Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Newyddiadur y Byd Theatr

Prif ffynhonnell newyddiadura, adolygu a thrafod theatr yng Nghymru (yn yr iaith Saesneg, o leia’) yw gwefan annibynnol yng ngofal y ffotograffydd Keith Morris. Mae Kate Woodward yn bwrw golwg ar ei chyfraniad i’r theatr yng Nghymru.

‘Mae’r we a datblygiadau digidol yn gallu bod yn fygythiad neu yn her, bygythiad yn y ffordd mae cymaint o stwff mas yna sy’n gallu ein boddi, ond mae’n her i ni ddefnyddio’r we fel modd o ddarlledu ein neges ni. Dyw pobl ddim yn gweld ein sefyllfa ni yng Nghymru fel rhywbeth plwyfol Cymreig; mae yna wersi ni’n gallu dysgu i’r byd.’

Mae’n debyg mai fel y ffotograffydd uchel-ei-gloch byddai’r rhan fwyaf o Gymry yn adnabod Keith Morris. Ond pan nad yw’n sbïo trwy lens ei gamera, mae’n sbïo ar sgrin sgwâr arall. Pan nad yw’n tynnu lluniau, mae’n gwisgo mantell rôl gwahanol, sef gwefeistr www.theatr-cymru.co.uk. Sefydlwyd y wefan ganddo nôl ym 1995 ‘er mwyn talu rhywbeth nôl i’r diwydiant a’r diwylliant theatr, ar ôl bod yn gweithio am 15 mlynedd fel ffotograffydd i nifer o gwmnïau theatr yng Nghymru, a mynd ar y We fy hunan er mwyn dosbarthu fy lluniau i fy nghleientiaid’. Wrth feddu ar y gallu technolegol â’r awydd i gychwyn menter newydd, penderfynodd fynd ati i sefydlu safle gwe am y theatr yng Nghymru. Digon syml, yn y bôn, oedd y bwriad gwreiddiol, sef ‘sgerbwd, fframwaith, ymbarél ar gyfer jyst cael gwybodaeth crai am lle oedd y cwmnïau, lle oedd y neuaddau, lle oedd y theatrau, ac ychydig o wybodaeth am ambell i dechnegydd neu actor, dim byd lot’. Ond dros gyfnod o flynyddoedd, dechreuodd y wefan ehangu ac esblygu, wrth i bobol gysylltu ag ef a chynnig mwy o wybodaeth. Rhoddwyd ychydig o gig ar yr esgyrn sychion dechreuol, wrth gynnig newyddion, adolygiadau, straeon, gwybodaeth am gwmnïau a pherfformwyr, a fforwm i bobl drafod agweddau amrywiol ar y theatr yng Nghymru.

Catalydd a fu’n allweddol i ddatblygiad y safle oedd yr ymateb o fewn y gymuned theatrig i Strategaeth Ddrama fondigrybwyll Cyngor Celfyddydau Cymru (CCC) yn 1999. Dyma annus horribilis ym myd theatr Cymru os bu un erioed. Roedd yn strategaeth a ofynnodd i gwmnïau amrywiol gystadlu yn erbyn ei gilydd am arian ac am eu bodolaeth; strategaeth fethedig a esgorodd ar lawer o ddrwgdeimlad rhwng cwmnïau, a rhwng y cwmnïau eu hunain a Chyngor y Celfyddydau. Wrth i nifer o gwmnïau weld bod eu dyfodol o dan fygythiad, dechreuwyd defnyddio’r safle fel gofod ar gyfer ymgyrchu cyhoeddus yn erbyn y strategaeth: ‘nath nifer o gwmnïau theatr anfon datganiadau i mi, pytiau o newyddion a sibrydion, ’rodd pobl o fewn y sefydliad ei hun hefyd yn anfon pytiau o newyddion i mi, ac yn sydyn roedd yna ffocws i’r holl wrthwynebiad yn erbyn y strategaeth. Dyma pryd nath y cyfan grisialu, a nes i feddwl, mae pobl mas na yn cymryd hyn o ddifrif, ac mae’n gallu cael effaith ar y byd go-iawn. Nid dim ond rhywbeth mas yn yr ether yw e.’ Teg yw dweud i Gyngor y Celfyddydau gael sioc wrth weld bod y fath deimlad yn bodoli, a’r modd y defnyddiwyd y safle fel fforwm ar gyfer ymgyrchu, ac hefyd wrth ddod wyneb-yn-wyneb ag angerdd a ystyfnigrwydd Keith wrth gyhoeddi straeon ar ei wefan. (Ceir straeon am gwmnïau theatr yn mynychu cyfarfodydd gyda’r Cyngor gan ddal dyrnaid o print-outs o’r safle i gefnogi eu safbwyntiau.) Cyfaddefa iddo fod yn ddraenen yn ystlys y Cyngor rhwng 1999-2000, ond erbyn hyn, mae o’r farn bod y Cyngor wedi trawsnewid ‘yn gyfan gwbl, mae agwedd llawer mwy positif yna’.

Er gwaethaf y datblygiadau positif a gafwyd o fewn y Cyngor Celfyddydau Cymru, mae’r safle yn dal i chwarae rôl ymgyrchol. Cafwyd sôn yn ddiweddar am y posibilrwydd o ddiddymu y grantiau gan Gyngor Sir Powys sy’n cynnal Cwmni Theatr Powys a Dawns Powys. Wrth i’r newyddion dorri, aeth nifer ati i ddefnyddio’r safle fel rhyw fath o sffêr cyhoeddus i ddechrau ymgyrch a magu cefnogaeth.

Elfen bwysig o safbwynt y wefan yw ei fod yn annibynnol. Er i Keith gyfaddef ei fod, unwaith, yn anffurfiol, wedi holi ynglŷn â’r phosibilrwydd o gael nawdd o’r CCC, bellach mae yn erbyn y syniad: ‘dwi am gael y rhyddid i allu dweud beth ydw i’n meddwl o’r hyn sy’n digwydd yng Nghymru a chael pobl eraill i gyfrannu at hynny, yn hytrach na gorfod cydymffurfio â meddylfryd corfforaethol.’ Mae arwyddocâd hyn yn ddyfnach fyth wrth ystyried y posibilrwydd y gallai Cyngor Celfyddydau Cymru fod wedi cael ei thaflu ar goelcerth cwango Rhodri Morgan.

Un o brif wendidau’r wefan yw’r diffyg trafod, adolygu a sylwebu ar theatr iaith Gymraeg, nad yw’n adlewyrchu swmp na safon y sîn gyfredol. Er gwaethaf adolygiadau yn y Gymraeg sy’n ymddangos o dro i dro, prin iawn yw’r deunydd Cymraeg, er gwaetha’r ffaith fod y cwmnïau sy’n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn defnyddio’r safle yn aml i hysbysebu teithiau a swyddi. Fel ym mhob maes cyfrwng Cymraeg, mae safon a nifer y bobl sydd ar gael i adolygu yn broblem ddirfawr. Gwêl Keith newid hyn yn allweddol i ddyfodol y wefan. Gyda nawdd oddi wrth yr Athro Ioan Williams o’r Adran Theatr Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Cymru Aberystwyth, mae’n gobeithio cryfhau rhai agweddau, wrth gomisiynu erthyglau, cyfweliadau, traethodau ar theatr Gymraeg ei hiaith yng Nghymru. ‘Mae digonedd o bobl sy’n fodlon sgwennu yn Saesneg, sy’n gweld ei bod yn fath o ysgol yrfaol. Maen nhw’n gallu dechrau ar y wefan a wedyn symud ymlaen i rywbeth mwy. Ond dyw’r math yna o agwedd ddim yn bodoli, hyd yma, yn y Gymraeg. Ac felly, wrth fod yn pro-active a derbyn y nawdd, dwi’n gallu mynd allan a dechrau meithrin to newydd o awduron, sgrifennwyr, pobl sy’n gallu mynegi barn deallus am y sefyllfa. Mae’n rhan o broblem ehangach yng Nghymru, a dwi’n teimlo ein bod ni’n ddiwylliant eithaf bregus ei sylfaen oherwydd hynny.’

Erbyn hyn, mae gan y wefan dros 1,000 o ddefnyddwyr y dydd, a cheir dros 1,000 o eitemau newyddion, 800 o adolygiadau, a gwybodaeth am oddeutu 100 o gwmnïau proffesiynol yng Nghymru, yn ogystal â dros 100 o gwmnïau amatur. Nodwedd boblogaidd iawn yw’r fforwm, ond fel pob fforwm ar y we, mae cymedroli’r fath beth, yn enwedig wrth gadw golwg ar unrhyw faterion yn ymwneud ag enllib, yn allweddol. Cyfaddefa Keith ei hun fod ‘pobl theatr yn gallu bod yn bitchy tu hwnt, ond mae’n well gen i fod y fforwm yn fywiog, a phobl yn cyfrannu iddi hi, na mynd yn segur. Dwi’n gobeithio bod y fforwm yn rhywle aeddfed i gyfnewid syniadau, ond weithiau mae’n cwympo mewn i ryw fath o slanging match.’ Mae’n fforwm yn fywiocach o lawer na gwefan www.britishtheatreguide.info. Testun un o’r trafodaethau difyrraf ar fforwm www.theatr-cymru.co.uk oedd cynhyrchiad Sgript Cymru yn 2002 o Franco’s Bastard, drama gan Dic Edwards, a seiliwyd, i raddau, ar fywyd Cayo Evans. Bu’r drafodaeth, oedd yn cwmpasu bron pob un elfen o’r ddrama, yn danbaid o ffyrnig, i’r fath raddau bod y dramodydd ei hun, merch Cayo Evans, yn ogystal ag aelodau o’r gynulleidfa yn cyfrannu’n angerddol. Esgorodd y safle ar drafodaeth pwysig a gwerthfawr ar y cysyniad o genedligrwydd Cymraeg a Chymreig, a rôl y theatr o fewn y drafodaeth hynny. Ond yn aml, mae’r postio ‘anhysbys’ yn cynnal chwerwder. Digwydd hyn i’r fath raddau nes ei fod, yn ôl Jeremy Turner, Cyfarwyddwr Artistig Arad Goch, yn ‘tanseilio gwerth y peth’. Mae’r safle wedi mynd yn ‘ormod o beth’ ac fe fyddai’n elwa pe bai’n ceisio gwneud un peth, yn hytrach na cheisio bod yn ‘bopeth i bawb’. Ond yn ôl Keith Morris, mae angen edrych ar y darlun ehangach, gan fod ganddo bobl o bedwar ban byd yn ymweld â’r safle, yn enwedig pobl o ddiwylliannau lleiafrifol sy’n straffaglu i gyd-fyw ochr yn ochr â diwylliant mawr.

‘Po fwya’ ni’n gweld bod ein diwylliant ni fan hyn yn rhan o ddiwylliant mawr byd-eang, dylwn ni godi ein pennau dipyn bach, dangos bod gennym ni’r hyder a’r cryfder, a digon o gred yn ein gwaith i fynd â fe i unrhyw le. Os yw’r wefan yn gwneud un rhan bach o hynny, dwi’n ddiolchgar tu hwnt. Dyw e ddim yn mynd i ateb pob cwestiwn, ond dwi’n meddwl efallai ei fod yn rhan o’r atebion.

Noder yr erthygl hon yr anawsterau gyda diffyg deunydd Cymraeg sydd ar gael ar-lein ar y wefan hon. Er mwyn ceisio annog mwy o ysgrifennu beirniadol yn Gymraeg am ddrama, bydd Barn yn cyfrannu rhai o hen erthyglau yr atodiad theatr i’r safle. Bydd Barn yn cadw hawlfraint ar yr erthyglau hyn, ac yn derbyn cydnabyddiaeth amdanynt ar y wefan.

awdur:Kate Woodward
cyfrol:503, Rhagfyr 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk