Eiconau
Elvis Presley a Marilyn Monroe, dau o eiconau pwysica’r ugeinfed ganrif. Aeth NIA ROBERTS i weld Plant Gladys, drama amdanynt.
‘Tydi obsesiwn gyda sêr y sgrîn a’r byd pop yn ddim byd newydd. Yn ystod yr hanner can mlynedd diwetha, mae mwy o bobl nag yr hoffwn ei ddirnad wedi llofruddio, ceisio llofruddio, cyflawni hunanladdiad, dwyn, bygwth ac erlid – hyn oll oherwydd obsesiwn ag unigolion na allant byth ddod wyneb yn wyneb â hwy. Ar strydoedd Cymru, mae pobl yn cyfarch actorion yn llun y cymeriadau y maent yn eu portreadu ar y teledu. Doniol? Ydi. Trist? Efallai. Ond yn sicr, mae ymddygiad fel hyn yn dystiolaeth gref o ddylanwad y cyfryngau ar ein cymdeithas.
Efallai nad ydi drama Sera Moore Williams, Plant Gladys, yn ymdrin â’r sefyllfa hon yn ei chrynswth, ond, yn sicr, y mae’n goglais y gynulleidfa gyda’i phortread o’r pâr priod sy’n dynwared Marilyn Monroe ac Elvis Presley. Ni chawn wybod beth yw eu henwau bedydd.Ni chlywn sgwrs gyfan rhyngddynt am y byd real y tu allan, heblaw am bytiau brysiog am anallu’r gymdeithas i ymuno â chymeriad Iwan Roberts yn ei fawl o’r ‘Brenin’.
Y mae pobl, sydd fel arall yn cael eu hystyried yn ddigon rhesymol, yn teithio i Las Vegas lle bu Elvis yn perfformio tuag at ddiwedd ei oes, i briodi. Wedi iddynt addo gweddill eu bywydau i’w gilydd mewn drive-through, mae gweinidog, wedi ei wisgo fel Elvis, yn datgan, ‘I now pronounce you man and wife... uh huh.’
Hithau, Norma Jean – mae’r llun hwnnw ohoni yn y ffrog wen, a chwa o wynt yn codi ei sgert, wedi dod yn un o ddelweddau mwyaf adnabyddus yr ugeinfed ganrif. Does ryfedd felly i Sera Moore Williams ddewis y ddau fel mygydau ar gyfer ei chymeriadau. Mae’n debyg fod mwy wedi ei sgwennu am y ddau gymeriad yma na neb arall fu’n byw yn y ganrif hon, a mwy o ddiddordeb, hyd yn oed yn awr, yngl_n â’u bywydau, ac yn arbennig, eu marwolaethau.
Mewn un ffordd, roedd hyn yn llwyddiannus iawn. Yr oedd cynulleidfaoedd ledled Cymru yn adnabod y cymeriadau cyn iddynt gamu ar y llwyfan. Mae eu caneuon yn adnabyddys hyd heddiw, a’r syniad o gael drama yn seiliedig ar y ddau eicon yn ennyn chwilfrydedd, os nad diddordeb.
Teimlais hyn yn anfantais. Gan fod cymaint ar ddu a gwyn am Elvis a Marilyn, roedd yn sicr yn dasg anodd dewis a dethol beth oedd i’w gynnwys yn y ddrama; pa elfennau o’u bywydau helbulus i ganolbwyntio arnynt. A chan ei bod yn ddrama gymharol fer, nid oedd amser i Moore Williams lawn fanteisio ar gyfleoedd y sefyllfa a grëwyd ganddi – tybed ai dyma oedd yn gyfrifol am ddiffyg rhediad y sgyrsiau? Oedd, roedd cynnwys dyfyniadau gan y cymeriadau yn effeithiol, gan ddangos ôl ymchwil trylwyr, ond heb ddigon o ddeunydd i’w clustogi, dyna oeddynt yn unig – dyfyniadau gan gymeriadau a oedd mewn rhywffordd yn berthnasol, lle y gallasant fod wedi asio’n well i’w chorff.
Beth bynnag am wendidau’r ddrama daeth ei chryfder yn sicr o nerth cyfraniad Sian Naiomi ac Iwan Roberts iddi. P’un ai’n actio neu’n dynwared, cafwyd perfformiadau caboledig gan y ddau, a oedd yn ein harwain ychydig yn agosach at geisio deall obsesiwn y cymeriadau â’r sêr.
Ond nid obsesiwn oedd thema’r ddrama i mi, er gwaetha’r datganiad i’r perwyl yna yn y rhaglen. Drama oedd hi am unigrwydd, am adnabod, am fod â chwant aruthrol am rywbeth, ond heb obaith am ei ddychwelyd. Gwelwn Marilyn o ddechrau’r ddrama yn ceisio cariad at ei g_r, yn dymuno bod yn un ag ef fel na fyddai fyth eto yn unig, a fel yr âi’r ddrama yn ei blaen, y mae’n amlwg na châi hi fyth mo’r hapusrwydd na’r teimlad hwnnw o undod. Rhoddodd ei hun iddo, gan weld hynny’n ffordd o ddianc rhag ei bywyd cyhoeddus fel dynwaredwraig. Ei chamgymeriad oedd disgwyl yr un rhodd yn ôl – mynd yn ddyfnach i’r ddelwedd oedd ei fwriad ef. Gan nad oedd gan yr Elvis go-iawn gyfeillion agos, doedd dim yn aros ei ddynwaredwr ond unigrwydd cyffelyb. Nid oedd yn fwriad ganddo ddeffro o’i freuddwyd er mwyn derbyn y cariad a oedd yn cael ei gynnig iddo.
Felly y gwelais y ddau – gyda’i gilydd, yn unig, a dylanwad yr hunan arall yn pennu na fyddai i’r un ohonynt adnabod dim ond unigrwydd yng nghwmni ei gilydd. Rhithiau dau o sêr America yn dymchwel seiliau priodas, fel y mae sêr heddiw yn dinistrio cymaint o berthnasau go-iawn drwy eu dylanwad. Y cyfryngau yw Elvis a Marilyn y byd sydd ohoni, yn dirprwyo sgwrs a dadl, yn ddiddordeb cyfleus nad oes yn rhaid ei rannu. Fel anallu Elvis y ddrama i drafod dim y tu allan i fyd y Brenin, mae teuluoedd lu yn ymgynnull â’u swper ar eu gliniau, yn tawel wylio’r unig beth sy’n gyffredin iddynt erbyn hyn.
Yr oeddwn yn siomedig na chefais fwy o olwg ar y cymeriadau go-iawn, ac yn fwy siomedig na chawsant hwythau’r cyfle i drafod ar ddiwedd y ddrama yr agosatrwydd a bortreadwyd ar ddechrau’r ddrama fel delfryd. Yr oedd Marilyn Sera Moore Williams eisiau mynd oddi tan groen ei g_r, cael gwybod popeth amdano a bod yn agosach ato nag erioed o’r blaen. Byddwn innau wedi hoffi gwneud yr un peth, yn lle cael darlun bratiog o arwyr y cenhedlaeth o’r blaen.
awdur:Nia Roberts
cyfrol:443/444, Ionawr 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com