Sosialaeth ar lwyfan
Yn rhifyn y gwanwyn o theatr, ysgrifennodd GARETH MILES am y dylanwad Ibsenaidd ar ddramâu Cymraeg rhwng y ddau ryfel byd. Yma, mae’n trafod enghreifftiau penodol o’r dramâu cegin hyn, ac yn theatrig ynghlwm wrth ddiwylliant Cymraeg dosbarth gweithiol.
Yn y Welsh Outlook, yn 1919, ysgrifennodd Saunders Lewis:
Our Welsh drama, we are told, is peasant or village drama. And that is entirely good... Our dramatists’ intention to describe only the life of the folk is quite justifiable... But village life means more than ‘manners’. It includes memories and traditions and song and even dance and mummery. Village and peasant drama, if it would tell the round truth, must include romance, the Mabinogion, the monastery, witchcrafy, fairyland and all the ancient playgrounds of men...
Dim ond ysgolhaig a anwyd ac y fagwyd yn alltud ac a wyddai fwy am lên Iwerddon a Ffrainc nag am y Gymru oedd ohoni, ar derfyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a fedrai ddisgwyl i’r arduron brodorol sgrifennu ffantasïau ffug-ganoloesol a dyheu am weld rhamantau o’r fath yn cael eu llwyfannu mewn adeilad pur wahanol i’r festri, y neuadd bentref, a’r Stiwt a roddai loches i ddrama Gymraeg y cyfnod
What, then, would be a proper home for a Welsh drama? I imagine a house in one of our villages, built pleasantly like an old farm-house, and sheltered among the trees. There would be three of four fair rooms, and the porch would not have an illuminated front...
Ni ellir rhoi gwell eglurhad o’r dylanwad hwnnw na theyrnged John Ellis Williams iddo yn y gyfrol Tri Dramadydd Cyfoes:
Enwais dair nodwedd yng ngwaith Saunders Lewis fel dramadydd: coethni ei fynegiant, treiddgarwch ei feddwl, crynder ei gymeriadaeth. Y mae un nodwedd arall sy’n fwy na’r cwbl am ei bod yn cynnwys y cwbl, a phe gofynnid inni grynhoi mewn un gair yr hyn sydd fwyaf nodweddiadol o’r g_r mawr hwn y gair a ddewiswn yw didwylled.
Yn 1979, y flwyddyn y cyhoeddwyd y braslun gan Elan Closs Stephens o hanes y ddrama Gymraeg yn Y Celfyddydau yng Nghymru 1950-70, rwy’n siwr fy mod i, fel y mwyafrif llethol o ‘garedigion y ddrama’, yn cyd-fynd â’r gosodiad dilornus canlynol o’i heiddo:
...o Beddau’r Proffwydi tan y pumdegau, prif gynnyrch y theatr Gymraeg oedd cyfres o ddramâu’r cartref, celfydd eu saernïaeth, naill ai ar ffurf comedi-sefyllfa ysgafn, ffarsiaidd neu’n ddramâu melodramatig mwy difrif, gyda thro moesol yn eu cynffon. Gellid dweud eu bod yn naturiolaidd eu ffurf ond yn gwbl ddiffygiol yn yr arwyddocâd athronyddol hwnnw sy’n nodweddu’r clasuron Ewropeaidd.
Gwelem yn eglur iawn ‘arwyddocâd athronyddol’ weithiau dramodwyr fel Saunders Lewis, John Gwilym Jones a Huw Lloyd-Edwards. Ond cymaint ein hedmygedd ohonynt ac mor frwd ein llawenydd gwlatgarol o weld y ddrama Gymraeg yn ymddyrchafu o’r festri a’r neuadd bentref i’r llwyfan proffesiynol, medrem ddiystyru’r ffaith annymunol mai dim ond canran fechan o genedlaetholwyr dosbarth-canol o dueddfryd academaidd a werthfawrogai athronyddu praff dramâu megis Brad, Y Tad a’r Mab a Cyfyng-Gyngor. Nid oedd y pynciau, y problemau a’r dewisiadau dirfodol a drafodid gan yr awduron a enwais yn berthnasol i fywydau trwch y Cymry Cymraeg. Fe’n dallwyd gan ragfarn dosbarth ac ideoleg rhag canfod seiliau athronyddol dramâu awduron fel J.O Francis, D.T Davies, R.G Berry, Idwal Jones a Kitchener Davies. Ni welem mai sail eu poblogrwydd hwy oedd dawn i adlewyrchu cymdeithas y dydd ac adleisio ei delfrydau, ei gobeithion, ei siomedigaethau a’i llawenydd. Wrth gyfeirio at Ibsen fel ‘nawddsant drama Gymraeg y dauddegau a’r tridegau’ awgrymais beth oedd natur yr ideoleg a arddelid gan ddramodwyr y cyfnod, sef, rhyddfrydiaeth, radicalaidd, wrth-awdurdodol a chanddi gydymdeimlad â’r dadansoddiad sosialaidd, Marcsaidd o natur cymdeithas, a’r modd y dylid mynd ati i ddileu’r anghyfiawnderau a’i blina. Wedi’r Ail Ryfel Byd, cefnodd y ddrama Gymraeg ar y wleidyddiaeth flaengar, werinol hon gan droi at genedlaetholdeb delfrydgar, di-rym ac Ewropeaeth annewlig, cyfyng ei hapêl.
Nid ymarferiad hollol ofer yw ceisio dychmygu sut y buasai’r ddrama Gymraeg wedi datblygu petai Saunders Lewis, pan ymfudodd i Gymru, o’r un feddylfryd â mwyafrif llethol ei gydwladwyr; petai’n fodernydd y Chwith, fel Bertolt Brecht, ac nid yn un ceidwadol fel T. S. Eliot; petai wedi ymateb i fethdaliad Rhyddfrydiaeth trwy symud tua’r Aswy yn hytrach nag i’rDde.Gallasai ei athrylith ef fod wedi dryllio hualai naturiolaeth a melodrama a rhoi i Gymru theatr wirioneddol chwyldroadol ei ffurf a’i chynnwys. Yn lle hynny, llusgodd ei neo-glasuriaeth besimistaidd y theatr i ddiffeithwch y ddrama fydryddol, y pamffledi adweithiol a theatr yr abswrd.
Serch hynny, rhaid cyfaddef hefyd fod sail ddilys i lawer o sylwadau beirniadol Saunders Lewis ac eraill yngl_n ag ansawdd gyffredinol y dramâu a ddiddanai’r gynulleidfa Gymraeg rhwng y ddau Ryfel Byd. Dymunaf bwysleisio nad wyf yn honni fod gêm theatrig ynghudd rhwng cloriau pob un o’r llyfrynau a lifai’n filoedd ar filoedd, o weisg cyhoeddwyr fel Y Ddraig Goch, Aberystwyth, Samuel French a Foyles, rhwmg y Ddau Ryfel. Daliaf, fodd bynnag, fod nifer o ddramâu’r cyfnod yn teilyngu sylw beirniad, myfyrwyr a chwmnïau cyfoes.
Hoffwn yn awr gyfeirio at bedair drama ddiddorol a gyfansoddwyd rhwng 1923 a 1943; dramâu a haeddant, yn fy marn i, eu llwyfannu eto, ac a fyddai’n rhoi pleser a boddhad i gynulleidfaoedd cyfoes; dramâu sy’n codi cwestiynau cymdeithasol a gwleidyddol sydd mor berthnasol heddiw â phan y’i lluniwyd.
Mae’r pedair drama, fel y gellid disgwyl yn rhai naturiolaidd. Thema ganolog y bedair, fel y rhelyw o rai’r cyfnod, i wahanol raddau, yw’r argyfwng a archollodd Ryddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth yng Nghymru yn y blynyddoedd a ddilynodd y Rhyfel Byd Cyntaf. Deilliodd yr argyfwng hwnnw o’r croestyniad rhwng delfrydau democrataidd Rhyddfrydiaeth a’r ffaith fod y gyfundrefn economaidd sy’n cynnal yr ideoleg honno yn creu anghyfartaledd rhwng dinasyddion, yn dibynnu ar gystadleuaeth rhwng cyfalafwyr am elw a rhwng unigolion i ddod ymlaen yn y byd, a bod gwleidyddion Rhyddfrydol, tra’n honni eu bod yn cadw’r ddysgl yn wastad rhwng Cyfalaf a Llafur, mewn gwirionedd yn ffafrio’r cyfoethogion.
Ar yr olwg gyntaf, ymron i drigain mlynedd wedi sgrifennu’r diweddaraf o’r gweithiau y byddaf yn siarad amdanynt, gellid tybio mai pynciau i ddiddori’r hanesydd a’r hynafiaethydd yn unig yw’r rhain. Ond os ystyriwch mai etifedd Lloyd George, ac nid Keir Hardie, yw Tony Blair – fel y gwna Mr Blair ei hun; ac os cytunwch â mi mai cymwynas bennaf y llywodraeth hon, hyd yn hyn, fydd deddfwriaethu mewn perthynas â materion a oedd ar yr agenda radicalaidd-ryddfrydol dros ganrif yn ôl – hawliau cenedlaethol Cymru, Iwerddon a’r Alban a diwygio T_’r Arglwyddi – efallai y cytunwch hefyd nad anfuddiol fyddai inni roi rhywfaint o sylw i: Gwyntoedd Croesion, drama ar Wleidyddiaeth Cymru, cyfieithiad R. Silyn Roberts o Cross Currents gan J. O. Francis; Yr Anfarwol Ifan Harries, gan Idwal Jones; Cwm Glo gan James Kitchener Davies; ac Wedi’r Drin, gan John Ellis Williams.
Digwydd yn chwarae yn Gwyntoedd Croesion ar fore Mercher yn wythnos olaf Gorffennaf 1921. Fe’i lleolir yn ‘Bronawel’, t_ helaeth yn un o siroedd y Gogledd a chartref y diweddar Aelod Seneddol, Gwilym Parri, un o arweinwyr disgleiriaf mudiad Cymru Fydd, a fu farw’n _r cymharol ifanc, bum mlynedd ar hugain ynghynt.
Gareth Parri, mab y gwleidydd, yw cymeriad canolog y ddrama. Mae mor flaenllaw yn academaidd ag y bu ei dad ym myd gwleidyddiaeth, a gwelwn ef ar dechrau’r ddrama, ar bigau’r drain yn disgwyl clywed o goleg prifysgol newydd Abertawe a gynigir iddo Gadair Adran Economeg y sefydliad hwnnw.
Ond cyn cyrraedd o’r post brenhinol daw’r Daily Post i’r t_, ac ynddo’r newydd am farwolaeth Ffoulkes-Jenkins, yr Aelod Seneddol Rhyddfrydol a olynodd Gwilym Parri. Mater y ddrama o hyn ymlaen yw’r pwysau a osodir ar Gareth Parri, o wahanol gyfeiriadau, i ymwrthod â gyrfa academaidd a dilyn ôl troed ei dad carismatig i San Steffan, ac ymateb Gareth i ddadleuon gwrthgyferbyniol y tair carfan wleidyddol sy’n apelio arno i’w cynrychioli nhw yn y Senedd. Cynrychiolir y gr_p cyntaf, a’r grymusaf, sef y Blaid Ryddfrydol, gan rai o ffermwyr a siopwyr cefnog yr ardal; yr ail, Plaid Genedlaethol nas ganwyd eto, gan y Parch. Trefnant Jones, gwenidiog wedi ymddeol, o Lerpwl, sydd newydd etifeddu chwarter miliwn o bunnau ar ôl ei frawd; a’r trydydd, y Mudiad Llafur, sy’n dechrau cael ei draed dano yn 1921, gan Gomer Davies, bachgen lleol a ymfudodd i’r De, lle y daeth yn swyddog undeb. Disgrifia Gareth Parri ei gyfaill Gomer fel ‘Bolshefic chwilboeth... adref ar ei wyliau o Donypandy: Ac roedd o’n siarad Moscow pur wrthyf – gydag acen Gymreig gref.’
Gwegia Gareth Parri rhwng rhethreg y Cenedlaetholwr a’r Sosialydd. ‘Ein hangen yw dynion hollol annibynnol ar y pleidiau mawr Seisnig – dynion fedr eu herio a gosod achos Cymru o flaen popeth arall,’ ebe Trefnant. ‘Rydw i am roi cyfle i rai o’n Cymry ifainc ymladd nid fel Rhyddfrydwyr ond fel Cymry cenedlaethol – yn rhwym i neb na dim ond eu cenedl eu hunain...’.
Dyma beth o ateb Gomer Davies: ‘A’r credo cenedlaethol yma ‘rydach chi mor awyddus i’w bregethu o – beth yw ffrwyth hwn? Beth sydd wedi mwydo Ewrop mewn gwaed am bum can mlynedd? A phwy gafodd y proffid? Brenhinoedd, tywysogion a chyfoethogion, a’r bobol yn ‘u gofid a’u dagran yn talu am y cwbwl. Ma hi’n bryd i roi gora i sentimentaleisio yng nghylch cenhedloedd...’
Ac yn ddiweddarach, pan gyhuddir Gomer gan Trefnant o ennyn ymryson a chasineb ymhlith ei gydladwyr ac o ‘hau drygioni’ yn ei fro enedigol, ei ateb yw:
Aflonyddwr ydw i, meddwch? Gwir! Rydw i’n ennyn fflam rhyfal rhwng dosbarthiada cymdeithas yn y sir yma? O’r gora! Pwy gychwynnodd beth felly yn y sir? Pwy ddeffrodd y ffermwyr a’u harwain yn erbyn yr ysweiniad? Gwilym Parri!
Pan gododd ffermwyr y dosbarth canol yn erbyn yr arglwyddi tir, protest gyfiawn oedd hynny. Ond pan feiddia’r gweision druain ddadleu eu hiawnderau yn erbyn y ffermwyr, rhaid galw hynny yn rhyfal dosbarth. Mab i was ffarm ydw i. Beth gawson ni allan o’r fuddugoliaeth enwog honno? Dim, llai na dim! Defnyddiasoch enw’r genedl i gau ‘yn safna ni tra y byddech chi’n sicrhau’r gallu a’r awdurdod yn ‘ych dwylo’ch hunain.
Diwedda’r ddrama gyda Gareth Parri’n cefnu ar wleidyddiaeth ac yn derbyn y ‘broffesoriaeth yn Abertawe’. Yn ei enciliad gwelaf ddameg o anallu Cymru, hyd y dydd heddiw, i roi bodolaeth i blaid wleidyddol fawr, rymus ac effeithiol, a fyddai’n ymgyrchu dros ryddid cenedlaethol ynghyd â chyfiawnder cymdeithasol; dros wladwriaeth Gymreig wedi ei sylfaenu ar gyfundrefn economaidd a amcanai at ddiwallu anghenion trwch y boblogaeth yn hytrach nag ychwanegu at olud dosbath bach, breintiedig.
Mae i Gwyntoedd Croesion un gwendid creiddiol, sef fod Gareth Parri, y cymeriad a chwytha gwyntoedd ideolegol ei gyfnod drwyddo, mor ddi-liw a disylwedd. Mae’n angenrheidiol i gymeriad canolog drama syniadaethol fod yn ansicr ei ddaliadau, ac yn achos Gareth Parri yn cael ei ddirdynnu gan y croestyniadad a ennynir ynddo gan y gwrthdaro rhwng Rhyddfrydiaeth, Cenedlaetholdeb a Sosialaeth. Ond os yw’r gynulleidfa i gydymdeimlo ag ing dirfodol yr arwr ac i uniaethu ag ef mae’n rhaid iddo feddu nodweddion dynol sy’n ychwanegu dimensiwn emosiynol i’w argyfwng ac yn ei gymhlethu. Hen lanc 39 oed neis, saff, parchus a deallus iawn yw Gareth Parri ac wedi ei eni i fod yn Athro Economeg, neu hyd yn oed yn Brifathro, yn un on golegau Prifysgol Cymru. Buasai Gwyntoedd Croesion yn ddrama wirioneddol bwerus petai Gareth Parri yn gallu gweld ei hun fel etifedd Glyndwr, neu Lenin Cymru, a’i wraig ifanc, brydferth a deallus am iddo fod yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol.
Yr hyn sy’n fy nghalonogi i ar ddechrau’r unfed-ganrif-ar hugain yw fod y cwestiwn cenedlaethol, natur democratiaeth, a’r anghydraddoldeb cynyddol rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn ôl ar flaen yr agenda wleidyddol. Dyna pam y dylid llwyfannu drama fel Gwyntoedd Croesion unwaith eto.
Perfformiwyd Yr Anfarwol Ifan Harris gyntaf yn 1928, rhyw saith mlynedd yn ddiweddarach na Gwyntoedd Croesion ac y mae tebygrwydd rhwng lleoliadau, cymeriadau canolog a phrif themâu’r ddwy ddrama.
Digwydd y chwarae yng nghartref ‘yr anfarwol Ifan Harries’, meddyliwr athrylithgar ar bynciau gwleidyddol, cymdeithasol, crefyddol ac economaidd a adawodd Gymru’n wrthodedig a siomedig, bum mlynedd ar hugain ynghynt, am yr Unol Daleithiau. Ni chlywyd dim o’i hanes wedi iddo groesi’r Iwerydd a dyfarnwyd ei fod wedi marw yno.
Yr aclysur sy’n ysgogi’r ddrama yw cyfarfod sydd i’w gynnal yn y t_, ac a drefnwyd gan weddw’r arwr coll, pryd y dadorchuddir penddelw ohono. Gwrthwynebir y seremoni yn gryf iawn gan Ifan Harries, mab yrn ‘anfarwol Ifan Harries’, sy’n mynnu bod y fath rodres yn hollol groes i ddaliadau ac argyhoeddiadau ei ddiweddar dad, yn enwedig gan i’r pwysigion lleol a wahoddwyd i gymryd rhan yn y ddefod ddadorchuddiol fod yn elynion anghymodlon i syniadau chwyldroadol y proffwyd.
Denouement y ddrama yw dychweliad yr ‘anfarwol Ifan Harries’. Ni adawsai’r fuchedd hon yn y States – dim ond newid ei enw. Gyda chydweithrediad parod ei fab, cuddia Ifan Snr dan y gorchydd sy’n cuddio’r penddelw, a phan ddadlennir hwnnw traddoda araith danbaid yn fflangellu rhagrith, ffuantusrwydd a Philistiaeth cenhedlaeth a’i croeshoeliodd cyn ei wneud yn dduw. Yna dychwel yr anfarwol Ifan Harries i’r America gyda’i fab.
Hon yw’r ddrama wannaf o’r pedair. Mae’n ddychrynllyd o eironig ac ail-adroddus ac fel petai wedi ei llunio ar y cyd gan ddau awdur o anianawd wahanol iawn, Henrik Ibsen a P. G. Wodehouse. Roedd tipyn go lew o’r ddau yn Idwal, wrth gwrs: y beirniad cymdeithasol llym a’r digrifwr hwyliog ac yn rhai o’i weithiau mae’r ieuad yn un cymharus. Nid felly yn Yr Anfarwol Ifan Harries. Drama gymysgryw ydyw, gyda difrifoldeb a gwamalrwydd yn rhwbio’n anghysurus yn erbyn ei gilydd.
Unig gymeriad hoffus y ddrama yw David Henry, ail _r diniwed gweddw Ifan Harries. Dynion chwerw, di-hiwmor, hunan-gyfiawn yw Ifan Harries y tad a’r mab. Cymhara’r tad ef ei hun i Iesu Grist:
Ar lan Môr Galilea, flynyddau’n ôl, cyfododd g_r i bregethu syniadau newydd, ffôl, anymarferol. Fe’i croeshoeliwyd Ef, ac mae ei syniadau wedi torri ar dawelwch y byd am ddwy fil o flynyddau wedi hynny.
Gwawdlun a geir o’r weddw, Mrs Harries-Jones, snoben fawreddog, ddwl, carbwl ei Chymraeg a huawdl ei Saesneg crand; pantomime dame o gymeriad. Yn arwynebol ac ystrydebol y portrëedir cynrychiolwyr y Sefydliad Rhyddfrydol-Anghydffurfiol lleol hefyd.
A beth yn union oedd syniadau eithafol ac annerbyniol yr anfarwol Ifan Harris? Heddychiaeth yw’r unig un y cyfeirir yn benodol ato. Ond roedd bri ar heddychiaeth yng Nghymru ar ddechrau’r ugeinfed ganrif. Nid tan y Rhyfel Byd Cyntaf yr erlidwyd y sawl a’i harddelai’n gyhoeddus.
Ond er imi draethu mor feirniadol am Yr Anfarwol Ifan Harries tybiaf fod ynddi hadau, a pheth o sylwedd, drama o bwys. Dywed y proffwyd iddo fod yn weithredwr yn ogystal ag yn feddyliwr yn yr Unol Daliaethau. Fe’i carcharwyd a bu bron iddo gael ei ‘lynsho... for promoting sedition among the Southern Negroes’. Fe’i carcharwyd yr eildro, ‘ yn 1917 for inciting the American State Forces to mutiny’.
R_an ‘ta. Petai Ifan Harries wedi pregethu syniadau o’r fath yn ystod y Rhyfel Mawr buasai wedi bod yn enbyd o amhoblogaidd. A beth petai wedi areithio nid yn unig yn erbyn Militariaeth ond erbynyr Ymerodraeth Brydeinig fel cyfundrefn ormesol fyd-eang? Wedi annog y Cymry i gefnogi ac i efelychu Gwrthryfel Pasg 1916 yn Iwerddon? Wedi annerch tyrfaoedd o lowyr y De gydag A. J. Cook ac arweinwyr undebol eraill a anogai eu grandawyr i uno i ddymchwel y drefn gyfalafol? Buasai wedi gorfod ffoi o Geredigion ac o Gymru am ei fywyd. Awgrymais eisioes nad yw’r portread o Deborah, gwraig Ifan Harries, yn dderbyniol y tu allan i ffars. Gan fod ei g_r yn gymeriad mor Ibsenaidd, perthynant i ddau gonfensiwn theatrig hollol anghydnaws â’i gilydd.
Buasai Ibsen yn cydymdeimlo â Deborah. Buasai’n holi pam fod ei g_r a’i mab yn ei chasáu. Oherwydd ei bod fenyw ffôl? Pam y priododd yr anfarwol Ifan Harries hi? Awgrym gen i: oherwydd fod angen gwraig arno i guddio’i gyfunrywioldeb; y ffaith ei fod yn ‘hoyw’, fel y dywedir heddiw.Dyna ddeunydd drama.
Cofier trosedd mor ysgeler oedd gwrywgydiaeth yng ngolwg y gyfraith ddeg a thrigain o flynyddoedd yn ôl. Cofier dynged Syr Roger Casement ac Oscar Wilde o’i flaen. Petai ei elynion yn darganfod y gwir am rywioldeb anghyfreithlon rebel a chwyldroadwr a heriai awdurdod y Wladwriaeth Brydeinig, y peth callaf y gallai hwnnw ei wneud fyddai ffoi i bellafoedd byd a newid ei enw.
Gwobrwywyd Cwm Glo yn Eisteddfod Genedlaethol 1934 gan achosi cynnwrf a sgandal, fel y gwyddys. Yn wahanol i’r tair arall, nid yng nghefn gwlad y Gogledd neu’r Gorllewin y’i lleolir, ond yn y De diwydiannol, yng Nghwm Rhondda. Ac nid mewn t_ helaeth, cyfforddus, dosbarth canol y digwydd y chwarae, ond mewn ‘Partin Tan-Ddaear... Cegin T_ Glöwr... Gardd o flaen T_’r Goruchwyliwr... (a) hewl fawr o flaen T_’r Goruchwyliwr’.
Er bod Cwm Glo yn dadlennu methiant Rhyddfrydiaeth ac Anghydffurfiaeth yn dirwasgu ac yn gwyrdroi eneidiau dynion, menywod a phlant yng Nghymoedd y De, drigain mlynedd yn ôl.
Meiddiodd Kitchener Davies gollfarnu piwritaniaeth Anghydffurfiaeth am grebachu rhywioldeb a theimladrwydd naturiol y Cymry; gweithred feiddgar eithriadol yn 1934, pryd y gwelai’r enwadauj hynny fel eu priod orchwyl, eu raison d’être.
Credai y buasai Ibsen ei hun wedi dotio ar Marged, merch ffraeth nwydus, ddigywilydd y colier pwdwr, Dai Davies. Gwell gan Farged fynd i buteinio’n onest ar strydoedd Caerdydd na pharhau i hwrio’n llechwraidd yn y Cwm trwy leddfy rhwystredigaeth gwrywod parchus, fel bod ei thad yn gallu eu blacmelio.
Fel drama, nid yw Cwm Glo heb ei ffaeleddau. Mae’n rhy eiriog ac fe’i hystumir gan gonfensiynau naturiolaidd a melodramatig y cyfnod, sydd fel staes rhy dynn amdani. Collwyd cyfle i ryddhau’r grymusterau emosiynol a rhywiol sydd ymhlyg yn nrama Kitchener Davies pan lwyfannodd Cwmni Theatr Gwynedd hi rai blynyddoedd yn ôl, gan i’r cyfarwyddwr wrthod cynnig Manon Rhys, merch yr awdur, i olygu’r testun a’i ail-strwythuro mewn modd y tybiai hi y buasai ei thad yn ei gymeradwyo.
Cyhoeddyd Wedi’r Drin yng Nghyfres y Dryw yn 1943, ac mae’r cyflwyniad ar flaenddalen yr argraffiad hwnnw’n arwyddocaol:
Cyflwynaf y ddrama hon i fechgyn Cwmni 854 Y Peirianwyr Brenhinol (y cwmni mwyaf Cymraeg a Chymreig yn y fyddin Brydeinig), ac yn arbennig i Dic, Jac, Ieu, Calc, Idris, George, a Fred, er cof am y cwt haearn hwnnw yn yr Alban a’r trin a’r trafod a fu ar y ddrama hon rhwng ei furiau.
Roedd cyfansoddi Wedi’r Drin, felly, yn rhan o’r ‘trin a’r trafod’ ehangach ymhlith aelodau o luoedd arfog Prydain yn ystod blynyddoedd olaf y Rhyfel, yngl_n â sut drefn a ddylai fod ar gymdeithas pan ddeuai’r gyflafaf i ben. Y trafodaethau hynny, yn anad dim, a sicrhaoedd i’r Blaid Lafur lwyddiant ysgubol yn etholiad cyffredinol 1945. Dyma a ddywed yr awdur ei hun, yn ei hunangofiant difyr, Inc yn fy Ngwaed, am yr hyn a’i hysgogodd i sgrifennu’r ddrama:
Fel rheol, wedi gorffen drama y byddaf yn meddwl am deitl iddi, ond y tro hwn y teitl a ddaeth gyntaf – Wedi’r Drin, yr amser yr oedd pob un ohonom yn dyheu amdano. Ar ôl y Rhyfel Mawr Cyntaf, yr arwyddair poblogaidd oedd gwneud y wlad yn fit for heroes to live in. Ni chyflawnwyd yr addewid hwnnw. A sylweddolid y ddelfryd ar ôl yr Ail Ryfel Mawr?
Doedd dim gwahaniaeth mewn egwyddor rhwng y Hitler Mawr a ladratodd wledydd Ewrop a’r Hitleriaid bach a ladratodd ffermydd Cymru. Yr un rhyfel ydoedd, oherwydd yn yr un gwrthdaro yr oedd ei wreiddiau, y gwrthdaro di-ddiwedd, a fu erioed, ac a erys fyth, rhwng y sawl sy’n mynnu adwurdod ar arall, a’r sawl sy’n dymuno byw ei fywyd ei hun. Pan ddeuai diwedd ar y rhyfel yn Ewrop, ni cheid diwedd ar y rhyfel hwn. Wedi’r drin, byddai rhywun o hyd yn mynnu rheoli ein bywyd, rhyw deyrn a fynnai i eraill ddal cannwyll iddo ef wneuthur ei dwyll.
G_r ifanc o’r enw Harri Edwards, enillydd y Military Cross a Choron yr Eisteddfod Genedlaethol yw cymeriad canolog Wedi’r Drin. Dychwel Harri o’r rhyfel i bentref ei febydyn arwr, ond wedi ei chwerwi a’i ddadrithio gan ei brofiadau yn y fyddin. Gellid tybio ei fod yn dioddef o’r hyn a elwir heddiw yn post-traumatic stress disorder.
‘Hanes brwydr chwaer i ennill enaid ei brawd ac i ddod â’i ffydd a’i hyder yn ôl iddo, yw’r ddrama hon,’ medd nodyn y tu mewn i glawr argraffiad Llyfrau’r Dryw. ‘Ac yn y cefndir, gwelir rhyfel arall – y frwydr barhaus rhwng teyrn a gwreng,rhwng y werin a vested interest.’ ‘Faint gwell fyddwn,’ ebr Mair, ‘o guro Hitler, a gadael i’r mân Hitleriaid yng Nghymru feddiannu a rheoli popeth?’
Yr Hitler bach yr ymgiprys Mair ag ef am enaid ei brawd yw Syr Huw Price, tirfeddiannwr a g_r busnes mwyaf cefnog yr ardal. Mae Syr Huw’n greadigaeth mwy sylweddol na’r aelodau o’r Sefydliad Rhyddfrydol a bortrëedir yn Gwyntoedd Croesion a’r Anfarwol Ifan Harries. Swynwr a rhagrithiwr penderfynol a deallus ydyw, o’r un hil â Chapten Trefor Daniel Owen. Dengys yr areithiau canlynol ei galibr. Dangosant hefyd graffter rhyfeddol ar ran y dramodydd, John Ellis Williams, wrth iddo ragweld ym 1943 sut y byddai’r dosbarth llywodraethol yn mynd ati, ar ddiwedd y Rhyfel, i warchod ei freiniau a’i fuddiannau. A sut y deil i wneud hynny heddiw:
SYR HUW: Beth a’n hachubodd ni rhag sosialaeth ar ôl y rhyfel cyntaf? Dau beth – y gyfraith a pherchenogaeth – y ddau beth mae’r werin – (yn gwenu’n ddirmygus) – y werin dlawd! – yn eu parchu fwyaf. Fe gyhoeddwyd y General Strike yn anghyfreithlon, ac fe rybuddiwyd y bobol gyffredin ag ychydig bunnoedd yn y llythyrdy fod eu perchenogaeth hwy mewn perygl... Y papurau newyddion a enillodd y frwydr honno inni.
Propaganda!... Rwy’n gweld yn barod sut mae’r gwynt yn chwythu. Darllen y papurau – rhwng y llinellau. Mae’r mwyafrif mawr o’n hochor ni. Weli di ddim mor gyfrwys y maent wrthi, mor glyfar y maent yn taflu llwch i lygaid y werin? (Yn ddirmygus) Democratiaeth yw’r gair mawr heddiw. Insiwrans a phensiwn i bob gweithiwr – pleidlais i bawb drfos ddeunaw oed – gwell bwyd a gwell addysg i’r plant – yr un chwarae teg i bawb... Creu helynt am fân bethau – y mân ddigwyddiadau sydd yn sicr o ddyfod – er mwyn cael cadw’r dorth. Gwneud i’r werin hidlo’r gwybed iddi lyncu’r camel. Peth hawdd yw twyllo’r werin.. Dyna pam mae hi’n werin.
Petai’r amser yn caniatáu, gorchwyl diddorol fyddai cymharu Harri Edwards gyda chyfoed o Harri arall, Harri Vaughan, arwr Cysgod y Cryman, nofel boblogaidd Islwyn Ffowc Elis. Hudwyd yr Harri hwnnw hefyd gan sosialaeth ond fe’i gwrthododd gan arddel cenedlaetholdeb delfrydgar, Gwynforaidd y cyfnod.
Terfynaf hyn o ymdriniaeth o Wedi’r Drin gyda nodyn beirniadol yngl_n â’r unig un o blith y prif gymeriadau sy’n arwynebol ac yn ystrydebol, sef, Lillian Price, merch y machiafelaidd Syr Huw. Hoeden hunanol, faterol, wedi ei difetha gan ei thad; Susi Trefor arall, ond un nad yw’n dod at ei choed, ac nad yw ei chyfraniad i frwydr y dde am deyrngarwch Harri Edwards yn un sylweddol. Anghyfartal yw’r ymgiprys rhyngddi hi a’r chwaer gydwybodol am enaid yr arwr. Buasai’n frwydr llawer mwy diddorol ac arwyddocaol petai Lillian a Jesebel gyfrwysgall a phetai atyniad rhywiol pwerus rhyngddi hi a Harri.
Un o nodweddion amlycaf dramâu Cymraeg y cyfnod sydd dan sylw yw lluosogrwydd eu cymeriadau. Heddiw, yn anaml iawn y llwyfennir drama Gymraeg ac iddi ragor na phedwar cymeriad. Ai breuddwyd gwrach, felly, yw’r gobaith y perfformir rhywbryd eto Gwyntoedd Croesion (on leiaf 17 cymeriad); Yr Anfarwol Ifan Harries (o leiaf 9 cymeriad); Cwm Glo (8 cymeriad); Wedi’r Drin (9 cymeriad)? Nid pe ceid cydweithrediad a phartneriaeth rhwng y theatr broffesiynol a’r theatr amatur. Efallai yr holai rhai oni allai cymdeithas ddrama lewyrchus gynhyrchu dramâu fel hyn heb fynd ar ofyn ‘gweision cyflog’ o’r tu allan? Rwy’n si_r y gallent. Ond tybiaf mai dim ond actorion proffesiynol, llawn-amser all wneud cyfiawnder â holl bosibiliadau cymhleth cymeriadau grymus fel y Parchedig Trefnant Jones a Gomer Davies, yn Gwyntoedd Croesion, Marged a Dai Davies, yn Cwm Glo, a Syr Huw Price a Mair yn Wedi’r Drin.
Ond cyn inni ddechrau meddwl o ddifri yngl_n â’r hyjn y gallai cydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol a’r theatr amatur ei gyflawni, rhaid achub y ddrama Gymraeg o’r llanast y mae hi ynddo ar hyn o bryd oherwydd stiwardiaeth ddiddychymyg, fiwrocrataidd a threfedigaethol Cyngor Celfyddydau Cymru. Er mor enbyd yw’r sefyllfa, credaf fod achubiaeth yn bosibl, gan fod y cwango celfyddydol, trefedigaethol yn atebol i gorff etholedig, democrataidd yn awr.
Ar derfyn ymdriniaeth faith a thrylwyr o’r ymgyrch brwd a fu gan wahanol garfanau yn ystod y chwedegau a’r saithdegau tua’r nod o sefydlu thea tr genedlaethol, esbonia Elan Closs Stephens fethiant y cyfan fel a ganlyn:
Yr hyn a ddaw’n gwbl amlwg yn yr hanes, fodd bynnag, yw’r ffaith nad oedd fforwm iawn yn bod lle gellid fod wedi trafod y mater yn ddiduedd, nac unoliaeth gweledigaeth i’w gwneud hi’n bosibl trafod anghenion y wlad yn ei chrynswth.
Mae’r fforwm hwnnw’n bod heddiw, diolch i’r Cynulliad Cenedlaethol a diolch yn arbennig i Cynog Dafis, sydd wrthi’n dwyn yr arolwg o ddiwylliant yng Nghymru i ben ar hyn o bryd ac i Elin Jones, Yr Aelod dros Geredigion, a welodd gyntaf yr angen am arolwg o’r fath.
Fel y deallaf i, un o’r cwestiynau sylfaenol y mae’r Arolwg yn rhoi ystyriaeth iddo yw hwn: ‘Ai hyrwyddo diwylliant yng Nghymru yw swydd asiantaeth fel Cyngor y Celfyddydau ynteu hyrwyddo diwylliant Cymreig?’ Rwy’n hyderus mai ‘hyrwyddo diwylliant Cymreig’ yw ein blaenoriaeth. A’n bod yn gweld diwylliant fel cnwd â’i wreiddiau ym mhridd cymdeithas yn hytrach na chawodau ysbeidiol, cosmopolitanaidd, pêr a ddihidlid arnom oddi fry, gan estroniaid athrylgar. Bid sicr fod gofyn gwrteithio’n maes ni gyda dylanwadau o feysydd eraill a hau ein grawn ni yn y meysydd hynny, o bryd i’w gilydd, ond credaf yn angerddol y dylai hyrwyddo a datblygu creadigedd ymhlith pobl Cymru fod yn flaenoriaeth ym mholisi’r Cynulliad ar ddiwylliant.
Sut mae gwneud hynny ym myd y ddrama? Os ydym i fanteisio ar y cyfle a roddir inni’n awr i greu gwasanaeth theatr genedlaethol gyflawn a deniadol yng Nghymru, dylem gofio deubeth. Yn gyntaf, bod Cymru’n genedl. Yn ail, ei bod hi’n genedl wahanol iawn o ran maint, poblogaeth, hanes a chyfansoddiad cymdeithasol i Loegr a Ffrainc, y cenhedloedd yr ydym wedi bod fwyaf chwannog i ddynwared eu dramâu ac i ddyheu am feddu sefydliadau theatrig cyffelyb i’w heiddo hwy.
Ni ddylem efelychu cognoscenti Seisnig a Ffrengig sy’n dibrisio gweithgareddau diwylliannol grwpiau ac unigolion amhroffesiynol na gresynu oherwydd fod diwylliant Cymru mor ‘amaturaidd’. Yn hytrach, dylem lawenhau fod cymaint o Gymry, hyd yn oed heddiw, yn mwynhau canu, chwarae offerynnau, actio, llenydda, barddoni, paentio, ac yn y blaen. Oni fu’n wir, ym mhob oes ac ym mhob gwlad a chymdeithas a gynhyrchodd artistiaid proffesiynol o’r radd flaenaf, na fuasai ddichon i’r rheini greu eu campweithiau oni bai am ddiddordeb a chefnogaeth llu o amaturiaid ymroddgar a goleuedig.
Credaf mai un o amodau ffyniant y ddrama Gymraeg yw partneriaeth a chydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol a’r theatr amatur. Cyfarwyddwyr, actorion, awduron a thechnegwyr proffesiynol yn cyfrannu’r sgiliau a ddatblygir gan hyfforddiant ac ymarfer beunyddol, a’r gwirfoddolwyr ewyllysgar yn rhoi o’u hegni a’u brwdfrydedd; ymwybyddiaeth y garfan broffesiynol o syniadau a thueddiadau rhyngwladol yn gwarchod y gwirfoddolwyr lleol rhag plwyfoldeb a hwythau’n gyswllt bywiol rhwng Mudiad y Ddrama, fel y’i gwelid ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf, a gwerin ein gwlad. Mae datblygiad o’r fath yn bosibl.
‘Erbyn y chwedegau,’ meddai Elan Closs Stephens yn ei harolwg ym 1979, ‘y teledu oedd y prif gyfrwng adloniant yn y rhan fwyaf o gartrefi.’ Â yn ei blaen i ddisgrifio effaith hynny ‘ar ddrama yng Nghymru, yn Gymraeg a Saesneg, yn llethol, bron na ellid dweud yn drychinebus.’
Os cafodd y teledu oes aur erioed, daeth honno i ben beth amser yn ôl. Collodd cenedlaetholdeb Prydeinig ei rym ideolegol. Gallwn barchu coffadwriaeth Saunders Lewis a mawrygu ei gyfraniad unigryw i fywyd y genedl heb dderbyn pob sylw a datganiad o’ eiddo’n anfeirniadol, fel petai’n oracl anffaeledig. Dengys gwaith theatrau megis Theatr Felinfach fod cynnyrch cydweithrediad rhwng y theatr broffesiynol a’r theatr amatur yn gallu denu cynulleidfaoedd sylweddol. Efallai ein bod ar drothwy Ail Oes Aur y Ddrama Gymraeg.
awdur:Gareth Miles
cyfrol:453, Hydref 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com