Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gwyl Ddrama Dulyn

Yn ddiweddar fe gynhaliwyd gwyl theatr flynyddol Dulyn. Aeth y gyfarwyddwraig GILL OGDEN yno i chwilio am ddramâu ar gyfer Gwyl Wyddelig Canolfan Celfyddydau Aberystwyth a gynhelir y flwyddyn nesaf.

Yn ôl Michael Etherton, yn ei lyfr New Irish Dramatists, mae un gwahaniaeth allweddol rhwng datblygiad y ddrama yn Iwerddon a’i datblygiad ar dir mawr Prydain yn ystod ail hanner y ganrif hon. Yn y ddrama Brydeinig a Seisnig, meddai, mae diffinio ystyr bod yn ‘Brydeinig’ (hynny yw, yn Seisnig) wedi cael ei weld fel dyletswydd annifyr, tra mae theatr newydd yn Iwerddon wedi cael y broses o ddiffinio beth yw bod yn ‘Wyddelig’ yn un ‘greadigol ac ysgogol’.

Yng Ng_yl Theatr Dulyn eleni, roedd Dubblejoint, cwmni o Felffast, yn mynd i’r afael â’r union bwnc hwn mewn drama o’r enw Stones in his Pockets gan awdures leol, Marie Jones. Mae dau berson yn eu tridegau yn cael mân-rannau mewn ffilm Americanaidd fawr wedi’i lleoli ar arfordir gorllewinol Iwerddon. Y cefndir yw realiti bywyd i bobl ifanc mewn ardaloedd gwledig anghysbell tebyg i rannau o Gymru, gyda’r ddau actor yn portreadu lleng o gymeriadau mewn naratif sy’n ddwys ac yn ddonion bob yn ail.

Cefndir dinesig cyfoes oedd i Kitchensink gan Passion Machine, a oedd yn edrych ar fywydau tair cenhedlaeth o ymsefydlwyr yn un o feistrefi Dulyn. Mewn arddull a oedd yn atgoffa rhywun o Theatr Gorllewin Morgannwg, roedd y cynhyrchiad yn bortread cynnes, heb fod yn sentimental, o fywydau pobl ‘gyffredin’.

Roedd cynhyrchiad Rough Magic, cwmni o Ddulyn, o Northern Star yn rhoi cip inni ar hanes gwleidyddol cymhleth Iwerddon yn ogystal â’n tywys trwy arddulliau theatrig rhai o brif ddramodwyr y genedl, o Sheridan i Beckett. Mewn gwrthgyferbyniad llwyr, roedd Stella by Starlight Bernard Farrell, yn Theatr y Gate – archwiliad doniol o foesau’r dosbarth canol Gwyddelig.

Troi at y clasuron a wnaeth Theatr yr Abbey, gyda’i hen gysylltiad â gwleidyddiaeth a hunaniaeth Wyddelig, a hynny mewn drama wisgoedd – addasiad Tom Murphy, un o ddramodwyr mwyaf Iwerddon heddiw, o The Vicar of Wakefield Oliver Goldsmith. Roedd lle hefyd i chwedloniaeth Geltaidd, yn Balor, rhan olaf trioled arwrol gan gwmni sy’n perfformio ar raddfa fawr, Macnas.

Hefyd yn yr _yl roedd yr RSC a chwmnïau o Rwsia, Canada, yr Unol Daleithiau, yr Almaen, Pwyl, yr Iseldiroedd a’r Eidal, heb sôn am glamp o gynhyrchiad Ewropeaidd, Les Dianides, a gafodd ei berfformio mewn stadiwm pêl fasged. Roedd yna hefyd _yl theatr blant ar wahân, lle cipiodd Arad Goch o Aberystwyth y wobr gyntaf, a thymor o waith arbrofol.

Uchafbwynt yr wythnos i mi oedd Disco Pigs, cynhyrchiad Corcodorca, sioe ymylol mewn tafarn fechan. Roedd y darn argraffiadol hwn yn fyr, yn gyflym, yn swnllyd ac yn rhythmig, ac yn ymwneud â realiti bywyd heddiw i bobl 17 oed yng Nghorc, neu unrhyw ddinas arall o ran hynny. Roedd fy mhlant i, yn eu harddegau, wrth eu bodd.

Syniad gwerth ei fenthyca yng Nghymru yw’r Siop Theatr – seminar undydd i gwmnïau theatr Gwyddelig, yn cynnig cyfle i gwrdd â chyrff noddi, cynhyrchwyr o dramor a chyfarwyddwyr gwyliau. Roedd pob cwmni theatr yn Iwerddon yno, a llwyddais i gornelu nifer go dda ohonynt i drafod cynlluniau ar gyfer g_yl Aberystwyth y gwanwyn nesaf.

Mae gan y theatr yn Iwerddon hanes hwy a chyfoethocach na’r theatr Eingl-Gymreig broffesiynol, ac roedd yr aeddfedrwydd hwnnw’n amlwg yn amrywiaeth cynnwys yr _yl. Heb fod yn rhan o’r _yl, ond yn rhan o’r Siop Theatr, roedd Amharclann de hIde, y cwmni theatr proffesiynol cyntaf i weithio trwy gyfrwng yr iaith Wyddeleg. Yn gynharach eleni gwireddodd y cwmni freuddwyd J. M. Synge o weld cwmni teithiol ar gyfer dramâu mewn Gwyddeleg, wrth berfformio cyfieithiadau newydd o’i Riders to the Sea a The Tinker’s Wedding ar Ynysoedd Aran ac yna mewn llefydd gwledig eraill a Dulyn. Gobeithio y bydd modd i ni, gyda’n traddodiad cymharol hir o theatr Gymraeg, gyfnewid profiad gyda theatr yr iaith Wyddeleg ar gychwyn ei thaith.

awdur:Gill Ogden
cyfrol:407/408, Rhagfyr 1996/ Ionawr 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk