Nid Aur yw pop-eth Melyn
Fe siomwyd GWYNETH GLYN gan berfformiad Theatr na n’Og o Nia Ben Aur
‘Am I thick or what?’ oedd yr adwaith gyntaf a glywais wedi i’r llen ddod i lawr yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli. Gallwn iniaethu yn llwyr â’r ynganwr estron; ai fi oedd yn ddi-deall? Ai fi oedd yr unig un a fethodd wneud pen na chynffon o’r stori y bûm yn dyst iddi am awr a hanner? Oedd yna ben a chynffon i’r stori? Ai bad trip oedd y cyfan? Am I thick or what?
‘Ein bwriad ni o’r cychwyn cyntaf,’ yn ôl cyfarwyddwraig y sioe, Geinor Jones, ‘oedd cymryd y chwedl wreiddiol a rhoi twist newydd iddi;’ menter glodwiw o ystyried mai go deanu yw’r plot traddodiadol; ond ai’r bwriad oedd i’r twist dyfu’n gwlwm? Ai’r bwriad oedd i anffurfio’r stori i’r fath raddau a’i gwneud yn hynod annelwig, os nad yn gwbl annealladwy?
Syml iawn yw’r chwedl wreiddiol, ac asgwrn cefn yr opera roc un-nos chwedlonol a berfformiwyd yn Eisteddfod Caerfyrddin ym 1974; syrthia Osian, tywysog Iwerddon, mewn cariad â Nia Ben Aur o Dir Na n’Og:
Y tir yng nglas y don,
Lle na cheir na phoen na chri,
a lle mae ieuenctid ac anfarwoldeb yn teyrnasu. Maent yn byw yno mewn gwynfyd priodasol am 300 mlynedd tan i Osian ddechrau hirathu am ei wlad ei hun. Er gwaethaf ei rybuddio y deuai angau i’w ran pe digwyddai gyffwrdd â daear Erin, dychwel Osian yn ôl yno ar gefn ceffyl, a chanfod fod ei gyfeillion oll wedi diflannu. Syrthia i’r ddaear a heneiddio mewn amrantiad; nid arbedir Osian rhag ei dranc gan Nia Ben Aur na neb arall.
Y dramodydd Siôn Eirian fu’n gyfrifol am roi cnawd cyfoes ar esgyrn caneuon, sydd bellach yn glasuron o’u cyfnod. Trwy ysgrifennu sgript newydd sbon i’w clymu ynghyd, y bwriad oedd ‘cynhyrchu sioe oedd yn gyffroes – yn syniadol ac yn theatrig.’ Mae’n wir fod posibiliadau addasu a moderneiddio sioe o’r fath yn hynod gyffrous a niferus, a photensial alegoraidd Tir cyfrin Na n’Og yn ganfas syniadol ddelfrydol i unrhyw ddramodydd. O ystyried mor chwyldroadol fu twf technolig genetig ers y Saithdegau, daw arwyddocâd Na n’Og fel iwtopia dethol lle mae ‘pob un yn tyfu’n ifanc’ hyd yn oed yn fwy perthnasol; fe gyfyd cwestiynau moesol dybryd yngl_n â’r obsesiwn modern ag anfarwoldeb a pherffeithrwydd, ac yn sgîl tynged Osian, oferedd dyheadau o’r fath.
Mae awdur y sgript yn portreadu Tir Na n’Og fel ‘marchnad breuddwydion i’r ifanc a’r hardd’; maeth o virtual reality lle mae pawb yn oruwch-brydferth a lle mae henaint a hyllter wedi eu haer-frwsio ymaith o brofiad yr anfeidrolion difrycheulyd. Llwyddir i ysgafnu’r symboliaeth trwy gynnwys cymeriad Alis (a chwaraeir gan dalp o wrywod blewog) fel un o’r cyber-babes chwerthinog sy’n addurno’r deyrnas. Mae’r gân siwgraidd ‘Hei!’ yn dwyn i gof ‘Beauty-schoolo Drop-out’; y gân ffantisïol am theripîau harddwch a thriniaethau cosmetig yn y sioe gerdd ‘Grease’.
Ond er mai tafod-mewn-boch yw delfryd Na n’Og, mae’r goblygiadau athronyddol yn rhai dybryd. Daw creisis Osian i’r ben pan wyneba’r ffaith mai rhith a thwyll yw’r cyfan; mai ‘perffeithrwydd powdr-paent’ yw atynfa Nia Ben Aur. Yn uchafbwynt ysgytwol yr ail hanner, rhwygir Osian rhwng llanw llesmeiriol Na n’Og a cherrynt gwirionedd ei gydwybod; trosiad ergydiol o’r cyfyng-gyngor y mae dynoliaeth fodern yn brysio tuag ato. Mewn adlais o’r ffilm Matrix, rhoddir realaeth greulon yn y glorian gyferbyn â pharadwys ffug; rhaid i Osian, a ninnau, ddewis rhwng un ai derbyn realaeth a’r dioddefaint sy’n rhan annatod ohono, neu dderbyn dihangfa sydd yn glam ond yn gelwydd. Yr un yw dilema Osian â dilema’r sawl sy’n byw bywyd trwy cyber-space; nid y byd braf y mae’n ei fwynhau â Nia yw’r byd go-iawn; mae’r gwirionedd yn dra gwahanol; ond a ydyw yn fodlon llyncu pilsen chwerw meidroldeb, anghyfiawnder a dioddefaint? Aydyw yn fodlon aberthu ei ddihangfa baradwysaidd? Yn nhermau’r athronydd Robert Nozick, a ddylid plygio ein hunain i’r peiriant-profiadau-perffaith, ynteu a ydyw realaeth ei hun, waeth be’ fo natur ei gynnwys, yn fwy gwerthfawr na rhith?
Dyma thema bwerus, berthnasol ac yn sicr ‘gyffrous – yn syniadol ac yn theatrig’. Problem y cynhyrchiad oedd bod y stori ei hun (am gymhlethdod hunan-dwyll a’r dryswch rhwng ffantasi a ffaith) wedi ei chyflwyno mewn ffordd ddryslyd a gor-gymhleth. Ar ddechrau’r sioe mae Osian yn anymwybodol ar draeth diarth, a chaiff ei berswadio gan aelodau o syrcas deithiol i gymryd cyffur er mwyn atgoffa o’i orffenol. Fe’n gyrrir, o ganlyniad, i feddwl mai un ai rhithweledigaeth neu ôl-fflachiad yw ei gyfarfyddiad â Nia a’i fywyd nefolaidd yn Nhir Na n’Og. Caiff yr argraff yma ei hatgyfnerthu yn niweddglo’r sioe, pan welwn Osian yn gorwedd yn yr union safle yr oedd ynddo ar y dechrau; yn anymwybodol ar draeth diarth. Ond oni fyddai hynny’n golygu mai breuddwydio cymryd y cyffur ddaru o hefyd? Too trippy, man!
Rhyw fath o Groundhog Day oedd un eglurhad a glywais am hyn; y ffilm honno lle mae’r prif gymeriad anifyr yn ail-fyw yr un diwrnod hyd nes y mae’n dysgu trin pobl â pharch. Serch hynny, nid fel dyn cyffredin – sy’n llywio ei fywyd drwy ei benderfyniadau – y portreëdir Osian yn y sioe, ond yn hytrach fel tegan yn nwylo ffawd; dioddefwr digwyddiadau sydd y tu hwnt i’w reolaeth ei hun. Roedd y cyfuniad o brotagonydd wedi ei barlysu, a Nia Ben Aur ‘I’m a Barbie girl-aidd’, yn anffodus ac yn ddiangen. Y canlyniad oedd bod yr isgymeriadau, a ychwanegwyd yn y fersiwn bresennol, yn gwthio ein harwr a’n harwres i’r cefndir.
Nid beirniadaeth negyddol ar berfformiadau Huw Ll_r a Tara Bethan mo hyn; rhoes y ddau bortread clodwiw o gymeriadau Nia ac Osian; ond ‘roedd sgôp y cymeriadau eu hunain yn gyfyngedig i’r hyn a ddisgrifiwn fel clôn digarsima a bachgen hygoelus. Os mai dyma’r bwriad, digon teg; ond os felly, ‘roedd yn unrhyw beth ond syniadol a theatrig-gyffroes.
Nid felly’r caneuon, oedd yn dynn, swnllyd, a llawn o sbync Saithdegaidd. Perfformwyd y cyfan yn fyw gan y cast; gitars budron, riffs a dryms herfeiddiol, pibell hud Phylip Harries a harmonïau poenus-dlws, pob un yn llwyr grynhoi awyrgylch Crosby, Stills, Nash Ac Eraill y cyfnod gwreiddiol. Cafwyd unawdau bythgofiadwy; Jennifer Vaughan yn ffiaidd-rywiol fel Fflangell, a llais Tara Bethan wrth ganu ‘Cwsg Osian’ yn iasol-debyg i Heather Jones (y Nia wreiddiol).’Roedd cytgord a chyfathrebiad yr actorion â’i gilydd yn ystod y caneuon yn elfen arbennig iawn o’r cynhyrchiad; gresyn nad oedd y golygfeydd o ddeialog rhwng y caneuon yn caniatáu meithrin yr un dealltwriaeth drydanol. Fe ddeuai pob cymeriad, hyd yn oed y cyber-doll, yn fyw ac yn destun cydymdeimlad yn ystod y caneuon, wrth i’r cyfuniad o egni’r gerddoriaeth a’r geiriau ein gorfodi i’w gweld fel pobol o gig a gwaed. ‘Roedd cyffyrddiadau o hiwmor hefyd yn ychwanegu at ddynoliaeth y cymeriadau; rhoes Rhodri Evan berfformiad arbennig fel un o misffits hynod y syrcas deithiol.
Heb os, cynhwysyn angenrheidiol pob sioe gerdd/opera roc ydi Hyder Pur. Mae modd i argyhoeddiad a hyfdra llwyr y perfformiwr, waeth be fo’i ran, wneud iawn am feiau enbyd yn y sgript. Yn ffodus roedd galwyni o gyts Jennifer Vaughan, Tara Bethan a Phylip Harries yn ysbrydoledig, ac yn ddathliad o hygrededd yr actor sydd â ffydd yn ei berfformiad; hyd yn oed os mai ffydd dall yw honno.
Yn ôl Mark Twain, ‘yr unig amgylchiadau amodol a feithrin hapusrwydd ysbrydol, a’i gadw, yw diffyg amheuaeth.’ Credaf mai dyma un thema dan wyneb y gwaith; doedd iwtopia Osian a Nia ddim ond yn bodoli tra y bodolai ffyg dd-sigl Osian yn ei realaeth. ‘Roedd yr un peth yn wir am y sioe hyn; ‘roedd yn gweithio cyhyd â’n bod yn gochel rhag cwestiynau ei seiliau, neu’n hytrach ei diffyg seiliau. Parha’[r chwedl Nia Ben Aur yn un bwerus a pherthnasol; un fersiwn fodern hynod lwyddianus ohoni yw Splash, sy’n diweddu wrth i Osian y stori gymryd y naid ddi-droi’n ôl i deyrnas danfor y fôr-forwyn. Hyderaf y bydd y chwedl yn goroesi ac yn dal i danio dychymyg dramodwyr a chyfarwyddwyr sydd â rhywbeth gwerth ei ddweud. Yn sicr, mae actorion Theatr Na n’Og â’r dalent a’r hyfdra i ddod â’r dweud yn fyw; dim ond i’r dweud ei hun fod yn eglur. Yn bendant mae profi’r cynhyrchiad, er gwaethaf unrhyw ddiffyg, yn goleisio’r meddwl a’r traed.
awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:482, Mawrth 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com