

O’r Deifiol i’r Dyddiedig gan Roger Owen
ROGER OWEN a thri chynhyrchiad diweddar

Gwyl Ddrama Dulyn gan Gill Ogden
Yn ddiweddar fe gynhaliwyd gwyl theatr flynyddol Dulyn. Aeth y gyfarwyddwraig GILL OGDEN yno i chwilio am ddramâu ar gyfer Gwyl Wyddelig Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a gynhelir y flwyddyn nesaf.

Syrthio Rhwng Dwy Stôl gan John A. Owen


Cyfrol:405, Hydref 1996

Dramâu’r ‘Bute’ a’r Betws gan Heledd Wyn Hardy
Mae cwmni Made in Wales, Caerdydd, ar ganol tymor o ddramâu newydd, a’r rheiny’n tystio i genhadaeth y cyfarwyddwr newydd. HELEDD WYN HARDY fu’n holi Jeff Tearle.

Bogail- syllu ar lwyfan gan Meg Ellis
Roedd cynnyrch drama proffesiynol yr Eisteddfod eleni yn awgrymu mai archwilio Cymreictod sy’n mynd â bryd ein hawduron a’n cwmnïau y dyddiau yma. A ydi hynny’n theatr gyffrous? Dyna gwestiwn MEG ELIS, wrth i ambell un o’r cynyrchiadau fynd ar daith

Once Upon a Time in the West gan Emyr Edwards
Dramateiddio Tirlithiad – gan Emyr Edwards

Actorion vs Awduron – Pwy Bia’r Sgript? gan Menna Baines
Wrth i fwy a mwy o actorion droi eu llaw at sgriptio, mae yna bryder fod dyddiau’r awdurn unigol yn dirwyn i ben, a bod sgrifennu fformiwla’n disodli creadigrwydd. Stori: MENNA BAINES.

Cyfrol:401, Mehefin 1996

Croesffordd Cymreictod gan Menna Baines
Cefndir a lleoliad drama gomisiwn Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr yw... Eisteddfod Genedlaethol Bro Dinefwr. Ond sut Gymru a sut Gymry sydd yno? Cafodd MENNA BAINES ragflas mewn sgwrs â’r awdur, Geraint Lewis.

Marx ym Maztoca gan Gareth Miles
Gareth Miles yn ysgrifennu drama i’w pherfformio gan gwmni a hyrwiddir gan fudiad Cymorth Cristnogol: dyna’r bartneriaeth annisgwyl a wnaed yn bosib gan gynhyrchiad Cwmni Rigoberta, Byd y Banc.

Mae gennym un, diolch... gan David Adams
Pam troi rhywbeth byw, organig yn sefydliad? Mae’r adolygydd drama DAVID ADAMS yn credu bod blas ffug ar yr ymgyrch am theatr genedlaethol.

Actio i Agor Drysau gan Sian Summers
Cynildeb, nid egluro nawddoglyd, dyfeisgarwch, nid twyll. Dyna sy’n nodweddu theatr pobl ifanc ar ei gorau, meddai SIÂN SUMMERS ar ôl mynychu gwyl yn Aberystwyth

Cyfrol:398, Mawrth 1996

Etifeddiaeth Meyerhold gan Nic Ros
Mae Dylanwad Meyerhold, cyfarwyddwr theatr arloesol a saethwyd mewn carchar yn Rwsia yn 1940, yn dal i dreiddio drwy waith theatr ein cyfnod ni. Yn sgil cynhadledd i drafod ei waith a gynhaliwyd yn Aberystwyth, NIC ROS sy’n edrych ar ei yrfa.

Cyrraedd Croesffordd gan Heledd Hardy
Ar ôl gadael cwmni Made In Wales llynedd mewn rhwystredigaeth, mae’r gyfarwyddwraig Gilly Adams yn ystyried ei dyfodol – a dyfodol theatr yng Nghymru. Bu HELEDD WYN HARDY yn ei holi.

Cesio’r Canol Llonydd gan Maureen Rhys
Siwan, Esther, Bet... mae MAUREEN RHYS wedi bod yn mynd o dan groen gwahanol gymeriadau o ferched, ar lwyfan a theledu, ers deugain mlynedd bellach. Yma, mae’n bwrw golwg yn ôl ar yrfa lawn.

Nid Chwarae Plant gan Menna Baines
Mae gwyl theatr sydd i’w chynnal yn Aberystwyth ddiwedd y mis yn canolbwyntio ar anghenion un o’r cynulleidfaoedd anodda’ eu plesio. Stori: Menna Baines.

Brwydro gyda Bacci gan Menna Price
Mae’r gyfarwyddwraig MENNA PRICE newydd ddychwelyd o’r Eidal lle treuliodd dri mis yn gwylio Roberto Bacci, un o gyfarwyddwyr enwocaf y theatr fodern, wrth ei waith. Un o wersi mwya’r profiad oedd fod theatr go iawn yn frwydr...

Cyfrol:383, Tachwedd 1994

Trin Geiriau Heb Greu Theatr gan Sera Moore Williams
Aeth SÊRA MOORE WILLIAMS i gynhadledd dramodwyr benywaidd yn Awstralia gan ddisgwyl cael ei hysbrydoli. Ond cafodd fod yno fwy o ideoleg nag o theatr gyffrous, arbrofol.

Pinter a Iaith dan Ormes gan Emyr Edwards
Ddechrau Hydref roedd y dramodydd Harold Pinter yng Nghaerdydd, yn darllen ac yn trafod ei ddrama Mountain Language, sy’n ymdrin â gormes ieithyddol. Roedd EMYR EDWARDS yno.

Moliére a’r meddygon gan Bruce Griffiths
Am y tro cyntaf ers dros ugain mlynedd, caiff cynulleidfaoedd ledled Cymru gyfle y mis hwn i fwynhau noson o hwyl hen-ffasiwn yn gwylio dwy gomedi o law Molière, crëwr a meistr comedi fel y syniwn ni amdani heddiw. Mae Cwmni Theatr Gwynedd ar daith yn cyf

Chwilio’r Corneli Tywyll gan Iwan Llwyd
Epa yn y Parlwr Cefn gan Siôn Eirian Cyf. Eryl Phillips Dalier Sylw

Cyfrol:362, Mawrth 1993

DRAMATEIDDIO TWYLL gan Rhiannon Tomos
Golff (Cwmni Theatr Gwynedd) William R. Lewis; Cyfarwyddwr: Graham Laker

DAU GYMERIAD – A MWY gan Ion Thomas
Dawns y Dodo (Theatr Gorllewin Morgannwg) Cyfarwyddwr: Tim Baker

Cyfrol:359, Rhagfyr 1992

YR ARDDELIAD YN ÔL gan Mared Lewis Roberts
Chwarae’r Diawl (Bara Caws) Sgript: Mair Gruffydd; Cyfarwyddwraig: Sian Summers

POENDOD Y BEIRNIAD DRAMA gan Meg Ellis
Y Gosb Ddiddial (Cwmni Theatr Gwynedd) Lope de Vegas/trosiad Gareth Miles; Cyfarwyddwr: Ceri Sherlock

Cyfrol:355/356 Awst / Medi 1992

DISODLI’R THEATR REALISTIG gan Hazel walford Davies
Fe newidiodd drama Tennessee Williams, The Glass Menagerie, gwrs y theatr Americanaidd yn y pedwardegau. Yma, mae Hazel Walford Davies yn gosod cynhyrchiad diweddar Cwmni Theatr Gwynedd o’r cyfieithiad Cymraeg newydd yng nghyd-destun hanes a natur y ddram

Cyfrol:355 / 356, Awst /Medi 1992

LLWYFAN I FERCHED gan Charmian Saville
Mae gwaith theatr a berfformir yn yr Eisteddfod yn ffrwyth cydweithio rhwng actoresau Cymraeg a merched o fyd y theatr mewn gwledydd eraill. Charmian Savill sy’n egluro athroniaeth Prosiect Magdalen

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk