Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Gobaith Wil

Gyda’r Theatr Genedlaethol wedi ei lansio ym mis Mawrth, bu DAFYDD LLYWELYN ar drywydd gwaith ein dramodwyr ifanc, gan ganolbwyntio yn arebennig ar waith Sgript Cymru.

Yn ystod yr wythnosau diwethaf, mae llawer wedi ei ddweud a’i ysgrifennu yngl_n â chyfnod allweddol sy’n wynebu nifer o’n sefydliadau. Wedi’r ffars a’r syrcas a barodd am dragwyddoldeb gwelwyd Undeb Rygbi Cymru yn coroni’r cyfan drwy gyhoeddi mai Mike Ruddock fydd achubiaeth y gêm yn dilyn ymadawiad Steve Hansen. Ac o ganlyniad i ffars drastig arall, Adroddiad Hutton, gwelir y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig yn brwydro am ei henaid a’i hannibyniaeth. Ac yn ystod mis Mawrth, cafwyd pennod newydd yn hanes y Theatr yng Nghymru gyda lansiad y Theatr Genedlaethol Gymraeg.

Er i nifer fawr dynnu sylw at agwedd broffesiynol y lansiad, bu i ambell un ddefnyddio’r wasg Gymraeg i fynegi amheuaeth yngl_n â’r defnydd a wnaed yn y cyflwyniad o waith Shakespeare. Prin bod y cwmni wedi bodoli ddwyawr nad oedd hi’n ymddangos bod rhai eisoes yn ysgyrnygu dannedd – a hynny yn gwbl ddiangen. Er efallai nad yw gweithiau Shakespeare at ddant pawb, mae’n bwysig nad ydym yn rhy blwyfol ac unllygeidiog ein gweledigaeth. Dywedir droeon bod prinder dramodwyr yn nodweddu’r theatr yng Nghymru, a chan nad oes gennym gasgliad toreithiog o ddramâu mae’n ofynnol ac – yn bwysicach efallai – yn llesol cael deunydd o ddiwilliannau a gwledydd eraill. Rhaid cael ystod eang o ddramâu a chynyrchiadau os yw’r cwmni am ennill ei blwyf, a siawns nad oes gan y Cyfarwyddwr Artistig yr hawl i ddewis a dethol y deunydd a wêl ef yn briodol ac yn addas.

Yn sgîl dyfodiad y Theatr Genedlaethol mae ambell un wedi ceisio codi bwganod yngl_n â dyfodol rhai o’r cwmnïau llai. O ran tegwch mae Lynn T. Jones, Cadeirydd y Theatr Genedlaethol, wedi datgan yn gwbwl glir na fyddai’n fodlon parhau yn ei swydd pe byddai perygl iddynt hwy. Mae unigolion a charedigion blaenllaw eraill yn y maes, megis Meic Povey, wedi mynegi yr un farn, gan ddweud y byddai eu colli yn eithriadol o niweidiol i’r ddrama yng Nghymru ac, yn ddi-os, os yw’r Theatr Genedlaethol i lwyddo, mae bodolaeth y cwmnïau llai hyn yn gwbl allweddol.

Un o’r cwmnïau hynny yw Sgript Cymru, sydd yn meddu ar swyddogaeth eithriadol o eang. Yn ogystal â llwyfannu gweithiau awduron profiadol megis Meic Povey, ceisia’r cwmni gynnig profiad a hyfforddiant i rai newydd yn y maes. Ym mis Chwefror gwelwyd y cwmni’n cydweithio â Choleg Cerdd a Drama Caerdydd, gan lwyfannu drama newydd o eiddo Roger Williams; Y Byd (a’i Brawd) (sic.). Yng nghud-destun y ddrama honno, y brif swyddogaeth oedd cynnig profiad i actorion ifanc ond, yn gyffredinol, tueddir i gyplysu enw Sgript Cymru â swyddogaeth hyrwyddo ysgrifennu newydd a cheisio meithrin darpar-ddramodwyr, gan gynnig gwasanaeth a chyfleoedd iddynt weld eu gwaith yn mynd drwy’r broses o’r papur i’r llwyfan.

Er bod Meredydd Barker wedi gweithio gydag Everyman Playhouse Theatre a Chwmni Theatr Clwyd yn y gorffenol, Buzz yw ei ddrama gyntaf yn y Gymraeg. Tra’n bwrw cipolwg sydyn dros gynnwys y rhaglen sylwais fod allwedd i eirfa’r ddrama wedi ei chynnwys, a rhaid cyfaddef i hynny wneud i mi deimlo’n ddigon petrusgar. Mae’r ddeialog yn gyfoeth o dafodiaith y gorllewin, ac fe gymerodd hi dipyn o amser i’r glyst ymgyfarwyddo â hynny. Braf oedd clywed acen ac ieithwedd mor fywiog, ond yn achlysurol roedd ceisio deall rhediad ambell i frawddeg yn cael ei wneud yn anos o ganlyniad i ddiffyg ynganiad clir yr actorion ‘fenga. Yn sicr, roedd cael actores brofiadol fel Rhian Morgan yn gymorth mawr i Gareth John Bale ac Eiry Hughes, ac roedd ei pherfformiad hi yn gyson safonol drwy gydol y cynhyrchiad.

Meddai’r sgript a hiwmor cynnil iawn, gellid dadlau ei fod yn rhy gynnil ar brydau, ac er bod ambell i ddarn nad oedd yn taro deuddeg roedd cyffyrddiadau gwirioneddol hudolus yn perthyn iddo. Pinacl y ddrama i mi yn bersonol oedd yr olygfa gyda Shandy’r ci – roedd hi’n werth talu’r pris mynediad petai ddim ond am hynny. Roedd rhywun wedi amau sbel cyn diwedd y ddrama beth oedd y gwir am berthynas Ifan a Mair, ond fe gynhaliwyd diddordeb y gynulleidfa yn sgîl nodweddion eraill y cynhyrchiad. Wrth adael y theatr, roedd rhywun yn cael yr argraff bod gwir botensial yn y ddrama a’r syniad, ac efallai na wyntyllwyd pob agwedd yn gyflawn. Ar yr olwg gyntaf, fe ellid gweld hyn fel beirniadaeth, ond ar y llaw arall fe gyfyd hyn bwynt hollbwysig o safbwynt rôl a gwerth cynhyrchiad o’r fath. Fel yng nghyd-destun yr ymateb i ddrama Past Away o eiddo Tracy Harris, efallai bod rhai agweddau o’r cynhyrchiad nad oeddynt yn taro deuddeg ac yn gwbl slic, ond yr hyn sy’n bwysig yw y rhydd gyfle i ddramodwyr ennyn ymateb i’w gwaith. Yn wahanol i ffurfiau eraill ar lenyddiaeth ni welir unrhyw ddrama yn ‘gyflawn’ nes ei bod ar y llwyfan ac, o ganlyniad, mae rhinweddau a ffaeleddau awdur i’w gweld yn llawer amlycach. Roedd diffygion yn perthyn i Buzz, ond roedd sawl rhinwedd yn perthyn iddi hefyd, a rhaid rhoi penrhyddid i gwmnïau gael mentro gyda sgriptiau a dramodwyr newydd.

Nid Sgript Cymru yw’r unig gwmni sy’n ceisio annog ‘sgwennu newydd. Gwelwyd Gwyneth Glyn, awdures ifanc sy’n brysur ennill ei phlwyf, yn gyfrifol am gynhyrchu ei drama ei hun, Ar y Lein, arlwy ddiweddaraf Bara Caws. Ymdrinir â’r ddrama hon yn fanylach mewn erthyglau eraill o fewn y rhifyn hwn, ond yr hyn oedd yn amlygu’i hun wrth ei gwylio oedd ymateb y gynulleidfa i’r cymeriadau ar y llwyfan. Er efallai bod deg munud cyntaf y ddrama yn dueddol o lusgo, wrth i’r ddrama fynd rhagddi roedd rhywun eisiau gwybod pa mor gywir oedd proffwydolaeth Brenda o safbwynt gwerth cyfranddaliadau gwahanol gwmnïau a sut effaith a gâi hynny ar fusnes Daniel. Yn y cynhyrchiad hwn gwelwyd dau actor, mwy pofiadol a chadarnach eu crefft, yn llwyddo i ennyn diddordeb y gynulleidfa. Wedi dweud hynny, roedd naws naturiolaidd Ar y Lein yn ei gwneud hi’n haws i uniaethu â’r rhai a welwyd yn Buzz, lle roedd rhaid i’r gynulleidfa weithio’n galetach er mwyn dilyn rhediad y stori a’r cymeriadau.

Er y gall proses meithrin a hogi sgiliau dramodydd fod yn un anodd a chaled, fe ddylid argyhoeddi’r unigolion hynny o werth bwrw prentisiaeth o’r fath, fel y tystia cynhyrchiad cyfredol arall o eiddo Sgript Cymru sef Ghost City gan Gary Owen. Rhag i rai ohonoch chi feddwl, fel y ddynes siomedig oedd yn eistedd nesaf ataf, nid y darlledwr newyddion cyfeillgar a glywir ac a welir ar S4C a’r radio yw awdur y ddrama. Y dramodydd yw awdur Crazy Gary’s Mobile Disco ac Amser Canser, ac un y cyfeiriwyd ato yng ngholofnau’r Western Mail yn gynharach eleni fel awdur a fydd yn gwneud ei farc ym myd y theatr eleni. Yn sicr, os yw Ghost City yn ffon fesur o’i waith, yna mae dyfodol disglair o’i flaen. Cyfres o fonologau a geir yma, pob un yn cynnig llais i eneidiau coll sy’n crwydro strydoedd ein prifddinas. Er y gellid fod wedi tocio ambell i ddarn roedd y cyfanwaith yn gryf a’r cynhyrchiad yn clecian, ac yn sicr roedd yn ddarn theatrig iawn.

Ddiwedd Chwefror eleni gwelwyd cwmni Mega yn cychwyn teithio gyda drama Gwenlyn Parry, Panto. Er bod modd dadlau nad hon yw ei ddrama orau, cafodd y cynhyrchiad hwn groeso gwresog yn Theatr y Sherman, ac er bod codi tâl o ddwy bunt am raglen gythreulig o denau yn hyfdra o’r mwya’, roedd y cynhyrchiad yn un hynod o raenus a braf oedd gweld cynulleidfa niferus yn y theatr yn mwynhau ac yn glana chwerthin. Bu i’r cwmni hwn lwyfanu Perthyn o eiddo Meic Povey y llynedd, ac er nad oedd rhai agweddau o’r cynhyrchiad hwnnw yn llwyddianus – megis y defnydd o’r sgrîn fideo enfawr – tystia’r ddau gynhyrchiad i allu diamheuol Parry a Povey. Bodau prin iawn yw awduron o’r fath, a nod a swyddogaeth Sgript Cymru, ynghyd â chwmnïau eraill, yw chwilota’n ddigyfaddawd am yr unigolion hynny a’u siapio a’u meithrin ar gyfer y dyfodol. Yn sicr, roedd Buzz ac Ar y Lein yn gynhyrchiadau gwahanol iawn i’w gilydd, ond yn brawf pendant bod dyfodol disglair i Meredydd Barker a Gwyneth Glyn.

Gyda lansiad y Theatr Genedlaethol fe egyr pennod newydd yn hanes y Ddrama yng Nghymru, ac mae elfen cydweithio yn un gwbwl allweddol os yw’r maes i ffynnu a llwyddo unwaith yn rhagor. Yng nghyfnod cynnar ein Cynulliad Cenedlaethol bu cryn ddefnydd ar y term ‘gwleidyddiaeth gynhwysol’, gyda’r gobaith y byddai unigolion o bob plaid yn cydweithio a chyd-dynnu er lles ac esblygiad gwleidyddiaeth ein gwlad. Er i egwyddor o’r fath fynd yn angof yng nghyswllt gwleidyddiaeth Cymru, rhaid ceisio sicrhau nad dyna fydd yn digwydd yng nghud-destun y Theatr yng Nghymru. Yn y diwedd nid oes ddiben cael Theatr Genedlaethol os na cheir cwmnïau llai i’w bwydo a’i chefnogi’n gyson. Os llwyddir i wneud hyn yna efallai, rhyw ddydd, gellir dweud gyda balchder bod storfa dramâu safonol Cymraeg yn orlawn, a gellir rhoi Wil i’w wely unwaith ac am byth.

awdur:Dafydd Llewelyn
cyfrol:495, Ebrill 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk