Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Pwy yw’r Mordecai Modern?

Er cymaint y ganmoliaeth i gynhyrchiad y Theatr Genedlaethol o Esther, ni ddylid anghofio, ynghanol y drafodaeth ar gamp theatrig, ei neges. Dyna farn Emyr Hywel.

Bûm yn gwylio cyflwyniad Theatr Genedlaethol Cymru o Esther yn Theatr Mwldan, Aberteifi dro yn ôl. Yr oedd y cyflwyniad yn ddigon derbyniol ac yn cyfleu sawl elfen o’r ddrama gyfoethog hon yn effeithiol. Yn wir, ar sawl achlysur, gellid synhwyro gwefr yn trydaneiddio’r gynulleidfa. Ymhlith yr elfennau hynny yr oedd y portread o Haman, y gwleidydd llwgr a llwfr, ar brydiau’n argyhoeddi. Yr oedd ar ei orau pan yn chwarae’r gwleidydd llyswennaidd a oedd yn barod i gyfiawnhau pob ysgelerder er mwyn boddio’i syched am rym. Yna cafwyd cyd-chwarae effeithiol rhwng Esther a Mordecai hefyd; ymbil taer Mordecai yn ysgwyd Esther i’r byw a hithau’n ceisio’n ofer osgoi ei chyfrifoldeb tuag at ei chydwladwyr. A theimlwyd dyfnder ei hangerdd yn ogystal wrth iddi fentro’i heinioes gerbron ei g_r. Nid ei heinioes yn unig chwaith a fentrai Esther, ond mentro gosod ei serch gerbron y brenin, peth gwerthfawrocach yn ei golwg na’i heinioes, gan wybod, o’i gwrthod ganddo, y byddai hi’n gorfod wynebu sylweddoli nad oedd ei serch hi tuag ato’n cyfrif dim iddo.

Ond i mi, er eu pwysiced, nid yr elfennau cyffredinol hynny, nid cyffredinolrwydd drama Saunders Lewis sy’n ei gwneud hi’n ddrama fawr a phwysig i ni’r Cymry. Dyma ddrama, ys dywed Ioan M. Williams yn ei gyflwyniad i Esther yn ei olygiad o ddramâu Saunders Lewis, sydd yn ‘uniongyrchol berthnasol i sefyllfa’r dramodydd ac i sefyllfa ei wlad.’ Ac y mae’r perthnasedd hwnnw mor fyw heddiw ag yr oedd adeg ei hysgrifennu yn 1959.

Serch hynny, go brin y llwyddodd yr actorion i gyfleu’r holl angerdd a deimlai Saunders Lewis adeg ei chreu. Er tegwch â hwynt dylid cydnabod iddynt wynebu tasg amhosibl oherwydd nid oes nemor neb yng Nghymru heddiw, hyd yn oed y cenedlaetholwyr yn ein plith, yn teimlo’r angen i aberthu dros ei wlad er mwyn ei sefydlu’n genedl sofran â’r hawl ganddi i reoli ei hun a byw ei bywyd trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyna a ddymunai ac a geisiodd Saunders Lewis. Ond yn 1943, ar ôl aflwyddiant etholiadol, yr oedd wedi gorfod derbyn mai methiant llwyr fu ei ymgyrchu gwleidyddol ef dros geisio goroesiad cenedl y Cymry. Fe’i gwrthodwyd gan ei gydwladwyr oherwydd ni fynnent ddilyn y llwybr arwriaeth ac aberth a gynigiai iddynt. Ond er iddo droi cefn ar wleidyddiaeth gyhoeddus ac ymroi i weithgarwch ysgolheigaidd a llenyddol ni fedrai anghofio Cymru yn awr ei thranc. Treiddiodd argyfwng Cymru i’w weithiau ac y mae Esther, ys dywedodd Dafydd Glyn Jones unwaith, yn rhan o’r ‘symud graddol, petrus tuag at ... [d]rasiedi ryddiaith yn darlunio Cymru gyfoes yn uniongyrchol.’ Meddai Ioan M. Williams ymhellach: ‘Y mae Saunders Lewis yn arllwys i Esther ddicter a chwerwder a fu’n cronni ynddo ers dyddiau prawf Caernarfon, ynghyd â rhywfaint o’r dirmyg a deimlai tuag at lu’r “parchus anudonwyr,/ Torwyr gair, bradychwyr gwlad,/ A chenfaint y cynffonwyr”, a warchodai eu swyddi bras tra roedd pentrefi Cymru’n cael eu boddi.’ Yn 1959 caniatawyd boddi pentrefi Cymru dan dd_r. Heddiw fe’u gorchuddir â thai sy’n cael eu hadeiladu ar gyfer coloneiddwyr o Loegr sy’n difa ein hunaniaeth.

Cofnodir y canlynol yn nyddiadur D. J. Williams yn 1959: ‘Sgrifennu llythyr i Saunders yn ei longyfarch ... ar y perfformiad godidog o’i ddrama newydd Esther neithiwr – seiliedig ar lyfr Esther yn y Beibl. Awgrymu i S. yn gynnil, petai ef, y Mordecai modern wedi parhau wrth y porth fel y gwas dirmygedig y doi ei dro yntau i fod yn wladweinydd i arwain y bobl...’. Cyfeirio at un ymhlith llawer o ymbiliadau D. J. Williams ar i Saunders Lewis ddychwelyd i ymgyrchu’n gyhoeddus dros Gymru a wneir yn y cofnod hwn. Gwrthod pob cais a wnaeth Saunders Lewis. O ddilyn trywydd meddwl D. J. Williams a chyffelybu Saunders Lewis i Mordecai, gwelir ar unwaith taw cynrychioli’r Cymry a wna Esther. Ond y mae gwahaniaeth mawr rhwng Esther a’r Cymry.

Merch ddewr yw Esther a thipyn go lew o ysbryd arwriaeth yn perthyn iddi. Er iddi yn naturiol geisio osgoi ei chyfrifoldebau gwyddai o’r cychwyn na fedrai hi wrthod ceisio achub ei phobl. Gwyddai Mordecai hynny hefyd. O’r herwydd gallai ddisgwyl yn amyneddgar wrth borth llys y brenin a dioddef pob dirmyg. Gwyddai na fyddai Esther yn ei wrthod. Nid felly Saunders Lewis. Cynigiodd i’w bobl lwybr arwriaeth ac aberth ac fe’i gwrthodwyd. Ymbiliodd ar i’w bobl gipio awenau llywodraeth leol a’i rhyddhau o afael ac ymyrraeth Lloegr. Anogodd sefyll etholiadau Prydeinig ac yna, o’u hennill, boicotio senedd San Steffan. Sylweddolodd na ellid dianc o grafangau Lloegr heb wneud Cymru’n amhosibl ei llywodraethu. Meddai mewn llythyr a anfonodd at D. J. Williams yn 1966: ‘Yn fy marn i, yn awr ac o’r cychwyn cyntaf, ni ddaw senedd i Gymru drwy senedd Loegr. Petai pob etholaeth Gymreig yn mynd i Blaid Cymru, nid trwy hynny y deuai hunan-lywodraeth. Ni ddaw hunan-lywodraeth ond yn unig drwy wneud llywodraethu o Lundain yn amhosibl.’

Byddai ymryddhau o afael crafangau Lloegr trwy wneud llywodraethu Cymru o Lundain yn amhosibl yn gofyn mentro ac aberthu – nid mentro einioes chwaith, fel y gwnaeth Esther, ond mentro aberthu hawddfyd a swyddi parchus. Yn 1962 yn ei ddarlith radio Tynged yr Iaith galwodd Saunders Lewis ar Blaid Cymru i fentro, i droi cefn ar ei dulliau ymgyrchu saff, cyfansoddiadol ac i fabwysiadu rhaglen radical, anghyfansoddiadol, rhaglen wleidyddol heriol. Anwybyddwyd ei neges gan Blaid Cymru ond sefydlwyd Cymdeithas yr Iaith yn ei sgil. Er cystal mudiad fu Cymdeithas yr Iaith nid dyna a ddymunasai Saunders Lewis. Eto yn 1968 mewn erthygl yn Barn galwodd Saunders Lewis ar Blaid Cymru i ddefnyddio dulliau anghyfansoddiadol er mwyn ennill rhyddid gwleidyddol i Gymru. Awgrymodd y dylai aelodau seneddol Plaid Cymru, cyn gynted ag yr enillai’r Blaid fwyafrif yng Nghymru, ymwrthod â’u lle yn Nh_’r Cyffredin gan alw cynhadledd yng Nghymru o aelodau seneddol ac o awdurdodau lleol i sefydlu senedd a llywodraeth yng Nghaerdydd.

‘Dyna,’ meddai ‘gychwyn moddion anghyfansoddiadol. Ac wedyn? ... restio, carcharu, gwasgu mawr ar awdurdodau lleol. Ni ellir omlet heb dorri wyau. Chwyldro yw sefydlu llywodraeth a senedd i Gymru. Y mae dweud wrth bobl Cymru y daw hunan-lywodraeth heb ddim ond pleidleisio di-gost “a gwên fêl yn gofyn fot”, y mae’r peth yn hunan-dwyll ac yn anwiredd. Ni rydd unrhyw lywodraeth Seisnig hunan-lywodraeth i Gymru nes bod llywodraethu Cymru o Lundain yn rhy ddrud ac yn cynhyrfu gormod o ddig a chwerwder a gormod o ddirmyg drwy’r byd i’r ormes fedru parhau.’ Wrth gwrs, er mwyn cychwyn y chwyldro hwn heddiw buasai angen i bob cynghorydd Plaid Cymru, yn lle caniatáu hepgor yr enw Cymru o deitl eu plaid, weithredu’n ddewr ac yn ddygn ar eu cynghorau. Buasai’n rhaid iddynt fentro’u swyddi, mentro fel y gwnaeth Esther.

Ychydig flynyddoedd yn ôl bu Mordecai modern yn codi ei lais yn erbyn anrheithio Cymru. Ond er gwaetha’ geiriau Seimon Glyn ni chychwynnwyd chwyldro. Mae ein mudandod ni a’r diffyg cefnogaeth i bob ymgais i amddiffyn buddiannau’n cenedl yn anodd i’w ddioddef.

Er ei siomi, ac er ei glwyfo’n greulon gan ddifrawder ei gyd-Gymry, ac er iddo droi ei gefn ar fywyd cyhoeddus a gwleidyddiaeth ymarferol ni allai Saunders Lewis beidio â thrafod tynged Cymru a’i gyd-wladwyr. Trwy gyfrwng ambell i erthygl wleidyddol gignoeth a thrwy gyfrwng ei weithiau llenyddol, yn enwedig ei ddramâu, fe’u cystwywyd ganddo. Dyna oedd eu haeddiant a dyna yw ein haeddiant ni heddiw hefyd.

awdur:Emyr Hywel
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk