Enfys dros Ddyfed
Aeth Mandi Morse i weld sioe un fenyw newydd Sharon Morgan, Holl Liwie’r Enfys.
Gyda Shinani’n Siarad yn goglais fy nghydwybod unwaith yn rhagor, dyma anelu’r car am Ganolfan y Celfyddydau, Aberystwyth ganol Medi yn llawn disgwyliadau. Cyn mynd gam ymhellach, fodd bynnag, mae’n rhaid i mi gyfaddef na welais i erioed mo’r ddrama honno er fy mod i’n teimlo fel pe bai’r Shinani’n hen ffrind erbyn nawr. Roeddwn i wedi alaru ar glywed pobl yn rhyfeddu ati ac yn ailadrodd dro ar ôl tro gymaint yr oeddent wedi ei mwynhau. A minnau wrth gwrs yn fud, wedi methu’r cyfle i fynd i’w gweld. Ond, meddyliais, mi fydd yna dro ar fyd a dyma fachu ar y cyfle i weld Holl Liwie’r Enfys sef drama wreiddiol gan yr un cwmni, Rhosys Cochion, wedi ei hysgrifennu gan y prif gymeriad Sharon Morgan.
Mae’r sioe un fenyw hon yn archwilio byd hudolus merch ifanc yn tyfu’n fenyw yn ystod newidiadau pellgyrhaeddol pumdegau a chwedegau’r ganrif ddiwethaf. Caiff y cyfnod hwn ei gyfleu’n effeithiol yng nghynllun y set. Aelodau benywaidd teulu’r prif gymeriad yw holl liwiau’r enfys ac fe seilir y ddrama ar hanesion oriel o gymeriadau, gyda Delyth, Gwenda, Siân ac Annie yn eu plith. Mae’r straeon yn amrywiol ond mae pob stori yn sylwebu ar fywyd. Ceir yma lithro o’r naill gymeriad benywaidd i’r llall, gyda phob un yn unigryw o ran problemau a chymhlethdodau. Fe’n cyflwynir, er enghraifft, i’r boen o dyfu bronnau ac i’r boen go-iawn o geisio bod yr un peth â phawb arall, yr ysfa i ymdoddi’n dawel i’r ‘gang’. Er nad yw hynny’n or-amlwg yn y ddrama, mae’n debyg mai ymgais sydd yma i ddangos bod y ferch yn chwilio am lwybrau i ryddid ac i ddianc. Mae hi’n dyheu am hunaniaeth. Tybed ai dyna’r cyfiawnhad dros ddefnyddio trydydd person y ferf gydol y ddrama? Techneg, yn fy marn i, sy’n llwyddo os caiff ei defnyddio’n fwy cynnil ac mewn modd mwy dethol.
Mae gwefr y chwedegau yn fyw iawn ar y llwyfan wrth i’r ferch archwilio’i rhywioldeb. Caiff enwau gwahanol fechgyn yn ogystal â’u nodweddion eu hyrddio at y gynulleidfa ac wrth i gerddoriaeth y chwedegau atseinio ar draws yr awditoriwm, bron na feddyliech fod yna lond llwyfan o gymeriadau yn jeifio. Yn ogystal â cherddoriaeth amserol, mae gwisg yn bwysig iawn wrth greu naws a gosod cyd-destun. Rhoddir pwyslais mawr ar bwysigrwydd y cwpwrdd dillad ac wrth i’r ferch wisgo gwahanol wisgoedd daw’r cymeriadau’n gliriach, er nad yn gwbl glir.
Y cymeriad mwyaf cofiadwy yw Annie. Cymeriad gwledig gyda’i gwreiddiau yn ddwfn ym myd ffermio ac oddi ar ei gwefusau hi clywir yr iaith fwyaf cyfoethog o ran tafodiaith. Yn y rhan hon o’r ddrama y mae dawn Sharon Morgan yn disgleirio. Sonnir am Annie yn ‘geni babi mewn bwced’ ac ar ôl cyflwyno’r fath ddirgelwch mae’n hanfodol bron cael eglurhad neu hyd yn oed estyniad o’r hanes. Mae’r un peth yn digwydd pan mae’r ferch yn cyhoeddi, ar ganol hanesion am gariadon, ei bod yn well ganddi ferched. Cyhoeddiad syfrdanol o ystyried y cyd-destun ac wrth gwrs mae yna ysfa fawr i glywed mwy. Ond dyna’r cyfan a geir. Mae’r awgrym yn glir ond mae’n drueni nad oes mwy o gliwiau er mwyn dod i ddeall y cymeriad cymhleth hwn yn well. Mae hyd yn oed oedolion yn hoffi stori dda ac nid oes dim sy’n creu mwy o rwystredigaeth na stori anorffenedig. A dyna a geir yma, mewn gwirionedd. Llinynnau yn gwau trwy ei gilydd ond heb glymu i gynnig atebion.
Un o’r golygfeydd mwyaf trawiadol yw’r un olaf lle ceir ymgais brin i ddod â’r cymeriadau at ei gilydd. Fe sylweddola’r gynulleidfa o’r diwedd fod yna gysylltiad rhwng y merched. Ar ôl dioddef priodas ddilewyrch, mae’n amser dianc. Estynna’r ferch am ei chęs gan bacio’i hatgofion yn ofalus a sylweddolwn mai dyma yw ei thrysorau. Yr atgofion da a’r atgofion gwael. Mae’r trawsnewidiad ar fin digwydd.
Ceir perfformiad cyhyrog gan Sharon Morgan, ar y cyfan, er y teimlaf fod y perfformiad yn colli egni wrth iddi fynd yn ei blaen. Mae lliwiau’r enfys yn pylu erbyn y diwedd ac rydw i’n amau ai dyma bwriad yr awdur. Cryfderau’r ddrama yw’r iaith fywiog, yr atseiniau o ganeuon a phytiau o farddoniaeth a ddefnyddir yn blith draphlith. Mae’n cynnig cofnod o gymdeithas y pumdegau a chwedegau yn ne-orllewin Cymru. Ar y llaw arall, y gwendid mwyaf yw nad yw’n cynnig rhywbeth gwahanol er gwaethaf y llu o gymeriadau.
Wrth i’r ferch yn y ddrama fynnu dringo ‘mynydd breuddwydion,’ ni allaf innau ond freuddwydio am gyfle arall i wneud yn iawn am golli’r Shinani.
awdur:Mandi Morse
cyfrol:525, Hydref 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com