Theatr a’i haml-gyfryngau
Eddie Ladd ac Al Pacino EMYR EDWARDS sy’n trafod perfformiad diweddaraf Eddie Ladd a’r modd mae’n gweu theatr, dawns a ‘hip-hop’ ynghyd.
Yn ei hymchwil ddiweddaraf i fyd aml-gyfryngol y theatr avant garde, y mae Eddie Ladd, y ddawnswraig amryddawn ei thechnegau, yn portreadu Al Pacino yn ei dro yn chwarae rhannau Tony Montana, Frank Lopez a nifer o giangstars eraill, yn gyfeillion ac yn elynion, o’r ffilm Scarface.
Yr oedd Eddie wedi lleoli’r cynhyrchiad hwn yn theatr fechan Chapter yng Nghaerdydd, gofod priodol ei faint i’r fath arbrawf arbenigol.
Y mae defnydd Eddie o ofod ac offer technegol bob amser yn wefreiddiol, wrth iddi gynllunio ei chyflwyniadau aml-gyfryngol yn ôl natur ei deunydd.
Patrwm ei harbrofion yn ddiweddar fu cyfuno dwy wahanol ffynhonell, eu cyfosod a’u gweu’n ddeunydd cyfansawdd, a hynny am fwy nag un rheswm. Fe gofir iddi asio dwy ffynhonnell ynghyd yn ei sioe yn yr awyr agored yn Sain Ffagan ychydig yn ôl. Ar y naill law, cymrodd stori bygythiad allanol i gwm a’i drigolion y ffilm Shane, ac ar y llall, fygythiad tir-lithriad yn ei chynefin ger Abergwaun, yn Sir Benfro, digwyddiad nad oedd gan yr awdurdodau fawr o ddiddordeb ynddo. Gweodd y ddwy ffynhonnell ynghyd yn ei chyflwyniad y pryd hynny, ac un fel petai yn tanlinellu, a hyd yn oed yn dieithrio, effaith y llall. Nodwedd arall o’r dechneg ddeuol yma yw bod un ffynhonnell yn dod o du allan i ffiniau Cymru, a’r llall wedi ei seilio ar brofiad yr artist yma yn ei chynefin yng Nghymru. Mae’r ddeuoliaeth yma’n rhoi profiad a ffocws byd a betws i gynnwys a phersbectif ei gweledigaeth hi yn y theatr.
Y mae’r ddeuoliaeth hon rhwng dwy ffynhonnell yn ganolog i weledigaeth a thechneg Eddie Ladd yn y theatr. Mae’n cyfleu theatr arbrofol a theatr ddramatig a chyffrous yn llinach yr avant garde. Techneg arall sydd yn ddiddorol, ac y effeithiol, yn enwedig gan ei bod yn byw mewn gwlad ddwyieithog, yw’r sylw y mae’r perfformiwr yma’n ei roi i’r ddwy iaith frodorol.
Yn Scarface, mae Eddie yn rhannu’r llwyfan yn ddwy ran gytbwys. Ar y chwith, (sef llwyfan dde y actor) ceir lefel actio dwfn, du ei liw, yn ymestyn hyd at gefnlen glas yn y pellter. Rhwng seddi blaen y gynulleidfa a’r lefel yma, fe osodwyd camera fideo, a wynebai’r llwyfan, a’r bwriad oedd i’r teclyn hwn ddilyn pob symudiad a wnâi Eddie yn ystod ei pherfformiad ar y llwyfan yma. Fe fyddai’r delweddau hyn o’r actores yn cael eu trosglwyddo, a’u chwyddo’n enfawr ar sgrîn ar ochr dde’r llwyfan (llwyfan chwith yr actor). Ar ochr dde’r llwyfan felly, fe osodwyd y sgrîn fawr yma a lenwair hanner llwyfan yn llwyr. Wrth i Eddie actio’r prif ddigwyddiadau’r ffilm Scarface ar y chwith, yr oedd adlewyrchiad o bob symudiad o’i heiddo’n ymddangos yn enfawr ar y sgrîn.
I ychwanegu at drwch y profiad gweladwy, fe daflwyd ffilm o gartref Eddie yn Sir Benfro, a holl amgylchfyd y ffermdy hwnnw, oddi fewn a thu allan, yn ddydd ac yn nos, yn ystafelloedd ac yn ddodrefn, yn gefndir i’w pherfformiad hithau fel y llu cymeriadau giangsteraidd. I gymhlethu’r delweddau, ac i roi naws bygythiol ar brydiau, ac awgrym o ddieithrwch ar brydiau eraill, fe goreograffwyd symudiadau’r actores, ynghyd â maint ei ffurf ar y sgrîn, yn ôl cyffro’r stori giangstar, wrth i Eddie symud i mewn ac allan, fyny ac i lawr, ac ar draws ffrâm sgrîn y camera teledu, ac felly’r sgrîn fawr.
Yn gefndir i hyn oll, wrth i’r stori giangstar ddatblygu trwy ystimiau a symud a llefaru’r actores, cynlluniwyd effeithiau golau gan Dan Young a cherddoriaeth rymus gan Y Tystion , i gyd-redeg â thâp sain a gynhwysau ddarnau o drac-sain yn y ffilm ei hun, ac effeithiau amrywiol o danio gynnau a ffrwydriadau ychwanegol, ynghyd â llais Eddie yn cynnal ambell i fonolog, tra roedd hi’n portreadu’n ffyrnig o gelfydd wrthryfel y giangstars.
Yr oedd y sgript yn ddwyieithog, ac yn symud mor gyflum fel nad oedd yn anodd deall rhediad y stori ei hun. Brithiwyd y sgript gan ambell i ebychiad dychanllyd a dywediad slic, a adlewyrchai ansawdd melodramatig ffilmiau giangstar. Yn wir, yr oedd cyflymdra’r ddeialog a’r symudiadau ar brydau yn ychwanegu haen o hiwmor at y dychan bwriadol a ymddangosai ym mherfformiad Eddie.
Yn y math yma o theatr gyfansawdd, rhai i lygaid y gynulleidfa, a’u gwrandawiad, ymateb i bob eiliad o gymhlethdod y mise en scène. Math o theatr argraffiadol ydyw, techneg sydd yn gwthio technegau theatr epig gam ymhellach na golygfeydd cadwynol a sgrîn ar gyfer tafluniau. Camp Eddie Ladd yw dilyn camre traddodiad celfyddyd perfformio (performance art) gan ddefnyddio’r dechnoleg gyfredol a honno’n dechnoleg hyblyg a syfrdanol, at bwrpas arbrofi theatrig. Y mae’r effaith yn y pen draw, ar y naill law’n ymestyn grym y delweddau dramatig, ac ar y llaw arall yn gymorth i danlinellu ac i ddieithrio’r deunydd a hwyrach y neges.
Ond y dieithrio mwyaf cynhyrfus, ac eironi mwyaf amlwg y cynhyrchiad efallai, oedd cyfosod corff main a wyneb bachgennaidd yr actores yma, a hithau yn ei gwisg gangsteraidd lwyd, ag antics gwydn, llysnafeddog y cymeriadau anifeilaidd yr oedd hi’n eu portreadu mor gynnil a chelfydd.
Tour de force y perfformiad oedd y foment y bachodd yr actores ei chymeriad wrth raff a hongiai o’r nenfwd, gan ddefnyddio’r teclyn i awgrymu symudiadau erchyll ei harwr wrth iddo gael ei saethu’n ddidrugaredd, gan wingo a neidio, llithro a sleifio i’w farwolaeth, gan swingio yno o’i fola fel ysgerbwd pry copyn.
Y mae gwir angen profiadau theatrig o’r math yma ar y theatr Gymraeg dlawd ei chynnwys y dyddiau hyn er mwyn cynnal gwefr ynddi, a hefyd er mwyn dangos mor gyfoethog yw haen yr avant garde ym myd theatr.
awdur:Emyr Edwards
cyfrol:453, Hydref 2000
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com