BIG BROTHER A GWLAD FFRIS
LISA JEN sy’n bwrw golwg yn ôl ar ei chyfnod fel actores yn Skylke, Gwlad Ffris yn gweithio ar y cynhyrchiad amlieithog – Salted.
Mae yna dros wythnos bellach ers i mi ddychwelyd o Skylke, ynys fechan yng Ngwlad Ffris, Gorllewin yr Iseldiroedd, lle bûm i’n perfformio mewn cyd-gynhyrchiad Ewropeaidd o’r enw Salted. Roedd o’n brosiect theatr unigryw, ac yn creu hanes gan ei fod yn gyd-gynhyrchiad rhwng saith o gwmn_au theatr Ewrop sydd yn gweithio mewn ieithoedd lleafrifol. Nid wyf yn credu fod cynhyrchiad o’i fath wedi digwydd o’r blaen.
Mi oeddwn i’n teimlo’n freintiedig dros ben yn ystod fy chwe wythnos ar ynys Skylke, yn cynrychioli dau gwmni theatr o Gymru, sef Bara Caws a Clwyd Theatr Cymru yn y cynhyrchiad cynhyrfus hwn. Mae’r ddau gwmni yn perthyn i gymdeithas Offspring, sef gr_p o gwmn_au theatr o ddiwylliannau lleafrifol Ewrop.
Drwy ffawd y des i’n rhad o’r prosiect – bod yn y lle iawn ar yr amser iawn. Digwyddais ymweld â G_yl yn Nîmes ddwy flynedd yn ôl, le’r oedd gweithdy yn cael ei gynnal gydag actorion ifanc, er mwyn hel ac ysgogi syniadau am gyd-gynhyrchiad. Roedd actor ifanc o Bara Caws wedi ei ddewis i gymryd rhan yn y gweithdy ond oherwydd amryw o resymau dewisiodd beidio dod, ac roeddent yn brin fel canlyniad o un actor Cymraeg! Wel, wrth reswm fe wirfoddolais i, heb unrhyw syniad y byddai’r peth yn mynd dim pellach. Yn dilyn y gweithdy yn Nîmes, bûm yn ffodus iawn, gan i’r awdur a’r gyfarwyddwraig, Judith De Rijke, fy ngwahodd i fod yn un o’r wyth actor yn y cynhyrchiad.
Yn dilyn bron i bum wythnos o ymarfer caled, cafodd y sioe – Salted – ei pherfformio yn ystod wythnos G_yl Theatr Oreol, g_yl sy’n enwog iawn am lwyfannu sioeau sy’n benodol berthnasol i’r safle (sight-specific) ac sy’n denu 60,000 o bobol bob blwyddyn. Roedd mynd o ffilmio’r gyfres deledu Dipyn o Stad yng Nghaernarfon un dydd Gwener, i gychwyn cyfnod ymarfer Salted ar ynys bell yng ngogledd yr Iseldiroedd y Dydd Llun canlynol, yn ychydig o sioc i’r sustem. Roedd y Sul cyntaf yn gyfle i’r criw a’r cast ddod i adnabod ei gilydd – 30 ohonom i gyd. Roedd hi ddydd Sul olaf y cynhyrchiad cyn i mi ddod yn hyderus gydag enwau pawb. Roeddwn i wrth fy modd pan agorodd Ekko (y dyn saith troedfedd oedd yn rheolwr y cynhyrchiad) ddrws cefn lori anferth, a’n cyflwyno ni i feics mynydd newydd sbon! A dyna lle y treuliais i bob munud sbâr pan oeddwn i ddim yn ymarfer – ar gefn y beic yn darganfod yr ynys.
Yn dilyn hynny cawsom ein cyflwyno i Ellis – hi oedd yn gyfrifol am ein cadw’n ni’n fyw ac yn iach efo bwyd anhygoel am chwe wythnos. Dwn i ddim sut roedd hi’n llwyddo i goginio bwyd mor flasus ac iachus i griw mor enfawr mewn portocabin ynghanol traeth anghysbell.
Am y pythefnos cyntaf reoddem ni’n byw mewn chalets, neu garafan fel yr oeddwn i’n eu galw nhw. Cefais i’r fraint o rannu fy ngharafan hefo Leire o Wlad y Basg, ac o’r munud y cawsom ni ein rhoi efo’n gilydd, roeddem ni’n anwahanadwy am weddill ein cyfnod ar yr ynys. Un peth wnaeth fy nharo i oedd pa mor wych oedd y trfniadau i gyd. Roedd Cwmni Tryater, yr unig gwmni theatr sy’n gweithio yn yr iaith Ffris, a’r cwmni a ddechreuodd y prosiect Offspring yn y lle cyntaf, (a’r cwmni a wnaeth y ceisiadau am yr arian sylfaenol i greu’r cynhyrchiad) yn gwybod yn iawn sut i edrych ar ôl eu gweithwyr. Mi odden nhw hyd yn oed wedi medr gosod llinell ffôn a chyrifiadur gyda safle’r We yn un o’r portocabins oedd yn ystafell werdd i ni, yn ogystal ag ystafell wisgoedd/coluro a chantîn ar y traeth – drwy redeg y wifren o dan y ddaear am 2km i’r pentref agosaf! Efallai nad yw hynny’n swnio’n wyrthiol, ond mi oedd o’n nefoedd o gysidro ble roeddem ni.
Roeddem ni fel un teulu mawr o’r cychwyn cyntaf, doedd ganddon ni ddim dewis a dweud y lleiaf. Mae hi’n gamp fawr ceisio byw, gweithio, bwyta ac ymlacio efo’r un un wynebau drwy’r dydd, pob dydd. Felly, fe allwch chi ddychmygu, daeth pawb i adnabod ei gilydd yn sydyn iawn, ac roedd hi’n teimlo fel y rhaglen Big Brother ar adegau, yn enwedig pan symudom ni o’r maes carafanau ar ôl pythefnos, a symud i d_ anferth yn y pentref bychan o’r enw Hoorn.
Gan mai pedair wythnos a hanner oedd y cyfnod ymarfer roedd y broses yn un ddwys iawn. Roedd o’n brofiad hollol newydd i mi hefyd, cael cymryd rhan mewn cynhyrchiad theatr yn hytrach nag actio mewn cyfrs deledu. Roedd yr arddull actio hefyd yn gwbwl wahanol. Roeddwm ni’n defnyddio delweddau a thechnegau Theatr De Soleil ym Mharis a Comedi D’Athalarte, yr Eidal, ac mi oedd y gyfarwyddwraig wedi gofyn i ni gadw arddull y ffilmiau enwog Monty Python mewn cof hefyd – fel y gellwch ddychmygu, roedd y cynhyrchiad yn abswrd iawn.
Fel actores ifanc, roedd hyn yn rhoi cymaint o ryddid i mi. Am wythnosau, roeddwn i’n teimlo fel hogan fach yn gwneud dim ond chwarae ar y traeth. Roeddwn i’n arbrofi, yn dysgu, ac yn mwynhau. Roeddwn i hefyd yn ymfalch_o yn fy iaith. Dangosodd cymaint o fy nghydweithwyr ddiddordeb a brwdfrydedd tuag at yr iaith Gymraeg. Roedd y ddrama’n cychwyn gyda chefnau’r actorion i gyd wedi troi oddi wrth y gynulleidfa, ac yna fy llais i yn agor y ddrama, yn canu’r gân werin Trafeiliais y Byd. Wel, roedd pawb wedi gwirioni hefo’r gân a’r ffordd roedd iaith yn swnio, ac ar ôl chwe wythnos roedd yr actorion eraill yn medru canu brawddegau cyfan o’r gân, air am air – yn berffaith!
Felly ar ôl pedair wythnos a hanner o ymarfer ar leoliad, roedd hi’n amser cyflwyno’r sioe i’r gynulleidfa frwdfrydig. Ni allaf ddechrau egluro’r sioc, ynghyd ag edmygedd oedd gen i tuag at y gynulleidfa, pan oeddwn yn troi o fy safle ar y llwyfan rhyw hanner awr cyn i’r perfformiad gychwyn, i weld 600 o bobol yn rhedeg ar draws y traeth yn eiddgar i weld ein cynhyrchiad. Gadewch i mi egluro, roedd y sioe wedi ei lwyfannu ar draeth melyn hardd, rafft mawr haearn oedd y set, a dim ond milltiroedd o fôr glas, awyr glir (weithiau!) a thwyni tywod gwyn oedd yn gefndir. Ond, i goroni’r cwbwl, roedd y cast yn gymysgedd o actorion o 8 gwlad wahanol, a phawb ohonom yn perfformio yn ein hiaith ein hunain!
Meddyliais, beth fyddai’r posibilrwydd fod yna unrhyw un o’r gynulleidfa’n siarad Cymraeg, Basg, Gaeleg, Slofein, Ocsitan, iaith y Sami a Ffris? Dim llawer, dybiwn i, ac eithrio’r iaith Ffris efallai, gan ein bod ni yng Ngwlad Ffris. Mae ei sefyllfa yn debyg iawn i Gymru, gyda llai nag 20% o drigolion yn siarad yr iaith. Mae’n debyg mai cynulleidfa o’r Iseldiroedd y mae’r W_l yn ei denu fwyaf.
Ond, roedd y cynnwrf a’r diddordeb ymysg y gynulleidfa, a oedd wedi cythru i brynu tocynnau ar gyfer Salted ddiwrnodau o flaen llaw, yn amlwg! Hyn roddodd y wefr fwyaf i mi – gweld cymaint o frwdfrydedd/eiddgarwch i weld darn o theatr. Maddeuwch i mi am ddweud hyn, ond alla i ddim llai na meddwl mai hyn sydd ar goll ymysg ein cynulleidfa ni heddiw yng Nghymru. Efallai fy mod yn meddwl fel hyn, ond dydw i ddim wedi profi cynnwrf fel hyn erd i mi fynychu cynhyrchiad theatr pan oeddwn i’n blentyn, ac yn wir roeddwn i’n teimlo’n eiddigeddus iawn nad oeddwn i’n medru bod yn rhan o’r gynulleidfa a ddaeth i weld Salted. Nid wyf yn ceisio dweud mai’r ddrama yma ydy’r peth gorau sydd erioed wedi digwydd yn hanes y Theatr yn Ewrop. Ceisio cyfleu’r naws a’r teimlad cynhyrfus cyffredinol tuag at y ‘Theatr’ yng Ng_yl Oreol ydw i, i’w chymharu â’r teimlad fflat yr ydw i yn dueddol o’i deimlo bellach yn y theatr yng Nghymru.
Ar ail noson y cynhyrchiad mi feddyliais yn siwr y byddai rhaid canslo’r perfformiad oherwydd y gwynt a’r glaw. Ond, er syndod, roedd y gynulleidfa yn hollol fodlon eistedd drwy unrhyw hinsawdd. Roedd hyn eto yn brofiad newydd i mi, ac mi feddyliais tybed a fyddai cynulleidfa yng Nghymru yn bodloni ar hyn? Rwy’n cofio meddwl, tra roeddwn yn eistedd yn fy safle ar y llwyfan ychydig o funudau cyn cychwyn y sioe ac yn wlyb diferol oherwydd y glaw, ein bod ni’n methu llenwi ein theatrau yng Nghymru i wylio clasur Cymraeg, ond o fy mlaen i gwelwn 600 o bobol yn eistedd mewn tywydd difrifol.
Sylweddolais hefyd nad yw prinder arian yn gorfod atal neb rhag creu theatr – roedd cwmni Theatr Antzerkola Imaginarioa yng Ngwlad y Basg yn cael cymorth pitw, ond roedden nhw’n cario ymlaen i greu a pherfformio, boed o ar y stryd, mewn ysgolion, neu unrhyw safle fyddai’n denu cynulleidfa.
Wyth actor ifanc oeddem ni, yn cymryd rhan mewn cynhyrchiad a oedd yn ymwneud â gorthrwm a ieithoedd lleiafrifol. Er hynny i gyd, doeddem ni ddim yn teimlo’n isel ein hysbryd – anaml iawn oedd y sgwrs yn troi at bynciau gwleidyddol. Roeddem ni i gyd yn yr un cwch, a dathlu yn hytrach na chwyno oedd y tueddiad, ac ymfalch_o yn y ffaith ein bod mor ffodus o fedru siarad, gweithio a byw yn ein mamiaith.
awdur:Lisa Jen
cyfrol:474/475, Gorffennaf/Awst 2002
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com