Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Rhyw Dwyll yng Nghymru Fach

Astudiaeth o ragrith cymdeithasol yw Cymru Fach, drama newydd Wiliam Owen Roberts, yn ôl Dafydd a Mandi Morse. A rhyw ydy’r ddolen gyswllt sy’n dal y rhagrith hwn ynghyd.

Mae sawl ffordd i gael Wil i’w wely. Yn llythrennol. Gwelwyd hynny’n ddigon eglur yn y ddrama gyfoes hon gan Wiliam Owen Roberts o stabl Sgript Cymru. Rhyw fan hyn a rhyw fan draw ac, er bod hynny’n eich taro fel bonclust ar adegau, mae’n hanfodol i bwrpas y stori. Rhyw yn hytrach na charu go iawn. Mae’r awdur adnabyddus hwn yn sylwebu’n gignoeth ar yr hyn sydd yn digwydd yn y Gymru gyfoes, lawn rhagrith. Mae’r ddrama’n chwalu’n disgwyliadau a’n gweledigaeth ni o gymdeithas waraidd, barchus. Mae’r ddrama’n delio â themâu oesol, sef rhagrith a thwyll, ond mae’r driniaeth honno’n gyffrous am ei bod yn hollol onest a di-flewyn-ar-dafod. Ceir oriel o gymeriadau gyda phob un yn cynrychioli agweddau ar ‘Gymru Fach,’ a’r teitl yn chwarae ar y defnydd nawddoglyd a wneir yn aml o’r ymadrodd hwn. Ni ellir cuddio rhag realiti na themtasiwn yng ‘Nghymru Fach’ yr awdur.

Cawn ein tywys yn union i’r Gymru gyfoes ar ddechrau’r ddrama gyda’r milwr yn dychwelyd o Irac. Cam doeth, o safbwynt yr awdur, gan fod hynny’n cyhoeddi’n syth ar draws yr awditoriwm bod y ddrama hon yn berthnasol. Ond nid oes eiliad i’w cholli ac, er bod y cymeriadau ar y trên, mae’r gynulleidfa hefyd yn teimlo eu bod hwythau ar drên, gyda’r golygfeydd yn gwibio heibio. Rhuthro. O un ardal yng Nghymru i’r llall. O un ystafell wely i’r llall. Dim ond cipolwg a gawn ar ddrygioni dynol, ond mae’n ddigon.

Mae’r ddrama bron fel albwm o luniau. Ac fel pob albwm, mae’n amrywiol ac yn cynnwys pobl y mae pawb yn eu hadnabod. At hyn ychwanegwch ddiferyn o hiwmor a llond llwy bwdin o sgandal. Y canlyniad yw popty o gymeriadau. Portreadir deg o gymeriadau gan y pedwar actor, ac er na fedrwch gydymdeimlo ond gydag un ohonynt, mae’r cymeriadau’n unochrog ac yno i bwrpas, sef codi llen ar rai o gymeriadau stoc Cymru. Cawn y milwr yn dychwelyd o Irac, yn mynnu cwicî ar ei ffordd yn ôl o’r wlad honno. Mae’n sefyllfa gignoeth a grymus, yn taro’r gwyliwr gyda’i beiddgarwch a’i thrais. Cawn olygfa’r myfyrwyr yn y parti, yn dianc i sied brwnt i garu’n drwsgl. Yn yr olygfa hon, ceir yr unig awgrym o ddiniweidrwydd trwy’r ddrama, a hynny ar ffurf diffyg profiad myfyrwraig ifanc. Awn ymlaen i ystafell wely barchus y deon a’i wraig Amanda, a’u diffiniad hwy o antur wrth garu, sef caru gyda’r golau ymlaen. Yn wir gwelir bod pob perthynas yn cael ei hamlygu trwy ryw – y cwicî ar y trên, mewn sied, ar faes pebyll yr Eisteddfod, yn fflat 4Wal y rheolwr gr_p pop Cymraeg. Mae’r ddrama’n llawn o gyffyrddiadau sy’n mynnu sylw ac yn ei gwneud yn berthnasol i fywydau’r gwylwyr.

Ceir yma sbeiral o b_er, gyda phob cymeriad yn pwyso ar y nesa’ lawr i gael ei ffordd. Mae’r ddrama’n graddoli o’r milwr a’r ferch ar y trên, drwy’r parti coleg, fflat y ‘yuppie’, cartre’r deon, gwesty crand, tan i ni gyrraedd priodas nith yr Arglwydd. Pwysleisir hefyd y ffordd y mae pawb yn perthyn i’w gilydd mewn rhyw ffordd – mae pawb yn adnabod ei gilydd yng Nghymru fach. Ceisia pob cymeriad ennill y blaen ar y llall, gan geisio dringo’r ysgol gymdeithasol wrth garu. Mae un eisiau astudio ar gyfer ei Ph.D drwy gynnal perthynas â’r Deon, er na fedr lunio brawddeg wrth ysgrifennu traethawd. Mae gan bob cymeriad berthynas â’r llall, tan i’r cylch ddod yn gyfan pan mae’r Arglwydd yn cwrdd â’r ferch oedd ar y trên unwaith eto. Nid oes yr un ardal, acen na dosbarth yn osgoi sylw’r awdur yn y ‘snapshot’ hwn. Er bod elfennau ystrydebol iawn i bob cymeriad, maent yn gynrychioliadau dyfeisgar sydd yn ateb pwrpas y ddrama, ac mae’r awdur yn ymdrin yn gelfydd â’r rhagrith a’r twyll y mae pob cymeriad yn ei arddangos. Opera sebon o ddrama yw hon. Gallwn gydymdeimlo mewn un golygfa â g_r Amanda o Fwrdd yr Iaith wrth iddi gynnal perthynas anffodus â rhyw ‘yuppie’ cyfryngol, ac eto collir y cydymdeimlad hwnnw pan sylweddolwn ei fod yntau’n cynnal perthynas â myfyrwraig.

Mae’r actorion yn aml-dasgio trwy gydol y ddrama, gyda phob un yn actio o leiaf dau actor a dwy acen wahanol. Yn aml gall hwn beri penbleth i’r gwyliwr, ond llwyddodd yr actorion a’r llwyfannu i wneud tegwch â’r sgript. Trwyddyn nhw, gwelir realiti bywyd yn ei holl ogoniant. Newidia ambell actor ei ddillad ar lwyfan, gan ychwanegu at linyn stori’r ddrama. Wrth wneud hynny, mae’r actor yn symud mewn cylch o gwmpas y llwyfan ac mae hynny’n ychwanegu at syniad y ddrama fod popeth mewn bywyd yn troi mewn cylch, bod bywyd a’i ddrygioni’n ddi-dor. Newidir y set gan yr actorion, gyda phob golygfa yn rhedeg yn llyfn ac yn ddyfeisgar i’w gilydd. Mae popeth yn digwydd ar y llwyfan ac er ein bod efallai yn cymryd hynny’n ganiataol wrth fynd i weld drama, eto i gyd mae’n arwyddocaol. Nid oes ymgais i gelu unrhyw beth, sy’n wir hefyd am gynnwys y ddrama. Ceir defnydd dychmygus o bropiau ac mae hynny’n aros yn y cof. A welodd unrhyw un erioed ddefnydd mwy handi o ymbarél ar lwyfan?!

O ran llwyfannu, adlewyrchir diddymdra a thebygrwydd bywydau’r cymeriadau yn y set – mae ’na lawr coch iddo, ar ffurf cylch, adlewyrchiad o Gymru efallai. Caiff pob cymeriad gyfle i droedio’r cylch coch hwn, gosod ei stamp ar fywyd a Chymru. Mae’r ddeuoliaeth sy’n frith trwy’r ddrama hyd yn oed yn treiddio i’r set gyda phob darn o gefndir yn dyblu fel ffenestri trên, cornel diodydd yng nghartref y deon, gwelyau o wahanol fathau. Yn wir gellid dweud bod y set yn gybyddlyd bron, yn afreal, a goleuir y llwyfan yn wanllyd fel arfer, gan ychwanegu at y teimlad bod y ddrama’n perthyn i ryw is-fyd. Byd ble mae popeth yn digwydd ac mae hynny’n iawn, dim ond i ni beidio cyfaddef ei fod yn digwydd. Mae hyn yn cyfrannu at y teimlad o gywilydd y mae’r gynulleidfa’n ei deimlo ar brydiau wrth weld ‘parchusion’ y genedl yn byw eu rhagrith a’u twyll. Ceir cyfarwyddo beiddgar trwy gydol y ddrama ac nid oes angen defnyddio’ch dychymyg gan fod popeth i’w weld ar y llwyfan. Ond efallai mai hwn yw unig wendid y ddrama. Ar adegau, mae’r awgrym yn medru siarad cyfrolau yn fwy na gweld y weithred ei hun.

Mae’r ddrama yn codi cwestiynau ac yn gwneud i ni deimlo’n anghyfforddus. A ydy’n cymdeithas ni wedi’i seilio ar nodweddion mor negyddol? Neu a oes llygedyn o obaith, dim ond i ni feithrin yr awgrym hwnnw o ddiniweidrwydd? Bu tawelwch yn y car ar y ffordd adref a dyna i chi dystiolaeth bod y ddrama wedi llwyddo.

awdur:Dafydd a Mandi Morse
cyfrol:519, Ebrill 2006

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk