y ddrama yn y Cynulliad
Mae’r Strategaeth Ddrama wedi bod dan y chwyddwydr yn y Cynulliad hefyd. Gan nad adroddwyd fawr ddim ar y trafodaethau hyn, mae theatr yn cofnodi cyfraniadau ein cynrychiolwyr etholedig.
Jenny Randerson: A yw’r Prif Ysgrifennydd yn fodlon gofyn i Gyngor Celfyddydau Cymru ohirio cyflwyno’r strategaeth ddrama newydd nes caiff y Cynulliad gyfle i adolygu’r polisi ar y celfyddydau yn ei gyfanrwydd yng Nghymru yng nghud-destun goblygiadau’r cyfleoedd a geir drwy arian Amcan 1 i addysg, cymdeithas, yr economi a thrwistiaeth?
Y Prif Ysgrifennydd: Mae’r cwestiwn yn cymysgu dau fater gwahanol. Bwriad y strategaeth ddrama newydd yw gwario mwy ar brosiectau a chynyrchiadau, hynny yw, gwario mwy ar y gweithgareddau sy’n ymwneud â phobl a llai ar adeiladau ac ar fiwrocratiaeth. Cefnogaf hynny. Ni fydd y strategaeth honno’n rhwystro cyrff celfyddydol rhag cyflwyno ceisiadau o dan Amcan 1.
Jenny Randerson: Mae rhan o’r strategaeth ddrama yn awgrymu lleihau nifer y cwmnïau yng Nghymru o wyth i bump. Byddai hynny’n arwain at golli swyddi. Er enghraifft, yng Nghaerdydd mae bwriad i dorri ar raglen ieuenctid Theatr y Sherman. Mae tua 250 o blant yn elwa ar y rhaglen honno bob wythnos yn Saesneg ac yn Gymraeg. Os torrir y rhaglen fe gollir 10 swydd. Gallai hynny hefyd beryglu cyllid i Theatr Sherman o Gyngor Sir Caerdydd, gan eu bod yn cyllidio’r Sherman oherwydd y prosiect ieuenctid hwnnw. Yr wyf yn derbyn ei bod yn bosibl bod anawsterau ymarferol ond oni fyddech yn cytuno fod moratoriwm yn briodol oherwydd pwysigrwydd sylfaenol y swyddi sy’n gysylltiedig â’r ailstrwythuro a gynigir.
Y Prif Ysgrifennydd: Ni fyddai’n iawn inni stopio gweithgareddau drama Cyngor y Celfyddydau Cymru yn stond. Yn yr ymatebion i’w hymgynghoriad eang yr oedd y farn yn gryf y dylai Cyngor y Celfyddydau gyllido llai o gwmnïau yn fwy effeithiol. Dyna a olygwn wrth sôn am gyllido llai o fiwrocratiaeth a mwy o bobl, mwy o weithgareddau; y pethau sy’n cynnig rhywbeth i bobl Cymru.
Mae’r strategaeth yn cynnwys rôl newydd i Theatr Sherman, Caerdydd wrth ddatblygu ysgrifennu newydd yn Gymraeg a Saesneg. O ganlyniad i’r dadleuon a gyflwynwyd, mae llawer o’r problemau a fynegwyd i ddechrau wedi eu datrys drwy drafodaethau.
Elin Jones: A yw’r Prif Ysgrifennydd yn cytuno mai’r prif reswm pam na ellid gohirio strategaeth ddrama Cyngor Celfyddydau yw oherwydd bod arian ychwanegol yn mynd i Clwyd Theatr Cymru eleni er mwyn creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Saesneg a bod yr arian ychwanegol hwnnw yn dod o arbedion ariannol a wneir drwy leihau nifer y cwmnïau theatr pobl ifanc yng Nghymru o wyth i bump? Er bod y cynllun a’r arian eisioes yn bodoli ar gyfer creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Saesneg, mae’n amlwg o gynllun corfforaethol y Cyngor Celfyddydau nad oes cynllun nac arian ychwanegol ar gyfer creu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Cymraeg. A wnaiff y Prif Ysgrifennydd sicrhau bod Tom Middlehurst yn gallu darparu cyllid digonol i ariannu cwmni drama cenedlaethol cyfrwng Cymraeg yn ogystal â Clwyd Theatr Cymru?
Y Prif Ysgrifennydd: Y syniad yw cael yr arbenigedd a sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio’n effeithiol. Bydd y strategaeth yn sefydlu Theatr Clwyd fel theatr genedlaethol cyfrwng Saesneg. Bydd hefyd yn datblygu theatr genedlaethol iaith Gymraeg newydd yng ngogledd Cymru. Mae yna ddatblygiad a fydd yn sicrhau pethau y bydd pawb yn y Cynulliad yn eu cefnogi. Wrth gwrs, pan geir newidiadau, bydd rhai pobl yn anhapus. Fodd bynnag, dyma sut mae’r arian yn cael ei ddefnyddio i weithredu’n fwy effeithiol ac i ddefnyddio doniau pobl mewn modd gwell.
awdur:Barn
cyfrol:441, Hydref 1999
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com