Iffigenia yn Awlis
Mae colofn Gareth Miles yn theatr yn ei hôl. Prolog i Yr Unbennes, sef cyfaddasiad o Yr Oresteia gan Aischolos y mae'r awdur yn ei lunio y tro hwn.
Cymeriadau
Agamemnon, Brenin Argos
Calchas yr Archoffeiriad
Iffigenia, merch Agamemnon a Clutaimnestra
Clutaimnestra, Brenhines Argos
Milwyr ac Offeiriaid
Lleoliad
Porthladd Awlis ar arfordir Gwlad Groeg.
Mae’r llwyfan yn foel heblaw am deml ac allor ar y naill ochr gyda chefnlen las yn cyfleu glesni’r nen a’r môr.
Saif Agamemnon Frenin ar ganol y llwyfan gyda Milwyr arfog yn ddau hanner cylch o boptu iddo.
Y tu ôl i’r Brenin saif Calchas yr Archoffeiriad.
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Ym mhorthladd Awlis y segurai’r llu
am fisoedd blin gan ofer ddisgwyl
i’r gwynt droi a gyrru’r llongau’n
chwim dros donnau’r môr
i’r ddinas goeth
deilyngai ddistryw.
Pydrai’r hwyliau a’r rhaffau.
Aeth bwyd yn brin.
Dechreuodd y milwyr rwgnach.
Mae’r Milwyr yn curo eu gwaewffyn yn erbyn ei tariannau, yn dawel i ddechrau gan raddol godi’n gresiendo.
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Hiraethent am gysur cartref,
maldod gwraig a
thrydar tirion plant.
Deuai stormydd gaeaf cyn bo hir
ac atal am fisoedd lawer
y fordaith lidus tua Chaerdroea.
Mae Calchis yn camu i blith y Milwyr, ei ddwylo fry i fynnu gosteg ac mae’r milwyr yn tawelu ac yn llonyddu.
Yna llefarodd yr Archoffeiriad.
Yna cyhoeddodd Calchas ddoeth
fod melltith ar y fflyd.
CALCHIS
Melltith y dduwies Athena
sy’n cosbi’r Arglwydd Agamemnon
am iddo hela a lladd hydd o’i heiddo hi.
Un ffordd yn unig y ceir cymod â’r hon
sy’n ferch i Sews hollalluog.
Ffordd galed, enbyd yw
ond rhaid ei thramwy
cyn y tramwywn ni y morfa gwyntog
is tyrrau tal Caerdroea.
Yr hyn a rynga fodd i Athena yw aberth;
aberth ddrud,
sef,
Iffigenia,
yr hynaf a’r anwylaf o blant
yr Arglwydd Agamemnon.
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Pan dawodd yr Archoffeiriad
ni chlywid sill o rengoedd y rhyfelwyr.
Rhythai’r naill yn hurt
ar wep ddi-glem ei gymrawd
cyn troi a syllu ar y teyrn.
Y Milwyr yn dechrau bwrw eu tariannau â’u gwaewffyn yn ysgafn eithr yn fygythiol
Meddyliai Agamemnon
am ei eneth fach yn arllwys gwin
i’w gwpan aur mewn gwledd;
yn ei ddiddanu ef a’r Llys
â’i llais ariannaidd.
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Tynerwch Iffigenia.
Serchogrwydd Iffigenia.
Ffydd Iffigenia yn ei thad.
Nacaodd y Llyw orchymyn Calchas.
Mae Agamemnon yn gwrthod argymhelliad yr Archoffeiriad ac yn erchi i’r Milwyr dewi.
Nacaodd y Llyw orchymyn yr Archoffeiriad
am rai dyddiau.
Ond gan na throdd y gwynt
a llenwi hwyliau’r llongau
a bydrai yn yr harbwr.
Y Milwyr yn dechrau bwrw eu tariannau eto.
A chan fod grwgnach y rhyfelwyr
yn bygwth troi’n wrthryfel...
Swn y gwaewffyn ar y tariannau’n codi’n gresiendo.
...ildiodd brenin Argos
i udo rhyfelgarol ei wyr.
MILWYR
I’r gad! I’r gad! I’r gad!
Ymgynghora’r Brenin â’r Archoffeiriad. Yna geilw un o’r Milwyr ato a murmur gorchymyn wrtho. Exit y Milwr. Y Milwyr eraill yn tewi.
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Anfonodd Agamemnon Frenin
gennad at ei wraig
yn datgan bod Iffigenia
i briodi Achiles.
Ni wyddai’r arwr hwnnw am y twyll.
A dyna sut y daeth y dlos ddinam i Awlis...
Ymddengys y Dywysoges Iffigenia fel y’i disgrifir gan ei mam.
...yn llon ei gwedd,
yn gain ei gwisg,
heb wybod nad priodfab a’i disgwyliai
ond difodiant.
Rhed Iffigenia at ei thad eithr try ef ei wyneb oddi wrthi.
Pan welodd hi,
cuddiodd y teyrn ei wyneb yn ei glogyn.
Er mai dihiryn oedd
ni allai atal dagrau euog tad
gynllwyniodd i lofruddio’i ferch ei hun.
Ymddengys yr Offeiriaid gan sefylll o boptu i Calchas.
Chwiliai’r eneth wirion am y priodfab
ond yn lle gwron ifanc, teg o bryd a gwedd
cenfaint o offeiriaid cuchiog
a’i croesawodd hi i Awlis.
Cydia’r Offeiriaidyn yr eneth ddiymgeledd. Gwinga hithau mewn ymgais ofer i ddianc o’u gafael.
Gwrywod hyll hebryngodd hi i’r deml
ac nid morynion hardd mewn gynnau lliwgar.
Disgrifia geiriau Clutaimnestra yr hyn a ddigwydd.
Llusgodd yr Offeiriaid hi at yr allor
lle safai Calchas ddoeth
a chyllell hir ynghudd tu ôl i’w gefn.
Ymbiliodd Iffigenia ar ei thad.
IFFIGENIA
Nhad! Nhad! Helpwch fi! Helpwch fi, Nhad!
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Ond trodd y llwfgi hwnnw ei wep oddi wrthi.
Ofer fu holl ymdrechion eiddil
yr eneth druan i ymryddhau
o afael y gwrywod sanctaidd.
Cydiasant ynddi’n dynn,
‘stumio’i phen yn ôl,
dinoethi ei gwddw claerwyn
fel petai hi’n afr neu’n anner
a’i dienyddio
yng ngwydd ei thad bradwrus.
Mae Calchis yn torri gwddf yr eneth â’i gyllell..
Rhydd Iffigenia sgrech annaearol wrth drengi a llifa gwaed o’r clwyf..
Aberthwyd hi ar allor
rhyfelgarwch
er mwyn i’r gwyntoedd chwythu
llynges Agamemnon dros y dwr
ar drywydd Paris
a dial cam y cwcwallt truan,
Menelaos,
brawd y Brenin.
MILWYR
I’r gad! I’r gad! I’r gad!
Mae Calchis yn mynnu gosteg ac yn erchi i’r Brenin a’r Milwyr benlinio tra y gweddïa ef a’i gyd-offeiriaid ar y dduwies Artemis i beri i’r gwynt droi. Ymddengys ei bod hi’n erglywed eu hymbil
LLAIS CLUTAIMNESTRA
Ymhen rhai dyddiau, trodd y gwynt
a hwyliodd llongau’r Groegiaid am Gaerdroea.
Cwyd y Milwyr Agamemnon ar eu hysgwyddau a’i gludo oddi ar y llwyfan. Dilyn Calchas a’r Offeiriaid hwy..
MILWYR
Aga-mem-non! Aga-mem-non! Aga-mem-non!
Exeunt Agamemnon, Calchis, Milwyr, Offeiriaid.
Ymddengys y Frenhines Clutaimnestra
CLUTAIMNESTRA
Gadawodd Agamemnon ei gymar,
Clutaimnestra,
yn rhaglaw Dinas Argos
tra byddai e’n rhyfela.
Gan i’r Brenin dderbyn cyngor
llofruddiaethol,
ofergoelus
Calchas ddoeth,
twyllo’i wraig
a lladd eu merch,
roedd y Frenhines yn beryclach gelyn iddo ef
na’r rhai a’i heriai yng Nghaerdroea.
Â’r Frenhines at yr allor lle y gorwedd corff ei merch, wyla drosti ac yna cwyd hi’n dyner yn ei breichiau a’i chludo o’r llwyfan.
Tywyllwch.
awdur:gareth miles
cyfrol:507 ebrill 2005
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com