Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Bargen Newydd i’r Ddrama Gymraeg

Cafodd PAUL GRIFITHS ei siomi gan ddiffyg darpariaeth dramatig yr Eisteddfod. Diffyg sydd, yn ei farn ef, yn adlewyrchu diffyg parch cyffrediinol ein cymdeithas at ddoniau’r llwyfan. Ac nid oes diben ychwaith beio Cyngor Celfyddydau Cymru o hyd ac o hyd.

‘Don’t make a drama out of a crisis!’ – dyna maen nhw’n ei ddweud. Gresyn na fyddai ambell i greisus yn esgor ar ddrama. Meddyliwch yn wir am y Drasiedi Fawr honno fydd yn cael ei chyfansoddi cyn bo hir am hanes y ddrama yng Nghymru rhwng 1990 a’r flwyddyn 2000. Ond gwirion yw hyd yn oed meddwl am hynny – welith y ddrama honno fyth olau dydd. Na, nid oherwydd difyg nawdd gan Gyngor y Celfyddydau nac oherwydd diffyg adnoddau artistig. Y drafferth mwyaf fydd canfod rhywun i’w chyfansoddi!

Yn dilyn y creisus presennol – a chreisus ydi’r gair o hyd – mae’n amlwg iawn i mi fod mwy a mwy o ddramodwyr wedi syrffedu ar gyfansoddi dramâu ar gyfer y llwyfan. Does dim ond rhaid edrych ar gystadlaethau cyfansoddi’r Eisteddfod Genedlaethol yn y blynyddoedd a aeth heibio. Eleni, gwelwyd pedwar ymgeisydd wedi rhaffu eu hinc cyfrifiadurol ar bentyrrau o bapur, i ymgiprys am Dlw... – maddeuwch i mi, mi feddyliais i am funud fod ‘na Dlws, Medal, Coron neu Gadair i’w gael am ennill un o Brif Wobrau’r Eisteddfod Genedlaethol - ... i ymgiprys am y Wobr ariannol a roddir am gyfansoddi drama hir. Pedwar, a dau o’r rheiny, fel mae’n digwydd bod, yn deilwng. Ond faint tybed fu’n chwysu chwartiau yn rhaffu geiriau i lunio ‘cyfrol o ryddiaith greadigol’? Yr ateb; dau awdur ar hugain! Does ‘na fawr o syndod a deud y gwir. Ylwch chi’r clod, y mawl, y parch a’r bri mae’r ennillydd yn ei dderbyn. Medal hardd, ei gyfarch gan yr Orsedd, cael cyhoeddi’r gwaith, cael sylw’r Cyfryngau, a gwobr ariannol yn ogystal!

Mae arna i ofn, gyfeillion, fod ein dramâu’n cael eu troi’n nofelau, a straeon byrion. Yn wir, holais sawl dramodydd yr _yl, gan ofyn iddynt – ‘Ti ‘di trio am y ddrama ‘leni?’ ‘Na’ oedd yr ateb bob tro. ‘Fyddai’n well gen i drio am y Fedal Ryddiaeth...!’

Petai’r drasiedi honno y soniais amdani ynghynt yn cael ei chyfansoddi, byddai un olygfa yn sicr wedi’i lleoli yn Theatr y Maes, ar brynhawn dydd Mawrth, Awst y 3ydd, yn Eisteddfod Genedlaethol Môn 1999. Yr achlysur oedd seremoni cyhoeddi enillwyr cystadleuthau cyfansoddi’r Adran Ddrama. ‘Roedd yna gwta ddeg ar hugain o bobl yn bresennol, a hanner o’r ‘rheiny, gan fy nghynnwys i fy hun, wedi’u gwahodd yno i dderbyn gwobr. Welis i’r un cynrychiolydd o Gyngor y Celfyddydau yno, na’r un aelod o’r cwmnïau sy’n crefu’n flynyddol am sgriptiau newydd. Welis i’r un aelod o’r wasg na ffotograffydd, g_r camera na’r un peiriant o fath yn y byd i gofnodi’r digwyddiad. Yn amlwg, ‘roedd pawb wedi anghofio am y seremoni ddi-nod yma. Pa ryfedd, a hithau wedi’i gwthio i gornel bella’r maes, allan o sylw a chlyw’ r byd. Pwy sydd am wybod enw enillydd y Brif Gystadleuaeth yn adran Ddrama’r Genedlaethol?! Hyd yn oed petai diddordeb gennych, tasg amhosib oedd ceisio gwneud hynny, hyd yn oed dridiau ar ôl y Seremoni! Ni chrybwyllwyd canlyniadau’r gystadleuaeth ar raglenni’r teledu na’r radio, a gorfu imi brynu chwyddwydr i ddarllen amdanynt yhn y Daily Post! Dim llun, dim stori, dim cyfarchion a dim cyhoeddi. Siawns nad ellir mynd gam ymhellach ac ychwanegu, dim perfformiad hefyd! ‘Trasiedi’, ddwedis i?

I fod yn gwbl onest, tydw i ddim yn dallt y peth. Iawn, falla mod i’n ifanc – wel, tydi chwech ar hugain ddim yn hen – ond, mae’n amlwg i mi fod yn rhaid inni wneud rhywbeth yn fuan iawn am y sefyllfa. Onid y cam cyntaf yw adfer Parch i’r Ddrama yn ein Prifwyl?

Mae ‘na gwyno parhaol fod yna brinder o ‘sgwenwyr ifanc. Dwi’n amau hynny’n fawr. Does dim ond rhaid edrych ar y niferoedd sy’n ymgiprys am y Fedal Ddrama... (o, ia!) yn Eisteddfodau’r Urdd. Pedwar ar hugain ym 1999, deg ym 1998, un ar ddeg ym 1997, un deg saith ym 1996, wyth ym 1995... I ble’r aeth yr holl ddramodwyr hyn? Pan na chafodd y rhai a ddangosodd fymryn o addewid eu gwahodd i dreulio cyfnod yn cyd-weithio gydag awdur profiadol i ddysgu a meithrin eu crefft?

Fel un o gyn-enillwyr y gystadleuaeth, gallaf ddweud yn gwbl onest mai prin iawn oedd y gwahoddiadau. Un gwahoddiad yn unig, a hynny nôl ym 1996, i ‘dreulio amser gyda chwmni profiadol’, a dwi’n dal i ddigwydd cael trafodaeth ar y gwaith.

Yn ystod yr un cyfnod, rhoddais gynnig ar gael mynychu cwrs wedi’i drefnu yn arbennig gan gwmni theatr arall. Cefais wahoddiad am gyfweliad, a chael fy holi gan y cyfarwyddwyr a’r etholedig rai oedd ar y panel dewis. Un o’r cwestiynnau a ofynnwyd oedd, ‘A fyddwn i’n fodlon i anghofio popeth yr oeddwn wedi’i ddysgu am ysgrifennu hyd yma, a chychwyn o’r newydd?’ Sut mae unrhyw awdur i fod i ymateb i’r ffasiwn syniad? Onid adeiladu ar gryfderau’r unigolyn ydi pwrpas cwrs o’r fath, ac nid i greu dramodwyr newydd i siwtio arddull y cyfarwyddwr. Synnech chi fawr o glywed na fues i’n llwyddiannus, er fy mod i wedi ennill ddwy waith wedyn yn yr Urdd. Tydi cyfansoddi drama ddim yn joban hawdd. Yn wahanol i gerdd a chynghanedd, does ganddoch chi ddim patrwm sefydlog i’w ddilyn. Yr ymarfer gorau y gall unrhyw ddramodydd ei gael yw clywed ei waith yn cael ei ddarllen, a chael profi’r wefr o weld actorion yn anadlu bywyd i’w gymeriadau. Dim ond trwy glywed y gwaith y gall rhywun weld y potensial dramatig sydd yn y gofod du hwnnw. A thrwy wneud hynny gall ein hactorion ddysgu am bresenoldeb llwyfan a llefaru clir – dau beth sydd wedi’u colli ers blynyddoedd yn enw cynildeb. Y math yma o gyd-weithio sydd ei angen. Dramodwyr yn arbrofi gyda actorion a chyfarwyddwyr, a’r naill yn dysgu gan y llall.

Sawl gwaith y clywson ni’r frawddeg mai peth marw yw drama ar bapur? Gellir dadlau bod y frawddeg honno yn eironig iawn y dyddiau yma, a hynny ar lwyfan yn ogystal. I ble aeth ein Hactorion? Pryd oedd y tro diwethaf inni weld rhai o’n actorion mwyaf profiadol ar lwyfan? Actorion a ddysgodd eu crefft yng nghwmni’r Meistri fel Wilbert Lloyd Roberts a John Gwilym Jones. Actorion a roddodd wefr i sawl cynulleidfa flynyddoedd yn ôl gyda Chwmni Theatr Cymru. Actorion sydd yn gwybod ystyr presenoldeb llwyfan a llefaru clir, rhai a wrandawodd ac a ddeallodd bregeth John Gwil ‘nid iaith rhaff-drwy-dwll mo’r Gymraeg’. Actorion sydd â’r gallu i ddysgu’r myfyrwyr sy’n gadael ein colegau drama’n flynyddol, ac i’w harbed rhag treulio gweddill eu dyddiau’n wynebu dosbarthiadau on blant ysgol.

Pa ryfedd felly fod yna brinder o bobl sy’n barod i gyfansoddi dramâu. O wylio ambell i gynhyrchiad diweddar, rydw innau’n dechrau amau a oes gwerth imi ddal ati i gyfansoddi gwaith ar gyfer y llwyfan; y llwyfan yng Nghymru yn sicr.

Mae’n hen bryd inni roi’r gorau ar feio Cyngor y Celfyddydau. Y dewis a’r diffyg gweledigaeth artistig sydd i’w feio. Meddyliwch pryd oedd y tro diwethaf ichi weld ‘clasur’ o ddrama yn y Gymraeg? Anodd tydi? Pryd oedd y tro diwethaf inni weld cynhyrchiad o Blodeuwedd neu Cymru Fydd? Pryd gwelwyd unrhyw gwmni profiadol yn mynd i’r afael ag un o ddramâu Shakespeare yn y Gymraeg? Dwi ‘di laru ar y cyfieithiadau gwael o ddramâu Saesneg o’r West End sy’n britho’n llwyfannau – ‘taswn i wirioneddol eisiau’u gweld nhw, yna faswn i’n dal y trên i Lundain, a’u gweld nhw’n cael eu gwneud yn iawn.

Beth am y dramâu sy’n cael eu tynnu’n grïau yn ein hysgolion a’r colegau ar gyfer arholiadau TGAU, Lefel A neu Radd y Brifysgol? Pam na chawn ni weld ‘rheiny? ‘Rheiny yn ôl yr athrawon yw Clasuron. Rydan ni’n clywed yn ddigon aml am yr effaith gafodd yr alwad ffôn honno ar ddiwedd Saer Doliau, neu’r disgrifiad gwych hwnnw o grogi Gwilym Brewys yn Siwan ond byth yn cael eu gweld na’u clywed. Pa obaith sydd ‘na i ddenu cynulleidfa newydd heb ddangos p_er y cyfrwng iddynt? Wedi meithrin y gynulleidfa, a dawn yr actorion, onid dyna’r adeg i gyflwyno gwaith newydd i’r naill fel y llall?

Mae hi’n adeg o newid ar lwyfannau ein theatrau y ddyddiau hyn, a’r sôn am greu ‘pwerdy drama’ newydd yn y Gogledd a’r De yn ennyn ymateb cymysg. Yn bersonol, ‘rwy’n croesawu’r syniad, ar yr amod bod y cyfan yn cael ei arwain i’r cyfeiriaid cywir, nid yn unig yn ariannol, ond yn artistig hefyd. O ddileu rhai cwmnïau, dylid sicrhau bod lle teilwng i’r talentau hynny sy’n gwybod ystyr geiriau fel ‘dramatig’ neu ‘theatrig’ – maen nhw’n brin, credwch fi.

Yn sgil sefydlu’r cwmnïau ‘newydd’ yma, onid oes gobaith cyfuno’r hen a’r newydd? Ar gychwyn canrif newydd yn ein hanes, mae’n gyfle gwych i ail-godi’r llen ar glasuron ein hiaith, a thrwy hynny, greu clasuron newydd i’r dyfodol. Cyd-weithio yw’r nod. Meithrin a hyfforddi talent, nid ei fygu mewn methiant a chenfigen.

Fe wawriodd cyfnod newydd ar hanes y ddrama yng Nghymru ugain mlynedd yn ôl, yn dilyn perfformio Bargen gan Theatr Bara Caws. Tybed, ydi hi’n amser i hynny ddigwydd eto?...

awdur:Paul Griffiths
cyfrol:441, Hydref 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk