Newyddion ac Ati..
Yn sgil ymosodiadau gwahanol gyrff y Llywodraeth, a phlaid y Llywodraeth, ar ddiwylliant cefn gwlad Cymru, gwahoddwyd EUROS LEWIS i sôn am ei brofiadau yn Theatr Felin-Fach, Dyffryn Aeron.
Mae EUROS LEWIS ar fin ymadael â’r theatr lle y bu’n ddarlithydd â gofal.
Yn ddiweddar, bu’n gweithio ym maes theatr gymunedol, gan wylio Cymry cynhenid a phlant mewnfuduwyr yn gorfod ymwneud â’i gilydd mewn dramâu sefyllfa.
Am bump wythnos, ddiwedd Ionawr a thrwy gydol mis Chwefror, tra oedd sylw’r wasg, y cyfryngau a’r gwleidyddion yn hofran o gwmpas y Cynghorydd Seimon Glyn a’r ymateb i’w sylwadau ar gyflwr argyfyngus cefn gwlad o safbwynt cymuned, iaith a diwylliant, bu yn agos i gant o bobol ifainc rhwng 11 a 14 mlwydd oed ymgynnull bob dydd Sul yn Theatr Felin-Fach dan fanner gweithgareddau a elwir Cwmni Cadw S_n.
Yn ddaearyddol roedd criw ifanc yma yn dod o ardaloedd digon tebyg i’r ardaloedd gwledig hynny ym Mhen Ll_n y bu i Seimon Glyn gyfeirio atynt. Byw yn y wlad y mae rhelyw yr aelodau. Os y’n nhw’n byw ar ffarm neu beidio mae dwndwr yn argyfwng amaethyddol yn s_n cyfarwydd yn eu clustiau. Mae holl broblemau hanesyddol pobol ifanc mewn ardaloedd gwledig – anawsterau teithio, a diffyg cyfleusterau sylfaenol heb sôn am rai cyffrous – yn ogystal â’r rhagoriaethau amlwg, cyfoeth y dreftadaeth amgylcheddol, ynghyd â’r rhai llai amlwg, y rhwydweithiau cymdeithasol a’r deinamig diwylliannol yn arbennig, yn bresennol yng Ngheredigion fel yn Ll_n.
Yn ddemograffig mae’r tebygrwydd hefyd yn drawiadol. Gydag arolwg iaith a wnaed yn ddiweddar gan Cered (mudiad datblygu’r Gymraeg yng Ngheredigion) yn dangos bod ysgolion pentrefol dau-athro (llai na 50 o ddisgyblion) yn Nyffryn Aeron wedi gorfod ymdopi â dyfodiad hyd at 14 o ddisgyblion newydd yn ystod y flwyddyn addysgol ddiwethaf, rhwydd yw gweld siwt y mae’r sawl sy’n pryderu am effaith y symudoledd cymdeithasol yma ar gymunedau sydd eisoes yn gwegian dan bwysau’r argyfwng amaethyddol, yn uniaethu’n gryf â’r darlun tywyll a baentiwyd o dirlun demograffig Ll_n ac Eifionydd. Mae’r winllan dan warchae. Pa obaith sydd bellach o gadw’r ffynnon rhag y baw?
Mae cwmni Cadw S_n yn dyst i’r ystadegau sy’n gosod y brodion yn beryglus o agos o fod yn lleiafrif o fewn eu tiriogaeth eu hunain. Ond nid casgliad o ystadegau yw’r bobol ifainc hyn. Dy’n nhw ddim, chwaith, yn gr_p ohonom ‘ni’ (darpar etifeddion y winllan) yn edrych arnyn ‘nhw’ (y chwyn rheibus). Peidiwch â’m cam-ddeall; nid rhyw gasgliad gwyrthiol sydd yma o bobol ifainc sydd wedi neulltuo eu gwahaniaethau ieithyddol a diwylliannol yn enw delfryd gydryw, ffilanthropaidd. Yr hyn sy’n gwneud Cadw S_n yn gyffrous yw mai nhw – y 97 ohonyn nhw – yw’r broblem. Yn ei holl gymhlethdod.
Ym mhendraw’r ardal waith, yn creu dilyniant o symudiadau i gyfeiliant Limp Biskit – brenhinoedd y siartiau Saesneg ar hyn o bryd – mae dau gr_p o fechgyn sydd, heb os nag onibai, ac ar waethaf eu dewis o gerddoriaeth, yn Gymry Cymraeg digymrodedd, gydag idiomau eu hiwmor Simpsonaidd yn cyflym ddatblygu yn iaith gomedi gyfrin, i’w werthfawrogi gan sawl sy’n rhannu’r un delfrydau diwylliant-ieuenctid yn unig. Ac er eu hyder ma’ nhw’n ymwybodol iawn mai perthyn i leiafrif y maen nhw yn nhermau’r byd mwy.
Ar ganol y llawr ymarfer mae grwpiau o’r merched ifancaf gan fwyaf (11-12 oed) yn datblygu cyfres o luniau llonydd er mwyn cyfleu eu dydd Sadwrn delfrydol. Mae’r gwaith eu hunan yn ddi-s_n, ac felly’n ddi-iaith. Ond mae’r trafod yn y grwpiau yn amrywio’n afreolus rhwng Cymraeg a Saesneg. Mewn gwirionedd nid yw’r patrwm ieithyddol ddim mor fympwyol â hynny oherwydd mae nifer o’r bobol ifainc hyn o deuluoedd di-Gymraeg, wedi dysgu Cymraeg yn ffurfiol yn yr ysgol, ac nid ydynt wedi cael ond ychydig o gyfle i ddefnyddio’r iaith mewn sefyllfaoedd torfol anffurfiol – fel sesiynnau Cadw S_n. Mae eraill yn hannu o deuluoedd cymysg, lle mae rhiant o fewnfudwr wedi ymbriodi â chymar brodorol. O fewn y grwpiau merched ifanc yma hefyd mi glyw-wch chi blant o gartrefi hollol Gymreig yn siarad Saesneg â’i gilydd, rai ohonynt fel ymateb i bresenoldeb y merched di-Gymraeg hyn, rai ohonynt am ddim rheswm amlwg.
Ar flaen y llwyfan ymarfer – yn union o flaen yr ardal y byddwn ni fel tîm dysgu yn ei ddefnyddio fel ein prif ardal arsylwi a rheoli – mae casgliad o 5 o ferched sy’n edrych o leiaf yn 14 oed (uchafswm oed Cadw S_n) os nad yn h_n. Mae rhywbeth yn eu hosgo, yn eu dillad soffisdigedig (o ran steil, os nad o ran y label) sy’n eu gosod ar wahân. Ac yn wir dyna beth y’n nhw – pobol ar wahân. Pobol ifainc y’n nhw sydd newydd gyrraedd yr ardaloedd hyn. Nid tai yn unig sy’n rhatach yng nghefn gwlad Cymru. Mae costau cynnal rhieni maeth yn yr ardaloedd hyn yn llawer is na’r hyn y mae’r asiantaethau yn gorfod eu talu yn nhrefi mawr Lloegr. Ers dwy neu dair blynedd bellach mae nifer cynyddol o’r asiantaethau hyn yn troi at gefn gwlad Cymru am ateb rhad i’w problemau cyllidol. O ganlyniad mae ‘na lu o bobol ifainc bregus yn cael eu di-wreiddio nid yn unig oddi wrth eu cynefin dinesig, o’r byd maen nhw’n ei ‘nabod, a’u gosod yng nghanol gwlad sy’n gwbl ddierth iddynt ymhob ystyr. Dyna pam maen nhw’n edrych ddwy flynedd yn h_n na’u 12 blwydd – yn hen cyn eu hamser. Nid yw eu hysgogi i siarad Cymraeg yn gwestiwn. Neu’n hytrach – nid dyma’r cwestiwn. Y sialens go-iawn iddyn nhw, ac i ninnau fel gwarchodwyr ac arweinnwyr y gymdeithas un-diwrnod-yr-wythnos hon, yw darganfod ffordd i alluogi’r pump yma i gyfathrebu yn ystyriol ac yn ystyrlon â’i gilydd mewn unrhyw iaith.
Creu sioe ieuenctid ar gyfer wythnos G_yl Ddewi yw nod cyhoeddus y gweithgaredd hwn. Ar raglen y sioe fyddwch chi ddim yn gweld logo Cyngor Celfyddydau Cymru na Bwrdd y Loteri Cenedlaethol. Dy’ nhw ddim wedi cefnogi’r fenter hon. Dy’ ni ddim wedi gofyn iddyn nhw, hyd yn oed. Pam? Pam mae’r ymateb i sylwadau Seimon Glyn o du fas i’r ardaloedd traddodiadol Cymraeg wedi bod mor ffyrnig, mor ddigymrodedd? Am yr un rheswm nad y’n ni wedi gwneud cais am nawdd at ffynonellau y tu fas i’r ardaloedd hyn – am nad yw pobol ar y tu fas yn deall; am fod y sefyllfa y tu hwnt i’w dirnad; am nad y’n ni, mewn unrhyw ystyr, yn siarad yr un iaith â nhw.
Fe welsom eisoes fod y byd tu fas yn mynnu nad oes gan Seimon Glyn yr hawl i ddarlunio’r dinistr mae’n ei weld o’i gwmpas. Yn yr un modd dyw hi ddim yn bosib i ninnau, chwaith, gael cefnogaeth y sefydliad wrth ddweud y gwir am brosiect Cadw S_n: wrth ddatgan ein bod yn ceisio ymateb yn greadigol yn wyneb momentwm cymdeithasol negyddol; ein bod yn ymdrechu i wrth-weithio ffactorau peryglus o ddinistriol; fod hunaniaeth ein pobol ifainc cynhenid yn y fantol, a bod pobol ifainc bregus o bob cefndir yn cael eu gosod mewn sefyllfaoedd annerbynniol. Fedrwn ni ddim crybwyll y pethe hyn ar ffurflen gai soherwydd dyw’r ffurflenni cais ddim yn caniatáu i ni wneud hyn. Dyw ffurflenni Cyngor Celfyddydau – a phob cyngor ariannu arall, o ran hynny – ddim yn gallu ymdopi â’r disgrifiadau anghonfensiynol hyn sy’n darlunio byd nad yw’n cydymffurfio â diffiniad y sefydliad o’r hyn sy’n anghydffurfiol. Pe bawn i’n gosod sefyllfa ar lwyfan mi fyddwn yn defnyddio dau gymeriad: doctor a chlaf, gyda’r claf yn achwyn am ei symtomau unigryw wrth ddoctor a fyddai naill ai heb yr amynedd i wrando ynteu’n rhy annalluog i weld.
Ond dim drama ffuantus yw’r sefyllfa. Mae Cadw S_n, ac anghenion yr aelodau ifainc, yn sefyllfa go-iawn, fel ag y mae’r sefyllfa ym Mhen Ll_n yn salwch go-iawn. Ac os na fu i’r claf ddefnyddio’r termau iawn i esbonio ei ddolur, a’i bod hi’n amlwg nad yw e’n cael ei gymryd o ddifri gan yr awdurdodau, yna ry’n ni mewn peryg go-iawn o dderbyn y prognosis nad yw dolur ni yn un mor ddifrifol â hynny; nad yw’n cymdeithas yn holliach efallai, ond nad yw hi mewn cyflwr mor ednybus â Glyn Ebwy neu Lanwern, gweder. Pa hawl sydd gennym felly i Gadw S_n tra bod pobol sy’n sâl go-iawn angen sylw? A dyna eironi eithaf y ddrama lawn tensiwn hon: ein bod mewn peryg o dderbyn statws eilradd hyd yn oed yn ein difodiant ein hunain.
Ond nid trasiedi yw drama i griw Cadw S_n. Mae adrenalin eu diwylliant-ieuenctid yn sicrhau bod egni creadigol yn treiddio i bob rhan o’r gymdeithas ma’ nhw’n ei chreu. Yr arwyddion amlwg yw eu paradrwydd i holi, i arbrofi, i beidio â derbyn y sefyllfa fel ag y mae, i gamu y tu hwnt i’r ffiniau a osodwyd iddynt gan y Nhw hollbresennol ar yr ochr fas.
Mae Coleridge yn awgrymu mai pwrpas diwylliant o fewn cymdeithas yw sicrhau cynnydd o ran elfennau hynny sy’n cynysgaeddu ein dyneiddiaeth – mai ymdrech dyn tuag at wella ei fyd, tuag at wireddu byd gwell, yw craidd y broses o ddiwyllio. Os felly, onid oes gan y claf y modd i wella’i hunan? Onid oes gennym ni – drwy rym ein cymunedau diwylliannol hyfyw a byrlymus – y modd i wella’n hunain?
Ar ddiwedd y trydydd dydd Sul o weithio, wrth i ni – y tîm proffesiynol – wylio’r criw blinedig yn ymadael â’r theatr ry’ ni’n cofio am y datblygiad mawr fu ar ddechrau’r prynhawn pan gytunodd y newydd-ddyfodiaid i datblygu golygfa fyrfyfyr ochr-yn-ochr â gr_p o ferched cymysg eu hiaith o gyffiniau Aberystwyth. Ar ddiwedd y dydd cafwyd sesiwn creu cymeriadau. Y nod oedd creu cymeriad a fyddai’n gynrychioliadol o’u dyheadau nhw fesul gr_p. Mae nodiadau portreadol y merched o Lundain yn disgrifio cymeriad o’r enw Caz (enw llawn: Cerys Jones), 14 oed, sy’n byw mewn t_ mawr yn y wlad, ac sy’n ferch i Dan (Gwyddel di-Gymraeg) a Gwen (Cymraes leol). Dyw Caz ddim yn ferch gosmopolitan o ganol y Ddinas Fawr. Dyw hi ddim, chwaith, yn uniaith Saesneg. Mae hi’n ferch fach o’r wlad. Mae’n siarad dwy iaith – Saesneg a Chymraeg. Does dim amau bellach beth yw nod y merched hyn: yr un nod â phob aelod o’r gr_p: perthyn.
Deialog ddaeth â’r sylw hwn i’r amlwg. Y broses greadigol, hanfod diwylliant, a hwylusodd, a ysgogodd, a rhyddhaodd y ddeialog ac a greodd yr iaith wnaeth ganiatáu i’r neges gael ei ddeall. Rhan o’r hyn yr y’n ni oll, ar yr ochr fewn, am ei warchod yw’n diwylliant. Wedi mynegi ein rhwystredigaethsu mae’n ofynnol i ni roi’r diwylliant hwnnw ar waith bellach, er mwyn gwella’n hunain, gwella cymdeithas, a gwella pawb sy’n perthyn iddi, boed nhw’n ymwybodol o hynny ai peidio.
Wrth fynd tua’r bysys mae un o’r merched ‘estron’ a greodd Caz yn troi atom gan ddweud – yn Gymraeg – ‘Diolch’. Ond a ddaw hi nôl i’r sesiwn nesa? Mawr yw ein gobaith.
Wrth sgwennu’r erthygl hon – wythnos cyn dydd G_yl Dewi – dydw i ddim yn gwybod a fydd perfformiadau gorffenedig Cadw S_n (Mawrth 2, 3) yn deilwng o’r broses greadigol a ysgogwyd gennym ni ac a berchnogwyd gan y bobol ifainc eu hunain. Fydden i ddim yn ddiffuant pe bawn i’n dweud nad yw hynny’n fy mhoeni. (Wedi iddyn nhw gyfrannu – a rhannu – gymaint o syniadau, a rhoi gymaint o egni creadigol ar waith mae’n ddyletswydd arna’i i sicrhau’r amodau gorau posib ar gyfer y cymal olaf yn y gwaith – y broses o rannu’r profiadau â’r gymuned ehangach.) Yr hyn sy’n fy mhoeni i nawr yw a fyddan nhw i gyd yno ar gyfer y sesiwn gwaith nesa? Odyn ni wedi llwyddo i gynnal y gymdeithas fregus hon o bobol ifainc – yn Gymru Cymraeg hyderus (y lleiafrif), yn siaradwyr Cymraeg rhan-amser, yn ôl y cyd-destun cymdeithasol (y mwyafrif), ynteu’n bobol ifainc diwreiddedig ac ansicr (y lleiafrif arall). Go brin y bydd i bawb, o bob un o’r carfanau hyn, gyrraedd pen y daith. Ein cysur yw y bydd eu cyffyrddiad nhw â chymdeithas ddeinamig Cadw S_n wedi ysgogi newid os nad datblygiad ynddynt o ran eu hymwneud â’i gilydd. Tra fod y broses greadigol yn fyw mae ‘na obaith.
awdur:Euros Lewis
cyfrol:458, Mawrth 2001
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com