Ar Sgwâr Maenclochog
TERWYN TOMOS sy’n bwrw golwg yn ôl ar Carnabwth, perfformiad panaromig yn adrodd hanes terfysg Beca a lwyfanwyd yn Sir Benfro ganol yr haf. Dyma’r gyntaf o ddwy erthygl yn edrych ar ‘sioeau cymunedol’.
Yn gynharach yn yr haf, cyn i’r tywydd poeth gyrraedd cefn gwlad Sir Benfro bûm i a thyrfa luosg yn eistedd yn y gwynt a’r glaw ar Sgwâr Maenclochog yn gwylio perfformiad yr ardalwyr o Carnabwth – sioe gymunedol ar ffurf deialog, dawns a chân yn adrodd hanes gwrthryfel Merched Beca yn nhridegau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafwyd tri pherfformiad, dair noson o’r bron, ac ar y llwyfan dros dro a godwyd ar y Sgwâr, ymddangosodd rhai degau o drigolion lleol o bob oed – gan gynnwys baban bychan ond ychydig fisoedd oed, un neu ddau o deuluoedd cyfain, a phlant Ysgol Gynradd Maenclochog – i droi sgript Hefin Wyn yn basiant bywiog i’r gynulleidfa.
Yn ystod yr awr a thri chwarter, cawsom ein tywys i Ffair Gyflogi Maenclochog, i aelwyd bwthyn unnos Carnabwth, i gapel Bethel Mynachlogddu, i Lys Barn yn Hwlffordd ac i sgubor Glynseithmaen lle bu Twm Carnabwth a’i gyfeillion yn cynllunio’r weithred hanesyddol yn erbyn tollborth yr Efail Wen. A, do, fe gawsom fynd gyda nhw i’r tollborth a gweld ei chwalu a’i losgi – a gwelsom losgi’r casglwr trethi ei hun hefyd, wrth i un o’r actorion gymerud rhan mewn stunt deilwng o un o ffilmiau James Bond. Ac wrth gyd-deithio gyda’r ffermwyr, cawsom chwerthin ar eu ffraethdineb chwedlonol (ac ar ffraethdebn cyfoes ambell actor!), ymlacio yn eu cwmni wrth iddynt anghofio’u gofidiau yn y dafarn a’r ffair, a chydymdeimlo’n llawn gyda chaledi ac anghyfiawnder eu bywyd bob dydd.
Does dim dwywaith nad oedd y gynulleidfa, mor amrywiolei hoed â’r perfformwyr, wedi cael gwir flas ar y sioe – yr oedd y gwrando astud, y chwerthin a’r cymeradwyo yn ystod y perfformiad, a’r sgwrsio a’r dadansoddi wedi iddo orffen yn ddigon o dyst eu bod yn falch o fod wedi mentro’r tywydd a dod i wylio. Hoeliwyd llygaid a chlystiau pawb ar y llwyfan, gan ganolbwyntio ar bob gair a phob symud.
Sioe gymunedol gyflawn oedd Carnabwth. Cafodd y sgript a’r gerddoriaeth eu hysgrifennu a’u cyfansoddi gan awdur a chyfansoddwr lleol. Yr oedd yr actorion – yn cynnwys nifer o newydd-ddyfodiad Saesneg eu hiaith – y cerddorion, y criw cynhyrchu a phob un a lafuriodd i droi’r patshyn gwyrdd yng nghanol Maenclochog yn theatr awyr agored am dair noson, i gyd yn byw yn y cyffiniau. Ni chafodd neb ei gau allan – os oedd awydd perfformio arnoch, roedd lle i chi ar y llwyfan.Dyma i chi draddodiad y Noson Lawen draddodiadol wedi ei drawsblannu i’r gymdeithas sydd ohoni heddiw wrth odre’r Preselau. Adlewyrchwyd adnabyddiaeth yr awdur a’r cynhyrchydd o’u tîm yn y modd y gwëwyd cryfderau perfformio unigolion a grwpiau at ei gilydd i greu cyfanwaith. Yr oedd dawnswyr cydnabyddedig yno, canwr neu ddau o statws cenedlaethol, ac roedd y dynwaredwr anifeiliaid yntau wedi cael ei briod le i ddangos ei dalent unigryw.
Codai cynnwys y cynhyrchiad yn uniongyrchol o hanes yr ardal, a hwnnw’n hanes a ddatblygodd yn chwedloniaeth, ac yn rhan bwysig o etifeddiaeth Gogledd Sir Benfro. Yn wir, yr oedd disgynyddion a pherthnasau i Twm Carnabwth yn cymryd rhan yn y perfformiad. Yn ogystal â gwrthryfel Merched Beca fel digwyddiad hanesyddol, portreadwyd bywyd y cyfnod yn ei gyflawnder – hwyl a miri’r ffair, anobaith teuluoedd yn wyneb tlodi, dicter y ffermwyr yn erbyn gorthrwm ac annhegwch. Gosodwyd y cefndir yn amlwg. Ond fe gawsom y dadlau hefyd. Nid oes gefnogaeth unfrydol i brotest mewn unrhyw oes, ac felly oedd hi yng nghyfnod Beca, mae’n si_r. Gwelsom y rhychwant cyflawn o deimladau – y penboeth o blaid, yr ofnus yn pryderu am y canlyniadau, a’r rhesymol yn mynnu mai trwy drafod yn unig y gellid newid y drefn. A gwelsom hefyd y dwyster teimlad – y digri a’r difri – sy’n datblygu ac aeddfedu wrth i gymuned o bobl gyd-ddioddef a chydweithio a thyfu’n gymdeithas.
Yna, yn goron ar y chyfan, yr oedd y lleoliad ynddo’i hun yn ychwannegu at effeithiolrwydd yr achlysur. Ni allai neb fynd ar gyfyl Maenclochog yn noson honno heb sylwi – na, teimlo – bod rhywbeth mawr yn digwydd. Er y buasai’n gwbl bosib llwyfannu’r sioe mewn neuadd neu mewn theatr, ni fyddai ei hergyd wedi cario’r un nerth. Mewn rhyw ffordd gyfrin, yr oedd y pentref ei hun yn rhan annatod o’r perfformiad – yn un o’r cymeriadau.
Nid dyma’r tro cyntaf i Glychau Clochog, y gymdeithas a drefnodd y perfformiad, wneud rhywbeth tebyg.
Llwyfannwyd y sioe Imbed, Imbed yn y flwyddyn 2000, cynhyrchiad i ddathlu goroesiad Maenclochog i’r unfed ganrif ar hugain. Yna, yn 2002, llwyfannwyd Hitsh-w! i ddathlu bywyd un o ‘gymeriadau’ y fro, y digrifwr Dilwyn Edwards. Dengys yr ymateb i’r tri cynhyrchiad fel ei gilydd bod yr ardal wedi taro ar fformat lwyddiannus ar gyfer adloniant gymunedol fodern.
Gallwn briodoli’r llwyddiant i nifer o ffactorau. Yn y lle cyntaf, bu pob perfformiad yn achlysur dros gyfnod ar gyfer y gymuned gyfan. Nid cwmni o selogion drama yn penderfynnu rhoi perfformiad oedd yma, ond cymuned yn cyd-dynnu i greu digwyddiad perthnasol ac addysgiadol a wreiddwyd yn ddwfn yn eu hanes a’u profiad nhw eu hunain. Cydnabuwyd bod gan bob carfan – beth bynnag eu hoed, iaith a thras - yr hawl i gymryd rhan, a thrwy hynny yr hawl i fod yn rhan o fywyd cymunedol yr ardal.
Yn ail, bu’r perfformiad hyn yn ymgorfforiad modern o’r Noson Lawen draddodiadol – yn glytwaith annisgwyl o’r dwl, y doniol a’r difrifol i oglais rhychwant eang o emosiynau, a hynny gan amaturiaid sydd yn barod i’w mentro hi. Mae gan rai unigolion dalentau penodol, a manteisiwyd yn llawn ar hynny. Ar y llaw arall, mentrodd ambell gymeriad ar rywbeth oedd yn hollol newydd iddo Nid oedd pob perfformiad yn cyrraedd yr entrychion, ond pa wahaniaeth am hynny? Gwerth y peth yw cael bod yn rhan o dîm yn cyd-dynnu’n gytûn – y Noson Lawen ar ei gorau, yn ymgorfforiad o fywyd cymdeithasol.
Yn drydydd, bu i arweinwyr y gweithgarwch allu sefyll yn ôl a gweld y ‘darlun mawr’ – adnabod hanfodion cymuned, bywyd a natur Maenclochog, a’u gosod fel gweledigaeth i yrru’r holl weithgarwch yn ei flaen.
Ond yn sylfaen i’r cyfan rhaid wrth waith caled. Mae’r weledigaeth ym Maenclochog, a’r ymroddiad a’r dycnwch i dorri’r weledigaeth honno yn ffaith, yn esiampl gwerth ei hefelychu. Mae breuddwydion yn bethau cyffredin, ond nid gan bawb mae’r dyfalbarhad a’r egni i droi breuddwyd yn realiti. Mae gan Faenglochog yr arweimwyr hollbwysig hynny sy’n gallu gweld lle llifa’r ffrwd gudd, greadigol sy’n bodoli ym mhob cymuned a dod â hi i’r wyneb i’w hedmygu a’i gwerthfawrogi gan bawb.
Credaf y buasai Twm Carnabwth ei hun wedi bod wrth ei fodd ar Sgwâr Maenclochog yn y gwynt a’r glaw ym mis Gorffennaf.
awdur:Terwyn Tomos
cyfrol:489, Hydref 2003
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com