Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Dau Gwmni, Un Nod

Cwmni newydd yn cael ei sefydlu, un arall yn cael ei atgyfodi, a hynny mewn dyddiau o gwtogi ar nawdd i’r theatr fel i’r celfyddydau eraill. Beth yw’r agenda? Stori: MENNA BAINES

Does dim byd newydd mewn clywed actorion yn cwyno am gyflwr y theatr Gymraeg. Mae Wynford Ellis Owen, un o hoelion wyth Cwmni Theatr Cymru a Theatr yr Ymylon gynt, yn sôn am ddiffyg amser i ymarfer, am brinder rhannau swmpus i actor gael ei ddanedd iddynt, ac am dristwch sefyllfa lle mae actorion profiadol fel John Ogwen yn dweud nad oes ganddynt byd ar ôl i ymgyrraedd ato. Mae Daniel Evans, yr actor o’r Rhondda, yn edrych ar yr y broblem o safbwynt ychydig yn wahanol, fel un o nifer o actorion ifanc dawnus o Gymru sy’n ennill eu bara menyn y tu draw i Glawdd Offa, ond digon tebyg yw ei bryderon yntau. Mae’n honni nad oes dim yn y theatr Gymraeg fel ag y mae ar hyn o bryd i’w ddenu ef a’i debyg yn ôl.

‘Er fod sefyllfa’r theatr Gymraeg yn iach o ran nifer y cwmnïau a’r nifer o gynhyrchiadau, mae’n dila o ran y deunydd ei hun,’ meddai.

Ond mae’r ddau actor mor argyhoeddedig â’i gilydd ei bod yn hen bryd gwneud rhywbeth heblaw cwyno a disgwyl i’r atebion gyrraedd fel manna o’r nefoedd.

‘Mae’r holl drafod yma ar Theatr Genedlaethol wedi bod,’ meddai Wynford Ellis Owen. ‘Ond drwg hynny ydi ei fod o i gyd yn amodol – mae’r math o beth rhai pobl yn sôn amdano, efo theatrau mawr crand, yn dibynnu ar ddod o hyd i filiynau o bunnoedd o arian newydd. Mi fyddwn ni’n aros am byth. Mwya’n byd dwi’n meddwl am y peth, mwya’ amlwg ydi o i mi mai yn nwylo unigolion oddi mewn i’r theatr ei hyn y mae’r cyfrifoldeb o newid pethau.’

Dyna pam mae ef a’r actores Morfudd Hughes, gyda nawdd gan Gyngor y Celfyddydau a TAC, wedi sefydlu cwmni theatr newydd o’r enw Theatr y Dyfodol. Eu cynhyrchiad cyntaf fydd Siwan Saunders Lewis a fydd yn teithio yng Ngwynedd yn yr Hydref ac yn genedlaethol y flwyddyn nesaf os ceir rhagor o nawdd. Yn y cyfamser, mae Daniel Evans wedi perswadio’r cyfarwyddwr Ceri Sherlock i atgyfodi ei hen gwmni arbrofol, Theatrig, gyda’r bwriad o lansio rhaglen waith gyda chyfieithiad o ddramau David Memet, The Woods, yn yr Eisteddfod eleni.

Yn achos y ddau gwmni, mae’r pwyslais ar wneud yn fawr o adnoddau bychain. Mae Theatr y Dyfodol wedi rhoi’r gwaith gweinyddol yn nwylo Theatr Gwynedd, ac wedi dewis drama gyda dim ond pedwar cymeriad er mwyn gallu cynyddu’r amser ymarfer o’r tair wythnos sy’n arferol i bum wythnos. Y bwriad yw rhoi prawf ar ddull dwys, manwl o weithio y mae Morfudd Hughes, ymhlith actorion Cymraeg eraill, wedi cael profiad ohono ar gwrs cyfarwyddo yn ‘The School of the Science of Acting’ yn Llundain, Hi fydd yn cyfarwyddo, gyda’r cast yn cynnwys Wynford Ellis Owen a Rhian Morgan. Yn achos Theatrig, dim ond dau gymeriad sydd yn nrama David Memet, ac mae Daniel Evans, fydd yn actio gyda Marie Pride o dan gyfarwyddyd Ceri Sherlock, yn rhagweld cynhyrchiad syml. ‘Fydd yna ddim set gymhleth, dim sbloet. Y llymaf yw’r cynhyrchiad, mwya’ o bwyslais fydd yna ar yr actio a’r cyfarwyddo ei hun, sef yn gwmws beth sydd ar goll ar hyn o bryd.’ Bwriad arall gan Theatrig yw cynnal gweithdai na fyddant o angenrheidrwydd yn arwain at berfformiad, er mwyn rhoi cyfle i actorion arbrofi heb y pwysau o orfod paratoi cynhyrchiad.

Mae Daniel Evans yn gweld atgyfodi Theatrig fel cam tuag at y nod o ‘greu awyrgylch gyfforddus a beiddgar sy’n mynd i fod yn ddeniadol i actorion ifanc.’ Mae Wynford Ellis Owen yntau ffyddiog fod actorion o’i genhedlaeth ef yn barotach nag a fuont i gymryd gwaith llwyfan o ddifri.

‘Dwi yn teimlo fod yna symudiad pendant ymhlith actorion ar hyn o bryd i feddwl y tu hwnt i yrfa bersonol ac i feddwl yn fwy cyffredinol am les y theatr Gymraeg. Ac efo’r holl sôn am gwtogi drama ar S4C, efallai y byddwn ni’n gweld rhagor o actorion yn troi’n ôl at y theatr. Mae yna ryw dda ymhob drwg.’

awdur:Menna Baines
cyfrol:413, Mehefin 1997

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk