Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cadw’r Freuddwyd yn Fyw

Dyddiau Difyr oedd enw cynhyrchiad diweddaraf Cwmni Theatr Gwynedd. Dyddiau anodd yw’r rhain, fodd bynnag, i’r cwmni a’r adeilad ym Mangor sy’n gartref iddo. Theatr Gwynedd sydd dan y chwyddwydr yn yr ail yn ein cyfres erthyglau ar theatrau Cymru. Stori:

Mae’r albwms yn bochio gan luniau. Lluniau deg ar hugain a mwy o gynyrchiadau a lwyfannwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd dros y deuddeng mlynedd diwethaf, yn glasuron Gymraeg, fel Gymerwch Chi Sigaret? a’r T_r, yn glasuron rhyngwladol fel Y Cylch Sialc a’r Gelli Geirios, yn ddramâu newydd fel Leni a Golff ac yn sioeau Nadolig.

Nid yw’r lluniau, fodd bynnag, yn dweud hanes yr argyfyngau a wynebodd y cwmni hwn, a’r adeilad sy’n gartref iddo, dros y blynyddoedd a hynny o’r cychwyn cyntaf. Agorodd y theatr ei drysau yn 1974, a’r cynhyrchiad cyntaf oedd Pwyll Gwyllt, pantomeim gan Gwmni Theatr Cymru oedd yn gweinyddu’r theatr ar ran y perchnogion, sef y Brifysgol, a’r bwriad gwreiddiol oedd i’r theatr fod yn gartref i’r cwmni hwnnw, fel yr oedd Theatr Clwyd, Theatr y Werin yn Aberystwyth a’r Torch yn Aberdaugleddau yn gartref i’w cwmnïau eu hunain. Ond roedd gan Gwmni Theatr Cymru eu swyddfeydd eu hunain ym Mangor ac roeddent yn gynyn o symud eu stondin. Pan benderfynodd Cyngor y Celfyddydau yn 1981 i beidio ag ariannu theatrau heb gwmnïau ynddynt, yr unig ddewis i Theatr Gwynedd oedd i sefydlu ei gwmni cynhyrchu ei hun.

Ac yntau wedi gweithio gyda Chwmni Theatr Cymru cyn dod i Theatr Gwynedd fel Rheolwr Blaen T_ yn 1977, mae Dafydd Thomas, cyfarwyddwr presenol y theatr, yn cofio’r cyfnod cythryblus ar ddechrau’r wythdegau pan wahanodd llwybrau’r ddau sefydliad. ‘Roedd Cwmni Theatr Cymru yn amheus o sefyllfa ariannol Theatr Gwynedd, ond yn eironig y nhw’u hunain aeth i’r wal yn fuan wedyn tra aeth y cwmni cynhyrchu newydd o nerth i nerth,’ meddai. Un o’r pethau sydd wedi aros gliriaf yn ei gof yw’r ymateb i gynhyrchiad cyntaf Cwmni Theatr Gwynedd yn 1986, addasiad o O Law i Law T. Rowland Hughes, dan gyfarwyddyd Graham Laker.

‘Mewn saith ar hugain o berfformiadau ledled Cymru, mi welwyd O Law i Law gan bron i ddeng mil o bobl, sef 90% o’r gynulleidfa bosib. Dwi’n meddwl fod rheolwr theatr di-Gymraeg yng Nghlwyd, Aberystwyth a Chaerdydd wedi’u syfrdanu gan yr ymateb.’

Er fod cynulleidfaoedd y cwmni ers hynny wedi amrywio rhwng y boddhaol a’r da iwan, mae hinsawdd ariannol y deng mlynedd diwethaf wedi creu ansicrwydd parhaus. Gyda grant Cyngor y Celfyddydau wedi aros yn ei unfan ers tro, mae’r cwmni wedi gorfod rhoi’r gorau i deithio’n genedlaethol. Mae’r nawdd gan Brifysgol Cymru, Bangor – perchenogion yr adeilad – hefyd wedi gostwng yn sylweddol, a daeth ergyd drom arall eleni wrth i Gyngor Gwynedd dorri £20,000 oddi ar eu grant. O ganlyniad bu’n rhaid rhoi’r gorau i logi ystafelloedd ymarfer yn Nhreborth, ac mae’r cwmni yn awr heb unlle parhaol i ymarfer.

Mae colli treborth wedi gwneud yr angen i wireddu ail ran y cynlluniau gwreiddiol yn boenus o amlwg. Y cwbl sydd yn Theatr Gwynedd fel ag y mae yw awditoriwm, cyntedd a bar. Mae’r cynlluniau wedi bod yno o’r cychwyn cyntaf ar gyfer ‘Rhan II’, fel mae’n cael ei alw, sef stiwdio ar gyfer cynyrchiadau llai ac ystafelloedd ymarfer a gwisgo. Mae’r gofod yno’n barod, wrth ymyl yr adeilad presennol. Y drafferth yw diffyg arian ac, mae’n ymddangos, biwrocratiaeth. I wireddu’r cynlluniau, byddai angen £3.2m. Y Loteri yw’r unig obaith ar gyfer y math yna o arian a byddai’n rhaid i 25% ohono -£800,000- fod yn arian o ffynhonellau eraill.

Mae Dafydd Thomas wedi’i siomi yn niffyg brwdfrydedd Cyngor Gwynedd yn y cynlluniau. ‘Maen nhw’n codi bwganod am ganiatâd cynllunio, ond peth bach fyddai goresgyn hynny petaen nhw â’u calon yn y peth. Mae gynnon ni rywbeth cwbl unigryw fan hyn, theatr sy’n gartref i gwmni sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg, cwmni sydd wedi’i brofi’i hun yn genedlaethol. Ac mae yna botensial i roi gwasanaeth cymaint yn fwy cyflawn i bobl Gwynedd.’ Honna nad yw awdurdodau’r Coleg, ychwaith, mor gefnogol ag y gallent fod, er eu bod yn fodlon rhoi’r tir ar gyfer y datblygiad.

Er gwaethaf ei rwystredigaeth, dyn sy’n mwynhau ei waith yw Dafydd Thomas. Er ei fod wedi’i hyfforddi fel athro, mae’n gweithio yn Theatr Gwynedd ers un mlynedd ar hugain ac yn dal i deimlo cynnwrf bob tro y bydd cynhyrchiad ar fin agor. Ac mae’n llawn cyffro wrth sôn am ddatblygiad technegol diweddaraf y theatr – rhoi system sain newydd sbon i mewn, yn dilyn cais Loteri llwyddianus.

‘System Sain Dolby Ddigidol Amgylchol mae’n cael ei galw. Does dim llawer ohonyn nhw ym Mhrydain eto, heb sôn am Gymru. Fe gafodd hi ei defnyddio yma am y tro cynta’ y noson o’r blaen efo ffilm y Titanic, ac roedd pobl wedi mopio, yn meddwl eu bod nhw ar y llong eu hunain.’

Gweld pobl yn mwynhau eu hunain sy’n gwneud iddo ef, a gweddill y bobl sydd ynghlwm wrth Theatr Gwynedd, gydio er gwaethaf pob anhawster yn y gobaith am wireddu’r cynlluniau sydd wedi bod yn hel llwch ers cymaint o amser. ‘Mae’n rhaid inni gredu ei fod o’n mynd i ddigwydd.’

awdur:Menna Baines
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk