Gwerth Siwrnai Seithug
Mae’r Coleg Ger y Lli wedi bod yn feithrinfa i sawl cwmni theatr dros y blynyddoedd. Mae’r diweddaraf ohonynt, Cwmni Theatr Seithug, newydd fod ar daith gyda’u cynhyrchiad cyntaf, T_’r Amerig. Dau o’r aelodau sy’n dweud pam a sut y sefydlwyd y cwmni.
Yn y dechreuad...
IWAN ENGLAND, actor a chyfieithydd House of America
Yn dilyn ambell i sgwrs hirwyntog, obeithiol a goleuedig, penderfynodd criw ohonom a oedd yn astudio drama yn Aberystwyth y byddem ni’n creu cwmni theatr ein hunain. Wedi’r penderfyniad bu cryn segura tan un prynhawn, ym mis Mehefin y llynedd, pan eisteddodd y saith ohonom ar y traeth, peint yn un llaw a llyfr nodiadau yn y llall.
Ar diwedd y cyfarfod cyntaf hwnnw, roedd hi’n anodd credu ein bod ni wedi creu cwmni theatr. Y cyfan oedd gennym oedd pedair prif amcan (digon penagored) a rhestr o ddramâu posib i’w llwyfannu. Clywsem droeon am anawsterau cwmnïau newydd wrth ymsefydlu, ac eto dyma ni wedi sefydlu un, wedi dim ond ugain munud o drafod. Ein prif amcan oedd creu gwaith ac iddo ogwydd newydd a oedd yn berthnasol i weledigaeth y criw o’r byd. Roeddem ni eisiau canolbwyntio ar rôl yr actor oddi mewn i’r broses greu, gan leihau pwysigrwydd yr elfennau technegol a oedd wedi bod mor flaenllaw yn ein profiad blaenorol ni o’r theatr. Roeddem ni oll eisiau arbrofi, ond gan greu darn o waith y byddai cynulleidfa yn dymuno ei weld. Penderfyniad anodd felly oedd dewis drama ar gyfer ein cynhyrchiad cyntaf.
Wrth grafu pen ni allai’r un ohonom enwi drama Gymraeg y dymunem ei llwyfannu. O’r ychydig ddramâu sydd wedi eu cyhoeddi yn y nawdegau, roedd y mwyafrif wedi eu cyflwyno gan gwmnïau yn ddiweddar. Doedd eraill ddim yn cynnig unrhyw fath o sialens. Yn gyffredinol teimlem fod prinder gwaith cyffrous, egnïol, a fyddai’n apelio at gynulleidfa ifanc, yn ogystal ag un h_n. Er fod sawl dramodydd wedi gwneud enw iddo’i hun yn ystod y blynyddoedd diwethaf, nid yw’r elfen cool a chyffrous yn perthyn i waith yr un ohonynt. Mae’n wir fod arwyddion fod y sefyllfa’n newid, gyda nifer o bobl ifanc yn ceisio ysgrifennu dramâu. Mae cwmnïau megis y Sdherman yn dangos y ffordd wrth feithrin y talentau ifanc hyn, gan roi cyfle i ddyrniad o ddramodwyr newydd gael y profiad o lwyfannu eu gwaith a chael barn ymarferwyr proffesiynol amdano. Ond amser a ddengys a gawn ni gynhaeaf o ddramâu cyffrous a fydd yn denu cynulleidfa ifanc yn ôl i’r theatr.
Wrth chwilio am ddramâu daeth y cwmni ar draws problem arall. Ychydig iawn o ddramâu sy’n cael eu cyhoeddi yng Nghymru, ac yn y Gymraeg. Ar wahân i’r traddodiadol (Saunders Lewis, Gwenlyn Parry) a’r diweddar iawn, doedd braidd dim y gallem edrych arno mewn print. Mae cyhoeddwyr megis Seren a Gwasg Carreg Gwalch i’w canmol am fentro i’r farchnad yma, gyda dim ond ychydig o nawdd gan Gyngor y Celfyddydau, ond mae angen llawer mwy. Dyw’r theatr ddim yn chwarae rhan weledol bwysig yn ein diwylliant ni yng Nghymru, ac mae diffyg cyhoeddi yn rhan fawr o’r broblem. ‘Publication establishes the existence of work in all its diversities,’ meddai’r dramodydd Dic Edwards yn y gyfrol diweddar Staging Wales. Heb gyhoeddi nid oes gofnod o unrhyw draddodiad na dilyniant.
Oherwydd yr anawsterau hyn, penderfynodd y cwmni fod rhaid cyfieithu. Ystyriwyd gweithiau o eiddo David Mamet a Sam Shepard, ond yn y diwedd dyma benderfyni ar waith Ed Thomas. Roedd nifer ohonom eisioes wedi darllen ei waith (a gyhoeddwyd gan Seren) ac wedi ein cynhyrfu’n fawr ganddo. Yn ystod y gwyliau haf, ac yn dilyn ambell i alwad ffôn, llwyddais i gael gafael ar y dramodydd a chael ei ganiatâd i gyfieithu House of America.
House of America yw un o ddramâu mwyaf nodedig Ed Thomas. Wedi’i chyfansoddi yn 1988 ac felly’n un o’i ddramâu cynnar, does ganddi ddim cynllun tynn, unedig ond mae’n ferw o syniadau. Er fod y syniadau hynny’n ymwneud benodol â’r Gymru gyfoes, nid drama blwyfol mohoni. Mae’r teimlad o fod ar y cyrion yn gyfarwydd i bawb, a dylanwad y diwylliant Americanaidd yn hollbresennol yn ein bywydau. Dim rhyfedd fod y ddrama wedi ei chyfieithu i sawl iaith a’i llwyfannu mewn sawl gwlad ar draws y byd. Ar yr un pryd mae’n cynnig rhyddid i arosod gweledigaeth bersonol arni; fel y dywed Ed Thomas, does yma ddim atebion na negeseuon, dim ond posibiliadau. Daethom ni at y ddrama gyda gweledigaeth a oedd wedi ei gwreiddio yn niwylliant y pethe, ac ym mywyd y Cymru Cymraeg. Ein bwriad felly oedd rhoi’r un faint o bwyslais ar yr elfennau sy’n gwthio’r plant at y freuddwyd Americanaidd â’r rhai sy’n eu denu ati. Dyw’r delwedd ‘draddodiadol’ o Gymreictod a gyflwynir gan y Fam yn y ddrama – cennin, cawl, defaid a Harry Secombe – ddim yn atyniadol o gwbl o’i chymharu ag Americana y ffilmiau a cherddoriaeth roc. Nid addasu a wnaethom (cyfieithiais y ddrama yn agos at y gwreiddiol) yn gymaint â phwysleisio elfennau oddi mewn i’r ddrama mewn ffordd bersonol a chynnil.
awdur:Iwan England
cyfrol:426/427 Gorffennaf/Awst 1998
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com