Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Y Diwygiad di-ddigwyddiad

Oni bai am y canu, perfformiad fflat. Dyna ddyfarniad Dafydd Llywelyn ar Hen Rebel – drama Theatr Genedlaethol Cymru am Ddiwygiad 1904/5.

A ninnau’n byw yn oes dechnolegol yr unfed ganrif ar hugain, un ffenomen sydd yn peri cryn benbleth ac anesmwythyd i nifer yw’r berthynas honno rhwng y byd modern a chrefydd. Gyda’r holl bwyslais ar wyddoniaeth a’n hobsesiwn i geisio esbonio popeth mewn modd rhesymegol, mae rôl a chyfraniad crefydd heddiw i’w weld, ar un wedd o leiaf, yn edwino. Yn baradocsaidd, er mai lleiafrif bychan iawn sy’n mentro i addoldy y dyddiau hyn, fe barha’r ystrydeb ein bod yn genedl sy’n canu emynau wrth reddf, boed hynny ar ôl cwpwl o beintiau ar nos Sadwrn, neu mewn gwasanaethau ar fore Sul.

Er gwaetha’r dirywiad honedig mewn crefydd, bu diddordeb ysol wrth ddynodi canmlwyddiant Diwygiad 1904/05. Gyda sawl rhaglen radio a theledu, ynghyd â llu o llyfrau, wedi’u neilltuo’n benodol i ganolbwyntio ar natur a goblygiadau’r Diwygiad, roedd yn anorfod y byddai pwnc o’r fath yn ei gynnig ei hun fel testun priodol ar gyfer ymdriniaeth theatrig.

Mae’n anodd iawn i ni lwyr amgyffred cysyniad ‘diwygiad’. Wrth siarad â Luned Emyr am ei chryno-ddisg sy’n dwyn y teitl Duw a _yr, soniodd Lleuwen Steffan am Ddiwygiad 1904/05, gan ddwyn cymhariaeth gyda’r hyn a welwyd yn chwedegau’r ganrif ddiwethaf, sef y Beatlemania. Enghraifft arall y gellid ei defnyddio i gyfleu’r hysteria a deimlodd y genedl oedd marwolaeth y Dywysgoes Diana yn niwedd y nawdegau. Yn sgil y digwyddiadau hyn, gwelwyd unigolion yn ymateb yn gwbl afresymol ac eithafol. Eu cyfiawnhad neu eu hesgus am ymddygiad o’r fath oedd iddynt gael eu heffeithio a’u cyfareddu gan gryfder emosiwn.

O dderbyn hyn, gosodir cyfrifoldeb anferthol ar ysgwyddau’r actor a bortreadai Evan Roberts, y g_r a ystyrir, gan rai o leiaf, fel ysbrydolwr a thad Diwygiad 1904/05. Wrth drin a thrafod cynyrchiadau blaenorol y cwmni, yr wyf wedi cwestiynu doethineb yr egwyddor o osod rhai o’n hactorion ifanc neu ddibrofiad ar lwyfan; a chan amlaf, ystyriaf bod hoelio cymaint o sylw ar berfformiad un unigolyn mewn erthygl fel hon yn annheg. Fodd bynnag, yng nghyd-destun y cynhyrchiad hwn, credaf bod llwyr gyfiawnhad dros wneud hynny, gan fod portread David Lyndon o Evan Roberts yn gwbl allweddol i hygrededd a llwyddiant y sioe.

Yn y rhaglen, ceir y frawddeg ganlynol gyferbyn â llun o’r actor: ‘[b]u’n chwarae rhan Prince Charming mewn pantomeimiau yn rhy aml i’w cyfrif!’ Does dim dwywaith ei fod wedi serennu mewn nifer o gynyrchiadau yn y gorffennol. Mae’r rhestr faith o gynyrchiadau yn y rhaglen yn tystio i hynny. Fodd bynnag, ymddengys mai cynyrchiadau Saesneg oedd y mwyafrif helaeth ohonynt, a’r gwir amdani yw, doedd safon ei Gymraeg ddim yn safonol nac yn dderbyniol ar gyfer y cynhyrchiad hwn. Wrth i’r ddrama fynd rhagddi, y cwestiwn oedd yn mynnu fy mhrocio oedd: pam nad Rhys ap William oedd yn chwarae’r brif ran? O leiaf roedd ganddo bresenoldeb ar y llwyfan, a digon o hyder a phrofiad i argyhoeddi’r gynulleidfa. Yn anffodus, roedd dehongliad David Lyndon yn gwbl ddi-liw a llipa, ac o ganlyniad i’r diffyg hwn, roedd y cynhyrchiad yn wynebu talcen caled o’r cychwyn cyntaf.

Yn wyneb hyn, gosodwyd mwy o bwysau ar weddill y cast, a chafwyd perfformiad caboledig gan rai ohonynt, yn arbennig felly Llion Williams, Maldwyn John ac Angharad Lee. Ar ddiwedd y cynhyrchiad, Elin oedd yr unig gymeriad oedd yn ennyn rhywfaint o gydymdeimlad wrth iddi gael ei dadrithio’n llwyr gyda’i harwr a’r Diwygiad. Cyfyd hyn gwestiwn eithaf sylfaenol ond cwbl allweddol: drama am bwy’n union oedd Hen Rebel? Cafwyd pytiau a chipolwg ar fywydau sawl cymeriad yn y ddrama, ond ni ellid dweud bod yr un ohonynt yn ddigon cynhwysfawr na chrwn i hawlio’r sylw canolog.

Awgryma’r teitl mai Evan Roberts oedd canolbwynt y ddrama, ond ni chafwyd hanner digon o ddeunydd i ganiatáu i’r gynulleidfa ddod i adnabod Evan Roberts y person. Drwy gydol y cynhyrchiad, cafwyd arlliw o berthynas rhwng Wil ac Elin, ond unwaith yn rhagor, doedd dim digon o gig i’w chynnal, nac i greu chwilfrydedd ymhlith y gynulleidfa. Roedd chwarter olaf y ddrama, yn awgrymu’n gryf mai Stokes oedd y prif gymeriad, ac er mor dda oedd portread Maldwyn John ohono, i raddau helaeth roedd yn gymeriad digon stoc ac arwynebol. Roedd golygfa olaf un y ddrama lle gwelwyd etifedd Stokes yn yfed gyda’i gyfeillion yn y Gymru fodern yn 2005 yn taro rhywun yn od, ac nid oedd yn asio’n gyfforddus gyda gweddill y ddrama.

Gan nad oedd un cymeriad yn cynnig ffocws penodol i’r cynhyrchiad, roedd cynnal diddordeb y gynulleidfa cymaint yn anoddach. Wrth drafod cynnwys y ddrama ar Radio Cymru, fe soniodd y cyfarwyddwr Cefin Roberts, ynghyd ag aelodau’r cast, am eu hymgais i gynnig portread cytbwys o’r Diwygiad ac Evan Roberts. Drwy sicrhau bod dwy ochr y ddadl yn cael eu cyflwyno, ceisiant rhoi rhwydd hynt i’r gynulleidfa benderfynu drostynt eu hunain yngl_n â gwir natur y Diwygiad a chymhellion a chyfraniad Evan Roberts. Fodd bynnag, erbyn diwedd y ddrama doedd rhywun ddim yn malio ryw lawer y naill ffordd neu’r llall, a’r rheswm syml am hynny oedd nad oedd hanner digon o ddyfnder, emosiwn na chic yn perthyn i’r cymeriadau.

Yn gynharach eleni cafwyd sioe Amazing Grace o eiddo Mal Pope oedd yn trafod yr un maes yn union â chynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol. Yn sicr, roedd gwendidau’n perthyn i’r cynhyrchiad hwnnw, ond o leiaf roedd yn cynnig cipolwg ar fwrlwm ac ysbryd heintus y Diwygiad. Yng nghyd-destun Hen Rebel roedd y cyfan wedi’i dan-chwarae, ac yn achlysurol roedd rhywun yn cael yr argraff bod profiad Diwygiad yn debycach i gladdedigaeth yn hytrach na’r gorfoledd o ganfod gwir ryddid i’r enaid. Gallwn fod wedi derbyn dehongliad tywyll o’r fath pe bai natur y stori’n cyfiawnhau’r fath ymdriniaeth, ond oherwydd nad oedd y stori’n un cryf, roedd yna wacter yn perthyn i’r cyfanwaith. Er enghraifft, roedd cyfle gwirioneddol i archwilio’n drylwyr natur y berthynas rhwng Evan Roberts a’i ddilynwyr benywaidd – ond megis crafu’r wyneb a wnaed yma. Tra’n sgwrsio gyda’i gyflogwr yn y dafarn, nododd Wil bod gan bobl fwy o ddiddordeb mewn cwymp unigolion na’u dyrchafiad. Gosodiad y byddwn yn cytuno cant y cant ag ef, ond dagrau pethau oedd na chafwyd ymdriniaeth gynhwysfawr o’r agwedd hon yn y ddrama. Awgrymwyd bod gwedd dywyll yn perthyn i gefndir a hanes Evan Roberts, ond roedd fel pe bai rhyw amharodrwydd i fentro lawr y lôn honno’n ormodol. O’r herwydd roedd rhywun yn cael yr argraff mai sefyllian yn ddi-gyfeiriad ar groesffordd a wnaed.

Ar yr olwg gyntaf, roedd y set yn wirioneddol wych ac ysblennydd, ond wrth i’r cynhyrchiad fynd rhagddo, roedd rhywun yn teimlo nad oedd yn cael ei ddefnyddio i’r eithaf, ac ambell dro roedd yn ymylu ar fod ychydig yn nawddoglyd. Er enghraifft, pan gerddodd Llion Williams ar y llwyfan, gyda thâp mesur o amgylch ei wddf, ac yn cario model bren, roedd hynny’n ddigon i ddweud mai teiliwr ydoedd, a bod yr olygfa wedi’i lleoli mewn siop teiliwr. Doedd dim angen llun ar frig y set i ddynodi hynny. Yn yr un modd gyda gorsaf drenau, siawns na fyddai s_n trên wedi bod yn ddigon i gyfleu’r lleoliad, yn hytrach na chael llun sleid i’w ddynodi.

Prif rinwedd y cynhyrchiad i mi oedd lleisiau canu’r cast, ac oni bai am yr agwedd hon, byddai’r cynhyrchiad wedi bod yn fflat. Wedi dweud hynny, er nad ydwyf yn arbenigwr ar gerddoriaeth nac ar ganu, roedd y syniad fod Elin yn medru canu’n swynol hyd at y nodyn olaf yn fy nharo i bach yn od. Os yw rhywun yn tone-deaf, oni fyddai’r nodwedd honno’n amlygu’i hun drwy gydol y caneuon? Er i’r cynhyrchiad gael ei ddisgrifio fel ‘drama gerdd newydd’, ar y cyfan ychydig o ganeuon gwreiddiol a gafwyd, ac roedd hynny’n drueni, gan y byddai hynny o bosib wedi cryfhau’r cynhyrchiad drwyddi draw.

Gyda’r holl sylw sydd wedi bod yn ddiweddar i Ddiwygiad 1904/05, byddai wedi bod yn braf o beth pe bai rhywun wedi cael yr hyder a’r dycnwch i gynnig dehongliad neu bersbectif gwahanol wrth gyflwyno hanes y Diwygiad ac Evan Roberts. Byddai ffresni o’r fath wedi gwneud byd o les i’r testun, ac i’r ymdriniaeth ohono. Er enghraifft, yn y rhaglen oedd yn cyd-fynd â’r sioe cafwyd hanes y Prifardd Dafydd John Pritchard yn mentro i Los Angeles ‘gyda’r bwriad o adfer silindr cwyr ac arno recordiad o lais Evan Roberts.’ Roedd y stori syml hon yn cynnal diddordeb o’r cychwyn, a chyda ychydig bach o ddyfeisgarwch byddai wedi bod yn ddull hollol anghonfensiynol a theatrig i gyflwyno’r stori.

Drannoeth perfformiad cyntaf Hen Rebel bu’r papurau a’r wasg torfol yn sôn am honiad George Bush bod Duw wedi’i orchymyn i ymosod ar Irac. Wele ddyn mwyaf pwerus y byd yn defnyddio’r ‘Prif Awdurdod’ i gyfiawnhau’i weithredoedd, sy’n profi nad yw dylanwad crefydd yn gwbl gelain yn y gymdeithas fodern. Er gwaetha’i honiad iddo feddu ar gefnogaeth ac ewyllys da y Bod Mawr, ystyria nifer mai gwallgofddyn heb owns o synnwyr cyffredin am y byd real sy’n trigo yn y T_ Gwyn yn America. Yn eironig iawn, dyna natur y feirniadaeth a daflwyd at Evan Roberts union ganrif yn nôl – ymddengys nad yw rhai pethau’n newid dim. Er gwaetha’r holl ddatblygiadau ym myd technoleg a gwyddoniaeth, mae rhai pethau mewn bywyd yn parhau’n ddirgelwch llwyr i ni, a boed mewn tafarn neu gapel, gwelir sawl un yn canu ambell i emyn, mewn ymgais i chwilio am atebion a chysur.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:515-516 Rhag 2005/Ion 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk