Dramâu’r ‘Bute’ a’r Betws
Mae cwmni Made in Wales, Caerdydd, ar ganol tymor o ddramâu newydd, a’r rheiny’n tystio i genhadaeth y cyfarwyddwr newydd. HELEDD WYN HARDY fu’n holi Jeff Tearle.
Sais o Dde Llundain yw Jeff Tearle, a’i fam yn wreiddiol o Risca. Does ganddo, hyd yma, ddim gair o Gymraeg, er iddo dreulio amser yng Nghymru, gyda’i fodryb a oedd yn rhedeg caffi yn y Mwmbwls ac yna yn y seithdegau a’r wythdegau yn gweithio gyda theatrau cymunedol. Er hynny mae’n ymwybodol iawn o fodolaeth yr iaith ac yn honni deall ei sefyllfa hi o fewn y theatr yng Nghymru. Ond ein diwylliant sydd yn ei ddiddori’n bennaf, a’i nod yn ei swydd newydd yw canfod ffordd o fynegi’r diwylliant hwnnw yn theatrig. Cred fod y tair drama sy’n cael eu perfformio fel rhan o’r tymor newydd yn delio, mewn gwahanol ffyrdd, yn uniongyrchol â Chymreictod. ‘Ond yn fwy na hynny, maen nhw’n delio â phynciau dadleuol cymdeithasol ein cyfnod, sef hanfod drama dda,’ meddai.
Y Dramâu Newydd
Mae tymor dramâu newydd Made in Wales yn cynnig cyfle dihafal i weld rhai o actorion ifanc Cymru ar eu gorau wrth iddynt ymgomydu â spectrwm eang o gymeriadau repertoire. Yn ogystal mi fydd y tair drama yn adlewyrchu amrywiaeth diwylliant a chefndir yr awduron, sydd wedi cael eu comisiynu’n arbennig. Gyda chyn lleied o waith repertoire ar gael yng Nghymru a llai fyth o gyfle i actorion ifanc dreulio amser gyda chwmni yn dysgu eu crefft, mae Made in Wales yn gobeithio y bydd y tymor yn llwyddo i gyfuno talent newydd gydag actorion mwy profiadol.
Mae’r awduron yn newydd i gynulleidfaoedd theatr yng Nghymru. Bardd ac awdures straeon byrion sydd hefyd yn ddarlithydd bywydeg yng Nghaerdydd yw Afshan Malik. Ei drama hi, Safar, oedd drama gyntaf y tymor, am ddynes sy’n enedigol o Bakistan ond wedi cael ei magu yn Ne Cymru, a’i ‘thaith’ (dyna ystyr ‘Safar’) i ganfod ei hunaniaeth, ar ôl cael ei hanwybyddu, ei siomi a’i gwrthod ar y ffordd. Mae’r ddrama yn edrych ar gymhlethdodau byw rhwng dau ddiwylliant trwy lygaid y fyfyrwraig Ismaat a’i theulu. Drama ymholgar yw The Sea That Blazed gan Christine Watkins sy’n canolbwyntio ar amharodrwydd merch i ddilyn galwedigaeth ei mam, sef iachau pobl. Ond caiff ei hargyhoeddiad ei siglo gan ysbryd Ann Griffiths a mabolgampwr sy’n dioddef o ME. Mae’r drydedd drama, Little Sister gan Siân Evans, yn taflu cwestiynau cyffrous yngl_n â’r datblygiad o gyfnod yr arddegau i fod yn oedolyn. Caiff Lisa ei thaflu allan o’i chartref yn un ar bymtheg, ond i ble’r aiff hi a phwy all edrych ar ei hôl?
Yn ogystal â’r dramâu hyn, mae Made in Wales yn cynnal g_yl ymylol, gan berfformio gwaith rhai o aelodau gr_p sydd newydd ffurfio sef Awduron Butetown.
Yr Agenda
Dod â phobl ynghyd i rannu profiadau sy’n berthnasol i’w diwylliant nhw heddiw gan ganolbwyntio ar y lleiafrifoedd yn y gymdeithas yw un o brif amcanion y tymor. Dyna hefyd graidd gweledigaeth Jeff Tearle.
‘Rhaid i ddrama adlewyrchu ei chyfnod bod yn gyfoes heb fod yn bropaganda,’ meddai. Ac yntau wedi cael profiad helaeth o theatr gymunedol ac aml-ddiwyllianol, cred rhai mai ef yw’r dyn gorau i roi llwyfan i’r hyn sy’n newydd yng Nghymru.
Y tu cefn i Jeff Tearle mae bron i ugain mlynedd o brofiad o weithio mewn theatrau, yn bennaf yn Llundain - yn gyntaf fel actor cyn gwneud ei farc fel cyfarwyddwr. Yn ogystal â’r Royal Court mae wedi cyfarwddo gyda’r Midland Repertory Co. yn teithio yn y gymuned, Toung Vic, Soho Poly, Tricycle a hefyd wedi gweithio fel is-gyfarwyddwr yn Stratford East. Fodd bynnag mae ganddo gysylltiadau gyda De Cymru ac o fewn y theatr yng Nghymru. Fel Gilly Adams, ei ragfleunydd gyda Made in Wales, cafodd ei ysbrydoli gan yr egni neilltuol a welwyd mewn gweithdy preswyl yng Ngregynog yn nechrau’r wythdegau. Gwelodd ymrwymiad, a phobl yn torri’u boliau eisiau gwella ansawdd theatr yng Nghymru. Ar ôl tair blynedd ar ddeg, ac yntaun wedi bod yn canolbwyntio ar ysgrifennu newydd i’r theatr yr ochr arall i Glawdd Offa, mae dychwelyd i Gaerdydd yn siom, meddai. ‘Does braidd dim datblygiad wedi bod yma, a dweud y gwir rwy’n gweld dirywiad ym mynegiant theatraidd y Cymry.’ Does ganddo ddim ateb i’r cwestiwn ‘pam’Yn wir, does ganddo ddim amser i holi pam – edrych ymlaen sy’n bwysig yn awr, meddai. ‘Rhaid edrych i’r dyfodol a sicrhau lle ar y llwyfan rhyngwladol ac adfer enw da Cymru fel gwlad greadigol.’
Rhoi Caerdydd ar y Map
Rhoi Caerdydd ar y map fel prifddinas gwlad gyffrous, amlddiwyllianol yw amcan Jeff Tearle. Ac mae yna ysbrydoliaeth ar garreg y drws. Mae swyddfeydd Made in Wales yn y dociau, lle bu cymaint o fewnfudo o wahanol rannau o’r byd ar droad y ganrif a lle mae disgynyddion y teuluoedd cyntaf i gyrraedd yn dal i gyd-fyw. Dyma leoliad y ddrama gyntaf ddadleuol i Jeff Tearle ei chyfarwyddo i Made in Wales. Yma, mae y ‘Point’ (man i berfformio drama, opera, cyngerdd neu i gael parti soffistigedig), Eglwys y Llychlynwyr (lle cafodd Roal Dahl ei fedyddio) a’r dociau yw cefndir yr opera sebon newydd a fydd yn cael ei darlledu gan y BBC flwyddyn nesaf. Yma y dylai T_ Opera gael ei adeiladu, yn ôl rhai. Rhwng popeth, mae Bae Caerdydd, gyda’i bobl a’i ddatblygiadau, yn lle wrth fodd Jeff Tearle. ‘Yma mae brwdfrydedd yr yfory newydd,’ meddai. Cred fod yn rhaid anghofio pobl Llundain wrth greu’r ddelwedd newydd o Gymru, anwybyddu eu disgrifiadau ohonom fel glowyr sy’n hoffi defaid a daffodils, camu dros eu culni a throi ein golygon at lefydd fel Québec am ysbrydoliaeth.
Nid yw’n cymryd arno y bydd ei dasg yn hawdd. Rhaid gweithio’n ddygn i greu theatr sy’n adlewyrchu amrywiaeth a thensiynau bywyd yng Nghymru heddiw. ‘Mae’n rhaid creu llwyfan newydd o fewn y theatr i drafod ein sefyllfa ddiwylliannol, a rhaid i ni beidio osgoi pynciau sy’n trafod pobl a phethau byw.’ Mae hynny, mae’n ymddangos, yn cynnwys adlewyrchu’r amrywiaeth ddiwylliannol a ieithyddol. Ers i Jeff Tearle ddod i Gaerdydd i weithio mae wedi ffurfio cysylltiadau gyda Theatr Gorllewin Morgannwg. Y bwriad yw cynnal gweithdai a fydd yn arwain at lwyfannu gwaith newydd yn ymwneud â’r iaith a’r diwylliant Cymraeg. Er nad yw’n deall Cymraeg nac eto’n adnabod ei diwylliant, mae’n credu ei bod yn gyfrifoldeb arno i fynegi eu bodolaeth ar lwyfan, a’r un modd gyda’r diwylliant Asiaidd neu Affro neu unrhyw ddiwylliant lleiafrifol arall yn y Gymru sydd ohoni.
Herio’r Biwrocratiaid
Mae Jeff Tearle wedi cael argraff dda hyd yma o safon actio yng Nghaerdydd. Mae yma hefyd awduron llawn dychymyg, meddai. Yr hyn sydd wedi rhoi braw iddo yw stad ansicr y theatr broffesiynol a’r diffyg cefnogaeth ariannol. ‘Mae cymaint o dalent ifanc newydd yma, ond mae gormod o bobl yn atal datblygiad wrth eistedd ar eu tinau yn sbowtio gwleidyddiaeth byr-dymor.’ Nid yw’n si_r a all Made in Wales barhau o dan y straen ariannol. ‘Pwy allai hybu talent newydd, rhoi llwyfan i syniadau newydd a chreu fforwm i awduron newydd pe na bai’r cwmni theatr yma’n bod? Mae’r theatr yn lle byw a chyffrous ac yn gallu siarad dros wlad a’i phobl. Pam ei chrogi’n ara’, gan adael y cyfan i’r sgrîn fach sy’n siarad dros y mwyafrif?’
awdur:Heledd Wyn Hardy
cyfrol:405, Hydref 1996
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com