Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Grotofsci, y Theatr Dlawd a Chymru

Fis Ionawr fe fu farw Jerzy Grotofsci (1933-1999), cyfarwyddwr ac arloeswr theatr o Wlad Pwyl a gafodd ddylanwad pwysig ar y theatr arbrofol yn Ewrop yn y chwedegau a’r saithdegau.

Fis Ionawr fe fu farw Jerzy Grotofsci (1933-1999), cyfarwyddwr ac arloeswr theatr o Wlad Pwyl a gafodd ddylanwad pwysig ar y theatr arbrofol yn Ewrop yn y chwedegau a’r saithdegau. Treiddiodd y dylanwad hwnnw i fyd y ddrama yng Nghymru, ac yng Nghaerdydd, lle treuliodd ef ei hun gyfnod gyda’i gwmni, y daeth nifer o arbenigwyr o bob rhan o Ewrop mis diwethaf i drafod ac i ddathlu ei gyfraniad.

Wedi hyfforddiant traddodiadol yn Cracow a Moscow, sefydlodd Grotofsci gwmni ensemble yn ei wlad enedigolo. Bu’r cwmni’n gweithredu dan sawl enw, ond fel y Teatr Laboratorium, wedi’i leoli’n Wroclaw ond yn teithio’n eang, y daeth i fri rhyngwladol.

Mewn cynyrchiadau fel Y Tywysog Cyson (1965) ac Apocalypsis Cum Figuris (1968), rhoddodd Grotofsci ei syniadau arloesol ar waith. Wrth wraidd ei weledigaeth roedd y syniad mai unig ragoriaeth theatr dros gyfryngau eraill fel ffilm a theledu oedd presenoldeb byw yr actor o flaen cynulleidfa. Ei ddelfryd felly oedd creu perthynas hollol fyw rhwng yr actor a’r gynulleidfa, ac i wneud hynny aeth ati i geisio cael gwared â’r holl bethau a oedd, yn ei dyb ef, yn rhwyst i’r berthynas honno. Yn ôl Nic Ros, darlithydd drama ym Mhrifysgol Cymru Bangor sydd wedi astudio gwaith Grotofsci yn fanwl, roedd hi’n broses barhaus o buro a symleiddio.

‘Erbyn y diwedd doedd yna ddim gwerth o brops, roedd y goleuo a’r sain yn syml iawn, ac erbyn y fersiwn derfynol o Apocalypsis Cum Figuris, y cynhyrchiad olaf, roedd yr actorion yn gwisgo eu dillad bob dydd. Roedd y drefn ar gyfer yr actorion yn un haearnaidd o ddisglybledig – mae hi’n cael ei disgrifio yn llyfr enwog Grotofsci, Tuag at Theatr Dlawd (1968). Roedden nhw’n treulio pedair awr bob dydd ar ymarferion corfforol cyn dechrau ymarfer y cynhyrchiad!’

Mae Nic Ros ei hun wedi cael blas o’r ddisgyblaeth gaeth hon mewn gweithdai gyda rhai o actorion Grotofsci, a ddaliodd ati i weithio ar ôl ymadawiad y cyfarwyddwr ei hun i America ac yna’r Eidal. Yn 1983 roedd yn un on griw bychan o actorion – yr unig un o Gymru – a dreuliodd gyfnod gydag aelodau o’r cwmni yng Ngwlad Pwyl – profiad rhyfeddol, meddai.

‘Roedden ni’n aros mewn t_ heb drydan yng nghanol ‘nunlle. Doedden ni ddim yn cael siarad efo’n gilydd, ac roedd yna ddefodau i’w cadw. Roedd ymarferion corfforol, cadw gwylnos, myfyrio yng ngolau cannwyll i gyd yn rhan o’r drefn. Rwy’n gwybod fod hynna’n swnio fel rwtsh hipïaidd, a phrin fod yna ddim byd y gellid eu alw’n theatr ar gyfyl y peth, ac eto, fe wnes i ddod i gatre ar dân eisiau creu theatr.’

Yn ôl Nic Ros, roedd dylanwad Grotofsci, yn enwedig y pwyslais ar waith corfforol a’r arbrofi â gofod, yn gryf iawn ar rai o gwmnïau Cymru yn yr wythdegau, gan gynnwys Brith Gof, Cwmni Cyfri Tri a Volcano. Treuliodd y dyn ei hun, a’i gwmni, gyfnod preswyl yng Nghaerdydd yn 1982 – un o’i brosiectau olaf cyn iddo ddiflannu o lygad y cyhoedd. Roedd wedi dod yno ar wahoddiad CPR, y ganolfan ymchwil perfformio, a nhw hefyd a gynhaliodd y cyfarfod i ddathlu ei fywyd a’i waith yn y brifddinas ym mis Chwefror.

Wedi’i drefnu cyn ei farwolaeth, roedd y cyfarfod yn canolbwyntio ar gyfnod cynnar, gweithredol Grotofsci. Yno hefyd lansiwyd llyfr gan un o’r siaradwyr. Yn Land of Ashes and Diamonds, mae’r cyfarwyddwr Eidalaidd Eugenio Barba yn trafod dylanwad Grotofsci arno ac yn cyhoeddi llythyrau a dderbyniodd ganddo.

awdur:Nic Ros
cyfrol:424, Mawrth 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk