Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Dramâu’r Wyl

Dafydd Llywelyn sy’n bwrw golwg ar gystadlaethau’r Fedal Ddrama a’r Ddrama Hir yn yr Eisteddfod eleni, ac yn awgrymu ffyrdd ymlaen i ddarpariaeth theatrig Eisteddfodau’r dyfodol.

Wedi rhialtwch yr haf, y gwyliau llawn tyndra, y ffraeo a’r cecru diddiwedd, gwelir elfen o normalrwydd yn raddol ddychwelyd i’n bywydau gyda’r ysgolion yn ailagor, a’r oedolion yn dychwelyd i’w gwaith. Wrth weld y dail yn crino, a’r dyddiau’n brysur ildio tir i dywyllwch a’r oerfel, rywsut neu’i gilydd mae’n haws mynd ati i ’sgwennu. Mae’n amlwg bod gaeaf y llynedd wedi bod yn gyfnod prysur a chynhyrchiol iawn i Manon Steffan Ros, gan iddi gipio’r Fedal Ddrama yn yr Eisteddfod Genedlaethol – a hynny am yr ail flwyddyn yn olynol. Nid yn unig hynny, ond llwyddodd i ddod yn ail yng nghystadleuaeth y goron hefyd, a braf oedd gweld dwy arall sy’n ymdrybaeddu ym myd y ddrama, Eigra Lewis Roberts a Fflur Dafydd, yn dod i’r brig ym mhrif gystadlaethau’r brifwyl.

Er gwaetha’r ffaith bod Manon Steffan Ros wedi derbyn canmoliaeth uchel iawn gan y beirniaid, ac yn llwyr deilyngu’r fedal ddrama, go brin y gallwn orfoleddu’n llawen a dathlu o ran y cynnyrch a ddaeth i law’r beirniaid. Cafwyd deg ymgais yng nghystadleuaeth y ddrama hir, saith yn perthyn i’r trydydd dosbarth, a thri yn yr ail ddosbarth; tra bod pymtheg wedi ymgeisio yng nghystadleuaeth y ddrama fer, a dim ond creadigaeth o eiddo Manon Steffan Ros a haeddai unrhyw fath o glod. Pump ar hugain o weithiau a’r cwbl, ag eithrio un, yn dorcalonnus, a nodwyd mai prif wendid yr ymgeiswyr yng nghystadleuaeth llunio drama hir oedd eu ‘[h]anallu i ysgrifennu stori dda.’

I raddau, cawl eildwym yw’r drafodaeth a geir yma, achos dagrau pethau yw bod sefyllfa o’r fath wedi codi’i phen dro ar ôl tro ers blynyddoedd bellach, ac mae rhywun yn dechrau alaru ar yr holl ddadansoddi. Fodd bynnag, mae’n rhaid i rywun fod yn gwbl agored a gonest, a chydnabod bod y safon yn drybeilig o isel a gwael. Yn y Gymru gyfoes sydd ohoni – lle mae tramgwyddo a phechu mor rhwydd i’w wneud – dylid pwysleisio nad beirniadaeth bersonol mo hon, ni ellid gosod y cyfrifoldeb neu’r bai ar ysgwyddau un unigolyn. Does dim dwywaith bod nifer yn gweithio’n galed ac yn ddiflino – a dylid ychwanegu bod y ddarpariaeth a geir ar gyfer cwmnïoedd amatur o fewn yr Eisteddfod Genedlaethol i’w gweld llawer iachach a llwyddiannus – ond yng nghyd-destun cystadlaethau cyfansoddi drama hir a fer, mae’r sefyllfa fel ag y mae ar y funud yn fethiant llwyr.

Mewn ymgais i newid y sefyllfa hon, mae sawl awgrym wedi’i wneud dros y blynyddoedd; yn eu plith symud seremoni wobrwyo yn ôl i’r pafiliwn, ynghyd â chael yr Orsedd yn bresennol yn ystod y seremoni honno. Mewn egwyddor, mae awgrym o’r fath yn ddigon teg, ond o edrych ar y sefyllfa’n gwbl bragmataidd ac ymarferol, go brin y gellid gwireddu hyn. Er bod camau o’r fath wedi adfywio a chryfhau statws a safon cystadleuaeth y Fedal Ryddiaith, go brin y gellid disgwyl i aelodau’r Orsedd ei heglu hi am y pafiliwn ar gyfer pedair seremoni mewn pum diwrnod – ac yn ddi-os byddai trefnwyr seremonïau Tlws y Cerddor a Gwobr Goffa Daniel Owen yn cicio a strancio. Yn hytrach na chael seremoni ysblennydd, haerwn mai’r pleser mwya’ y gellid ei roi i unrhyw ddramodydd werth ei halen, yw cael gweld ei waith wedi ei lwyfannu’n broffesiynol, a chael gweld a gwrando ar ymateb y gynulleidfa.

Beirniaid cystadlaethau llunio drama hir a fer yn Abertawe eleni oedd Meic Povey, dramodydd mwya’ cynhyrchiol a llwyddiannus y degawdau diwethaf, a Branwen Cennard, sydd wedi bod yn ymwneud â byd y theatr a theledu ers blynyddoedd. Byddai rhywun yn tybio bod natur a chalibr y beirniaid ynddo’i hun yn ddigon o abwyd i sicrhau bod yna ddiddordeb ymhlith dramodwyr newydd a’r rhai sydd eisoes wedi ennill eu plwyf – ysywaeth, nid dyna ddigwyddodd.

Ychydig flynyddoedd yn ôl aed ati i geisio atal y patrwm truenus o ddiffyg teilyngdod drwy gynnig gwobr ariannol sylweddol fel abwyd. Un rheswm a grybwyllwyd fel cyfiawnhad dros hyn oedd bod ’sgwennu ar gyfer y teledu yn cynnig llawer mwy o arian na byd y theatr, ac ystyriwyd y byddai ychydig o filoedd yn gwneud iawn am hynny. Roedd cam o’r fath yn fwy o sarhad na dim arall, gan ei fod yn awgrymu mai dyna unig gymhelliad ysgrifenwyr dros gystadlu, a buan y sylweddolwyd mai cam gwag ydoedd. Nid arian sy’n mynd i ddenu’r dramodwyr, ond yn hytrach ychydig o barch, ac yn y bôn dyna’r gwahaniaeth pennaf rhwng prif gystadlaethau eraill y Brifwyl a’r Fedal Ddrama, sef y diffyg parch a ddangosir tuag at y grefft o lunio drama.

Pan mae beirdd a llenorion yn rhoi’r atalnod llawn olaf ar eu gweithiau mae’r gwaith, i bob pwrpas, yn gynnyrch gorffenedig a chyflawn. Ni ellid dweud yn yr un modd am lunio drama. A defnyddio’r gymhariaeth a wnaed gan Ron Davies wrth drafod y Cynulliad yng Nghaerdydd, proses yw rhoi drama ar lwyfan. Mae’n gwbl arferol cynnal gweithdai, darlleniadau a chyflwyno drafft ar ôl drafft o ddrama, cyn yr eir ati i’w hymarfer yn iawn, ac hyd yn oed wedyn, ceir newidiadau a thocio man hyn a man draw cyn iddi weld golau dydd. Dyna realiti’r broses o lwyfannu drama, ac os yw dramodydd mor brofiadol â Meic Povey yn mynd drwy’r broses honno, yna siawns na all dramodwyr llai profiadol ond elwa o brofiad o’r fath. Yn ei beirniadaeth, dywedodd Branwen Cennard bod gofynion y cystadlaethau cyfansoddi yn ‘enfawr’, ond drwy fabwysiadu polisi o’r fath, efallai y gellid ysgafnhau ychydig ar y pwysau a osodir ar ysgwyddau’n dramodwyr.

O ganlyniad i’r argyfwng ariannol a wynebodd yr Eisteddfod ychydig flynyddoedd yn ôl, penderfynwyd diddymu’r ddrama gomisiwn. Beth bynnag oedd y dadleuon o blaid ac yn erbyn penderfyniad o’r fath, yr hyn sy’n bwysig nawr yw edrych a chynllunio tuag at y dyfodol, a chyda ychydig o ewyllys da a chydweithio call, gellid manteisio ar absenoldeb y ddrama gomisiwn, a bod yn gadarnhaol. Pe bai cystadleuwyr yn gwybod i sicrwydd bod y gwaith buddugol i’w lwyfannu’n llawn (ac nid darlleniad o’r gwaith) gan gwmni proffesiynol yn yr Eisteddfod ganlynol, gall fod yn ysgogiad ac yn nod i anelu ato. A phe byddai’r beirniaid o’r farn nad oedd teilyngdod, o leiaf byddai gan yr awduron ddeuddeg mis i weithio gyda chwmni proffesiynol, er mwyn datblygu’r egin ddrama a’i gweld yn tyfu ac yn siapio. Drwy wneud hyn, rhoddid cyfle i’r awduron ddatblygu hyder a chael profiad amhrisiadwy o gydweithio gyda chwmni ac actorion proffesiynol. Yn ogystal, gellid sicrhau wedyn bod yna gynhyrchiad proffesiynol yn cael ei lwyfannu’n flynyddol yn enw’r Eisteddfod, a chyda momentwm a hyrwyddo gofalus gall etifeddu mantell y ddrama gomisiwn yn ddigon rhwydd. Dwi’n ymwybodol bod ymgais debyg wedi’i roi ar brawf yn y gorffennol, ond yr argraff roedd rhywun yn ei gael bryd hynny oedd mai trefniant a syniad nas ddatblygwyd i’w llawn botensial ydoedd. Os yw cynllun o’r fath i lwyddo, nid ar chwarae bach mae gosod peiriant a system yn ei le. Rhaid sicrhau bod y cyfan yn cael ei drefnu’n gwbl drwyadl, a bod y gefnogaeth a’r ddarpariaeth yn gynhwysfawr, yn ddigonol, ac yn anad dim, yn gwbl broffesiynol.

Honna rhai bod y ddrama a’r theatr yng Nghymru mewn cryn argyfwng, a bod y broblem yn llawer dyfnach na’r hyn a ellid yn rhesymol ddisgwyl i’r Eisteddfod Genedlaethol ei chyflawni. Yn sicr, mae gwirionedd yn perthyn i’r gosodiad, ond ni ddylai hynny lyffetheirio rôl ac ymdrech yr Eisteddfod i geisio newid pethau er gwell. Mae cynulleidfaoedd niferus cynyrchiadau y Theatr Genedlaethol yn gwrthbrofi’r ddadl nad oes diddordeb bellach ym myd y theatr. Teg yw dweud bod angen adennill hyder a ffydd y gynulleidfa, ond os yw’r arlwy theatrig yn gyson dda a safonol, buan y llenwir ein theatrau. Yr hyn sydd wedi newid yn ystod y degawdau diwethaf yw’r dirywiad yn y tueddiad ymhlith y cyhoedd i fynychu cynyrchiadau oherwydd eu bod yn teimlo rheidrwydd i gefnogi’r ‘pethe’ a gweithgareddau yn y Gymraeg – a diolch i’r drefn am hynny. Nid elusen yw’r theatr, ac ni ddylai ddibynnu ar gardod a chydymdeimlad y Cymry am ei chynhaliaeth – dylai’r gweithiau a gynigir fod yn ddigon cryf a deinamig i gynnal diddordeb a chwilfrydedd y cyhoedd. Gall yr Eisteddfod chwarae rôl amhrisiadwy yn y broses o geisio adfywio byd y ddrama yng Nghymru, a rhoi hwb sylweddol i awduron a gweithiau newydd.

Gydag eisteddfodwyr pybyr wedi hen adael maes llychlyd Abertawe, mae’n golygon bellach ar Sir y Fflint. Yn yr Eisteddfod honno, gwelir dramodydd ac actores hynod brofiadol a chadarn yn beirniadu cystadleuaeth y Fedal Ddrama. Does ond gobeithio y bydd y cynnyrch a gaiff Siôn Eirian a Betsan Llwyd drwy’r post ganmil gwell a safonol na’r hyn a gyflwynwyd eleni.

Er bod natur yr erthygl hon ychydig yn besimistaidd, dylai camp Manon Steffan Ros gynnig llygedyn o obaith i garedigion y ddrama yng Nghymru. Tra roedd y dail yn disgyn a’r nosweithiau’n oeri yn ystod gaeaf 2005, fe aeth hi ati’n ddiwyd i lunio ‘… drama sydd yn dweud stori dda a’r stori’n cael ei datgelu’n gelfydd. Drama ac ynddi gymeriadau crwn, cymhleth, diddorol, cymeriadau y gellir cydymdeimlo ac uniaethu â nhw a’r rheiny yn gymeriadau wedi eu gosod mewn sefyllfa gwbl gredadwy.’ Llongyfarchiadau mawr iddi ar ei champ, does ond gobeithio y bydd gaeaf eleni yn ysbrydoli ei chyd-ddramodwyr i’r un graddau.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:525, Hydref 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk