GWREIDDYN Y DRWG
Mae ymdriniaeth Aled Jones-Williams o gam-drin plant yn codi cwestiynau pwysig yn ô MEG ELIS
Roeddwn i wedi anghofio drama mor ddoniol ydi Wal, er fy mod i’n cofio llawer o’r chwarae-tenis geiriol rhwng Alji ac Eddie, yr unig gymeriadau. Mi ddaeth hynny’n ôl ata’i yn syth y tro hwn yn Theatr Gwynedd, a Maldwyn John oedd bennaf gyfrifol am hynny. Mae o’n medru cyfleu doniolwch gydag edrychiad, yn meddu ar synnwyr amseru a gwir gomedďwr, ac - yn wahanol i lawer drama heddiw - mae’r geiriau yn ei helpu.
Mae’r rhegfeydd yn helpu, hefyd. Nid fel ieithwedd gyffredin heddiw, nac ychwaith fel un gair syfrdan o annisgwyl i’n siocio neu ein deffro. Mae defnydd Aled Jones-Williams o iaith yn fwy cymhleth na hynny, ac yn Wal, mae’r rhegfeydd yn diffinio’r cyd-destun a’r cymeriadau: mae’r byd yn frwnt ac yn arw, felly hefyd y bobl. Yna’n sydyn o ddiflastod a gerwinder y geiriau aflan, daw fflach o ddealltwriaeth, neu o dynerwch, a ninnau’n sylweddoli arwyddocâd y geiriau, ac ystyr ysbeidiau o dawelwch.
Os ydi’r dramodydd yn glyfar gyda’i regfeydd, mae’r un peth yn wir hefyd, ar ei ganfed, am ei ddefnydd o eiriau eraill. Gan ‘mod i’n cofio amser pan na fuasai dweud fod dramodydd yn gelfydd efo geiriau mor abs_rd o amlwg fel na fyddai angen dweud y ffasiwn beth, gwell manylu mwy am y geiriau. Heb i mi wneud hynny, hawdd fuasai i’r diddeall neu’r rhai sy’n gosod safonau chwaeth boblogaidd - oes ‘na wahaniaeth? - fy nghyhuddo o fynnu y dylai dramodwyr ddefnyddio geiriau mawr neu ‘iaith anodd’. Purydd? Plismon iaith? Gwarchod pawb. Mae digon o eiriau dethol yn y naill ddrama neu’r llall fuasai’n ateb cyhuddiadau felly, ond i’r rhai a swcrwyd i gredu mai deialogi merfaidd a dieneiniad Pobl y Cwm yw iaith drama, carwn dynnu eu sylw at ymateb Alji wrth Eddie pan fo’r ddau wedi gosod lluniau ar y wal.
‘Gweld dw’i. Sbio wyt ti’
Mae yma ddramodydd sy’n gweld geiriau, ac yn medru cyfeirio’n ôl ar Dduw sydd yn ‘bresennol ym mhob man’ gan ddweud yr eiliad nesaf ‘Haws bod ym mhob man nac mewn lle’. Ac yn y diwedd, Alji, a’i gefn yn erbyn y wal ym mhob ystyr, sy’n gorfod wynebu distawrwydd, ond mudandod.
Oes ofn i ni gael ein suo i gredu am eiliad, felly, fod tôn Tiwlips yn ysgafnach? Cymerwch yr olwg gyntaf ar y set. Nid hen wal fudur mewn t_ wedi mynd â’i ben iddo, ond soffa, dillad ar y lein, llenni les, a blodau yn yr ardd. Rhes neis o diwlips, a’r adeilad diniwed hwnnw sydd mewn miloedd o erddi ac yn ddihangfa i lawer - cwt.
Ond buan iawn y gwelwn y pydredd yng nghalon y blodyn, ac y datgelir byd fyddai bron yn gwneud i chwi grefu am ddianc i fyd y Wal. A tydi’r byw yma ddim yn ddigri, chwaith.
Pan mae Patric yn sôn yn syth bin, bron, am ‘fathau o ladd’ ac yn tyrchu i’w fag am ei arfau, rydach chi’n gwybod yn syth fod pethau rhyfedd iawn yn tyfu yn yr ardd hon. ‘Does yna ddim datgelu, torri i mewn yn raddol i’r stori hon o gam-drin: cawn wybod yn syth beth yw rhan Yncl Jo yn y stori, hefyd, a’r hyn mae Patric yn gorfod ei ddioddef. Taith hir trwy hunllef sydd yma, a’r unig bethau i’w datgelu yw graddfeydd yr erchyllter, anobaith Patric a’r camau mae’n cymryd i bellhau oddi wrth y cam-drin. Os ydi o’n ffigwr fymryn yn amheus, brawychus, hyd-yn-oed, ar y dechrau, cawn weld yn ddigon clir y camau a’i gwnaeth fel y mae - y camau llithrig, i lawr y llwybr sglefriog at y cwt yn yr ardd sydd ar ogwydd. Dyma chi’n gweld r_an pam fod y darn hwn o’r set yn gam - a phob clod i Merfyn Pierce Jones, fel Patric, am wneud defnydd ardderchog o bosibiliadau’r set.
Mae yna ran arall o’r set sydd heb fod yn llythrennol ar ogwydd. Mae’r soffa a’r llenni les a Mam ar y lefal - ta ydyn nhw?
Rhaid i mi ddweud dyma’r elfen yn Tiwlips sydd yn fy annifyrru. Na, tydan ni ddim yn cael ein hannifyrru bellach gan sôn am gam-drin plant, ganfod y peth yn hyll o gyfarwydd. Rydan ni yn oes ôl-Waterhouse, a’r hyn mae pobl yn wneud bellach yw chwilio am yr achosion, mynd yn ôl i’r gwreiddiau. Rown i’n stopio yn fan hyn, ac yn ystyried. Hanes un bachgen bach, hanes un achos o gam-drin - iawn. Ond mae dramodydd o raid yn cyffredinoli. Ac a ydi’r dramodydd hwn yn taflu’r bai yn rhy solet ar un achos, un person? Yncl Jo sy’n cyflawni’r drygioni, reit i wala - ond mae Mam yno yn gyson a’i dwylo dros ei chlustiau, yn ail-adrodd ‘dwi’m isio gwybod, dwi’m isio gwybod, dwi’m isio gwybod’, ac yn pendilio rhwng ei chariad afiach o agos at ei hogyn bach, a’i hatyniad at y rhesi dynion sy’n aros gyda hi - ‘Wedi colli’r bys.’ A faint o ddifrod mae hi wedi ei beri i Patric?
Un achos, efallai, a dramodydd yn cyffredinoli. Ac ydi, mae’r fam ei hun yn destun camdrin. Ond onid oes yma berygl fod y bai yn cael ei daflu’n rhy rwydd – ac yn cael ei daflu, syndod y byd, ar ferch? Hwyrach fy mod innau’n annheg, ac ni fuaswn yn mynnu bod y dramodydd yn cyffredinoli – ond mae’n hawdd iawn i eraill wneud hynny, ac iddyn nhw wedyn deimlo ‘Wel, wrth gwrs, tydi pethau fel yna ddim yn digwydd yn fy nghymuned/teulu/pentref/sefydliad i – a bai’r merched ydi o, beth bynnag.’
Yn y diwedd, rydan ni efallai yn cael ein swcro i gredu fod Patric druan ‘adra ar home visit ‘ yn medru mewn rhyw ffordd wynebu ei ddiafol, ac yn dod wyneb yn wyneb ag Yncl Jon yn y cwt. Er mor doredig ydi o, ac er na fuasem yn ewyllysio’r math hwn o ddial, dyna, wrth gwrs sy’n mynd i ddigwydd. Mae’r diweddglo ymysg y mwyaf syfrdanol welais i mewn theatr, ac yn cadarnhau, os oedd angen hynny, statws Aled Jones-Williams fel ein prif annifyrrydd yn y theatr heddiw. Dyma wirioneddol dyrchu at wreithiau tiwlips ac at sylfeini’r wal.
awdur:Aled Jones Williams
cyfrol:458, Mawrth 2001
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com