Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Colofn Gareth Miles

Mae’n rhaid i ddrama wynebu croestyniadau cymdeithas yn onest medd Gareth Miles.

Yn y Crochan

Byddai unrhyw gwmni sydd â chynhyrchiad yn West End Llundain yn fwy na balch o adolygiad pum seren yn y cylchgrawn Time Out. Unwaith erioed y dyfarnwyd chwech. Cynhyrchiad cyfredol yr RSC o The Crucible gan Arthur Miller (Dominic Cooke yn cyfarwyddo, Hildegarde Bechtler yn cynllunio) a dderbyniodd yr anrhydedd unigryw hwnnw. Llawn deilynga’r clod. Cyfunodd y testun, y cyfarwyddo, y llwyfannu a’r actio i roi profiad theatrig gwefreiddiol a bythgofiadwy i gynulleidfa’r Gielgud Theatre y p’nawn Sadwrn o Ebrill y bűm i yno.

Dyma a ddywed Gwyn Thomas am y ddrama yn ei ragair i Y Crochan – cyfieithiad rhagorol y diweddar John Gwilym Jones ohoni: ‘Yr hyn a ysgogodd Miller i ysgrifennu’r ddrama hon oedd yr ymholiadau i gysylltiadau Americanwyr oedd yn adrannau’r llywodraeth â’r blaid Gomiwnyddol a ddigwyddodd dan y Seneddwr Joseph R. McCarthy ym mhumdegau cynnar yr ugeinfed ganrif. Datblygodd ei ymchwiliadau yn rhyw fath o grwsâd cenedlaethol gwrth-gomiwnyddol a chyhuddwyd amryw o bobol ddiniwed o fod yn Gomiwnyddion. Galwyd ar amryw i ddwyn tystiolaeth yn erbyn cydweithwyr, a chollodd amryw, gan gynnwys rhai a weithiai ym myd y ffilm, eu gwaith oherwydd y cyhuddiadau yn eu herbyn. Mewn gwirionedd, datblygodd yr ymchwilio yn rhyw fath o “erlid-gwrachod”. Chwiliodd Miller am achos gwirioneddol o erlid-gwarchod er mwyn dangos peryglon enbyd y math o gyhuddo cyhoeddus a ddatblygodd yn sgil ymchwiliadau McCarthy. Dewisodd yr erlid-gwrachod a ddigwyddodd yn Salem, Massachusetts, yn 1692 i wneud hyn’.

Prif gymeriad y ddrama yw John Proctor (Iain Glen), amaethwr hirben, hyderus, ffyrnig ei wawd at yr hysteria genethaidd a ysgogodd yr ymgyrch wrth-wrachol a llym ei feirniadaeth o’r ofergoeliaeth ddogmatig a roddodd awdurdod gwladwriaethol i’r haint. Eithr gwanychir gwrthdystiad Proctor gan euogrwydd sy’n deillio o’i berthynas odinebus gydag Abigail Williams (Elaine Cassidy), cyn-forwyn yn ei gartref a’r arch-gyhuddwraig yn llysoedd barn Talaith Massachusetts. Roedd gweld a chlywed John Proctor/Iain Glen yn newid o ‘dipyn o lanc’, i fod yn arwr ac yna, er ei waethaf, yn ferthyr, yn enghraifft o gelfyddyd yr actor ar ei mwyaf athrylithgar.

Afraid dweud mai ‘drama wleidyddol’ yw The Crucible ond dylid pwysleisio fod yr elfennau gwleidyddol a’r rhai personol yn ymdoddi i’w gilydd yn anwahanadwy. Noder hefyd fod hon yn ddrama boliticaidd yn ystyr wreiddiol y gair Groegaidd, gan ymwneud â pherthynas y dinesydd unigol a’r polis, y wladwriaeth. Honno yw un o ddwy brif thema’r theatr o ddyddiau Aischolos hyd heddiw. Safle’r fenyw mewn cymdeithas yw’r llall.

Gwaetgwn yr adwaith imperialaidd Americanaidd oedd Joe McCarthy a’i debyg. Demagogiaid a gyflogwyd gan fancwyr, penaethiaid y corfforaethau a cheidwadwyr eraill a’u bryd ar danseilio’r wladwriaeth les a greodd yr Arlywydd Roosevelt, huddo’r egnďon blaengar a ryddhawyd gan y frwydr fuddugoliaethus dros Natsďaeth a thagu cydymdeimlad cyfran helaeth o’r boblogaeth, yn enwedig yr Affroamericaniaid, tuag at yr Undeb Sofietaidd, gwlad a wnaeth gyfraniad pwysicach ac mwy drudfawr at drechu’r Almaen Hitleraidd na’r un o’r Cynghreiriaid eraill.

Tadau a theidiau’r giwed anonest, lofruddiaethol sy’n teyrnasu yn Washington heddiw oedd y McCarthyites a’u meistri. Dynion pwerus, didostur, yn benderfynol o warchod eu breiniau economaidd, gwleidyddol a chymdeithasol, doed a ddęl. Dyna pam ’rwy’n meddwl bod yr hyn a ddigwyddodd yn Salem ddiwedd yr unfed ganrif ar bymtheg yn debycach i’r ‘erlid-gwrachod’ a fu yr ochr arall i’r Llen Haearn yn ystod y ‘Rhyfel Oer’. Yn Massachusetts Galfinaidd ac yn yr Undeb Sofietaidd Stalinaidd gwelwyd erlyn, carcharu a dienyddio er mwyn delfryd y byddai ei wireddu yn ei gwneud hi’n nefoedd ar y ddaear. Pobol dda – ynghyd â rhai diddrwg-didda, cydymffurfiol, llwfr, barus neu uchelgeisiol – yn cam-drin eu cyd-ddinasyddion yn enw Cyfiawnder.

Nid mewn anobaith y terfyna drama fawr Miller, fodd bynnag, na thrwy ddatgan mai ofer pob ymdrech i ddiwygio cymdeithas, ond ag arwriaeth y merthyron a wrthododd ddwyn camdystiolaeth yn erbyn eu cymdogion a’u cyfeillion yn rhoi terfyn ar yr erledigaeth.

Pan lwyfannwyd ac y ffilmiwyd The Crucible yn y pumdegau a’r chwedegau, gwelid hi fel dameg yr oedd ei bri yn ernes fod yr anoddefgarwch a ffynnai tra bu Joe McCarthy ar gefn ei geffyl wedi ei esgymuno am byth o’r Unol Daleithiau ac o bob gwlad a arddelai’r un gwerthoedd rhyddfrydol a democrataidd. Ond atgyfododd ei ysbryd mileinig, er nad y Comiwnyddion yw’r bwganod yn awr. Disodlwyd hwy fel gelynion anhepgorol gwareiddiad Cristnogol, democrataidd a chyfalafol Y Byd Rhydd gan y Moslemiaid.

Efallai y bydd o ddiddordeb i ddarllenwyr y golofn hon bod Y Crochan, ynghyd â fy Nhymreigiad i o Hamlet – maddeuer yr hunan-hysbysebu – wedi eu cyhoeddi y llynedd gan Wasg APCC â chymorth ariannol ACCAC.

Pwy ydyn nhw? Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd (aka UWIC) ac Awdurdod Cymwysterau Cwricwlwm ac Asesu Cymru.

Wyddwn i ddim bod UWIC yn cyhoeddi dramâu Cymraeg ond diwedd y gân yw’r bottom line, a nhw, yn hytrach na Carreg Gwalch neu Gomer, fel y byddai dyn yn disgwyl, ennillodd y tender. Gan na wnaeth y wasg, nag ACCAC, na CBAC, a gomisiynodd y cyhoeddi, unrhyw ymdrech i hysbysebu nac i farchnata’r llyfrau, dim ond dyrnaid o ddisgyblion ysgol ac athrawon a _yr am eu bodolaeth.

Esther

Darganfu Theatr Genedlaethol Cymru y fformiwla sy’n gwarantu llwyddiant theatrig hyd yn oed mewn oes mor ddreng: drama ac iddi stori afaelgar, cenadwri ddilys, cymeriadau diddorol ac ieithwedd rymus yn cael ei dehongli gan gyfarwyddwr deallus a diwylliedig trwy gyfrwng actorion dawnus i gynulleidfaoedd gwerthfawrogol. Ychwanegaf fy nheyrnged i at y llu a dderbyniodd Daniel Evans a’i gwmni eisoes. Rhaid cydnabod hefyd weledigaeth Cefin Roberts, Cyfarwyddwr Artistig THGC, a ddaeth â’r ddrama, y cyfarwyddwr a’r adnoddau at ei gilydd.

Lluniodd awduron The Crucible ac Esther ffuglenni am oesau a fu er mwyn traethu cenadwri am eu hoes hwy eu hunain. Ond mae un gwahaniaeth creiddiol a sylfaenol rhwng y ddwy ddrama. Seiliwyd yr un Americanaidd ar ddigwyddiadau hanesyddol cydnabyddedig. Gellid dadlau mai’r Ymerawdwr Xerxes (486-465 C.C.) yw Ahasferus ond mae cymaint o dystiolaeth am fodolaeth Esther a Mordecai fel pobol o gig a gwaed ag sydd am Branwen a Bendigeidfran. Chwedl yw Llyfr Esther. Dyma ddywed The Oxford Companion to the Bible amdano:

‘Although the details of its setting are entirely plausible and the story may even have some basis in actual events, in terms of literary genre the book is not history. Nor is it legend, though the sequence of events is as unlikely as those in legends and folkloristic traditions probably underlie the story.....

‘....because of the extended and well-developed plot and its point of view, the book is best understood as a novella, a type that arose not as oral tradition but as a written composition. The closest biblical parallels are the story of Joseph and the books of Ruth, Jonah and Tobit...

‘On the surface, the book’s theme is a simple one, that good triumphs over evil. The more specific form of this theme is one of the favourites of oppressed and persecuted people everywhere, that their persecutors are defeated by their own hostile plans’.

Y cenedlaetholdeb hwnnw apeliodd at Saunders Lewis. Mae’r defnydd a wnaeth ef o’r chwedl, fel nifer o’i weithiau, yn mawrygu ymlyniad arwrol wrth hil a chenedl ac yn dathlu dewis dirfodol all arwain at angau alter ego yr awdur. Hynny sy’n digwydd fel arfer; gw. Gymerwch chi Sigaret?, Brad a Cymru Fydd. Ond nid yn Esther. Mae diweddglo hapus i hon. Y Brenin a’r Frenhines yn Hollywoodaidd lawen, Mordecai yn Brif Weinidog a Haman yr Agagiad, dyn drwg iawn, yn hongian ar y crocbren a ddarparodd ar gyfer ei elyn.

Petai’r Iddewon wedi gadael iddi yn fan ’na, fel y gwna drama Saunders Lewis, fyddai neb yn gweld gormod o fai arnyn nhw, ond wnaethon nhw ddim. Â awdur y nofelig feiblaidd yn ei flaen i adrodd gydag afiaith (Esther IX.5-17, yn y Beibl go-iawn) beth a ddigwyddodd wedyn:

‘Felly yr Iuddewon a drawasant eu holl elynion â dyrnod y cleddyf, a lladdedigaeth, a distryw; a gwnaethant i’w caseion yn ôl eu hewyllys eu hun ..

‘Yr Iuddewon a laddasant ac a ddifethasant yn Susan y brenhinllys, bum cant o w_r, a deng mab Haman...

‘A’r rhan arall o’r Iuddewon, y rhai oedd yn nhaleithiau y brenhin, a ymgasglasant, ac a safasant am eu heinioes, ac a gawsant lonyddwch gan eu gelynion ac a laddasant bymtheg mil a thri ugain o’u caseion...’.

Plus ça change, plus c’est la męme chose? Ddim yn hollol. Bwriodd Iddewon ffuglennol Llyfr Esther eu llid a’u dialedd ar bobl a’u herlidiodd hwy. Llygad am lygad, dant am ddant. Heddiw, cosbir y Palesteiniaid am alanastrau gwrth-Iddewig a gyflawnwyd gan Ewropeaid.

Pan sgrifennodd Saunders Lewis Esther yn 1960, roedd gan y byd lawer mwy o gydymdeimlad at etifeddion Mordecai yng ngwladwriaeth Israel nag a geir heddiw y tu allan i gylchoedd llywodraethol UDA a mudiadau efengylaidd, ceidwadol y wlad honno. Edmygai cenedlaetholwyr Cymru wlad y kibbutzim; cartref cenedl a enillodd ei rhyddid wedi gormes canrifoedd ac a atgyfododd heniaith a fu farw.

Afradwyd y cydymdeimlad a’r edmygedd gan fileindra’r gorthrymedig a droes yn orthrymwyr.

Drychau

Yn ystod y misoedd diwethaf ’rwyf wedi mwynhau tri chynhyrchiad sy’n adlewyrchu bywyd yn y Gymru gyfoes:

Tafliad Carreg (Arad Goch; Sera Moore Willliams yn cyfarwyddo), cyfieithiad ardderchog o ddrama Awstralaidd yn darlunio ymddieithriad cymdeithasol llawer o Gymry ifainc a’u teuluoedd mewn ffordd onest a difyr, gan ddefnyddio ychydig iawn o adnoddau theatrig ac eithrio cyrff, lleisiau a wynebau’r actorion a dyfeisgarwch deallus y cyfarwyddwr.

Cymru Fach gan W.O. Roberts (Sgript Cymru; Elen Bowman yn cyfarwyddo) a’i digrifwch cignoeth yn dadlennu llygredigaeth, nepotistiaeth, hunan-dyb a dinodedd parasitig yr elît brodorol sy’n gweinyddu cyfryngau, academia, celfyddydau a gwleidyddiaeth Cymru ar ran y wladwriaeth Brydeinig.

Blink gan Ian Rowlands (Perfformiad sgript-mewn-llaw yn Chapter Caerdydd gan Sharon Morgan, Maria Pride a Nathan Sussex dan gyfarwyddyd Michael Kelligan). Y testun yw’r hyn a adwaen ein lledneisrwydd Cymreig fel ‘helynt John Owen’. Mae’n ddrama gelfydd, angerddol, ysgytwol a’r ddeialog fachog, ffraeth yn lliniaru’r ffieidd-dra a ddisgrifir ac yn ei danlinellu yn ogystal.

Rhaid imi ymddiheuro eto am dynnu sylw ataf i fy hun.

Rhyw ddeunaw mis yn ôl, fe’m comisiynwyd gan gwmni Llwyfan Gogledd Cymru i gyfieithu Blink i’r Gymraeg. Gwnes hynny gan drosglwyddo’r chwarae o Gwm Rhondda i bentref ôl-chwarelyddol yng Ngwynedd. Roedd y testun a gyflwynais wrth fodd yr awdur-gyfarwyddwr, derbyniais gyflog anrhydeddus am fy llafur, ac edrychwn ymlaen yn eiddgar at gydweithio ymhellach gydag Ian Rowlands a’r cwmni. Yna clywais fod Bwrdd Llwyfan Gogledd Cymru wedi penderfynu na ddylid llwyfannu Amrantiad.

Yn ddiweddar, holais aelod o’r Bwrdd yngl_n â’r penderfyniad. Yr ateb a gefais oedd iddynt ofni y gallai llwyfannu’r ddrama mor agos at y digwyddiadau y cyfeirir atynt ynddi ‘achosi rhwygiadau’ a bod ‘y clwyfau a achoswyd gan Ymchwiliad Clywch yn dal yn rhy boenus’.

Apeliaf ar Fwrdd Llwyfan Gogledd Cymru i ailystyried eu penderfyniad gan awgrymu’n garedig mai un o swyddogaethau’r theatr yw dwyn ger bron cynulleidfaoedd anhwylderau a chroestyniadau’r gymdeithas gyfoes, waeth pa mor ddirdynnol. Dyna ddull y theatr o hyrwyddo iechyd meddyliol ac emosiynol y gymdeithas a wasanaetha. Dyna wnaeth Arthur Miller gyda The Crucible. Dyna wnaeth y trasiediwyr Groegaidd a Shakespeare. Dyna nod pob dramodydd sydd am fod yn rhywbeth amgenach na diddanwr arwynebol.

’Rwy’n gobeithio y dealla’r darllenydd nad rhyfyg nac egotistiaeth sy’n peri imi dybio ei bod hi’n fwy angenrheidiol i’r fersiwn Gymraeg o Blink gael ei llwyfannu, ar hyn o bryd, nag yw hi i’r un Saesneg. Byddai’n herio un o ffaeleddau mwyaf niweidiol y Gymru Gymraeg – y meddylfryd ‘Taw pia hi, hogia. Deud dim sy galla. Phechwn ni neb felly.’ Dyna farn yr awdur Blink/Amrantiad hefyd.

awdur:gareth miles
cyfrol:522/523 Awst 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk