Y Theatr Lawn
Coron Driphlyg, ond dim Grand Slam, oedd hi i fersiwn llwyfan Amdani, medd MELERI WYN JAMES, wrth adolygu cynhyrchiad sy’n cylchdroi i’r dim yr ymdrech i greu theatr boblogaidd.
Roedd y theatr yn llawn. Ac roedd hynny’n gyffro ynddo’i hun. Go wir. Pryd fuoch chi i’r theatr ddiwethaf yng Nghymru, i weld cynhyrchiad proffesiynol, a chael eich colli mewn môr o wynebau? Pryd fuoch chi i’r theatr ddiwethaf?
Yn hyn o beth, roedd Sgript Cymru wedi llwyddo gyda’u cynhyrchiad diweddaraf, Amdani. Coeliwch fi, rwy’ wedi eistedd droeon yng Nghanolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth – a theqatrau eraill hefyd – yn un o lond llaw o selogion. Ac mae hynny’n cynnwys cynhyrchiadau yn Gymraeg ac yn Saesneg. Os mai poblogeiddio’rddrama yng Nghymru oedd y bwriad, roedd Sgript Cymru wedi rhoi’r pwyntiau cyntaf ar y bwrdd sgorio. A beth oedd wedi denu pobl o bob oed - a hynny yn eu degau? Wel, ffenomen Amdani, stori hynod boblogaidd Bethan Gwanas am griw o ferched sy’n codi eu hunain uwchlaw eu bywydau diflas bob dydd trwy ffurfio tîm rygbi. Mae eisioes wedi esgor bestseller yn y byd a phedair cyfres deledu boblogaidd ar S4C. Ac os oedd y gynulleidfa yn Aber yn faen prawf, mae ganddi fwy o ffans na thîm rygbi Cymru. Ond yn hynny o beth roedd fy mhroblem gyntaf i. Beth yw pwynt y cynhyrchiad? Oherwydd, os ydych chi fel fi fe fyddwch wedi darllen y llyfr a gwylio’r gyfres deledu. Beth yn fwy allai cynhyrchiad theatrig ei gynnig?
Nid dyma’r tro cyntaf i gyfres deledu boblogaidd Gymraeg fynd ar y llwyfan. Rwy’n cofio gweld y gomedi C’mon Midffîld rai blynyddoedd yn ôl – a chael blas anghyffredin arni hefyd. Ond mantais honno, wrth gwrs, oedd ei bod hi’n gyfres deledu episodig. Roedd stori newydd bob tro. Gallai’r cwmni theatr gymryd cymeriadau hoffus y gwreiddiol a’u rhoi nhw ar y llwyfan mewn antur hollol newydd.
Ond beth am Amdani? Beth oedd hi am ei wneud? R’on i’n falch i weld dau o gast gwreiddiol y gyfres deledu - dau o’r prif actorion, Ffion Dafis a Dafydd Emyr. Roedd eu presenoldeb yn ddymunol o safbwynt marchnata ond ddim yn gwbwl angenrheidiol yn fy marn i. Wedi dweud hynny, roedd yna gyffro mawr pan ddaeth Dafydd Emyr ar y llwyfan. A mwy o gyffro byth pan dynnodd ei dracsiwt yng ngwydd y gynulleidfa a dangos ei siorts! Ai cyd-ddigwyddiad oedd y ffaith bod mwy o fenywod na dynion wedi dod i wylio?
Doedd hi ddim yn sioe uchelgeisiol. Go brin fod yna rywbeth newydd iawn yn y dweud na’r llwyfannu. Ond beth yw’r ots am hynny? Dw i ddim yn un o’r purion sy’n meddwl bod yn rhaid i bob darn o gelfyddyd addysgu ac ehangu’r meddwl. Pam na ddylid cael stwff sy’n ddifyr ac sy’n ddoniol a dyna hi. Mae’n gas gen i bobl sy’n bychanu pethau poblogaidd oherwydd eu bod yn cyrraedd cynulleidfa.
Ar lwyfan, roedd y stori’n dechrau ar y diwedd. Priodas ond priodas pwy? Wrth gwrs, os ydych yn gyfarwydd â’r stori mae’n siwr eich bod wedi dyfalu mai priodas Beryl a Jac (cyfuniad o Emyr a Jac y gyfres) oedd hi. Ond pam roedd Llinos wedi ei halltudio allan yn y glaw? Yn yr olygfa nesaf, rydym ni yn ôl yn y lownj gyda’r merched yn un criw cegog. Maen nhw’n mwynhau take-away a gwin ac yn cwyno am ddynion. Yn sydyn, mae’r syniad yn dod y dylid dechrau tîm rygbi.
R’ych chi’n cymryd at y merched o’r dechrau, diolch i berfformiadau cryf – yn arbennig oddi wrth Ffion Dafis (Llinos) a Sara Lloyd (Siân Caerberllan). Mae Sara Lloyd, yn arbennig, yn seren go-iawn. Dyma chi actores gomig ardderchog. Hi oedd Nicola yn Dosbarth Geraint Lewis. Roedd hi’n mynnu sylw ac yn dwyn pob golygfa oddi ar y lleill. Mewn un man mae’n actio rhywun meddw sy’n trïo bod yn gall ac yn sobr – on’d ydyn ni gyd wedi bod yno? Mae’n gwneud rhywbeth mor syml â thrio gosod ei chwpan ar y llawr mewn t_ dieithr heb sarnu. Fedrwn i’m tynnu’n llygaid oddi arni.
Roedd fflachiadau ysbrydoledig yn y cyfarwyddo, e.e y ffordd y portreadir y lleill yn ennill y blaen ar Siân Caerberllan ar y cae chwarae. Roedd y defnydd o gerddoriaeth (sydd wedi dod yn dipyn o ‘trademark’ i Sgript Cymru) hefyd yn gweithio’n dda. Ond os oedd hi’n gynhyrchiad da, fe ellid fod wedi cael un llawer gwell.
Roedd y hanner cyntaf yn hir – rhyw awr a hanner i gyd. Yn yr amser hynny, cafwyd y cyfuniad disgwyledig o’r difyr a’r dwys. Roedd y dafodiaeth yn llifo’n naturiol fel y byddai rhywun yn disgwyd gan awdures mor brofiadol â Bethan Gwanas ac roedd yna ddigon o chwerthin hefyd – a ni ddylid bychanu camp rhywun sy’n llwyddo i wneud i bobl chwerthin.
Ond roedd rhai golygfeudd yn teimlo’n hir. Roedd y golygfeydd ble roedd merched yn dechrau chwarae rygbi yn teimlo fel gwerslyfr ar sut mae chwarae’r gêm. Er mor addysgol, do’n nhw ddim cweit yn ddigon difyr. Os oedd hi’n stori am roi hawl ac awdurdod i fenywod, tenau iawn oedd y chwaeroliaeth. Ac, ar adegau, roedd y ffraeo di-baid yn fwrn ar rywun. Mae cynulleidfa yn blino ar bobl yn gweiddi.
Y gwendid go-iawn oedd yr ail hanner. Ar ôl hanner cyntaf hir, cafwyd ail hanner gwallgo o fyr (rhyw hanner awr/deugain munud). Ar ddiwedd y rhan gyntaf fe’m gadwyd yn y lle disgwyliedig – Llinos yn cyhoeddi ei bod yn disgwyl babi Gareth (Dafydd Emyr). Ond yn yr ail hanner roedd T_ Jac yn chwalu’n racs jibidêrs. Roedd Llinos yn dewis diwrnod priodas un o’i ffrindiau gorau i drio codymu â Wayne. A’r babi ar y ffordd – false alarm, fel mae’n digwydd – yn dro hwylus i wneud i Wayne ail ystyried ei gyfrifoldeb i’w wraig anffyddlon.
Ar ôl hanner cyntaf hwyliog, roedd y laffs yn denau a’r terfyn yn dod yn ffwrbwt. Nid uchafbwynt a gafwyd ond anti-climax. Ac roedd hynny’n siom. Un peth yw gwneud ymdrech fwriadol i ddenu cynulleidfa ond mae’n rhaid eu gadael gyda’r awydd i ddychwelyd ac i drio, pwy a _yr, rhywbeth dipyn bach yn fwy uchelgeisiol, a fwy arbrofol, y tro nesaf. Ai dyna fydd cynhyrchiad nesaf Sgript Cymru efallai? Oherwydd fel cwmni maen nhw wedi llwyddo’n ddiweddar i gyfuno’r ysgafn (Dosbarth) gyda chyfle i awduron newydd fel finnau (Diwrnod Dwynwen) ac ymestyn cynulleidfa gyda’r profiadol (cynhyrchiad gwych Indian Country gan Meic Povey). Coron driphlyg felly, ond dim Grand Slam.
awdur:Meleri Wyn James
cyfrol:489, Hydref 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com