Cariad Mr Bustl
Ddeugain mlynedd wedi iddo daro ar un o ddramâu Molière ar hap yn Paris, dyma Gareth Miles yn mynd ati i gyfieithu un arall o’i gomedïau cymdeithasol.
Ddeugain mlynedd wedi iddo daro ar un o ddramâu Molière ar hap yn Paris, dyma Gareth Miles yn mynd ati i gyfieithu un arall o’i gomedïau cymdeithasol.
Rhyw bnawn Difiau ar ddechrau chwedegau’r ganrif ddiwethaf, yn ystod fy ienctid crwydrol, digwyddais, ar hap a damwain, gerdded heibio theatr y Comedie Française ym Mharis fel yr oedd perfformiad arbennig ar gyfer plant ysgol ar fin dechrau. Gan ’mod innau’n fyfyriwr, ces fynediad yn rhwydd a thocyn yn rhad i weld perfformiad o L’Avare/Y Cybydd gan Jean-Baptiste Poquelin (1622-1673), sy’n fwy adnabyddus dan ei enw llwyfan, Molière.
Cofiaf ddeubeth am y cynhyrchiad hwnnw. Egni’r perfformiadau a dawn ryfeddol yr actorion i lefaru llinellau odlog, ffraeth tra’n gwibio o amgylch y llwyfan ac ymateb lloerig o werthfawrogol y gynulleidfa ifanc.
Atgyfodwyd yr atgof llawen hwn yn ddiweddar wrth imi fynd i’r afael â throsi Le Misanthrope ou l’Atrabilaire amoureux gan yr un awdur, ar gais Judith Roberts, Dirprwy Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru. Amcanir at lwyfannu’r gwaith ymhen rhyw flwyddyn.
Cyfieithiad llythrennol o enw’r gomedi yw Y Dyngasawr neu’r Bustlog cariadus. Tybiaf fod mwy o obaith i Cariad Mr Bustl ddenu’r lliaws. Uchelwyr llys brenhinol Louis XIV (1638-1715) yw cymeriadau’r gwaith gwreiddiol. Gan nad oes ac na fu gan Gymru ddosbarth cymdeithasol cyffelyb, penderfynodd Judith leoli’r chwarae mewn gwlad yn nwyrain Ewrop yn nauddegau’r ganrif ddiwethaf.
Alex (Alceste, yn wreiddiol) yw’r dyngasawr a Selina (Célimène) yw’r weddw ifanc, dlos y mae’n ei charu er ei waethaf. Yn y dyfyniad hwn mae Alex a’i gyfaill Phylip (Philinte) yn ymateb i gais uchelwr ifanc arall, Oscar (Oronte) am eu barn ar un o ysgubau ei awen dila.
OSCAR
Alex! Fe ddwedon nhw wrtha’i i lawr stâr fod Elianna wedi mynd ma’s ar ryw neges a Selina i’w chanlyn ond pan glywais i dy fod ti yma, roedd rhaid imi ddod lan i ddweud cymaint o barch sydd gen i atat ti fel beirniad llenyddol a sylwedydd craff ar gwrs y byd. Rwyf i, fel tithau, yn ddyn sy’n mynnu datgan ei farn yn groyw ac yn gwarafun teyrnged oni bai fod honno’n haeddiannol. Dyna pam y byddwn i wrth fy modd petaem ni’n ffrindiau. Tebyg at ei debyg, ynte? Adar o’r unlliw! Beth sy’n fwy gwerthfawr mewn bywyd na chyfaill teilwng o’r un anian? Esgusoda fi, Alex. Â thi rwyn siarad.
ALEX
Yn freuddwydiol ac fel petai heb glywed Oscar.
Efo fi?
OSCAR
Ie. Yw hynny’n artaith?
ALEX
Nac ydi ond mae o’n fy synnu i. Beth wnes i i haeddu’r fath ganmoliaeth?
OSCAR
On’d yw pawb yn canu dy glodydd di’r dyddiau hyn?
ALEX
Ydyn nhw?
OSCAR
Rwyt ti’n haeddu pob gair o ganmoliaeth
ALEX
Ydw i?
OSCAR
A dweud y gwir yn onest, yn fy marn fach i, rwyt ti’n teilyngu anrhydeddau mwyaf anrhydeddus y deyrnas.
ALEX
Cer o’ma.
OSCAR
Boed imi syrthio’n gelain os ydw i’n dweud anwiredd. Alex annwyl! Rwyf i mor falch ein bod ni’n gyfeillion, o’r diwedd. Ond gwell hwyr na hwyrach, ynte? Gad imi ysgwyd dy law di, a dy gofleidio di.
Mae Oscar yn ysgwyd llaw Alex ac yn ei gofleidio.
ALEX
Wel...
OSCAR
Beth? Dwyt ti ddim am inni fod yn ‘llawiau’?
ALEX
Mae’n ormod o anrhydedd. Rhywbeth cyfriniol ydi cyfeillgarwch, Oscar. Ddylai dyn ddim ymgymryd â fo’n ddifeddwl. Mae gofyn inni ddod i nabod ein gilydd yn well o lawer cyn dod yn ffrindiau, rhag inni gael ein siomi.
OSCAR
Dyna ddyn call iawn yn siarad! Diolch am y geiriau doeth yna, Alex. Mae mharch i atat ti wedi cynyddu filwaith. Boed i dreigl amser ein clymu â’i linynau hyfryd. Ond yn y cyfamser rwyf i at dy wasanaeth. Os galla i fod o gymorth iti yngl_n ag unrhyw fater, bach neu fawr, rho wybod imi. Fe wyddost, rwyn si_r, mod i ar delerau rhagorol ag aelodau o’r Teulu Brenhinol a’r Llywodraeth ac mae ei Fawrhydi ei hun yn garedig iawn, bob amser, wrtha i, fy nheulu a fy ffrindiau. Gelli di ddibynnu’n llwyr arna’i, Alex. Cofia!
Nawr te, gan ein bod ni’n deall ein gilydd gystal a thithau’n ddyn mor ddeallus ac mor ddiwylliedig, rwyf i am fod mor hy â dangos tipyn o soned rwyf i newydd ei sgriblo a gofyn am dy farn di cyn mentro’i chyhoeddi hi.
ALEX
Gofyn i rywun arall, os gweli di’n dda, Oscar. Dydw i ddim yn gymwys. Wir iti.
OSCAR
Pam?
ALEX
Mae gen i un gwendid mawr. Rydw i’n tueddu i fod yn fwy gonest nag y dylwn i.
OSCAR
Wn i, Alex. Dyna pam rwyn gofyn iti. Fe fyddwn i’n siomedig iawn, iawn petaet ti’n canmol dim ond rhag clwyfo nheimladau i.
ALEX
Os felly, a chan dy fod ti’n mynnu. Iawn...
OSCAR
(Gyda phob sylw cais ymateb gan Alex)
‘Soned’
Soned yw hi.
‘Gobaith’
Mae’n sôn am ferch ifanc rwyf i wedi syrthio mewn cariad â hi ac sydd wedi rhoi mymryn o le imi obeithio fod gen i obaith.
‘Gobaith’
Does dim byd uchelgeisiol yn y gerdd. A dweud y gwir, dyw hi fawr mwy na phentwr o linellau serchus.
ALEX
Gawn ni weld.
OSCAR
‘Gobaith...’
Efallai na fyddi di’n meddwl fod yr arddull yn ddigon llyfn na’r eirfa’n gweddu i’r testun...
ALEX
Ga’ i glywad r_an.
OSCAR
Dylet ti wybod mai dim ond rhyw chwarter awr gymrodd hi imi lunio’r gerdd.
ALEX
Dydi hynny na hwnt nac yma.
OSCAR
Mae gobaith i bob dyn yn gysur drud
Sy’n lleddfu pob rhyw dristyd dan y fron,
Ond Phyllis annwyl, nid wyf i’n wyn fy myd
Gan nad yw’n esgor ar ddatblygiad llon.
PHYLIP
Bendigedig!
ALEX
Dan ei anadl.
Rwtsh-ratsh!
OSCAR
Fe fuost ti’n garedig wrthyf gynt
Ond angharedig ydwyt ti yn awr.
Fy ngobaith ffôdd ar ddi-dangnefedd hynt
A’m calon sydd yn deilchion ar y llawr.
PHYLIP
‘Di-dangnefedd hynt’! Gwych!
ALEX
Cau dy geg y crafwr! Mae’i stwff o’n sothach!
OSCAR
Hyd dragwyddoldeb maith fe losga’m serch
Yn ofer, seithug, afrad a di-fudd
Hyd nes y diffydd angau’r fflam, fy merch,
A’th adael dithau’n edifeiriol, syn a phrudd.
Byd di-obaith ydyw byd fel hyn
Heb ddim ond gobaith ffôl yn haul ar fryn.
PHYLIP
Mae’r diweddglo’n ddychrynllyd o deimladwy
ALEX
(Dan ei anadl)
‘Dychrynllyd’ ffwl-sdop, y bastad clwyddog.
PHYLIP
Soned odidog y byddai Petrarch ei hun yn falch ohoni!
ALEX
Dan ei anadl
Petrar-ych-a-fi!
OSCAR
Rwyt ti’n rhy garedig o lawer.
PHYLIP
Dim o gwbwl.
ALEX
(Dan ei anadl)
Sut medri di...?
OSCAR
Wrth Alex
Nawr te, gyfaill, cofia d’addewid. Deud dy ddeud yn hollol ddi-flewyn-ar-dafod, yn ddi-dderbyn-wyneb a heb hel dail.
ALEX
Wel. Mae’n debyg bod well gan bob un ohonom ni gael ei ganmol na’i feirniadu. Fel y ces i wybod pan ofynnodd ffrind imi – wna’i mo’i enwi o – pan ofynnodd y ffrind yma imi fwrw golwg dros rhyw benillion o’i eiddo. Beth ddwedais i wrtho fo oedd fod yr ysfa i farddoni yn un beryglus iawn, anodd i’w rheoli ond y dylai o ffrwyno’i awydd i argraffu a chyhoeddi ei waith, o leia, rhag i bobol chwerthin am ei ben o.
OSCAR
Awgrymu rwyt ti na ddylwn i ddim cyhoeddi’r soned?
ALEX
Nage. Rydw i’n erbyn pob sensoriaeth. Beth ddwedais i oedd y gall dyn wneud drwg mawr i’w enw da wrth gyhoeddi cerddi di-ddim. Cofia ein bod ni’n cael ein barnu yn ôl ein ffaeleddau, ac nid ein rhinweddau.
OSCAR
Soned ddi-ddim yw hi? Dyna rwyt ti’n ddweud?
ALEX
Sôn am y ffrind yma ydw i, Oscar. Mi ddwedais i wrtho fo bod uchelgais barddol wedi gwneud llawer o ddrwg i lawer o bobol dda.
OSCAR
Ydw i’n o’r rheini? Wyt ti’n dweud mod i’n fardd gwael?
ALEX
Nac ydw. Clyw. Beth ddwedais i wrth y boi yma oedd ‘Hyd yn oed os oes raid iti brydyddu, does dim rhaid iti gyhoeddi’r stwff. Rwyt ti’n uchel iawn dy barch mewn cymdeithas. Paid â cholli hynny wrth wneud dy hun yn gocyn hitio i’r literati, y gliterati a’r werin datws’.
OSCAR
Os nad yw fy soned i’n ffit i’w chyhoeddi, beth ddylwn i wneud â hi?
ALEX
Ei thaflu hi i’r bin sbwriel. Cerdd sâl iawn ydi hi, Oscar. Ei harddull yn glogyrnaidd a’i geirfa’n rhodresgar a barddonllyd. Does gen ti’r un owns o chwaeth. Beth ydi ystyr ‘Mae gobaith i bob dyn yn gysur drud?’ Efelychiad gwael o efelychiad gwael ydi dy ‘soned’ di.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:525, Hydref 2006
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com