Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Dy Daith dy Hun

Aeth MEINIR ELUNED JONES i weld y fersiwn llwyfan o Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun gan Aled Jones Williams.

Criw bychan, dim mwy na rhyw ddeg ar hugain, dyweder, o selogion y ddrama oedd yn eistedd mewn siâp cryman yn theatr-stiwdio Canolfan y Celfyddydau yn Aberystwyth i weld Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun. Wedi ein cau i mewn yn yr ystafell fach, gron, dywyll, glawstroffobig. Dim ond unwaith y bûm i yn y stiwdio honno o’r blaen, a hynny i weld perfformiad o ddrama Satre, ‘No Exit’. ‘Uffern’ dwi’n galw’r lle byth ers hynny, a dwi’m yn amau nad effeithiodd y rhagfarn (yn ystyr wreiddiol y gair – rhag + farn) honno ar fy mhrofiad o ddrama Aled Jones Williams, er gwell neu er gwaeth. Yn sicr, fe barodd i mi fod yn fwy ymwybodol na’r arfer o ddifrodaeth y ddrama.

Sioe un-dyn yw Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun gydag Owen Arwyn yn ein tywys trwy atgofion bachgenaidd plentyndod yng nghefn gwlad Cymru yn y chwedegau, ac angst gwaeledd olaf ei dad wedi iddo dyfu i fyny. Does gen i ddim ond y ganmoliaeth uchaf i’r actor am ei berfformiad gwirioneddol wych. Profiad braf yw gwylio drama pan fydd actor proffesiynol wrth ei waith, ac yn amlwg yn rhoi cant-y-cant i’r perfformio.

Rhywbeth i’w chlywed ac i’w chyffwrth yw iaith yn ôl Aled Jones Williams, ac mae o, fel bardd ac awdur, wedi profi hynny i’r eithaf yn ystod y deufis diwethaf. Mae’n gwbl hysbys i bawb, mae’n si_r gen i, mai addasiad o lyfr o’r un enw yw’r ddrama Rhaid i Ti Fyned y Daith Honno dy Hun, ac fe _yr y rhan fwyaf i’w bryddest ddadleuol, ‘Awelon’, gymryd cam na chymerodd yr un bryddest arall erioed, mae’n debyg, wrth gael ei llwyfannu ar ffurf drama yn ddiweddar. Yn y traddodiad Cymraeg, rhywbeth i’w datgan yw llenyddiaeth. Ydy, mae’n bodoli hyd dragwyddoldeb yn farw mewn print, ond am ennyd fer, fe ddaw’n fyw. Ar y llwyfan, daw haniaeth yn ddiriaeth. Nid yw hynny’n para. Fe lithra fel tywod rhwng bysedd. Lle’r awdur yw sicrhau bod ei greadigaeth yn cael y cyfle hwn i ddod yn fyw ac i gymryd y cam ychwannegol hwnnw, a lle’r beirniad yw dal yr ennyd werthfawr honno a gweld y darlun cyfan, fel petai. Mae beirniadaeth lenyddol Gymraeg yn annigonol ac yn anghyflawn, does dim dwywaith am hynny, oherwydd bod seddi gwag yn y theatrau ac oherwydd absenoldeb o du‘r rhai sy’n eu galw eu hunain yn awdurdodau yn y maes ac sy’n cael eu cyflogi am hynny.

Yr hyn a gollodd y bobl anniwylliedig hyn oedd persbectif wahanol ar y stori i’r hyn a ymddengys yn y llyfr. Hepgorwydd y darnau a italeiddwyd, hanes y Robert Edward Williams a laddwyd yn y Rhyfel Byd Cyntaf, yn gyfan gwbl, er enghraifft.

Chwaraeir ar baradocsau i raddau helaeth iawn yn y ddrama, a’r amlycaf yw’r ddau begwn, plentyndod a henaint. Atgofion annwyl a doniol y mab o’i blentyndod ac o’i berthynas â’i dad a gawn gan amlaf, ond mae cysgod marwolaeth dros y cyfan. Ni ellir anwybyddu presenoldeb y tad yn y gwely, a’r arch sydd ar y llwyfan trwy gydol y ddrama. Ond nid angau anochel y tad yw’r unig farwolaeth. Ceir myfyrdod aeddfed ar arogl marwolaeth trwy atgof plentyn ar ôl golygfa dywyll-ddoniol lle mae criw o hogiau’n ceisio siglo arch Daisy Hughes, ac yna Bobdrwsnesa, yr hogyn ifanc, ffraeth, yn marw ar ôl damwain motobeic, ac yn troi’n ‘lle gwag’. Mae’r ddau beth, afiaith a marwolaeth, yn gyson daro’n erbyn ei gilydd, a’r un yn cael y gorau ar y llall mewn gwirionedd.

Un cymeriad sy’n ymddangos, ond trwyddo ef down i adnabod cymeriadau eraill. Cymeriadau sydd i gyd yn gaeth mewn gwahanol ffyrf. Y tad yn gaeth i’w salwch, y mab yn gaeth i wynebu realaeth ‘sincio’ ei dad, y gymuned gyfan yn gaeth i’w ffordd o fyw, ac i’w hiaith. A iaith ei hun yn gaeth hefyd, ‘Do’s ‘na Chymraeg na Saesneg yn mynd i fedru’ch cyrraedd chi heno’. Ond ni ellid ymdeimlo crafangau caethiwed heb ddirnad beth yw rhyddid, ac aiff rhyddid dyn ymhellach nag a ddychmygir go-iawn. Mae’r cymeriadau’n rhydd i benderfynu eu hagwedd at Dduw a’r byd, a’r ffordd maen ‘nhw’n synied am gariad a marwolaeth. Gall iaith fod yn rhydd hefyd, yn ‘ferigorownd geiria’, yn ‘inja roc geiria’, cyn ymroi i fudandod drachefn.

Gwagedd a Rhywbeth – dyna ddau begwn arall a archwilir yn y ddrama (L’Être et le Néant, mynna’r ddirfodaeth yn fy mhen atseinio!). Ofni dim byd, sy’n ddyfnach na ‘llonyddwch mawr’ T. H. Parry-Williams, gan nad oes yn y dim hwn lonyddwch hyd yn oed. Dim Duw, dim cof, dim iaith, dim ymwybyddiaeth. Ofn pennaf yr agnostig. Ond, wedyn, fe’n cyflwynir i liwiau ac i hudoliaeth ffydd. Yng nghanol drama lythrennol dywyll, egyr y mab gês ei dad a thu mewn mae golau euraid, fel agor cist drysor mewn cart_n. Trysorau sy’n perthyn i ddefodau eglwysig sydd yn y cês, ac yn y sesiwn drafod ar ôl y ddrama, esboniodd Falmai Jones, y cyfarwyddwr, sut y mae pobl yn aml yn cysylltu’r eglwys â hudoliaeth, yn groes i foelni anghydffurfiaeth. Roedd yr olygfa honno’n un hardd, llawn gobaith, a chwbl groes i’r diddymdra a welsom gynt a wedyn.

Un gair y dylid briodoli i waith Aled Jones Williams yw ‘rhwng.’ Mae’r ffin yn denau rhwng y pegynau paradocsaidd, nid yw’r naill begwn yn cael y gorau ar y llall. Rhyngddynt mae bodlonrwydd arwynebol i’w ganfod, ac yno, yn rhywle, mae’r rhan fwyaf ohonom ni yn trigo, ond llwydda’r artist hwn i gyfleu’r ffrithiant sy’n digwydd pan ddaw’r pegynau i gyffwrdd â’i gilydd ac i grafu yn erbyn ei gilydd.

Mae ei ymdriniaeth â pharadocsau dwfn bodolaeth yn gwbl unigryw, ac wrth godi pontydd rhwng gwahanol genres llenyddiaeth Gymraeg, y mae’n arloeswr. Bydded i’r sawl a fyn anghytuno weld y darlun cyflawn cyn gwneud hynny...

awdur:Meinir Eluned Jones
cyfrol:482, Mawrth 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk