Colofn Gwyneth Glyn
Hud a Llediaith
Fe gafodd Gwyneth Glyn ei hysbrydoli mewn g_yl theatr yng Ngwlad Belg.
Pum niwrnod, deunaw cynhyrchiad, a chrap go gami ar yr iaith a fyddai’n gyfrwng i’r wledd. Oeddwn i’n edrych ymlaen? Mais oui, bien sur!
Ond un peth ydi cael A serennog yn gy NhGAU Ffrangeg (h.y gallu dweud celwydd am fy anifeiliaid anwes ac archebu un verre de vin). Peth arall ydi gallu trafod rhagoriaethau dramâu Kafta ymhlith academyddion, awduron ac actorion sy’n anadlu Anouilh, smocio Satre a chael Camus i frecwast (er bod un verre de vin o fudd yn hynny o beth.)
Nid g_yl gyhoeddus oedd ‘Rencontres Thêatre Jeune Public’ chwaith, ond cyfle i’r bobl sy’n ymwneud â byd Theatr-mewn-Addysg yng Ngwlad Belg i wylio a thrafod eu cynyrchiadau cyfredol. Rywsut neu’i gilydd, dan adain eang Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Cwmni Arad Goch, (ynghyd â’i deulu annwyl a Ffion Bowen, un o actoresau’r cwmni) mi lwyddais i sleifio i’r digwyddiad heb i neb sylwi nad oeddwn i’n Felges na chwaith yn weithiwr Theatr-mewn-Addysg. Gwynfryd yr awdures rydd-gyfrannol!
Cynhelid y cyfan yn Huy; tref wledig go debyg i Llanbed, yn ardal Ffrengig y wlad. Roedd yno bump-ar-hugain o gwmnïau yn llwyfanu wyth-ar-hygain o gynhyrchiadau, pob un wedi ei anelu at ystod oedran arbennig; rhai at fabanod o ddwy i bedair oed, eraill at bobol ifanc o dair-ar-ddeg i un-ar-bymtheg. Bu unwaith bwrpas mwy sinistr i’r digwyddiad yn Huy, mewn cyfnod pan roddwyd grantiau i’r cwmnïau ar sail eu perfformiadau yn yr _yl. Bryd hynny, byddai tyndra annifyr wrth i’r cwmnïau orfod cystadlu yn erbyn ei gilydd am nawdd, a dyfodol pob un yn dibynnu’n llwyr ar safon eu cynhyrchiad (neu’n hytrach, ar ymateb y panel beirniaid.) Er bod y rheithgor yn bresennol o hyd yn yr _yl, ymylol yw eu swyddogaeth bellach, ac roedd naws hamddenol a chadarnhaol wrth i’r cwmnïau bwyso a mesur gwaith ei gilydd.
Cefais fy swyno’n llwyr gan un cynhyrchiad a anelwyd at y plant lleiaf, ac nid chwaith oherwydd mai hwnnw oedd yr unig ddarn yr oeddwn i’n deall bob gair (neu bron bob gair) ohonno. Cwmni IOTA oedd y tu ôl i’r sioe un ddynes, a daflai olwg ar ein byd drwy gyfrwng siapiau geometraidd lliwgar. Ar un olwg, dim ond chwarae â geiriau a chlustogau am dri-chwarter awr a ddaru’r actores droednoeth; ar olwg arall, tywysodd ni ar siwrnai o adeiladu a deall a chreu ein byd, gan ein ddangos sut, trwy roi rhwydd hynt i’n dychymyg, y gellir goresgyn a newid unrhyw sefyllfa a ddaw i’n rhan.
Ond onid oes elfen o’r ‘prydferthwch yn llygaid y gwyliwr’ yn f’ymateb? Onid barn thesbaidd, ffuantus i gynhyrchiad simplistig ydi hyn? Onid oes modd dadansoddi unrhyw ddrama, unrhyw ddarlun, unrhyw ddarn o gerddoriaeth i olygu unrhywbeth a ddymunwn? Oes, efallai. Ond nid unrhyw ddrama ac nid unrhyw actores all ddal sylw cant o blant ac oedolion am dri-chwarter awr, o’r edrychiad cyntaf un i’r geiriau clo, gan ein cyfareddu i’r fath raddau fod sawl wyneb bychan mewn llesmair ar y diwedd (a dychmygwch gyffro’r rhai hynny pan gawsant y wefr o gael chwarae â’r clustogau am beth amser wedyn!)
Cyrhaeddais Huy yn barod i gael fy niflasu a’m hynysu gan iaith, diwylliant ac arddull ddiarth; gadewais wedi f’ysbrydoli gan afiaith unigryw a hyfdra dramâu, neu’r spectacles, chwedl y Belgiaid. Oedd, mi roedd yna elfen fawreddog, ffantisïol i’r arlwy; a pham lai? Onid ffantasi ydi mawredd theatr? A pham cyfyngu’r elfen hudolus, gynhyrfus honno i fyd Theatr-mewn-Addysg? Addysg ydi pob theatr dda; cyfrwng inni ddysgu rhywbeth am y byd ac am y cyflwr dynol. Cyfrwng i’r gwirionedd ydi theatr, nid cyfrwng i ffeithiau; ac yn groes i’r meddylfryd seciwlar llethol, mae mwy i’r gwirionedd na ffeithiau. Weithiau mae angen hud, lledrith a chelwydd noeth i ddod â’r gwirionedd hwnnw i’r golau.
Nes na’r hanesydd at y gwir di-goll
yw’r dramodydd ffôl sydd yn
gelwydd oll
chwedl R. Williams Parry.
Y darn a wnaeth yr argraff gryfaf arna i oedd cynhyrchiad gan Theatre Isocele o’r enw ‘L’anniversaire d’Eva’. Drama syml iawn oedd hon o ran strwythur, ond fel pob chwedl a dameg oedol, roedd hi’n gyforiog o arwyddocâd dyfnach. Digwyddai’r cyfan mewn byd iwtopaidd dosbarth-canol lle mae pâr priod wedi dianc i roi magwraeth ddiogel i’w merch fach, Eva. Drwy ailymweld â’r teulu ar benblwydd Eva yn saith oed, yn ddeg oed ac yn dair-ar-ddeg, gwelwn sut mae traddodiadau disymud, digwestiwn, yn gallu andwyo datblygiad plentyn; dangosir sut y gall diflastod diogel fod yn fwy niweidiol i blentyn na holl beryglon y byd. Er bod llawer o’r eirfa tu hwnt i mi, roedd y stori mor glir, mor gryf, nad oedd modd peidio deall a gwerthfawrogi’r hyn oedd yn digwydd. Amlygid y neges drwy weithred yn hytrach na thrwy eiriau; a dyma gael f’atgoffa mor bwerus y gall hynny fod, pan gaiff thema’r ddrama ei sibrwd drwy ystym, yn hytrach na’i chorchlefain o enau’r prif gymeriad.
Mae modd perthnasau neges y ddrama honno i gynhyrchwyr Theatr-mewn-Addysg yn gyffredinol. Mae perygl mewn unrhyw faes sy’n ymwneud â phlant ifainc i osgoi unrhyw beth dieithr, dychrynllyd (yn enwedig yn yr oes bidoffilaidd, baranoid sydd ohoni.) Gall y cyfrifoldeb a deimlwn fel rhieni a gwarchodwyr ac athrawon; y reddf naturiol i anddiffyn ein hieuenctid rhag drychiolaethau’r Byd Mawr Drwg; gall y reddf honno fygu a mathru dychymyg plentyn; yr union ddychymyg y ceisiwn ei arbed. A chymaint o drais amrwd yn ein cyfryngau, a hithau mor anodd llochesu plant rhag delweddau o ryw, marwolaeth a chyffuriau, mae mwy o angen nag erioed am theatr bwerus, onest i blant, sy’n mynd i afael â’r pynciau dyrys yma; neu o leiaf sydd ddim yn eu hanwybyddu.
A minnau bellach yn y broses o ysgrifennu a chyfarwyddo sioe un ddynes ar gyfer Cwmni Arad Goch; sioe wedi ei hanelu at blant rhwng pedair a saith oed, dof wyneb-yn-wyneb â’r cyfyng-gyngor yma yn gyson. Mae’n bicil sy’n gyffredin i unrhyw un a geisiodd difyrru plentyn drwy adrodd stori. Sut mae diddanu heb orddychryn? Sut mae cuddio’r ych-a-fis heb lastwreiddio a diflasu?
Penderfynais lwyfannu fersiwn o chwedl Grasi- stori sy’n agos i ‘nghalon ac i’m bro enedigol yn Llanarmon, Eifionydd. Tynnodd Jeremy Turner fy sylw at y ffaith ei bod hi’n stori echrydus o ddigalon. Roedd o’n iawn. Nid yn unig mae’r prif gymeriad yn colli ei chartref, ei theulu a’i holl ffrindiau (h.y popeth sy’n gyfarwydd iddi) rhaid iddi hefyd fyw hefo’r euogrwydd mai hi ei hun sy’n gyfrifol am y drychineb. Fel pe bai hyn oll ddim yn ddigon, cosb Grasi yw cael ei throi yn alarch, yn gaeth i’w hadlewyrchiad euog ar wyneb y llyn; y llyn a foddodd ei chynefin.
Fe’m denwyd at y stori nid yn unig oherwydd bod adleisiau o chwedl Seithennyn a hanes Tryweryn ynddi, ond hefyd oherwydd bod cyfrifoldeb person dros ei weithredoedd ei hun hyn yn themau ddyrys, ac un un sy’n hollbwysig i fynd i’r afael â hi yn yr oed dan sylw. Yn her fydd yn fy wynebu i a’r actores Ffion Bowen fydd cyflwyno’r stori mewn modd derbyniol i blant rhwng pump ac wyth oed, heb golli dim o’i heffaith ddramatig na grym ei neges. Ond sut bmae ymdrin â’r ffaith fod Grasi’n colli popeth ar diwedd y stori?
Diweddglo hapus ydi un tric storïol sy’n caniatáu i rywun gael maddeuant am ddatgelu drychiolaethau’r fall. Cymerwch chwedlau’r Brodyr Grimm, sy’n ymdrybaeddu mewn poen a galar a cholled; neu manylyn erchyll yn stori Hansel a Gretel, pan ddisgrifir y Wrach yn bwydo Hansel er mwyn ei besgi a’i fwyta. Achubir Hansel gan ei chwaer, ac aiff y manylyn canibalaidd yn angof llwyr erbyn y diweddglo hapus. Ond a oes llei i ychwannegu’r fath ddiweddglo dedwydd i straeon sydd, fel arall, yn gorffen yn ddigalon? Onid twyll yw hynny? Oni fyddai newid chwedl Grasi – fel ei bod hi, drwy ei hedifeirwch, yn cael dychwelyd i’w stad flaenorol gyda’i theulu, ei ffrindiau a’i chynefin mewn un darn – oni fyddai ystymio’r diweddglo i’r fath raddau yn dangos yr un gwendid, yn cyflawni’r un drosedd, â rhieni Eva yn nrama Theatr Isocele? Os mai un o ddibenion y prosiect yw addysg plant am bwysigrwydd cymryd cyfrifoldeb dros eu gweithredoedd, yna byddai gwyrdroi’r drychineb yn ddiweddglo hapus yn gyrru neges dra chymysglyd: ‘cyn belled â’ch bod chi’n difaru digon am eich drwgweithredoedd, gallwch ymddwyn yn hollol anghyfrifol heb ddioddef unrhyw golled dymor-hir!’
Bûm i a Ffion yn trafod sawl ffordd bosib o oresgyn yr anhawster, ac rydw i bellach yn ffyddiog y gallwn aros yn driw i’r stori heb hunllefau dirfodol i’n cynulleidfa ifanc. Drwy i gymeriad Ffion adrodd, neu’n hytrach greu stori Grasi o flaen y plant, bydd y golled yr un mor wir, ond yn llai uniongyrchol, a gallant werthfawrogi sut y bu raid i Grasi ddod i delerau hefo’i gweithredoedd. Efallai nad person ‘go-iawn’ mohoni, ond mae ei phenderfyniadau a’i dewisiadau yn effeithio ar gwrs ei bywyd hi ‘go-iawn,’ a dyma’r elfen o gyfrifoldeb sy’n hanfodol i’w gyflwyno yn y cynhyrchiad.
Os bydd y prosiect yn un llwyddianus, bydd sioe Grasi yn cael ei llwyfannu yng Ng_yl Agor Drysau, a drefnir gan Jeremy Turner yn Aberystwyth fis Mawrth nesaf. Dyma gyfle hefyd i weld goreuon gwaith Theatr-mewn-Addysg o bob rhan o Ewrop. Bu g_yl ‘Rencontres Thêatres Jeune Public’ yn ysbrydoliaeth yn hynny o beth, gan imi ddarganfod, o’r newydd, bosibiliadau diddiwedd y llwyfan. Cefais f’atgoffa gan sawl cynhyrchiad o natur goruwchnaturiol theatr; ei bod yn gyfrwng sydd yn ddibynol ar driciau, gwyrdroadau a syndodau. Mae’r elfen yma yn hollbresennol yng ngweithiau’r mawrion, boed ar lefel emosiynol (Soffocles, Shakespeare, Saunders) syniadol (Tom Stoppard) ymarferol-weledol (Edward Albee) neu ar lefel eiriol (Aled Jones-Williams). Yn nhywyllwch a thawelwch y theatr, mae pob aelod o’r gynulleidfa yn blentyn unwaith eto; yn ysig am stori, yn aros i gael ei diddannu a’i synnu a’i gyfareddu. Os na ddeallais chwarter cynnwys ieithyddol y cynyrchiadau, dwi’n meddwl imi ddysgu rhywbeth pwysig, sef nad rhywbeth i’w ‘ddeall’ ydi theatr fel y cyfriw, ond rhywbeth i’w werthfawrogi, yn yr un modd ag y mae plentyn yn gwerthfawrogi stori neu dric neu dda-da; nid fel rhywbeth y mae o neu hi wedi ei ddeall, ond fel digwyddiad cyfrin, tu hwnt i reswm.
Sonia’r dramodydd a’r bardd Ffrengig Antonin Artaud am gyfrinedd theatr, a sut mae unrhyw ymgais i’w chyfyngu i dermau deallusol, yn weithred ddiystyr.
‘Y peth pwysig,’ meddai, ‘yw bod ein hymwybyddiaeth yn cael ei rhoi mewn stâd dyfnach, fwy cynnil o amgyffred, a hynny drwy dulliau sicr; sef union amcan hud a defod. Adlewyrchiad o hynny yw theatr.
Nid fod pob consuriwr yn llwyddo, wrth reswm; a dichon ein bod ni i gyd rywdro wedi gorfod anwybyddu cornel y sgarff yn sbecian o’r boced ôl, y symudiad amheus cyn i’r cerdyn ymddangos; y blew cwningen ar yr esgid. Mae yna driciau da a thriciau gwael; rhai sy’n gweithio a rhai sy’n syrthio’n fflat. Ond mae yna ddewrder yn y weithred o wneud tric; dengys fenter a hyder a ffydd. Mae’r oedolion yn gofyn sut y gwnaethpwyd y tric, tra mae’r plentyn yn gofyn am gael ei weld drachefn. Dyma’r gwahaniaeth sylfaenol; angen yr oedolyn i ddeall, ac angen y plentyn i brofi. Rhaid i’r cynhyrchydd Theatr-mewn-Addysg, fel consuriwr slic, fodloni’r ddau gyda rhith a rhesymeg. Gwell i minnau ddechrau ymarfer y grefft.
awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:502, Tachwedd 2004
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com