Theatr a’i Chyfarwyddwr
Gyda phenodi Cefin Roberts i swydd Cyfarwyddwr y Theatr Genedlaethol Gymraeg, dywed DAFYDD LLYWELYN fod darnau’r freuddwyd theatrig hon yn disgyn i’w lle.
Wedi blynyddoedd o drafod, dadlau a brygowthan, mae’r cyfan i’w weld wedi’i ddatrys. Wedi cant a mil o gyfarfodydd hyd a lled y wlad, yr holl siarad gwag am bwerdy yn y gogledd, y ddadl yngl_n â ffaeleddau a rhinweddau egwyddor sefydlu Theatr Genedlaethol, mae’r freuddwyd wedi’i gwireddu. Blynyddoedd digon anodd ac hesb sydd wedi nodweddu hanes diweddar y ddrama yng Nghymru, ond realiti’r sefyllfa bellach yw ein bod yn meddu ar Theatr Genedlaethol Gymraeg.
Yn gynharach eleni penodwyd Lynn T. Jones yn Gadeirydd y Bwrdd Rheoli, ac yna penodwyd deuddeg aelod i’r Bwrdd. Ond y datblygiad diweddaraf, ac efallai yr un mwya’ arwyddocaol hyd yma, yw penodiad Cefin Roberts yn Gyfarwyddwr Artistig y cwmni. Cyn rhyddhau datganiad i’r wasg yn cadarnhau’r penodiad, bu cryn ddyfalu yngl_n â phwy’n union fyddai’n mentro ymgymryd â’r fath dasg. Taflwyd nifer o enwau i’r pair, gyda rhai’n honni eu bod yn gwybod i sicrwydd pwy fyddai’r ceffyl blaen. Pe bai William Hill wedi derbyn arian y gwybodusion honedig hyn, mi fyddent wedi gwneud celc bach del, oherwydd teg dweud i nifer gael eu synnu pan ddatgelwyd mai ar ysgwyddau Cefin Roberts y gosodwyd y cyfrifoldeb o arwain y cwmni yn y cyfnod allweddol hwn.
O ganlyniad i’w gyfrifoldebau dysgu yng Nglanaethwy, a’r holl gyfweliadau a roddodd yn ystod yr wythnosau diwethaf, roedd ceisio trefnu sgwrs am ei swydd newydd yn dipyn o dasg, ond llwyddodd i eistedd lawr am bum munud, a chan fwyta ei ginio – sef tomato cyfan, gan ei fod yn ceisio colli pwysau – bu’n esbonio’i weledigaeth a’i obeithion.
Gan amlaf, pan mae rhywun ar gyrraedd ei ben-blwydd yn hanner cant, mae’n dueddol o gymryd pethau ychydig yn fwy hamddenol, hyd yn oed yn ystyried cynllunio ar gyfer ei ymddeoliad. Ond ni fu Cefin Roberts erioed yn un i ddilyn confensiwn, ac yn hytrach na bodloni ar gymoni’r ardd neu chwarae golff mae’n brysur ymbaratoi ar gyfer wynebu’r hyn a ddisgrifia fel ‘her fwyaf ei fywyd’. Er bod rhywun yn medru synhwyro’r brwdfrydedd yn ei lais wrth iddo drafod ei swydd newydd, mae hefyd yn ddigon gonest i gyfaddef bod y fath dasg yn peri braw iddo’n ogystal. Oherwydd bod cymaint o sylw wedi’i roi i’r penodiad, a bod y disgwyliadau mor uchel a sylweddol, mae’n llwyr ymwybodol o’r ffaith y bydd cant a mil o bobl yn gwylio pob cam a phenderfyniad gyda llygad barcud. Ar y llaw arall, mae’n deg dweud hefyd nad oes gan Cefin Roberts nemor ddim i’w golli, oherwydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae byd y ddrama Gymraeg wedi bod mor llwm fel na ellir ond gwella ar y ddarpariaeth bresennol.
Dyna un o’r prif resymau pam y penderfynodd fynd ati i lunio cais ar gyfer y swydd – y teimlad bod rhaid i bethau newid os yw’r ddrama Gymraeg i oroesi. Mae llawer wedi trafod y dirywiad enbyd yn y theatr Gymraeg yn ystod y cyfnod diweddar, ac mae ei weledigaeth i geisio atal y dirywiad hwn yn bellgyrhaeddol, a dweud y lleiaf.
Ei obaith yw mynd ati i dreiddio’n ddwfn i wreiddiau’r maes er mwyn sicrhau sylfaen gref ar gyfer y dyfodol. Yn hyn o beth, mae’n eithriadol o awyddus i adennill diddordeb yr ifanc yn y theatr, ac i’w haddysgu o werth a chyfraniad y maes i’w diwylliant. Ystrydeb yw dweud mai’r ifanc biau’r dyfodol, ond mae’n gwbl grediniol nad oes llawer o ddiben brwydro i gynnal y theatr yng Nghymru heb fod yna do ifanc yn barod i’w hetifeddu ymhen rhai blynyddoedd. Ffynhonnell amhrisiadwy i sicrhau diddordeb yr ifanc yw twf a datblygiad yr ysgolion perfformio trwy’r wlad. Mae’n ymfalchïo yn y ffaith iddo ef a’i wraig, Rhian, sefydlu Ysgol Glanaethwy dair blynedd ar ddeg yn ôl, a does dim dwywaith bod yr ysgol honno wedi llwyddo i fagu hyder, profiad ac, yn bwysicach na dim efallai, y ddisgyblaeth sylfaenol i rai sy’n awyddus i ddilyn gyrfa yn y byd perfformio.
Ychydig flynyddoedd yn ôl aeth Wil Sam draw i Lanaethwy i weld cynhyrchiad o’i ddrama Bobi a Sami, ac wedi eistedd trwy’r cynhyrchiad dyma ddatgan gyda balchder mai dyna’r tro cyntaf ers blynyddoedd iddo allu gwrando ar gynhyrchiad heb gymorth y falwen yn ei glust (yr hearing-aid i’r bobl anghreadigol fel minnau). Ar yr olwg gyntaf, ymddengys yn stori gwbl ysgafn, ond mewn gwirionedd mae’n adlewyrchu un o’r diffygion mwyaf elfennol, ac eto sylfaenol, ym myd y theatr Gymraeg presennol, sef y diffyg hyfforddiant a gynigir i actorion a darpar-actorion i barchu a defnyddio iaith fel arf theatrig. Un enghraifft yn unig yw hyn o sut y gall y to ifanc elwa o’r ysgolion perfformio hyn, ac fe wêl Cefin Roberts y sefydliadau hyn fel cyfrwng i fwydo a chynnal y Theatr Genedlaethol ymhen blynyddoedd i ddod. Cyfeiria at ysgolion perfformio Anterliwt yn Ninbych a’r un yn Nyffryn Tywi gyda’r un brwdfrydedd, gan ychwanegu mai da o beth fyddai gweld datblygiadau cyffelyb ym mhob rhan o’r wlad.
Er bod Cefin Roberts yn rhoi cryn sylw i bwysigrwydd y bobl ifanc, a chynllunio ar gyfer y dyfodol, y brif sialens yn y tymor byr yw ceisio adennill diddordeb y cyhoedd a’u cael i fynychu cynyrchiadau unwaith yn rhagor. Cwta bymtheng neu ugain mlynedd yn ôl, roedd mynd i’r theatr yn ddigwyddiad cymdeithasol o bwys, gyda llond bysiau yn heidio i ganolfannau a theatrau yng Nghymru. Erbyn hyn, byddai moped yn ddigon i gludo cynulleidfa ambell i gynhyrchiad diweddar. Gobaith Cefin Roberts yw darparu ystod eang o gynyrchiadau mewn ymgais i ddenu’r gynulleidfa yn ôl i’r gorlan. Ar y rhyngrwyd cafwyd trafodaeth yngl_n ag ymarferoldeb yr egwyddor o geisio plesio pawb, gyda rhai’n rhagweld polisi o’r fath yn ddiffygiol yn yr ystyr bydd y cwmni’n siwr o ddisgyn rhwng dwy stôl, ac o ganlyniad yn methu. Nid yw Cefin Roberts yn cytuno â’r dehongliad hwn. Iddo fe, mae’n ofynnol cael amrywiaeth o gynyrchiadau – boed yn gomedïau, sioeau cerdd, cyfieithiadau, clasuron – ac, er efallai na fydd ambell i gynhyrchiad at ddant pawb, yr hyn sy’n bwysig yw bod pob cynhyrchiad yn un safonol, proffesiynol a didwyll. Mae’r ddadl rhwng y theatr arbrofol a’r theatr boblogaidd yn un orsimplistig: gellir cael theatr boblogaidd sy’n arbrofol, yn yr un modd ag y gellir cael theatr arbrofol sy’n boblogaidd – yr hyn sy’n allweddol yw sicrhau bod y gynulleidfa yn gadael ar ddiwedd y noson yn teimlo eu bod wedi cael profiad theatrig.
Ystyrir sefydlu’r Theatr Genedlaethol gan y mwyafrif fel cam pwysig a chadarnhaol. Er hynny, mae rhai wedi mynegi pryder bod ei bodolaeth yn fygythiad i barhad y cwmnïau llai fu’n gynhaliaeth i’r ddrama yn ystod y cyfnod hesb: cwmnïau megis Bara Caws, Na Nóg a Sgript Cymru. Bu i Lynn T. Jones bwysleisio yn ei gyfweliad ar y rhaglen deledu Croma na fyddai byth yn caniatáuhyn i ddigwydd, ac fe wêl Cefin Roberts fodolaeth y cwmnïau hyn yn allweddol i lwyddiant y Theatr Genedlaethol. O gofio iddo fod yn un o sylfaenwyr Theatr Bara Caws, mae’n naturiol iddo fod yn warchodol iawn o’r cwmnïau hyn, ond ymddengys yn awyddus iawn i gydweithio gyda hwy, yn arbennig Sgript Cymru, o ran meithrin a datblygu talent ac awduron newydd. Os y gwireddir yr awydd i gydweithredu, yna byddai datblygiad o’r fath yn gam mawr ymlaen yn hanes y theatr Gymraeg. Rhaid cyfaddef bod y ddarpariaeth yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn bytiog a thameidiog, ac i hunaniaeth y cwmnïau, a arferai fod yn gwbl glir ac amlwg, fynd yn rhyw gymysgwch llwydaidd.
Os y parodd penodiad Cefin Roberts syndod i rai unigolion, bu’r datganiad mai yn Sir Gaerfyrddin y bydd cartref y cwmni newydd yn fwy o sioc fyth. Ar yr olwg gyntaf, dywed synnwyr cyffredin y dylai swyddfa unrhyw Theatr Genedlaethol, o ba wlad bynnag, gael ei lleoli ym mhrifddinas y wlad honno – o ran hygrededd yn anad dim arall. Yn arwyddocaol, gwelwyd Terry Hands yn ddiweddar ar raglen gelfyddydol newydd y BBC yn datgan ei ddyhead i Theatr Clwyd gael swyddfa yng Nghaerdydd. Fodd bynnag, fel adlewyrchiad o’n diffyg fel cenedl, pe bai’r Theatr Genedlaethol wedi ymgartrefu yn y brifddinas, byddai wedi llwyddo i elyniaethu cymaint o bobl a chreu rhwygiadau lu. Mae’r gagendor rhwng y de a’r gogledd cyn waethed, os nad gwaeth, heddiw ag y bu erioed. Mae dyfodiad y Cynulliad wedi cyfrannu at y teimlad hwn, a’r farn gyffredinol yn y gogledd yw bod yr adnoddau a’r boddsoddiadau sylweddol yn mynd i’r de, ac mai esgyrn sychion yn unig a gynigir yn y gogledd. O ganlyniad i hyn, roedd nifer yn gwbl argyhoeddedig mai’r gogledd – a Chaernarfon yn benodol – fyddai’n llochesu’r Theatr Genedlaethol, ond nid felly y bu. Os yw’r sibrydion yn wir, mae’n debyg mai Caerfyrddin oedd yr unig sir i lunio cais o unrhyw werth, ac yn wleidyddol, mae’n siwr bod hyn o gryn ryddhad i’r Bwrdd Rheoli, gan ei fod yn benderfyniad a ganiatâi i’r cwmni sefydlu ei hun â llechen lân, ac osgoi unrhyw ddrwgdeimlad diangen.
Gan i’r penderfyniad o leoliad y cwmni gael ei wneud cyn penodi Cyfarwyddwr Artistig, nid oedd gan Cefin Roberts unrhyw lais yn y penderfyniad terfynol, a’r flaenoriaeth iddo ef yw sicrhau bod y broses o gartrefu’r cwmni yn Sir Gaerfyrddin yn mynd rhagddo’n esmwyth. Yn ystod blynyddoedd cyntaf y cwmni, hen ffatri yn Llanelli fydd cartref y Theatr Genedlaethol, ond y bwriad yn y pen draw yw ymsefydlu mewn adeilad a theatr newydd o eiddo’r sir yng Nghaerfyrddin ei hun. Er mai yno y bydd calon y cwmni, mae’r rhai sy’n gysylltiedig â’r cwmni yn awyddus i bwysleisio mai cwmni teithiol fydd y Theatr Genedlaethol, ac y bydd ei gwythiennau’n treiddio i bob cwr o’r wlad.
Yn sgîl ei waith gyda Ysgol Glanaethwy bu Cefin Roberts yn destun gwawd gan nifer, ac mae wedi hen arfer â beirniadaeth hallt. Mor ddiweddar â dechrau mis Mehefin, cafwyd llythyr yn un o’n papurau cenedlaethol honedig yn mynegi dicter a chasineb tuag at yr ysgol honno. Er mor bersonol yw sylwadau o’r fath, maent wedi gorfodi Cefin Roberts i fagu croen eliffant, ac wedi’i wneud yn fwy penderfynol i lwyddo. Go brin y pyla’r beirniadu unwaith iddo ymgymryd â’i ddyletswyddau newydd fel Cyfarwyddwr Artistig y Theatr Genedlaethol, ac yn ddi-os bydd rhai’n llechu yn y cysgodion yn hogi eu cyllyll.
Ers cael ei benodi, mae Cefin Roberts wedi gwneud llu o gyfweliadau a datganiadau, ac mae’r holl sylw a’r heip yn tystio i’r ffaith bod yna bennod newydd yn hanes y ddrama yng Nghymru, a bod y cyfan wedi cydio yn nychymyg y cyfryngau a’r cyhoedd. Wrth drafod ei gynlluniau a’i obeithion, gwna Cefin Roberts i’r cyfan swnio’n ddigon rhwydd a syml – ac efallai mai dyna’r allwedd i’r cyfan. Does dim dwywaith bod talcen caled iawn yn ei ddisgwyl pan fydd yn cychwyn ar ei swydd newydd, ond wrth geisio cadw’r cyfan yn syml, a glynu wrth yr hanfodion elfennol, mae gobaith y llwydda i sicrhau bod y bennod nesaf yn hanes y ddrama yng Nghymru yn un ychydig yn fwy gobeithiol.
Yn ystod yr wythnosau nesaf, fe ychwanegir at staff y Theatr Genedlaethol gyda phenodiad rheolwr/wraig y cwmni ynghyd â swyddog marchnata – o dipyn i beth mae’r darnau’n disgyn i’w lle. Wedi blynyddoedd o fod yn destun gwawd a sbort, a awgryma’r wythnosau diwethaf bod y theatr a’r ddrama yng Nghymru yn teilyngu sylw haeddiannol unwaith yn rhagor. Mae cymaint wedi ei ddweud a’i ysgrifennu yngl_n â dirywiad y theatr Gymraeg, fel bod y maes wedi ei drafod hyd at syrffed erbyn hyn; y gamp nawr yw gweithredu. Gydag ychydig o amynedd, ewyllys ac ambell i domato, mae rhywun yn teimlo’n obeithiol am ddyfodol llewyrchus i’r ddrama a’r theatr yng Nghymru.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com