Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

‘Pobol Gyffredin’

Sut mae llunio drama am y dosbarth gweithiol? Aeth Gareth Miles i weld drama am griw o deilswyr Gwyddelig.

Shoot the Crow gan Owen McCafferty

(Trafalgar Studios, Llundain) (01.10.05).

Cyfarwyddwr: Robert Delamere

Cymeriadau (yn nhrefn eu llefaru): Randolph - Packy Lee

Ding-Ding - Jim Norton

Petesy - Conleth Hill

Socrates - James Nesbitt

Y Ddrama

Mae pedwar teilsiwr yn gweithio mewn dwy ystafell ymolchi/newid mewn canolfan chwaraeon neu faddonau ym Melffast. Yn y naill, mae Petesy, arweinydd y criw, a’i gyfaill Socrates, a lysenwyd oherwydd ei hoffter o athronyddu yngl_n â phroblemau mawr bywyd a rhai mân iawn hefyd. Maent ill dau oddeutu’r deugain mlwydd oed. Y drws nesaf iddynt mae’r hynaf o’r pedwar, Ding-Ding a’r ieuengaf, Randolph.

Yn yr olygfa gyntaf clyw-wn y llanc yn dyheu am brynu motobeic a fyddai’n ei alluogi i ddianc o Felffast a theithio cyfandir Ewrop. Anela ei eiriau at Ding-Ding ond nid yw hwnnw’n gwrando. Ac yntau newydd dderbyn llythyr gan y bos yn dweud na fydd arno angen ei wasanaeth o hyn ymlaen, mae meddwl yr hen _r ar yr oes o lafur sy’n dirwyn i ben heddiw a sut y gall lenwi’r amser sy’n weddill iddo. Pan dreiddia clebran Randoph i’w ymwybyddiaeth, ffrwydra gyda sylw dilornus a glywir sawl gwaith ganddo ef, Petesy a Socrates yn ystod y ddrama: ‘You know fuck-all about fuck-all, wee lad!’ Beth dâl breuddwydion, medd Ding-Ding, heb i ddyn weithredu i’w gwireddu? A sylwodd Randolph ar balediad o deils ger drws ffrynt yr adeilad heb neb yn holi i beth maen nhw’n da? Petaen nhw’n herwgipio’r teils ac yn eu gwerthu i ffyrm arall, gallai Randolph fforddio motobeic ac yntau Ding-Ding brynu rownd glanhau ffenestri fyddai’n ychwanegu at ei bensiwn ac yn ei arbed rhag segurdod wedi iddo ymddeol. Yr amser delfrydol iddynt ddwyn y teils fyddai yn ystod yr awr ginio, pan fydd y ddau arall yn y dafarn.

Problemau personol sy’n poeni Petesy a Socrates hefyd; y cyntaf yn ei chael hi’n anodd i fagu teulu ar ei gyflog a’r llall yn cwyno oherwydd nad oes ganddo deulu i’w fagu er pan wahanodd ef a’i wraig. Mae un o blant Petesy yn swnian byth a hefyd eisiau mynd am drip dramor gyda’i ysgol ond byddai’r gost ymhell tu hwnt i’r hyn y gall y teulu ei fforddio. Canfu Petesy ffordd o oresgyn yr anhawster, fodd bynnag: dwyn y teils sydd ger y drws ffrynt a’u gwerthu. Yr amser gorau fyddai yn ystod yr awr ginio, pan fydd y ddau arall yn y dafarn. Fyddai neb ddim callach ond byddent hwy ill dau dipyn go lew ar eu helw. Cydsynia Socrates ar ôl dadl boeth ynglyn â’r telerau: nid 70:30 na 60:40 ond 50:50. Bydd arian poced ychwanegol yn fodd iddo brynu anrhegion i’w fab a’i wraig ac adfer eu perthynas. Daw teitl y ddrama o eiriau a lefara Socrates yn nes ymlaen: ‘OK, let’s shoot the crow and do it.’ Petawn i’n cyfieithu’r ddrama rwy’n meddwl y buasai Socrates yn dweud ‘Dyna ddigon o falu cachu. Ddwynwn ni nhw i ddiawl!’

Ar ôl gwrando’n ddiamynedd ar Socrates yn traethu ei hiraeth am y dyddiau difyr, gynt pan oedd ef a’i wraig a’i fab yn byw dan yr unto, mae Ding-Ding yn ei annog yntau i weithredu yn hytrach na chwyno. Derbyn Socrates ei gyngor a phicio i weld ei wraig er mwyn rhoi gwybod iddi sut mae’n teimlo. Tybia Petesy mai dyna’r tro olaf y gwêl ef ei bartner y diwrnod hwnnw a pherswadio Ding-Ding i ymuno ag ef yn y cynllwyn. Cydsynia’r hen _r heb sôn am y trefniant blaenorol rhyngddo ef a Randolph.

Caiff Socrates groeso gynnes gan ei wraig a sêl ei bendith ar ei gais i fynd â’u mab i’r sinema y noson honno. Daw yn ei ôl i’r gweithle wedi gwirioni a chyda chymhelliad cryfach nag o’r blaen i ennill tipyn o arian poced.

Comedi sy’n llawn ffraethineb gwerinol, Gwyddelig yw Shoot the Crow ond efallai mai’r olygfa ddoniolaf yw’r un dawedog pan yw pob un o’r dynion mor gyndyn â’i gilydd o fynd am beint neu ddau neu dri amser cinio i ddathlu diwedd y job a diwedd gyrfa Ding-Ding. Pan ddatgelir eu bod oll wedi bod yn twyllo’i gilydd daw’r ffrae rhwng Petesy a’i ddyrnau’n yr awyr a Randolph â morthwyl yn ei law yn agos at dywallt gwaed. Tawelir y dyfroedd gan alwad ffôn y bos sy’n hysbysu Petesy fod stafell arall i’w theilsio a phentwr o deils wedi eu gadael o flaen yr adeilad ar gyfer y swydd honno.

Dywed Socrates yn syth nad yw’n bwriadu gosod yr un deilsen arall y diwrnod hwnnw rhag siomi ei fab, digio ei wraig a cholli cyfle euraid i gymodi â hwy. Mae’n gadael er gwaethaf bygythiad Petesy na fydd yn cyfro drosto. Wedi i Socrates ymadael dywed Randolph ei fod yn cytuno â Petesy gant y gant ond ymateb y pen-teilsiwr yw ‘You know fuck-all about fuck-all!’. Wrth gwrs eu bod yn mynd i gyfro dros Socrates. Fo sy’n iawn. Mae ei flaenoriaethau yn ganmoladwy.

Ail-gydia Petesy a Randolph yn y gwaith, ond nid Ding-Ding sydd wedi eistedd ar lawr a’i gefn yn pwyso ar bared, am gyntun. Dyna’i weithred olaf. Mae’r henwr yn marw yn ei hun ar ei ddiwrnod olaf yn y gwaith.

Y Cynhyrchiad

Elfen fwyaf diddorol y cynhyrchiad yw’r deunydd a wneir o lwyfan tro. Dyma a ddywed yr awdur a’r cyfarwyddwr am hynny yn y rhaglen:

Owen McCaffertey:...We had to try and show real work going on, but at the same time we needed to show a whole day within the duration of the play. You have the problem of cutting from one room to the next: what do you do with the people in the other room? Do you freeze them? Get them to work? But once you told me we would use a revolving stage it immediately solved that problem.

Robert Delamere: One of the interesting things about the play is that it’s a mixture of stage time and real time...

I think to make the world that the characters exist in complete you need that delineation of the two spaces and the door between them, which all help to make it realistic and allow that sense that people can be in another room but that for the audience their dramatic value has been temporarily reduced. And it helps the time issue in the play; having the revolve, in a theatrical sense, indicates the passing of time. So I think it helps in both the realistic and the poetic sense of the play.

Dyma a ddywedir yn y rhaglen am fwriadau’r dramodydd: ‘...his main intent is to present the stories of people whose lives may otherwise not be seen on stage, an aim that is very different from being a “working-class hero” playwright: “My original intent with Shoot the Crow was to give these men a voice so that their stories wouldn’t just be passed by”.’

Cyfeirio mae McCafferty at brinder dramâu am bobol fel Randolph, Ding-Ding, Socrates a Petesy ar lwyfannau Lloegr. Ni ellir cyhuddo dramodwyr a chwmnïau theatrig Cymraeg o’r un diffyg na’r un rhagfarn. Ond sylwais ar un gwahaniaeth arwyddocaol rhwng ymdriniaeth ein dramodwyr ni o fywydau ‘pobol gyffredin’ a’r hyn a geir yn Shoot the Crow. Mewn gweithiau diweddar fel Deinameit, Yn debyg iawn i ti a fi, Lysh a Sundance portreadir y werin weithiol fel victims; ysglyfaethau diymadferth i rymusterau allanol creulon, didostur; anffodusion y mae’n ddyletswydd arnom ni sy’n fwy ffodus a breintiedig, i dosturio wrthynt. Nid victims mo Randolph, Ding-Ding, Socrates a Petesey nac arwyr chwaith ond cymeriadau o gig a gwaed sydd, fel y rhelyw ohonom, yn gymysgedd o rinweddau a ffaeleddau, cryfderau a gwendidau. Dyma a ddywed awdur Shoot the Crow amdanynt:

...if they do have achievements, none of them are very grandiose; they are normal, everyday things which I like because it sort of adds some discipline and maturity to it. Randolph hasn’t really got any achievements, because he’s young and hasn’t done anything yet, so we forgive him for that. Ding-Ding’s achievemants are that, given how easy it is to muck things up, he has been disciplined enough throughout his whole life to enable him now to retire but still be fit enough to work on. I expect Petesy’s achievement must be holding his family together as that’s what he talks about; that’s his focus. And Socrates? Well, his is to see that there are more important things in the world than work and money, and not only to see it but to act on it.

Araith

Ceir tipyn go-lew o’r hyn a eilw cyhoeddwyr S4C yn ‘iaith gref’ yn Shoot the Crow. Y gair ‘fucking’ yw’r enghraifft amlycaf ac mae’r disgrifad yn addas gan nad fel rheg neu lw y’i harferir ond fel adferf cryfhaol neu danlinellol, fel y gwneir yn ne Ceredigion a gogledd Sir Benfro, e.e: ‘Dath y ffycin glaw a wedes i wrtho fe: “Ffyc-off. Rwyn ffycin mynd tua thre”.’

Mae defnydd McCafferty o ‘iaith gref’ yn gweddu i’r cymeriad ac i’r achlysur bob tro ac yn wahanol iawn i’r modd y bydd rhai dramodwyr Cymraeg yn britho eu llinellau â rhegfeydd er mwyn cyfleu atgasedd, chwerwedd a ffieidd-dra ac un ai i siocio cynulleidfa barchus neu i beri iddi chwerthin.

The Life of Ryan...and Ronnie gan Meic Povey

Cyfarwyddwr: Simon Harries

Ryan: Aled Pugh

Ronnie: Kai Owen

Stiwdio Weston, Canolfan y Mileniwm, Caerdydd (18.10.05)

Gan imi fod, yn y gorffennol, yn lawdrwm fy meirniadaeth ar rai o ddramâu Meic Povey ac ar gyfarwyddo Simon Harries ’rwy’n falch iawn o allu dweud i eiriau a chyflwyniad cynhyrchiad diweddaraf Sgript Cymru roi pleser a boddhad mawr i mi ac i’r gynulleidfa galonogol a’i gwelodd yr un pryd â fi. Rhaid cynnwys, hefyd, yn y ganmoliaeth y ddau actor ifanc eithriadol o dalentog, Aled Pugh a Kai Owen

Nid wyf wedi mwynhau drama gan Povey gymaint er Indian Country, sy’n arwyddocaol. Pan ysgrifenna yn Saesneg mae’n ymryddhau o afael y biwritaniaeth forbid a’r neo-Galfiniaeth ddyngasäol sy’n nodweddu ei ddramâu Cymraeg. Bu farw Ryan ym mlodau ei ddyddiau creadigol a Ronnie mewn amgylchiadau torcalonnus o drist eithr mae The Life of Ryan...and Ronnie yn dathlu eu bywydau a’u doniau ac yn datgan fod yr ysbryd dynol yn noblach peth na’r grymoedd negyddol sydd am ei ddifa.

Gohebiaeth

Diolch i Elen Bowman, Cyfarwyddwr Cyswllt Sgript Cymru am ymateb yn rhifyn mis Medi o Barn i’m sylwadau i yn y rhifyn blaenorol. Dim ond drwy ddeialog y symudir ymlaen yn unrhyw faes. Dymunaf yn dda i’w hymdrechion i feithrin a datblygu dramodwyr ifainc gan bwyso arni i’w hatgoffa mai diddanu yw nod pob drama lwyddiannus, hyd yn oed King Lear ac Wrth aros Godot.

awdur:Gareth Miles
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk