Romeo, Romeo, Lle Goblyn Oeddach Chdi?
Dafydd Llywelyn sy’n adolygu cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru o Romeo a Juliet.
Gyda’r rhyfel yn Irac a’r newyn yn Sudan, braf yw gweld nifer o bapurau’r wasg Llundeinig yn hoelio’u sylw ar fater pwysig y dydd: pwy yw’r celeb sy’n mynd i gipio’r anrhydedd o fod yn frenin neu frenhines y jwngl. Yma yng Nghymru, er bod ambell i fwnci wedi ceisio dwyn y sylw a’r penawdau gyda sylwadau bachog am Ganolfan y Mileniwm ym Mae Caerdydd, yng nghyd-destun y celfyddydau, gwelwyd y cyfryngau’n rhoi cryn sylw i ddadl yn ymwneud â chynhyrchiad diweddaraf y Theatr Genedlaethol.
Yn ystod yr wythnosau diwethaf gwelwyd cyhuddiadau lu yn cael eu gwneud yn dilyn llwyfannu Romeo a Juliet y Theatr Genedlaethol. Ar y naill law, braf oedd gweld a chlywed yr holl ddadlau ac anghytuno a gafwyd yn dilyn sylwadau Ceri Sherlock am rinweddau a ffaeleddau’r cynhyrchiad a chyfarwyddwr artistig y cwmni. Gyda’r theatr a’r ddrama yng Nghymru wedi profi cyfnod eithriadol o hesb yn ystod y degawdau diwethaf, mae’r ffaith i’r ddadl fod mor danbaid a checrus yn profi bod rhai’n parhau i wirioneddol boeni am y theatr a’r ddrama Gymraeg, ac yn hynny o beth rhaid croesawu’r fath anghytuno. Yn nodweddiadol o’n diffyg hyder fel cenedl, cafwyd ambell un yn gofidio am ddadl o’r fath, gan honni bod y cyfan yn hyll, di-angen, ac hyd yn oed yn ymylu ar fod yn embaras. Ond gwendid amlwg yn hanes diweddar y ddrama Gymraeg yw fod apathi a diffyg brwdfrydedd wedi’i nodweddu. Pe bai pob cynhyrchiad yn ysgogi trafodaeth o’r fath, efallai y byddai cyflwr y theatr yng Nghymru yn dipyn iachach a chryfach.
Ar y llaw arall, roedd rhai agweddau ar y ddadl a’r cecru yn dueddol o droi yn eu hunfan ac yn ymylu ar fod yn or-bersonol. Ni welaf fawr o ddiben bellach mewn trafod yr egwyddor a ddylid cael Theatr Genedlaethol neu beidio. Er bod rhai’n parhau i frygowthan a chwyno fod bodolaeth y Theatr Genedlaethol yn wastraff o adnoddau ac arian prin, mae’r cysyniad bellach yn reality. Dydy rhygnu ymlaen am ddioddefaint y cwmnïau llai sy’n gorfod byw yng nghysgod y Theatr Genedlaethol, yn gwneud dim ond llesteirio’r drafodaeth. O ran tegwch i Lynn Jones, mae wedi dweud fwy nag unwaith na fyddai’n fodlon parhau yn ei swydd fel Cadeirydd y Theatr Genedlaethol pe byddai’r sefydliad hwnnw yn derbyn cynhaliaeth ar draul y cwmnïau llai. Yn bwysicach efallai, a ninnau mor hoff o ddatgan ein bod yn perthyn i ddiwylliant greadigol a ffyniannus, siawns nad oes posiblrwydd i’r ddwy haen gyd-fyw a chyd-fodoli.
Er i rai bryderu am effaith yr holl ddadlau ac anghytuno diweddar hyn, mae’n amlwg nad oedd wedi amharu’n ormodol ar y gynulleidfa, oherwydd wrth gerdded i mewn i’r Sherman yng Nghaerdydd, gwelwyd yr awditoriwm yn llawn, sy’n brawf pellach bod ’na rywfaint o adfywiad yn y diddordeb yn y theatr. Rhaid cyfaddef mai mynd yno fel lleygwr oeddwn i y noson honno. Nid wyf yn honni am eiliad mod i’n meddu ar ddigon o wybodaeth, nac arbenigedd, i allu trafod gweithiau Shakespeare gydag unrhyw fath o arddeliad. Fodd bynnag, o’r ychydig yr wyf yn ei ddeall, prif nodwedd a rhinwedd Shakespeare, dybiwn i, yw ei ddefnydd cyfoethog o’r iaith Saesneg. Mae gennyf gof o eistedd yn Theatr Gwynedd ar ddechrau’r nawdegau yn gwylio cynhyrchiad o Hamlet yn y Gymraeg, a theimlo’n gwbl syrffedus, gan benderfynu yn y diwedd i fynd ati i gyfri faint o seddi oedd ymhob rhes o fewn yr awditoriwm. Nid dweud ydw i na ddylid gwneud cyfieithiadau yn arlwy theatrig. Yn y gorffennol gwelwyd cyfieithiad y Prifardd T. James Jones o waith Dylan Thomas Dan y Wenallt a chyfieithiad yr Athro Gareth Jones o’r Gelli Geirios yn taro deuddeg. Ond, ac mae hwn yn ‘ond’ eitha’ sylweddol, ystyriaf Shakespeare yn unigryw, a rhaid cwestiynu a yw ei waith yn addasu ac yn cyfieithu’n naturiol ac effeithiol i’r Gymraeg. Cyfyd un cwestiwn sylfaenol arall mewn perthynas â chyfrwng ieithyddol y cynhyrchiad diweddaraf hwn. Yng nghanol y ddrama gwelwyd rhai o’r cymeriadau’n newid i’r Saesneg, a hynny’n gwbl annisgwyl. Os penderfynu gwneud cyfieithiad Cymraeg o’r ddrama, yna siawns na ddylai’r holl destun fod yn yr iaith honno. Drwy fabwysiadu’r iaith fain, perwyd dryswch a phenbleth ymhlith y gynulleidfa, gan amharu ar hygrededd yr holl gynhyrchiad.
Fel yng nghynhyrchiad cyntaf cyntaf y cwmni, Yn Debyg Iawn i Ti a Fi, y peth cyntaf y sylwais arno wrth gerdded i mewn i’r awditoriwm oedd y set enfawr. Ac unwaith yn rhagor, drwy gydol y chwarae, y cwestiwn roedd rhywun yn dueddol o ofyn oedd, a wneir y defnydd gorau o’r llwyfan a’r set? Yr ateb syml a phlaen oedd ‘na’, ac yn eironig iawn, er bod y set yn honglad o beth, mewn ambell i olygfa doedd prin dim lle i’r actorion symud.
Gwendid pennaf y cynhyrchiad i mi’n bersonol oedd y diffyg angerdd a berthynai i’r cymeriadau. Christine Pritchard oedd seren y sioe. Cafwyd perfformiad gwir gaboledig ganddi, ac roedd yna gic a thân yn ei pherfformiad. Wedi dweud hynny, er mor dda ydoedd, y gwir amdani yw dylai’i chyd-actorion fod wedi bod o’r un safon â hi yn gyson. Roedd actorion megis Christine Pritchard, Maldwyn John a Wynford Ellis Owen ill tri’n ddigon cryf i allu cario’r baich a ddisgwylwyd ganddynt, ond roedd yn gwbl amlwg bod y cyfan yn ormod o fedydd tân i ambell un.
Gan fod ambell un yn stryffaglu cymaint gyda’u geiriau - i’r fath raddau fel eu bod yn anghofio’n achlysurol eu bod ar y llwyfan i actio’n ogystal – doedd rhai o’r actorion ddim yn argyhoeddi. Ag eithrio Rhian Blythe a chwaraeai Juliet, ac Owen Arwyn, roedd diffyg profiad mwyafrif o’r actorion ieuengaf yn gwbl amlwg. O ganlyniad i’r diffyg enaid a berthynai i’r portreadau o’r cymeriadau, erbyn diwedd y ddrama doedd fawr o ots gennyf am ddiwedd trasig y ddau gariad. Heb amheuaeth mae rhaid rhoi cyfle i’r genhedlaeth ifanc ac actorion ifanc fwrw prentisiaeth, ond rhaid cwestiynu doethineb gadael i rai mor ddi-brofiad chwarae rhannau mor amlwg mewn cynhyrchiad o’r fath. O gofio’r ffaith bod Theatr Genedlaethol i fod yn binacl y ddarpariaeth theatrig yn y Gymraeg, yna teg yw disgwyl i’r actorion sy’n rhan o gynhyrchiadau’r cwmni fod wedi llwyr meistroli’u crefft, a’u bod yn edrych yn gwbl hyderus a chyfforddus ar y llwyfan. Ar ddechrau’r erthygl hon, cyfeiriwyd at y ffaith bod mwy na digon o gyfiawnhad i gynnal dwy haen o ran cwmnïau theatr, ac yng nghyd-destun actorion newydd neu llai profiadol, gall y cwmnïau llai hyn fod yn ysgol brofiad gwych iddynt. Derbyniaf ei bod yn bwysig i’r actorion ifanc gael cyfle i weithio gyda’r Theatr Genedlaethol, a mawr fu’r ganmoliaeth am eu rhan yn y arlwy a gafwyd yn Eisteddfod Casnewydd i ddynodi canmlwyddiant geni’r dramodydd John Gwilym Jones. Fodd bynnag, roedd perfformiad ambell i actor yn Romeo a Juliet yn gwbl wan a di-fflach.
Yn olaf, er bod perfformiad Wynford Ellis Owen yn ddigon twt, nid wyf yn gwbl argyhoeddedig ei fod yn beth doeth i aelod o Fwrdd Rheoli y cwmni gymryd rhan yn un o’i gynhyrchiadau.
Yr wyf eisoes wedi mynegi mewn erthyglau blaenorol y farn bod Cefin Roberts yn gymeriad sy’n ennyn ymateb tanllyd o’r ddwy ochr, a go brin bod hynny’n mynd i newid bellach. Gydag ond cwta naw mis ers iddo gael ei benodi i’r swydd, mae’n ffolineb llwyr galw am ei ymddiswyddiad. Yn ôl ei gyfaddefiad ei hun, mae’r cyfnod cychwynnol wedi bod yn dalcen caled, ac ambell i feirniadaeth wedi bod yn eithriadol o hallt a phersonol. Mae proffeil uchel a chyhoeddus yn nodweddion anorfod o’r swydd, a’r gwir amdani yw ein bod yn byw mewn oes a diwylliant lle mae amynedd yn rhinwedd rhy brin o’r hanner. Rhaid rhoi cyfle i’r cwmni a’r cyfarwyddwr artistig setlo, dysgu o’r gorffennol, a chael yr hyder i fwrw ymlaen.
I unrhyw gynhyrchiad fod yn theatrig ac yn bwerus, rhaid tywys y gynulleidfa drwy ddrws dychymyg, a’u cyfareddu gyda’r arlwy. Yn anffodus, yn y perfformiad o Romeo a Juliet a welais i yn y Sherman, roedd rhai o’r gynulleidfa wedi penderfynu manteisio ar yr egwyl a’i heglu hi drwy’r drws. Ymddengys yn gyffredinol bod y cyhoedd yn ewyllysio llwyddiant i’r Theatr Genedlaethol, ond rhaid sicrhau nad yw’r gefnogaeth honno’n edwino nac yn pylu. Yn union fel byd y jwngl, gall byd y ddrama fod yn un digon brwnt a mileinig. Nid ar chwarae bach mae bod yn frenin y jwngl, y gamp yw meithrin croen fel eliffant, dangos dycnwch a phenderfyniad a phrofi’r gallu i arwain.
awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:503, Rhagfyr 2004
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com