I Glustiau Plant Bychain
Un o’r sectorau mwyaf llwyddiannus yn y theatr Gymraeg yw theatr i blant. Jeremy Turner sy’n sôn am ei llwyddiant.
Mae'n debyg i'r rhan fwyaf o bobl gysylltu'r cysyniad o theatr i blant â phantomeim. Ond er difyrred yr hwyl flynyddol honno nid dyna'r unig fath o theatr i blant a phobl ifanc a geir yng Ngymru, a thu hwnt; yn wir mae'r panto blynyddol ond yn un digwyddiad ymhlith llawer ar galendr y theatr Gymreig. Y llynedd perfformiodd Cwmni Theatr Arad Goch i ryw ddeng mil o blant wrth gyflwyno ei waith theatr-mewn-addysg mewn ysgolion ac i ryw ddeng mil arall wrth ddarparu cyflwyniadau theatr (nad ydyw'n theatr-mewn-addysg) i gynulleidfaoedd ifanc mewn amrywiaeth o leoliadau - yn theatrau, neuaddau cymuned, canolfannau ieuenctid a neuaddau ysgol min nos. Gan fod wyth cwmni theatr-mewn-addysg yng Nghymru (a phob un ohonynt yn darparu theatr arbenigol yn eu hardaleodd penodol sydd, fwy neu lai, yn cyfateb i ffiniau'r wyth hen sir) mae'n debyg bod rhwng 70,000 ac 80,000 o blant a phobl ifanc yn gweld o leiaf un cynhyrchiad theatr byw yn eu hysgolion bob blwyddyn. O ystyried fod yr wyth cwmni ar y cyd yn derbyn llai o arian gan Gyngor y Celfyddydau na rhai o'n cwmnïau 'cenedlaethol', mae cynulleidfa o 80,000 yn gynulledifa deilwng iawn y byddai nifer o sefydliadau a chwmnïau theatr yn ei chwenychu.
Syndod, felly, na chlywir mwy am y performiadau yma yn gyhoeddus yn y wasg nac ar y cyfryngau. Pur anaml y gwelir cyfeiriad yn Barn at gyflwyniad theatr-mewn-addysg; nid yw Golwg ychwaith â diddordeb yn y maes oni bai fod yna ryw 'scwp' neu 'ongl' (cyfryngol neu negatif, gan amlaf) yn cael sylw; ac mae ein hannwyl bapur cenedlaethol, y Western Mail, yn rhy brysur yn edrych tuag at Lundain a'r Unol Daleithiau am straeon y sêr i boeni am y theatr a greïr yn arbennig ar gyfer plant bach Cymru.
Ond nid syndod ychwaith, gan nad yw theatr-mewn-addysg yn weithred sydd yn dibynnu ar sêr a sylw er mwyn cyrraedd ei chynulleidfa. Dros y blynyddoedd mae'r cwmnïau theatr-mewn-addysg yng Nghymru wedi magu perthynas agos iawn gyda'r ysgolion yn eu dalgylchoedd a cheir cydweithrediad parod a brwd athrawon a phenaethiaid. Ceir ymatebion gonest hefyd - rhai yn canmol ac eraill yn feirniadol - gan athrawon a phlant fel ei gilydd. Ac mae'n debyg fod y parodrwydd i dderbyn a chymryd sylw o sylwadau a beirniadaeth adeiladol wedi cyfrannu at lwyddiant, parhad a thwf theatr-mewn-addysg yng Nghymru. Yn ogystal, mae rhan helaethaf ein cynghorau sir (er, ysywaeth, nid pob un ohonynt) yn rhan o'r ddarpariaeth gan gyfrannu yn ariannol at y gwaith. Ond yn bwysicach na'r arian weithiau yw'r bartneriaeth a geir rhwng artistiaid ac athrawon neu swyddogion addysg wrth iddynt rannu syniadau, adnoddau, amser ac ysbrydoliaeth er mwyn creu cyflwyniadau theatraidd dyfeisgar sydd yn addysgiadol, yn adloniadol, yn heriol, yn ymestynnol ac sydd yn rhoi'r plentyn - a'i sefyllfa, ei deimladau, ei ddyheadau, ei ofnau a'i fywyd - yng nghanol y weithred greadigol.
Mae theatr-mewn-addysg a theatr i gynulleidfaoedd ifanc yng Nghymru yn rhan o fudiad byd-eang a gynrychiolir gan ASSITEJ (l'Association Internationale du Théâtre pour l'Enfance et la Jeunesse - Cymdeithas Ryngwladol ar gyfer Theatr i Blant a Phobl Ifanc - www.assitejuk.org). Mae’r mudiad hwn yn gweithredu er mwyn hybu ac hyrwyddo theatr i gynulleidfaoedd mewn dros 70 o wledydd ac er bod natur y gwaith yn amrywio yn fawr iawn, mae rhai o’r problemau a wynebir yn gyffredin i bob gwlad.
Yr hyn sydd yn uno aelodau ASSITEJ ledled y byd yw eu hymgais i greu theatr o’r safon uchaf posib ar gyfer y gynulleidfa bwysicaf - a hynny oherwydd fod plant a phobl ifanc yn haeddu ac yn disgwyl y gorau o bopeth. Mae gan blant a phobl ifanc ddisgwyliadau uchel iawn; clywir weithiau, gan rywun sydd yn dyst newydd i berfformiad theatr-mewn-addysg, ‘Sut lwyddoch chi i gadw eu sylw am awr gyfan?’. Mae'r ateb yn amlwg i bob athro da - ‘Rhowch rywbeth da, synhwyrol i blentyn ac fe gewch ymateb da a synhwyrol yn ôl.’ Wrth gwrs mae'r gwrthwyneb yn wir hefyd ac er mwyn sicrhau'r safon uchaf posib mae artistiaid theatr-mewn-addysg yn treulio amser hir yn ymchwilio, dyfeisio, trafod a pharatoi er mwyn deall anghenion a disgwyliadau'r gynulleidfa a darparu ar eu cyfer.
Wrth gwrs, mae disgwyliadau cynulleidfa a'r confensiwn o wylio perfformiad theatrig yn amrywio yn ôl profiad y gwyliwr. Pan awn ni, yn oedolion parchus yn ein doethineb a'n dillad smart, i'r theatr fe wyddom, fwy neu lai, yr hyn a ddisgwylir gennym: deallwn yn iawn y confensiwn o fynd i'r lle tywyll i eistedd yn fud; gwyddom sut i ddarllen yr ymddygiadau dramatig, y symbolau a'r delweddau theatraidd; a gwyddom pryd i gymeradwyo a mynd i'r bar. Fodd bynnag, mae'r confensiynau hyn, a llawer mwy, yn ddieithr i blant, yn enwedig i blant bach; golyga hyn fod yn rhaid i ni, yr artistiaid theatr-mewn-addysg, beidio â chymryd dim byd yn ganiataol; mae’n rhaid dethol ein deunydd a delweddau yn ofalus iawn: digon hawdd yw drysu, dychryn neu ddieithrio cynulleidfa.
Ond ni olyga hyn y gall theatr i blant 'chwarae lawr'. Mae yna wahaniaeth rhwng ‘theatr blentynaidd’ a ‘theatr i blant’. Mae'r gyntaf, mae'n debyg, yn trin plant fel cynulleidfa is-raddol ac anneallus, wrth eu cynhyrfu er mwyn rhyw 'cheap laffs' - yn debyg i'r hyn a geir mewn nifer gynyddol o raglenni teledu i blant. Anela'r ail at geisio cwrdd â'r gynulleidfa ar delerau cyfartal er mwyn cyd-ymchwilio a chyd-ddarganfod. Creu theatr gyflawn yw'r nod, theatr deimladwy a chyfoethog sydd yn cynnig drych profiad i'r gynulleidfa ac yn agor drws dychymyg, wrth ymhel â dwyster thema neu bwnc mewn ffordd sydd yn parchu safle a disgwyliadau ei chynulleidfa. Un o atyniadau theatr-mewn-addysg i nifer o artistiad theatr yw ei agosatrwydd. Gall 30 neu 60 o blant a phedwar neu bump o actorion anghofio eu bod mewn neuadd ysgol a mynd ar daith theatraidd ddychymygol gyda'i gilydd ar long i Amerig y bedwaredd ganrif ar bymtheg, neu i ymuno â gweithwyr pyllau glo y 1920au i drafod eu hachos, neu eistedd mewn llys barn, ac wedi awr o berfformiad, trafod dedfryd dau grwt a gyhuddir o ddyn-laddiad wedi iddynt daflu carreg oddi ar bont uwchben traffordd. Ac mae'r fath agosatrwydd yn mynnu didwylledd yn y cymeriadu, hygrededd yn y sefyllfa a theatricalrwydd dyfeisgar: does unman i guddio na llawer o dechnoleg i ddibynnu arno. Ac nid ar chwarae bach mae wynebu 60 o blant am hanner awr wedi un y prynhawn ar ôl iddynt fwyta llond bola o fwyd ysgol ac chael hanner awr o redeg ar iard wyntog!
Atyniad arall theatr-mewn-addysg, wrth gwrs, yw'r rhyddid creadigol mae'n ei gynnig. Gan na chyfyngir y gynulleidfa gan ragdybiaethau a chonfensiynau, ni chyfyngir yr artistiaid ychwaith ac erys theatr-mewn-addysg a theatr i gynulleidfaoedd ifanc yn weithred o ymchwilio, o arbrofi ac o ddarganfod. Tra y gall y 'theatr gonfensiynol' guddio beiau cyfarwyddo a pherfformio y tu ôl i dechnoleg ddrud, mae theatr-mewn-addysg, oherwydd ei fod yn hanesyddol yn dlawd ac oherwydd natur agosatoch y gwaith, wedi gorfod manteisio ar ddyfeisgarwch a newydd-deb; theatr ymestynnol ydyw - yn ei phrosesau creadigol ac yn y profiadau a rydd i'w chynulleidfa.
************
Mae llawer o waith theatr-mewn-addysg yn ymwneud â statws pobl ifanc, eu dyheadau a'u hunaniaeth ddiwylliannol. Mae'r pynciau yma'n arbennig o amlwg wrth drafod a chreu theatr i gynulleidfaoedd ifanc mewn iaith leiafrifol, neu mewn diwylliant dwyieithog.
Datblygodd y theatr gonfensiynol yng Nghymru fel rhan o brif-ffrwd theatr naturiolaidd gorllewin Ewrop. Yn ystod y 30 mlynedd ddiwethaf, fodd bynnag, gwelwyd llawer o ymchwilio ac arbrofi er mwyn creu technegau, ffurfiau ac arddulliau theatraidd amgenach na'r confensiynol. Dylanwadodd nifer o elfennau pwysig ar y datblygiadau hyn.
Yn gyntaf trodd nifer o artistiaid theatr Cymru'r 80au a 90au eu cefnau ar ddylanwadau'r theatr Saesneg, yn enwedig ym myd theatr i blant, gan edrych tuag at y cyfandir - Denmarc a Gwlad Belg yn enwedig - er mwyn ehangu eu gorwelion ac ail-asesu eu gwaith a'u gweledigaeth.
Yn ail, darganfyddwyd rhyddid creadigol yng ngwaith rhai o feistri theatr arbrofol Ewrop; dylanwadodd gwaith Eugenio Barba, Grotowski, Lecoq a Dario Fo yn gryf ar nifer o ymarferwyr y theatr Gymraeg yn yr 80au - gan eu galluogi i herio confensiynnau a disgwyliadau.
Yn drydydd, gwnaed llawer o ddefnydd, gan awduron a chyfarwyddwyr, o'r ddeinameg a greïr wrth uno deunydd ac arddulliau perfformio cynhenid traddodiadol ar un llaw â thechnegau ac arddulliau cyfoes ac arbrofol ar y llaw arall. Credir i gynhyrchiad Arad Goch o Taliesin lwyddo gystal tramor ag a wnaeth yng Nghymru oherwydd iddo gyflwyno hen stori Gymraeg drwy ddefnyddio arddull ddatodiedig, gyfoes.
Ac yn olaf, cafodd traddodiad delweddol llenyddiaeth Cymru ei drawsffurfio yn idiom theatraidd cyfoes gan ychwanegu at gyfoeth ysgrifennu newydd yng Nghymru yn y ddwy iaith. Gellir honni i waith nifer o ddramodwyr cyfoes llwyddiannus - Mike Povey, Ed Thomas, Aled Jones Williams, Mari Rhian Owen, Sêra Moore Williams, Siân Summers - dynnu ar ddyfnder eu profiad o ddiwylliant Cymraeg traddodiadol a chyfoes, a'i arferion llenyddol, gan drosi ei berthnasedd (a'i herio, yn aml) yn eu dramâu i greu adlewyrchiad o'r Gymru sydd ohoni. Mae'n ddiddorol nodi hefyd i'r tair olaf a enwir weithio, rywbryd yn ystod eu gyrfa, ym maes theatr arbrofol, iddynt fod yn berfformwyr a'u bod, bellach, yn ysgrifennu ar gyfer cynulleidfaoedd ifanc.
I raddau helaeth iawn datblygodd theatr-mewn-addysg a theatr i blant yng Ngymru, yn enwedig yn y Gymraeg, i'r un cyfeiriad â theatr ‘amgen’ gyfoes i oedolion. Yn wir gellir honni iddi ddatblygu yn gyflymach ac yn fwy anturus - oherwydd na chafodd ei llesteirio gan gonfensiynau'r theatr arferol - na theatr i 'bobl fawr'.
Un o brif rinweddau theatr-mewn-addysg yng Nghymru yn y ddwy iaith yw ei gallu i gyfrannu at ymdeimlad pobl ifanc o ‘berthyn’ ac o'u hunaniaeth ddiwylliannol. Gwneir hyn nid mewn ffordd blwyfol amddiffynnol, ond, yn hytrach, mewn modd sydd yn galluogi plant i ymfalchïo ynddyn nhw eu hunain ac yn eu hetifeddiaeth o fewn cyd-destun byd-eang a chyfartal. Ond er bod ein pobl ifanc, yn siaradwyr Cymraeg a'r di-Gymraeg, yn rhannu'r un hanes, tir a system addysg, mae ymwybyddiaeth ddiwylliannol a chymdeithasol y ddwy garfan yn aml yn wahanol iawn i'w gilydd. Mae'n hanfodol bwysig, wrth i ni greu a chyflwyno ein gwaith, ein bod yn ymwybodol o hyn.
Mae'n bosib bod ein siaradwyr Cymraeg ifanc, ar y cyfan, yn fwy ymwybodol o'u hetifeddiaeth Gymraeg a Cheltaidd, yn fwy ymwybodol o amrywiaeth ddiwylliannol ac yn barotach i dderbyn y cysyniad o aml-ieithrwydd na'u cyfoedion di-Gymraeg. Ond gan fod y Gymraeg yn iaith leiafrifol, mae'n hawdd deall fod pobl ifanc Cymraeg, weithiau, mewn cyfyng gyngor ynglyn â'u safle a safle eu diwylliant mewn cymdeithas ehangach. I'r bobl ifanc hyn mae gweld a chlywed straeon, hanesion a mytholeg mewn perfformiad theatraidd byw a difyr yn fodd o atgyfnerthu eu hunaniaeth a'u hymdeimlad o berthyn i ddiwylliant ag iddo wreiddiau dwfn. Ond yn bwysicach, efallai, yw theatr heriol ei harddull sydd yn ymdrin â phynciau cyfoes, drwy'r Gymraeg, gan alluogi'r gynulledfa ifanc i weld Cymru, ei hieithoedd a'i diwylliant yn symud ymlaen o fewn cyd-destun ehangach Ewropeaidd.
Mae ymwybyddiaeth y Cymro di-Gymraeg o'i etifeddiaeth yn debycach o fod yn seiliedig ar symbolau cenedlaetholgar amlycach (Dydd Gwyl Dewi, y tîm rygbi Cenedlaethol) neu ar gefndir diwydiannol diweddar, yn hytrach nag ar brofiad a gwybodaeth uniongyrchol o etifeddiaeth ac arferion traddodiadol. Er nad yw'r Cymro di-Gymraeg ifanc yn llai o Gymro na'i gyfaill dwyieithog, mae'n debygol ei fod yn fwy ymwybodol o ddiwylliant Saesneg neu Eingl-Americanaidd nag y mae o ddiwylliant Cymrae. Mewn geiriau eraill, fe gaiff ei dynnu rhwng ei hunaniaeth Eingl-Gymreig a'r diwylliant Eingl-Americanaidd torfol sydd yn anodd ei osgoi. I'r person ifanc yma mae gweld theatr sy'n seiliedig ar ddeunydd Cymraeg - yn draddodiadol, yn hanesyddol neu yn gyfoes - yn fodd o atgyfnerthu ymwybyddiaeth a pharch tuag at ei hunaniaeth Gymraeg. Eto, cyn bwysiced â hyn yw theatr atyniadaol Gymreig a chyfoes sydd yn cynorthwyo'r person ifanc yma i’w weld ei hun, ei ddiwylliant a'i wlad fel rhan o berspectif Ewropeaidd a byd-eang.
Rhan o brofiad glaslencyndod i lawer yw'r tyndra lletchwith rhwng eisiau bod yn wahanol ac eisiau bod yn un o'r gang, rhwng unigolyddiaeth a pherthyn, rhwng cicio'r tresi a chydymffurfio. O fewn cyd-destun diwylliannol ehangach, mae'n hawdd deall rhwystredigaeth pobl ifanc gwlad fach ar arfordir gorllewinol Ewrop wrth iddynt ymdopi â'r her o ddatrys y cwestiynau oesol 'pwy ydw i' a 'lle dwi'n perthyn'. Mae theatr-mewn-addysg yn gallu'u cynorthwyo i ddod o hyd i ran o'r ateb ac mae ganddi ran allweddol i chwarae yn y gwaith a amlinellwyd yn nogfen bolisi y Cynulliad Creative Future: Cymru Greadigol.
Mae'r rhwydwaith o gwmnïau theatr-mewn-addysg yn parhau i greu a darparu cyflwyniadau sydd yn llwyr berthnasol i'w cynulleidfaeodd ac sydd yn cyrraedd safonau nas gwelir, bob tro, yn y theatr gonfensiynol. Er na roddir llawer o gydnabyddiaeth yn y wasg nac ar y cyfryngau mae gwaith theatr-mewn-addysg yn mynd o nerth i nerth. Ddwy flynedd yn ôl cydnabyddodd y Cynulliad a Chyngor y Celfyddydau bwysigrwydd theatr-mewn-addysg drwy roi codiad sylweddol yn yr arian a roddir i'r gwaith. Gyda chydweithrediad Cyngor y Celfyddydau mae'r wyth cwmni newydd sefydlu Asiantaeth Theatr-mewn-Addysg a phenodi swyddog fydd yn cydlynu datblygiadau'r gwaith yng Nghymru. Ac ym mis Mawrth, rhwng y 15fed a’r 19eg o’r mis, cynhelir AGOR DRYSAU - OPENING DOORS Gwyl theatr Ryngwladol Cymru i Gynulleidfaeodd Ifanc unwaith eto. O hyn ymlaen, gyda chefnogaeth Cyngor y Celfyddydau, cynhelir yr wyl honno, a drefnir gan Gwmni Theatr Arad Goch, am-yn-ail flwyddyn.
Mae'n bosib, wrth gwrs, na chewch chi wybodaeth am y digwyddiadau a'r datblygiadau hyn yn y wasg. Mae croeso, felly, i chi gysylltu â'r cwmnïau i ofyn am fwy o wybodaeth - neu i gysylltu â'r papurau a'u herio i gyhoeddi gwybodaeth am un o'r meysydd celfyddydol mwyaf cyffrous yng Nghymru!
Mae Jeremy Turner yn Gyfarwyddwr Artistig Cwmni Theatr Arad Goch, yn Gyfarwyddwr gwyl AGOR DRYSAU - OPENING DOORS, yn aelod o Dasglu'r Celfyddydau i Bobl Ifanc yng Nghymru, yn gynrychiolydd y Deyrnas Unedig yn ASSITEJ ac yn aelod o Bwyllgor Gwaith Rhyngwladol ASSITEJ.
www.aradgoch.org
www.agordrysau-openingdoors.org
www.assitej.org
www.assitejuk.org
www.celfyddydauieuenctid.org.uk
awdur:Jeremy Turner
cyfrol:503, Rhagfyr 2004
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com