Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Cam â Glanaethwy

Ydy’r beirniadu a’r broffesiynoldeb Ysgol Glanaethwy yn enghraifft o bla plwyfoldeb, gofynna DAFYDD LLYWELYN

Pam y’m gwahoddwyd yn gyntaf i gyfrannu i’r rhifyn cyfredol hwn, y bwriad gwreiddiol oedd trafod y diflastod am gyflwr y theatr yng Nghymru. Fodd bynnag, yn gynharach heno, darlledwyd rhaglen Y Byd ar Bedwar, a oedd yn crynhoi’r cyfan o’r hyn oeddwn am ei ddweud yn llawer cliriach. Testun y rhaglen oedd Ysgol Glanaethwy, a thrafodwyd y gred sydd wedi’i lleisio gan rai’n ddiweddar ynglyn â hawl yr ysgol honno i gystadlu yn ein heisteddfodau. Mynegwyd pryder ar sawl lefel, a chanlyniad y cyfan oedd i sylfaenydd yr ysgol, Cefin Roberts, ddatgan mai Eisteddfod yr Urdd 2002 fydd yr _yl olaf i’r ysgol ei mynychu.

Pan drafodir Ysgol Glanaethwy, y geiriau a gyplysir gan amlaf â’r sefydliad hwnnw – hyd yn oed o du’r beirniaid – yw proffesiynoldeb a llwyddiant. Er hynny, ymddengys bod carfan gref o Gymry Cymraeg yn fwy na pharod i lambastio’r lle a dilorni’r arweinydd ar lefel bersonol. Wn i ddim am unrhyw genedl fyddai’n ceisio llyffetheirio’r fath sefydliad, ac mae’r holl ymgercu hyn yn dweud cyfrolau amdanom ni.

Mae ystod yr arbenigedd a gyfyngir i ddisgyblion Ysgol Glanaethwy yn eithriadol o eang, ac oherwydd bod yr ysgol yn canolbwyntio’n benodol ar y celfyddydau gweledol a’r clywadwy yn unig, bernir mai annheg yw caniatáu iddi gystadlu yn erbyn ysgolion traddodiadol. Mae’r fath feirniadaeth yn dangos naïfrwydd o’r radd flaenaf, ac ymddengys nad yw rhai’n deall ystyr y gair ‘cystadlu’. Yn ddelfrydol, braf fyddai gweld pob cystadleuydd yn brwydro eu cyfoedion dan amodau cwbwl gyfartal a theg; ond yn realistig nid yw’r fath sefyllfa yn bodoli. Mae cymaint o ffactorau allanol a mewnol yn dylanwadu ar y broses gystadlu, fel nad yw’r tegwch yn ddim ond coel gwrach. Fuodd yna erioed degwch yn aros at y syniad o gystadleuaeth, ac nid yw dyfodiad Ysgol Glanaethwy i’r byd cystadleuol wedi newid dim ar hyn, ond yn hytrach, efallai ei fod wedi amlygu eiddigedd plwyfol sydd yn bla o fewn ein diwylliant. Yn eironig ddigon, cri nifer o athrawon y dyddiau hyn yw eu bod yn cael eu llethu gan bwysau gwaith, eto’i gyd, maent yn cwyno pan fo sefydliadau fel Glanaethwy yn darparu gwasanaeth sy’n ysgafnhau rhywfaint ar y cyfrifoldebau hynny.

Sylw arall sy’n cael ei wneud dro ar ôl tro yw bod Ysgol Glanaethwy yn rhy ddrud, elitaidd, ac yn rhy ddosbarth canol, a dyma sydd yn dangos rhagrith ar ei orau. O safbwynt y ddadl economaidd, a yw cost yr hyfforddiant a gynigir yng Nglanaethwy mor afresymol o ddrud, mewn cymhariaeth dyweder â deugain punt a godwyd ar rai i weld gêm rygbi rhwng Cymru a’r Eidal yn ddiweddar? Mewn perthynas â’r elitiaeth, mae gennym yng Nghymru ryw obsesiwn yn y myth o’r werin fondigrybwyll hyn, ac yr ydym yn parhau i gael ein cyfareddu gan y ffantasi o berthyn i’r dosbarth gweithiol. Mae’n arwyddocaol bod nifer o’r cyfresi teledu diwedder – yn y Gymraeg a’r Saesneg – wedi eu lleoli yn y cymoedd neu ardaloedd yr hen ddiwidiannau trwm. Parha’r dosbarth gweithiol i chwarae rhan amlwg a phwysig yn ein diwylliant, ond rhaid hefyd sylweddoli bod symudoledd cymdeithasol yn ystod y degawdau diwethaf wedi trawsnewid ein cymdeithas, ac o ganlyniad, mae’r dosbarth gweithiol wedi crebachu’n enbyd erbyn hyn, ac yn y Gymru gyfoes sydd ohoni, y dosbarth canol yw cynhaliaeth yr iaith Gymraeg. Wn i ddim pam bod y syniad o elitiaeth mor wrthun gan rai, mae i’w weld ym mhob diwylliant arall, ac yn wir, mae angen yr agwedd honno er mwyn sicrhau cydbwysedd cymdeithasol. Ai arwydd o’n gwaseidd-dra fel cenedl, yw ein bod yn ddilornus ein hagwedd tuag at unrhyw beth sy’n ymylu at broffesiynoldeb? Y gwir amdani yw hyn, oni bai am sefydliadau fel Ysgol Glanaethwy, yr ydym yn mynd i barhau i fyw dan gysgod amaturiaeth a bodloni ar safon nosweithiau festri capel.

Yn ystod y mis diwethaf, gwelwyd tri pheth arwyddocaol iawn ym myd y pethe yng Nghymru, sydd yn gysylltiedig â’r maes. Yn dilyn noson wobrwyo Brits 2002, bu sôn am y cysyniad o C_l Cymru, gyda rhai’n pryderu nad oedd cynrychiolaeth gref o Gymru yn bresenol yng ngweithgareddau’r noson honno. Aed ati i ddadansoddi’r huawdl pam y bu i’r holol fomentwm chwythu’i blwc mor sydyn. Fe allai’r gwybodusion fod wedi arbed coed ac inc pebaent wedi sylweddoli mai ystrydeb gwag a di-synnwyr yw’r fath ffwlbri. Ysywaeth, dyna sail llawer o’r hyn a elwir yn ddiwylliant Cymreig a Chymraeg erbyn hyn, sef dynwarediad gwael o ddiwylliannau Eingl-Americanaidd. Yr ail-ddigwyddiad oedd cyhoeddi tranc Eisteddfod Llangwm. Gyda’r fath ddatganiad, daeth cyfnod o lafur cariad nifer o unigolion ymroddedig i ben, ond efallai y bydd yn gic yn nhîn ambell un sy’n mynnu byw mewn paradwys ff_l. Mae diwedd yr eisteddfod honno yn dystiolaeth pellach o erydiad sylweddol sydd wedi, ac sy’n parhau i ddigwydd, yn yr ardaloedd hynny a ystyriwyd, yn y gorffenol, fel cadarnle’r Gymraeg. Yn olaf, ac yn baradocsaidd efallai, o fewn cwta byddefnos i’r stori am Eisteddfod Llangwm, cynhaliwyd cyfarfod ym Mlas Tan y Bwlch, Maentwrog i drafod rôl a phwysigrwydd y celfyddydau yn y gogledd, gyda’r pwyslais ar gyd-weithio rhwng gwahanol sefydliadau er lles a budd pawb. Mae syniad o’r fath i’w groesawu, ond pan mae Ysgol Glanaethwy yn ceisio trwytho’r cenhedlaethau ifanc yn nhraddodiadau a diwylliant brodorol, ymddengys bod rhai’n mynnu taflu d_r oer ar y cyfan. Mewn oes pryd y cyfeirir yn gyson at y ffaith bod plant yn gwneud drygau a drygioni, gan nad oes dim i’w diddanu, mae’r holl feirniadu hyn yn chwerthinllyd o drist.

Fel y cyfaddefodd Cefin Roberts ei hun ar ddiwedd y rhaglen deledu, ni all Ysgol Glanaethwy ennill y naill ffordd neu’r llall. Pe na baent yn cystadlu, yna byddai rhai’n pwyntio bys ac yn eu cyhuddo o fod wedi troi cefn ar eu diwylliant brodorol. Ond o gystadlu cânt eu beirniadu am fod yn rhy broffesiynol. Trist o beth yw gweld rhywun yn gorfod amddiffyn ei hun yn erbyn cyhuddiad o fod yn llwyddianus, oherwydd bod culni a phlwyfoldeb yn parhau i deyrnasu yn y Gymru gyfoes.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:470, Mawrth 2002

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk