Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Ddrama Gomisiwn

Mae’n argoeli am Eisteddfod brysur iawn i’r selogion drama ym Mro Ogwr. I’ch helpu chi i gynllunio’ch wythnos, mae GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES yn edrych ymlaen at rai o’r cynyrchiadau ar gyfer oedolion.

Tair gan Meic Povey (Dalier Sylw)

‘Biti na fasa nhw’n blant am byth – yn sugno bawd; yng nghysgod ffedog; yn ddiymadferth...’ Geiriau Laura yn Wyneb yn Wyneb, a berfformiwyd gan Dalier Sylw yn 1993 ac, ar ôl hiwmor a dychan amlwg Bonansa y llynedd, ymddengys fod Meic Povey wedi dychwelyd at batrwm Wyneb yn Wyneb a fel Anifail gan ddewis rhoi’r berthynas deuluol dan y chwyddwydr unwaith eto; a’r tro hwn ei ferch ei hun, Catrin Powell, fydd yn chwarae un o’r prif gymeriadau. Tair – nain (Lisabeth Miles), mam (Betsan Llwyd) a merch (Catrin Powell), wedi eu clymu gan fwy nag achau, yn rhannu profiadau tebyg ond eto mewn amgylchiadau gwahanol, yn unigolion ond eto’n oesol o debyg. Mae’r ddrama fel ‘plicio nionyn’ meddai ei hawdur, a dwy stori o leiaf yn ymhlethu drwyddi – stori’r gorffennol a stori’r presennol. ‘Dwi’n dod yn ôl yn y pen draw, fel yn y rhan fwyaf o bethau dwi’n sgwennu, at y ffaith bod pwy wyt ti a be wyt ti yn ddibynnol iawn ar dy gefndir a dy deulu di’.

Yn Wyneb yn Wyneb dewisodd yr awdur drafod cariad – cariad rhwng dau fachgen, a rhwng un o’r bechgyn rheiny a’i fam, gan godi cwestiynau am gariad ‘normal’ ac ‘annormal’ o fewn cymdeithas. Pwnc eithaf mentrus, ond roedd yr awdur eisioes wedi dangos nad oedd ganddo ofn mentro wrth gyflwyno Perthyn bum mlynedd ynghynt, drama sy’n trafod llosgach rhwng tad a merch. Trafod marwolaeth a wnaeth yn Fel Anifail yn 1995 a hynny’n gignoeth ac yn eofn. Ond er gwaethaf yr amrywiaeth yma o bynciau yn y rhai hyn ac eraill o’i ddramâu, mae rhywun bob amser yn ymwybodol o bwysigrwydd gormesol bron y teulu, y gorffenol, goddefgarwch a maddeuant o fewn yr uned deuluol a’r tensiynau di-ben-draw sy’n deillio o fyw mewn uned glòs. Dros ddeng mlynedd yn ôl dywedodd Povey mewn cyfweliad â Gareth W. Jones, ‘Mae perthynas deuluol (yn enwedig edliw) yn fy niddori’n fawr,’ ac mae’n amlwg nad yw hynny, o leiaf, wedi newid. Er ei fod yn gyndyn o ddatgelu manylion Tair, mae’n fodlon dweud bod y tri chymeriad wedi bod, neu yn mynd, trwy’r un profiad. Mae hefyd yn barod i fentro tynnu’r ffeministiaid yn ei ben trwy ychwanegu bod drama neu unrhyw waith arall sy’n cynnwys merched yn sicr o gynnwys dynion hefyd mewn rhyw ffordd, hyd yn oed os nad ydynt yno o’n blaenau. ‘Mae o’n anorfod, mae o yn digwydd a dyna fo’. Oddi ar y llwyfan y bydd y tri chymeriad gwrywaidd sydd yn y ddrama hon drwy gydol y chwarae, a chanolbwyntir yn llwyr ar brofiadau’r merched.

‘Er ‘mod i wedi sgwennu dramâu efo cymeriadau benywaidd cry’ ynddyn nhw, do’n i erioed wedi sgwennu dim iferched yn unig,’ meddai. Daeth yr ysbrydoliaeth o’i brofiad personol, a sefyllfa deuluol y bu ynddi ei hun: y wraig ac yntau wedi symud o’r gogledd ac wedi ymgartrefu yn y de, ei fam yng nhghyfraith wedi aros yn Ynys Môn, a’i ferch hefyd wedi dal i fyw gartref. Aeth yr awdur ar ôl syniad lled debyg rai blynyddoedd yn ôl yn ei ddrama deledu Nel, ond y tro hwnnw y sefyllfa ieithyddol oedd yn ganolog. Wrth aeddfedu, meddai, mae wedi naddu ei grefft; mae llai o gymeriadau yn y ddrama lwyfan, a mwy o ganolbwyntio ar ar ymateb y tair cenhedlaeth i’r sefyllfa dan sylw ac i’w gilydd. Gallwn hefyd ddisgwyl set foel, fel ag y gafwyd yn rhai o’r cynyrchiadau blaenorol, gyda’r sylw i gyd ar y cymeriadau, eu geiriau a’r berthynas rhyngddynt. Mae’r awdur yn falch o gael gweithio am y trydydd tro gyda Bethan Jones, sy’n cyfarwyddo ar ran Dalier Sylw, am nad oes ganddi ofn gweithio o fewn y terfynau hyn. ‘Un peth sy’n dda efo Bethan ydi nad ydi hi ofn seibiau; mae hi’n gwneud rhywbeth ohonyn nhw, a mi fydd yna seibiau i bwrpas yn y ddrama hon hefyd.’

Mae’n pwysleisio mai dim ond man cychwyn oedd meddwl am ei amgylchiadau teuluol ef ei hun. ‘Nid bod y nain, na’r un cymeriad arall yn y ddrama, yn debyg i nain Sir Fôn, dim dyna dwi’n ddeud, ond mae rhaid i bob drama gychwyn yn rhywle, efo rhyw realaeth’. O’r sefyllfa real yma wedyn, meddai, caiff y cymeriadau dyfu. ‘Am y tri neu bedwar mis cynta’ o ysgrifennu drama y fi sy’n gwthio’r cymeriadau, ond ar ôl hynny maen’ nhw’n dechrau ‘nhywys i’.

A yw’r awdur yn disgwyl beirniadaeth, tybed, fel dyn yn beiddio ysgrifennu am ferched yn unig? ‘Dwi wedi gwneud fy ngorau, mae be dwi’n sgwennu yn ddidwyll. Chwech o bobl yn unig sydd wedi darllen y sgript, merched i gyd, a does neb wedi cwyno dim, a mi ddywedodd un, “Mi wyt ti wedi mynd i mewn i feddwl merch”’. Dyma, yn ôl yr awdur, y clod mwyaf y gall obeithio amdano; os yw pobl yn eu hadnabod eu hunain neu bobl ‘go iawn’ yn ei gymeriadau ef, mae wedi llwyddo. Dwi’n gofyn yn gynnil iddo a oes ganddo rywbeth gwahanol i ddweud am y bwlch ystrydebol rhwng y cenhedlaethau ac mae ei ateb yn hyderus o gadarnhaol. ‘Wrth gwrs, ydi, mae o wedi ei wneud filoedd o weithiau o’r blaen, ond dyma’r tro cynta’ i mi ei wneud o, a dwi’n gwybod, yn Gymraeg, ‘mod i’n sgwennu yn wahanol i bawb arall, yn sicr o ran fy neialog... Be wyt ti’n ‘neud ohono fo, y gwreiddioldeb wyt ti’n gallu gynnig iddo fo, dyna sy’n cyfri’.

Ac os ydych chi’n awyddus i weld gwaith Meic Povey yn y theatr, mae’n rhaid i chi frysio i weld y ddrama hon; dydi o ddim yn addo toreth o ddramâu dros y blynyddoedd nesaf. ‘Be hoffwn i ‘i weld yn fwy na dim rwan fyddai cynyrchiad newydd o rai o’r dramâu dwi wedi’u ‘sgwennu eisioes’.

Mae Perthyn eisioes yn destun gosod mewn ysgolion a’r awdur yn prysur ddod yn rhan o’r canon. Does dim byd fel gweld drama newydd sbon yn cael ei pherfformio am y tro cyntaf, ac mae Tair yn addo bod yn brofiad theatrig perthnasol i bawb. Wedi’r cwbl mae gwaed bob amser yn dewach na d_r.

Brwydr y Botel

Gwin Coch a Fodca gan Wynford Ellis Owen (Theatr Powys)

Yn 1992 fe dreuliodd yr actor Wynford Ellis Owen dri mis mewn canolfan ger Aberystwyth ar gyfer trin alcoholigion. Ac yntau wedi bod yn ceisio rhoi’r gorau i yfed am flynyddoedd cyn hynny, mae’n edrych ar y profiad fel trobwynt yn ei fywyd. Dywed fod ei ymdrechion i roi’r gorau iddi hyd at hynny wedi’u tynghedu i fethu gan nad oedd y cymhelliad yn ddigon dwfn.

‘Do’n i ‘mond yn ei wneud o i drio cadw ‘ngwaith a chadw ‘ngwraig. Do’n i ddim wirioneddol isio rhoi’r gorau iddi ynof fy hun, a dyna’r unig ffordd yn y pen draw. Yn Rhoserchan wnes i sylweddoli hynny.

Pan adawodd Roserchan, fe ofynnodd cynghorydd iddo a oedd am siarad am ei alcoholiaeth ynteu cuddio’r peth. Penderfynodd yr actor yn y fan a’r lle ei fod am fod yn agored, ac mae wedi cadw at ei air. Mae wedi siarad yn gyhoeddus droeon am ei yfed trwm, effaith hynny arno ef a’i deulu, a’r modd y mae wedi gallu goresgyn y broblem, er y bydd, meddai, yn alcoholig am byth.

Nid yn annisgwyl, felly, mae’r elfennau bywgraffyddol yn ei ddrama newydd, Gwin Coch a Fodca, yn amlwg. Rhoserchan ei hun yw’r lleoliad, ac mae Meic, y prif gymeriad (Siôr Llyfni), sy’n cyrraedd yno ar ddechrau’r ddrama, yn Gymro dosbarth canol, yn fab i wenidog ac yn actor a chanddo broblem yfed. Ond mae’r awdur yn pwysleisio bod profiadau Meic fel y datgelir hwy yn y ddrama yn rhai sy’n gyffredin i alcoholigion yn gyffredinol. ‘Yr un ydi’r daith i’r gwter yn achos bron bob un ohonom ni,’ meddai. Yr un hefyd allan o’r gwter? Does yna ddim neges hawdd o obaith yn y ddrama, yn ôl yr awdur.

‘3% o’r bobl sy’n dros eu problem yfed sy’n llwyddo i aros yn sobor trwy’r amser. Mynd o ddydd i ddydd mae rhywun. Mae aros yn sobor heddiw yn ddigon o gamp ynddo’i hun.’

Y peth anoddaf wrth ysgrifennu’r ddrama, meddai, oedd peidio â llithro i fyd nodwedd neu ddogfen. Mae’n gobeithio ei fod wedi llwyddo i osgoi hynny a’r peryg’ amlwg arall, sef pregethu. ‘Er fod sgwennu’r peth wedi bod yn eitha’ cathartig, nid trio egluro na chyfiawnhau fy alcoholigiaeth rydw i, a dwi ddim eisiau diflasu neb. Be dwi’n ‘neud ydi trio cael pobl i weld yr alcoholig yng nghud-destun teulu ac i ddiosg eu rhagfarnau am y cyflwr – mae gan lawer o bobl agwedd simplistig iawn at y peth.’

Straeon a Symud

Mefus gan Sera Moore Williams (Y Gymraes)

‘Gyddfau isel, sodlau uchel a rhywun annisgwyl i swper. Cyflwr y byd o berspectif benywaidd,’ meddai blyrb Mefus, cynhyrchiad Y Gymraes. Mae’r perspectif benywaidd yn anorfod, gyda sioe wedi’i hysgrifennu gan Sera Moore Williams ac yn cael ei pherfformio gan ddwy ferch, Gwenllian Rhys a Carys Gwilym. Ond mae Sera Moore Williams yn prysuro i ddweud nad sioe am ferched yn unig, nac ar eu cyfer nhw’n unig, mohoni.

‘Dweud straeon fyddwn ni, a sioe yngl_n â chrefft y cyfarwydd ydi hi, ac fe ddylai hynny fod yn ddifyr i bawb. Mi fyddwn ni’n dweud cyfuniad o straeon traddodiadol a rhai personol gan edrych ar y ffordd y bydd y rhai personol ‘falle’n tyfu i fod yn rhyw fath o chwedloniaeth yn y dyfodol.’

Mae dilynwyr gwaith Y Gymraes yn gyfarwydd â phwyslais delweddol, corfforol eu gwaith ac mae Mefus yn yr un mowld. ‘Gwaith corfforol ydi ‘nghefndir i, fel rhywun fu’n gweithio efo cwmnïau fel Brith Gof,’ meddai Sera Moore Williams. ‘Dwi’n treulio llawer mwy o amser yn coreograffu’n fanwl nag a fydda i yn cymeriadu, er enghraifft. Ond mae’r defnydd o iaith yn bwysig. Ar ôl y gwaith cynnar, corfforol, mi ddes i’n ymwybodol fod rhaid defnyddio iaith yn y theatr Gymraeg, a bod yn rhaid i honno fod yn fath arbennig o iaith – iaith lafar yn hytrach na iaith rhy delynegol, ond heb fynd yn ôl at y ddrama gegin gefn chwaith. Dwi’n defnyddio geiriau oherwydd eu rhythmau yn ogystal â’u hystyr.’

Nodwedd arall ar waith y cwmni yw eu defnydd o hiwmor ac addewir cryn dipyn o’r digri’ y tro hwn hefyd. Y gobaith wrth lwyfannu’r sioe yn y Chapter yw denu nid yn unig Eisteddfodwyr a fydd yn aros yng Nghaerdydd ond rhai o Gymry’r brifddinas hefyd. Mae’r dewis yn ysgafnhau’r baich trefnu ar ysgwyddau cwmni bychan, gan eu galluogi hefyd i gyflwyno gwaith mwy theatraidd nag a fyddai’n bosib mewn neuadd neu festri capel. Ddwy flynedd yn ôl, yn Eisteddfod Llandeilo, treuliodd aelodau’r cwmni amser yn trawsnewid festri capel yn focs gwyn ar gyfer Mae Siân yn Gadael Cymru. Eleni mae Sera Moore Williams yn edrych ymlaen at yr her o drosglwyddo ei straeon i’r llwyfan heb orfod poeni am bethau felly, o leiaf.

Sanau Diflanedig a Phethau Eraill

Clymu Cymyle gan Ian Staples (Cwmni 4Q)

Ydych chi erioed wedi gofyn beth sy’n digwydd i’r sanau unig rhein y sy’n diflannu yn y peiriant golchi? Dyma un o’r cwestiynau mawr a godir yn nrama Ian Staples, Clymu Cymyle, a ysgrifennodd yn wreiddiol yn y Saesneg – The Wind Netters. Mae teitl y ddrama yn y ddwy iaith yhn athronyddol o amhosibl, ond nid drama ddwys am natur bywyd a geir yma ond comedi, yn ôl yr awdur, sy’n trafod popeth ‘o bwysigrwydd cymdeithasol jelly babies i natur Duw a ffawd’. Mae hyn yn cael ei ategu gan natur hap a siawns y siop fetio, lleoliad y ddrama, ac wrth wrando ar yr awdur yn trafod y ‘madcap conversation’ sy’n digwydd rhwng dau gymeriad y ddrama, mae rhywun yn cael ei atgoffa o bopeth o Beckett i Reeves a Mortimer.

Bydd y cynhyrchiad hwn dan gyfarwyddyd Menna Price rywfaint yn fwy haniaethol, mae’n debyg, na’r cynhyrchiad Saesneg gwreiddiol a berfformiwyd yn 1995 gan Gwmni’r Sherman. 4Q fydd yn perfformio y tro hwn, cwmni a sefydlwyd yn 1993 ar gyfer perfformio drama gyntaf Ian Staples, Breuddwyd Icarus, yn Eisteddfod Llanelwedd. Y gobaith yw teithio’r ddrama yn y ddwy iaith yn y flwyddyn newydd. Mae’r awdur yn eiddgar iawn i weld dramâu Cymraeg yn cael eu gwerthfawrogi ar yr un lefel â rhai Saesneg, ac mae’n gobeithio y bydd Clymu Cymyle yn caelei pherfformio yn Nulyn yn ogystal. Efallai fod cenhadaeth o’r un natur yn amlwg yn ei waith sgriptio ar gyfer Pam Fi Duw?, cyfres sydd wedi dod yn boblogaidd iawn er gwaethaf y feirniadaeth gban buryddion y genedl ar ei ‘Valley Welsh’. Mae Ian Staples yn credu mewn ‘ffordd fyw o ddefnyddio’r Gymraeg’ a fydd yn denu gwylwyr ifanc yn y dee at y sianel, ac mae’n ysgrifennu fel y mae’n siarad ei hun.

Ond nid at yr ifanc yn arbennig yr anelir Clymu Cymyle, ac er nad yw’n ddrama gonfensiynol mae’r awdur yn mynnu nad oes fawr ddim ynddi fydd yn ‘siocio’, fel y disgwylid efallai gan awdur ifanc. Ei boen fawr yw mai am 6 o’r gloch y nos y bydd y ddrama yn cael ei pherfformio ac y bydd selogion yn dal i ymlwybro o’r maes yr adeg hynny, tra bydd yr ifanc yn dechrau llenwi’r tafarndai. Deugain munud yw hyd y ddrama, ac os oes arnoch awydd rhywfaint o wreiddioldeb a hiwmor gan awdur sydd yn ymddangos fel petai yn mynd o nerth i nerth, yng Nghymru a thu draw, brysiwch o’r cadeirio neu’r coroni hwyr yna, rhowch orffwys i’r iau am ryw awr fach, a cherwch i’w gwylio. Cafodd ymateb da iawn yn y Saesneg, a gwae’r Cymry os ydynt am ymddangos yn amharod i roi cyfle i rywbeth newydd. Wedi’r cyfan, ym myd theatr mae hyd yn oed clymu cymylau yn bosibl.

Serch a Gwleidyddiaeth

Skylight gan David Hare / addas. John Owen (Theatr Gorllewin Morgannwg)

Gwelodd John Owen Skylight David Hare dair blynedd yn ôl yn y Cottesloe, yn y National Theatre, Llundain, a chael ei gyfareddu. Mae ganddo gof arbennig am yr ail-gread byw ar lwyfan o’r ystafell mewn fflat lle mae’r ddrama gyfan yn digwydd, yn enwedig y ‘gwynt spaghetti bolognese hyfryd’ oedd yn hofran dros y gynulleidfa. Ond mae’n cofio’r ddrama am resymau mwy sylfaenol hefyd, yn bennaf am ei bod yn stori garu gref wedi’i phlethu gyda sylwebaeth wleidyddol finiog.

Skylight yw ugeinfed drama David Hare, ac ym marn John Owen, awdur y cyfieithiad Cymraeg, mae’n ddrama ysgubol. ‘Er taw Sais yw David Hare, wedi’i eni yn Portsmouth, mae’n feirniadol iawn o Loegr ac o’r diwylliant Saesneg,’ meddai. ‘Yn Skylight, ei ugeinfed drama, ry’n ni’n cael darlun deifiol o’r cyfnod Thatcheraidd a’i werthoedd. Wedi dweud hynny nid polemig sydd yma – r’yn ni cael y wleidyddiaeth i gyd yng nghud-destun y stori garu’.

Mae’n pwysleisio mae wedi cyfieithu’r ddrama y mae yn hytrach na’i haddasu. ‘Yr East End, Llundain, yw cefndir y gwreiddiol, a doeddwn i ddim yn gweld angen i newid hynny. Am yr un rheswm dwi wedi penderfynu cadw’r teitl yn Saesneg. Dwi’n ffyddiog fod y ddrama fel ag y mae yn cynnwys digon o gyfeirnodau y bydd Cymry’n gallu uniaethu â nhw.’

Mae’r ddrama’n digwydd mewn cwta naw awr yn ystafell fyw flêr twll o fflat yn yr East End. Rhwng naw o’r gloch y nos a thri y bore, mae Kyra, merch ifanc ddeniadol ddeg ar hugain oed, yn cael dau ymwelydd. Y cyntaf yw mab ei chyn-gariad; yr ail yw’r cyn-gariad ei hun. Trwy sgyrsiau datgelir inni sut y tyfodd y garwriaeth rhwng Kyra, fel Saesnes ddosbarth canol a gyrhaeddodd Lundain pan oedd yn ddeunaw oed, a Tom, dyn busnes llwyddiannus, canol oed a g_r priod.

Cawn wybod fod y berthynas wedi para am bum mlynedd hapus, ond fod Kyra wedyn wdi cyfnewid ei hawddfyd gyda Tom am yr her o fod yn athrawes yn un o ysgolion gwaethaf Llundain. Pam? Ac a fydd cynnau tân ar hen aelwyd? Nid yw John Owen am ddifetha’r stori i neb, ond mae’n addo noson ddifyr, lawn tydra a fydd yn o peri inni ailystyried diffiniadau du a gwyn o gyfalafiaeth a sosialaeth, o dde a chwith. ‘Mae’n frwydr syniadol ac yn frwydr emosiynol, bersonol.’

awdur:GWENAN ROBERTS A MENNA BAINES
cyfrol:426/427, Gorffenaf/Awst 1998

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk