Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Cyrraedd Croesffordd

Ar ôl gadael cwmni Made In Wales llynedd mewn rhwystredigaeth, mae’r gyfarwyddwraig Gilly Adams yn ystyried ei dyfodol – a dyfodol theatr yng Nghymru. Bu HELEDD WYN HARDY yn ei holi.

Wrth edrych yn ôl ar fwy na deng mlynedd o ymroddiad i ddrama yng Nghymru mae Gilly Adams yn wynebu croesffordd. Rhaid iddi nawr greu synthesis o’i phrofiad theatrig a bwrw iddi ar ei liwt ei hunain.

Yn wreiddiol o Loegr, mae Gilly Adams wedi byw yn Ne Cymru ers pan oedd hi’n blentyn. Ac eithrio dilyn cwrs prifysgol yn Leeds, a hyfforddiant gweinyddol yng Nghyngor Celfyddydau Lloegr, mae Gilly Adams wedi treulio’i gyrfa yng Nghaerdydd yn hybu a datblygu’r ddrama yng Nghymru. Ar ôl gweithio yn y theatr yn Colchester daeth i Gyngor Celfyddydau Cymru yn 1973 i weithio yn yr Ddrama, mewn cyfnod pan oedd yna fwy o arian nag o waith fel bod rhaid ‘arianau trenau nwyddau gan ddisgwyl i’r express gyrraedd’ chwedl Bill Duffton, y cyfarwyddwr ar y pryd.

Penodwyd Gilly yn swyddog Drama’r Cyngor cyn iddi gyrraedd ei deg ar hugain, ac fe ddysgodd siarad Cymraeg – cam a agorodd ddrysau newydd iddi. A hithau yn dod o gefndir theatr geidwadol, doedd ganddi fawr o brofiad o’r avant-garde a’r arbrofol, ond roedd hi’n fwy na pharod i ddysgu. ‘Fe ges i f’ysgwyd gan y meddylfryd radical a oedd wrth wraidd gwaith theatr ar y pryd,’ meddai wrth gofio’i hymateb cyntaf i gynyrchiadau cwmnïau fel Pauper’s Carnival, Cardiff Laboratory Theatre, Moving Being a Theatr yr Ymylon. Roedd hi wedi’i hamgylchynu gan frwdfrydedd theatrig ac fe’i tynnwyd i bob cyfeiriad, gan gynnwys Theatr Mewn Addysg. Yna, wrth i’r cynnwrf dramatig gynyddu ar ddechrau’r wythdegau, ciliodd yr arian. Yn sgîl y diffyg cefnogaeth gadawodd Gilly Gyngor y Celfyddydau.

Arhosodd yn y byd drama, fodd bynnag, a dechrau gwneud ei chyfraniad ymarferol ei hun. Y man cychwyn oedd trefnu gweithdy preswyl yng Ngregynog yn 1981. Bu’n llwyddiant, a byth ers hynny mae Gilly wedi rhoi pwyslais ar weithdai. ‘Gweithdai a datblygu syniadau yw’r ffordd i ddarganfod dramodwyr da,’ meddai, ‘palu’r chwyn a rhannu profiad i greu dramâu llwyddiannus.’

Daeth cyfle i gynnal gweithdai i ddramodwyr newydd trwy Gymru benbaladr wrth iddi ymuno â Hugh Thomas, Gareth Armstrong, Alan Vaughan Williams a Dic Edwards i ffurfio Made In Wales yn 1982, fel rheolwr prosiect. Wrth i Hugh a Gareth symud ymlaen yn 1987, daeth Gilly yn Gyfarwyddwraig Artistig i’r cwmni Ei bwriad oedd creu cwmni a fyddai’n rhoi llwyfan i ysgrifenwyr profiadol, yn ogystal â ddarganfod a meithrin rhai newydd.

Creu corff o waith pwrpasol ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru, fel sydd gan yr Alban ac Iwerddon – dyna oedd prif amcan Made In Wales tra bu Gilly Adams y tu ôl i’r llenni yn prysur droi’r olwynion i ddarparu gwasanaeth darllen sgriptiau, trefnu gweithdai yn ogystal â threfnu G_yl Ddrama flynyddol ‘Write On’ gan gynyrchu hyd at bymtheg o ddramâu newydd. Erbyn yr _yl olaf yn 1993 roedd Made In Wales wedi llwyfannu 26 o gynyrchiadau y flwyddyn honno yn unig. Cafwyd llawer o weithdai ond llai o ddramâu cofiadwy. Y broblem yn ôl Gilly oedd fod gan Gyngor Celfyddydau Cymru fwy o ddiddordeb bellach mewn ‘llenwi theatrau â chynulleidfaoedd sy’n mwynhau cynyrchiadau canol-y-ffordd’ nag yn natblygiad tymor hir y ddrama yng Nghymru. A hithau ar fin bwrw iddi â’i holl egni i gynnal un _yl arall (a welwyd yn ‘Y Point’ y llynedd) roedd hi’n teimlo nad oedd wedi llwyddo i gael y canlyniadau yr oedd hi wedi gobeithio amdanynt, a bod angen cyfeiriad newydd ar y cwmni. Ar ôl degawd o weithio’n ddygn i agor drysau i ddramodwyr newydd, fe adawodd Gilly Adams Made In Wales gan adael Jeff Tier yn dal yn awenau.

Mae mwy o angen nag erioed am leisiau theatrig cryf sy’n gwthio’r ffiniau, ond mae’n ymddangos mai cau y mae’r drysau ar greadigaethau newydd. ‘Mae angen cymuned artistig gryfach yng Nghymru,’ medd Gilly, ‘ac i’w chael rhaid gwrando ar ein gilydd, cydweithio a chydanelu am safon theatrig uwch.’

Mae’n credu ym mhurdeb ysbrydol y theatr, yn ei barddoniaeth hi, boed hynny ar lwyfan neu ar y ddalen. A hithau wedi cyrraedd carreg filltir yn ei gyrfa, mae hi mewn dau feddwl yngl_n â’i pherthynas â’r theatr. ‘Y dewis nawr,’ meddai, ‘yw un ai gadael i’r theatr lithro i’r stâd Americanaidd gan adael i’r creadigrwydd theatrig frwydro o dan y gwter, neu ddal i gredu bod gan theatr y gallu i adlewyrchu angen cymdeithas am gymun theatrig, am antur a pherygl, am ddirgelwch, ac yn bennaf oll am hunanfynegiant.’

awdur:Heledd Hardy
cyfrol:398, Mawrth 1996

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk