Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Agor Dipyn ar Gil y Drws

Fe aeth Eurgain Haf hithau ar gwrs ysgrifennu drama Sgript Cymru a’i gael yn brofiad diddorol.

Dyma oedd yr eildro i mi dderbyn gwahoddiad gan Sgript Cymru i fynychu eu cwrs ysgrifennu preswyl. Diffyg hyder yn bennaf a berodd i mi wrthod y cynnig y tro cyntaf. Cam gwag o edrych yn ôl, yn enwedig o ystyried fod cwmni Sgript Cymru yn un o’r ychydig gwmnïau theatr hynny sy’n ymroddedig i gefnogi dramodwyr Cymraeg a Chymreig newydd i ysgrifennu ar gyfer y llwyfan drwy bob lefel o ddatblygu - o feithrin hyder a datblygu crefft.

Petawn i’n gwbwl onest hefyd roedd gen i dipyn o ‘hangyps’ am ddrama-teips ers dyddiau coleg. Roedd y profiad o gogio bod yn wy ’di ffrio yn ffrwtian mewn padell fel rhan o ymarferion y dosbarthiadau ymarferol ar y cwrs drama wedi gadael blas drwg yn fy ngheg!

Ond, pan ddaeth y cyfle eto, roeddwn i wedi dod i’m synhwyrau ac yn barod i lawn werthfawrogi'r hyn oedd yn cael ei gynnig i mi.

Dechreuodd y daith mewn pentref cysglyd ym mherfeddion Cwm Clun yn Sir Amwythig a chartref olaf y dramodydd John Osbourne sydd erbyn hyn wedi ei drawsnewid yn ganolfan ysgrifennu'r Hurst. Gwahoddwyd 16 ohonom i fod yn rhan o’r wythnos. Dyma wythnos o gymryd rhan mewn sesiynau trafod gyda chriw Sgript Cymru a’r tiwtor gwadd Meic Povey, sesiwn ddarllen gydag actorion a chyfle i blannu ein hegin syniadau.

I bump ohonom, daeth y cyfle yn dilyn y gwahoddiad i fod yn rhan o brosiect Drws Arall i’r Coed a fyddai’n teithio Cymru yn ystod gwanwyn 2005.

Roedd hyn yn dechrau ar chwe mis caled o waith datblygu a oedd yn mynd i ddysgu cymaint i mi am dechnegau ysgrifennu ar gyfer y llwyfan, ond hefyd yn mynd i fod yn un o brofiadau anoddaf fy ngyrfa ysgrifennu i.

Dysgu ‘malio’ am y cymeriadau - dyma oedd gair mawr Meic Povey ar y cwrs a dyma fyddai byrdwn blinderus y gwaith dros yr wythnosau nesaf. Yn dilyn sgyrsiau gydag Angharad Elen, Rheolwr Llenyddol Sgript Cymru a Judith Roberts, y cyfarwyddwr fe’m cefais fy hun yn cadw cwmni i’r cyfrifiadur hyd oriau mân y bore wrth drio dod i nabod fy nghymeriadau drwy sgwennu pytiau o ddeialog rhyngddynt ac ysgrifennu dyddiaduron ar eu cyfer. Roedd yn rhaid iddynt dalu am eu lle yn y ddrama, waeth faint o ail-ddrafftio poenus roedd hynny yn mynd i’w olygu.

Dyma i mi efallai un o’r profiadau anoddaf, a mwyaf rhwystredig ar adegau, wrth weithio ar y prosiect - nid yn gymaint yr anogaeth i arbrofi gyda syniadau a chymeriadau newydd ond y gofyniad i ddechrau pob drafft ar ddalen lân, fel codi’r llen ar ddrama gwbwl newydd. Ar adegau teimlwn fy mod yn cael fy arwain i gyfeiriad arbennig, heb fod yn si_r iawn i le, a’m bod yn rhan o ryw gyfanwaith pendant heb fod y darlun cyfan yn eglur i mi.

Dwi’n cofio cael ffit biws pan dderbyniais alwad ffôn a finna’ ar feic rwla yn nyffryn Loire yn Llydaw yn holi os oedd gen i unrhyw wrthwynebiad iddynt ddefnyddio delwedd o’m drama ar gyfer posteri hyrwyddo’r prosiect Drws Arall i’r Coed.

Roedd y posteri hyrwyddo eisoes yn cael eu creu! Roedd gen i gast oedd yn barod i ynganu geiriau nad oeddynt yn bodoli eto, ac roedd lleoliadau’r daith eisoes wedi eu cadarnhau! Ffonio mewn panig wedyn, a’r geiriau’n dod yr ochr arall i’r derbynnydd: ‘Mi redith dy ddeialog fel d_r o dap ar ôl i chdi ddod i nabod dy gymeriadau tu chwithig allan. Dwi’n addo i chdi.’

Onid yw ffydd yn beth braf deudwch? A rywsut do, gwireddwyd yr addewid, ond hynny heb i mi ddod yn agos iawn at gael hartan ar sawl achlysur!

Y cam nesaf oedd clywed y geiriau yn cael eu hynganu gan yr actorion yn y gweithdai cyntaf. Roedd hyn ynddo ei hun yn brofiad oedd yn peri i rywun wingo yn anghyfforddus, ond roedd yn brofiad defnyddiol wrth dynnu sylw at wendidau amlwg ac ambell i air neu linell oedd yn ‘jario’ i’r glust. Roedd yr actorion hefyd, yn fy achos i, Mali Tudno a Huw Davies, yn barod iawn i holi cwestiynau a chynnig cyngor yma ac acw wrth geisio mynd dan groen eu cymeriadau a dod i adnabod y testun tu chwithig allan.

Daeth yn amser wedyn i ymddiried y cyfan yn nwylo'r cyfarwyddwr, yr actorion, y technegwyr sain a goleuo, a’r peth nesaf a wyddwn i oedd fy mod yn aelod o’r gynulleidfa yn gwylio ‘rhan fach ohona i’ yn cael ei pherfformio o’m blaen.

Braf oedd gwylio'r pedair drama arall hefyd a gweld sut roeddynt hwythau wedi datblygu gymaint ers yr egin syniadau a welsom yn yr Hurst. Ac yn ddistaw bach roedd yn gysur calon i mi weld fod Caryl, Dyfrig, Manon a Gwyneth, dybiwn i, wedi bod drwy'r un broses o ailddrafftio ac ailddiffinio a thynnu gwalltiau eu pennau hefyd!

Penllanw'r daith a’r holl broses organig oedd y perfformiad o’r cynhyrchiad, ac roedd unrhyw ganmoliaeth neu feirniadaeth a ddaeth yn ei sgil i’w chroesawu. O leiaf i mi, roedd Sgript Cymru wedi agor cil y drws ar faes na fynnais fentro iddo lai na ddwy flynedd yn ôl, ac rwy’n ddiolchgar iddynt am hynny.

awdur:eurgain haf
cyfrol:507 ebrill 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk