Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

A55 Dwy Ffordd

Aeth NIC ROS i weld cynhyrchiad Theatr Gwynedd o ddrama Aled Jones Williams am y mewnlifiad

Ta-Ra Teresa

Mewn tymor theatr hynod o ddiflas, di-ddychymyg, mae drama newydd gan ein barn llwyfan mwyaf heiriol fel gwerddon mewn anialwch. Hyd yn oed gyda Theatr Gwynedd o dan lywyddiaeth un o ffefrynnau (hunan-etholedig) y ras am arweinyddiaeth y Theatr Gymraeg Genedlaethol, gorwedda Ta-Ra Teresa rhwng oferedd Blodeuwedd ac amherthnasedd Dan y Wenallt. Dim ond gyda datblygiad gwaith newydd a pherthnasol y daw cynulleidfaoedd newydd, a thrasiedi yw system gomisiynu sy’n gweld ffordd ymlaen mewn hen ddramâu radio Dylan Thomas ac addasiadau o gyfresi teledu (Amdani) fel rhagbrofion ar gyfer Theatr Cymru Mk 2. Ac felly, ar ganiad y corn gwlad daw Aled Jones Williams (stage left) gyda drama newydd am y mewnlifiad. Llais unigolyddol ar gyfer amseroedd dadleuol. Ond diolch byth amdano, nid gwleidydd mohono. Hyd yn oed ag yntau’n ficer, nid pregethwrol mo’i farddoniaeth.

Camp fwyaf angenrheidiol Ta-Ra Teresa yw ei chydbwysedd. Ffoadur economaidd yw Johnny sy’n gweld Cymru fel cynfas wag a dechreuad newydd. Fel y dangosodd droeon o’r blaen wrth uniaethu ag elfennau ymylol cymdeithas (Cnawd, Fel Ystafell), nid condemnio gweithredoedd a wna Aled Jones Williams ond ceisio deall cymhellion. Mae ei gydymdeimlad yn amlwg nid yn unig tuag at sefyllfa Johnny a’i debyg, ond hefyd mae’n rhannu ei ganfyddiad o Gymru, yn rhannol o leiaf. Cynrychiolir y Cymry Cymraeg traddodiadol gan Robat Hefin, ymgyrchydd cenedlaetholgar, ond dyma bortread lleiaf diddorol y ddrama. Llwydda Owain Arwyn yn ddiamheuol fel Robat, a hynny er ei fod yn rhy ifanc i’r rhan, ond ni ellir osgoi’r rhagdybiaeth bod y math yma o fabi mam a welsom o’r blaen yng ngwaith Aled Jones Williams, rhywsut yn haeddu’i dynged erchyll. Fel Oidipos, a sawl arwr trasig arall o gyfnod y Groegiaid, ei wendid pennaf yw gwadu’i hunaniaeth eu hyn (yn ogystal â Seisnigrwydd ei gariad), ac ergyd fwyaf y ddrama yw awgrymu ei fod yntau, a’n bod ninnau, wedi tynnu trallod am ein pennau’n hunain.

Mae’r ddyfais cynllwyn sy’n golygu fod Robat Hefin a Johnny yn perthyn i’w gilydd yn un sy’n hen het, fel rhethreg yr arwr ifanc, ac yn ymddangosiadol ystrydebol. Wrth ddarllen y testun ymlaen llaw, synnais o weld defnydd ar drobwynt sy’n gymaint o gyd-ddigwyddiad. Ond wedi gweld y cynhyrchiad a chael cyfle i blymio i ddyfnderoedd ystyr y testun daw’n amlwg mai bwriadol yw’r amryfusedd. Ofer yw protestiadau Robat ynghylch ei arwahanrwydd oddi wrth y Saeson, a’i embaras dros syrthio mewn cariad gyda hanner Saesnes, a hynny nid yn unig oherwydd ei fod yn hanner Sais, ond oherwydd, fel y dywed y ddyweddi: ‘Damwain ydy bob dim... Pa iaith ti’n siarad...Lles ges ti dy eni... Pwy ydy dy rieni di.’

Yn wahanol iawn i Pêl Goch, Wal a Tiwlips, nid delwedd yw dechreubwynt y dramodydd, ond yn hytrach gwagedd. Mae’r cynhyrchiad, fel y fam Eirwen, yn dychwelyd o Lerpwl ar ddiwedd y ddrama yn waglaw, ‘ac mi oedd pwysa yr hyn nad oedd yno yn affwysol.’ Symbol o’r Gymru sydd ohoni yw’r llwyfan gwag, gyda’r bwlch yn cael ei lenwi, yn llythrennol, gan eiriau’r bardd.Tryweryn yw’r hanes sy’n allwedd i eiconograffeg y cynhyrchiad a’r testun, sy’n nofio mewn cyfeiriadau at dd_r a hylif o bob math., cymaint felly nes fod tywallt damweiniol y champagne ar y noson gyntaf hyd yn oed yn ymddangos yn arwyddocaol.

Ond ni pherthyn y d_r i neb, medd y Cristion o awdur yma, ac yng ngeiriau Johnny heneghan ‘Before I came here I didn’t even know where Liverpool got it’s water from. I honestly thought it came from the sky. Stupid eh? I’d never even heard of Tree Where N. Honest to God.’

Perfformiad grymus ac argyhoeddiadol a geir gan Michael Atkinson fel Johnny, a rhaid canmol y cyfarwyddydd pan fo hi mor anodd i actor beidio deall yn union beth sy’n cael ei ddweud o’i gwmpas. Fe’i cynorthwyir gan yr awdur wrth beidio â defnyddio llawer ar ddeialog ond yn hytrach cyfres o fonologau’n cydblethu. Nid oes amheuaeth mai yn Johnny ac Eirwen y mae diddordeb y gynulleidfa, fel y dramodydd, a’r elfen o Romeo a Jiwliet gyda’r pâr iau sydd leiaf llwyddianus. Gellir dadlau mai negyddol yw canolbwyntio ar gamgymeriadau’r gorffenol yn hytrach na’r math o obaith a geir ym mrwdfrydedd Robat Hefin, ond trasiedi Cymru yw trasiedi’r fam. Mae hithau wedi gwerthu ei henaid i siopau Lerpwl ymhell cyn mentro i burdan Llandudno am ei hamffyddlondeb symbolaidd. Yn y rhan dyngedfennol hon mae Rhian Cadwaladr yn ymroi ei hun gorff ac enaid, ac erbyn hyn mae gan yr actores hon yr hyder i gario golygfa ar ei phen ei hun, fel y gwna ar y ffôn yn trefnu swper dyweddiad ei mab. Yr unig siomiant ar y noson gyntaf oedd Elin Wmffras a oedd braidd yn undonog, ond mae gwaith gorau’r actores hon i Bara Caws yn brawf o’i gallu, a hwyrach y bydd yn setlo i’r rhan.

Er cystal y perfformiadau a lwyddodd Ian Rowlands i ennyn gan ei gast, gormod o bwdin yw’r cyfarwyddo mewn perthynas â’r cynllunio, sy’n awgrymu diffyg hyder y cyfarwyddydd yn y testun. Mae yma ffrogiau’n disgyn o’r to, manecins yn ymddangos o’r ochrau, a’r waliau’n dylifo â thestun a delwedd. Hawdd fyddai dod i’r casgliad mai drama radio a ysgrifennodd Aled Jones Williams yma, ac ymgais deg i greu theatr o farddoniaeth a geir. Ond canfyddais fy hun yn ysu am lonyddwch i gael canolbwyntio ar eiriau ysblennydd yr awdur. Mae’n wir nad yw’r cymeriadau yn siarad â’i gilydd ryw lawer, ac nad oes yna lawer yn digwydd tan y chwarter olaf, ond cymharer, er enghraifft, Faith Healer gan Brian Friel sydd yn gyfres o fonologau o ran ffurf yn ogystal ag arddull. Yn y ddrama gan y Gwyddel, ac mewn cynhyrchiad cofiadwy, eto gan Theatr Gwynedd, llonyddwch oedd prif nodwedd y cyfarwyddo. Mae yna adegau pan fo’r holl weithgarwch yn ennyn cyffro, ac weithiau mae’r cyfarwyddydd wedi llwyddo’n ddigamsyniol i ddefnyddio’r dechnoleg at bwrpas y ddrama: ar diwedd y testun ceir golygfeydd angladdol sy’n anodd iawn eu llwyfannu, ac yma mae’r defnydd o fideo yn gaffaeliad pendant. Ac nid oes modd dadlau bod edrychiad y cyflwyniad yn drawiadol, a chefais fy atgoffa o rai o arbrofion cynharach Ian Rowlands gyda Theatr y Byd. Dyma’r cwmni a lwyfannodd ei gampwaith Marriage of Convenience, ei fyfyrdod ar ddwyieithrwydd cymoedd diwydiannol y De. Hoffais yn fawr symlrwydd llwyfannu yma a adawodd inni ganolbwyntio ar y dawn dweud.

Nod amlwg a chanmoladwy yw’r ymdrech i ddenu cynulleidfa ddwyieithog i’r cyflwyniad, er mai drama Gymraeg yn cynnwys Saesneg yn hytrach na drama dwyieithog yw hi. Ar dystoliaeth y noson gyntaf yn unig, nid oedd y rhagolygon yn dda. Rhaid nodi hefyd fod y nod yma yn faen tramgwydd i fwynhad y gynulleidfa Gymraeg hefyd, oherwydd yn lle trosdeitlau ar waelod neu ochr y llwyfan, mae’r Saesneg yn rhan annatod o’r cynllunio gyda thafluniadau o’r testun yn yr iaith fain ar hyd y wal gefn, gan ychwanegu at y cawl. Yn anffodus felly, mae bwriad canmoladwy yn cael ei lesteirio gan y ffordd o ddweud.

Am y tro cyntaf ers talwm crewyd gwaith o bwys yn Theatr Gwynedd, gan gynnig profiad theatrig dros ben. Y gobaith yw y bydd Aled Jones Williams yn parhau i weithio ar y testun, oherwydd er fod ganddo’n wastadol rywbeth i’w ddweud a modd dramatig o’i ddweud, mae ôl brys ar Ta-Ra Teresa. Ambell dro mae’r chwarae geiriol sydd mor nodweddiadol o’i waith yn llafurus e.e. ‘Bob-digeidfran’, ond hwyrach y dylwn nodi fod sawl un o’m cwmpas wedi chwerthin yma. Yn fwy difrifol, mae clystwr o ddigwyddiadau mawr yn chwarter olaf y ddrama yn golygu ei bod hi braidd yn anghytbwys. Yn sicr mae modd maddau mân frychau mewn gwaith sy’n hynod o bwerus, uchelgeisiol a chytbwys, o leiaf o ran ei ymdriniaeth o thema ymfflamychol.

awdur:Nic Ros
cyfrol:479/480 Rhagfyr/Ionawr 2002/2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk