Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Milltir Sgwâr a Mwy

Theatr Felin-fach yw theatr fwyaf gwledig Cymru, ac un o’r rhai sydd â mwyaf o hawl i’r label ‘cymunedol’. Ond beth yw ystyr hynny’n ymarferol? MENNA BAINES fu’n siarad ag Euros Lewis, sy’n arwain y gwaith.

Byddai’r dyn sy’n rhedeg Theatr Felin-fach wrth ei fodd yn gollwng y gair ‘theatr’ o enw’r lle, ond peidiwch, ar boen eich bywyd, ag awgrymu ‘Canolfan y Celfyddydau, Felin-fach’, fel gwelliant. I Euros Lewis, mae ‘theatr’, a ‘celfyddydau’ yn fwy byth, yn eiriau sy’n sawru o elitiaeth; mae ‘canolfan’, wedyn, yn awgrymu mai dim ond rhwng muriau’r adeilad dan sylw y mae’r cyfryw weithgaredd yn digwydd. Mae’r cyfan, meddai, yn hollol groes i ethos y lle, gyda’i bwyslais nid ar genhadu dros y celfyddydau ond ar gefnogi a datblygu’r diwylliant sydd eisioes yn yr ardal. Y gwahaniaeth, iddo ef, yw mai carfan o bobl sy’n ymhel â’r celfyddydau, ondbod diwylliant yn rhywbeth sy’n perthyn i bawb.

Yn ogystal â bod yn theatr, mae Theatr Felin-fach yn ganolfan ar gyfer addysg gymunedol, gwaith ieuenctid creadigol a hyfforddi a darlledu cymunedol. Mae cip ar y prospectws yn dangos bod y camps yn lle prysur rownd y flwyddyn, rhwng gweithdai a chlybiau drama a dawns, cynyrchiadau gan gwmnïau o bob oed, gweithgareddau ieuenctid, prosiectau radio a fideo, a chynlluniau dysgu-o-bell. Mae traean y staff o ddeunaw yn staff dysgu, a’r gweddill yn gweithio ar yr ochr weinyddol a thechnegol. Yr hyn sy’n clymu’r holl weithgareddau ynghyd yw’r nod cyffredinol o ddarparu cyfleoedd addysgol yn y gymuned trwy gyfrwng y celfyddydau, gyda’r pwyslais ar y cyfryngau a’r celfyddydau perfformiadol, yn enwedig drama.

Drama, yn ôl Euros Lewis, yw cyfrwng diwylliannol naturiol yr ardal. Fel darlithydd drama y daeth ef ei hun i Theatr Felin-fach ddwy flynedd ar hugain yn ôl, ac fel actor y’i hyfforddwyd. Ond wrth ddisgrifio athroniaeth y lle, mae’n sôn llawn cymaint am economi’r ardal a materion cymdeithasol ag am egwyddorion theatr. Mae hynny, meddai, o raid.

‘Mae ein diffiniad ni yma o waith creadigol cymunedol yn wahanol i ddiffiniad cwmnïe drama cymunedol, dyweder. Nid mater yw e o fynd i mewn i ardal, creu darn o waith yno, ac yna symud ymlaen i rhywle arall i dechre ‘to. Mae rhywun i mewn ynghanol y gymuned, yn rhan o’r hyn y mae newidiade cymdeithasol ac economaidd yn effeithio arno, ac mae rhywun yn goffo byw gyda’r methianne yn ogystal â’r llwyddianne.

‘Mae’n rhaid felly wrth ddealltwriaeth a bob agwedd ar fywyd yr ardal a bywyd y Gymru wledig yn gyffredinol. Dyna pam fod y theatr yn cydweithio’n agos gyda chyrff fel Menter a Busnes a’r Awdurdod Datblygu. Yr un yw nod pawb ohonon ni yn y pen draw, sef ysbrydoli pobl i gymryd y dyfodol yn eu dwylo eu hunain.’

Nid hap a damwain yw fod drama radio ddyddiol Theatr Felin-fach, sy’n cael ei darlledu ar Radio Ceredigion, yn troi o gwmpas cop ffermwyr. Mae sawl menter gydweithredol amaethyddol o’r fath i’w cael yng Nghymru, a bu Euros Lewis a’i griw mewn cysylltiad â rhai ohonynt wrth ymchwilio ar gyfer Bontlwyd.

‘Roedd e’n agoriad llygad. Mae trosiant rhai o’r cops ‘ma’n cymharu â throsiant rhai o’r cwmnïe mwya’ yng Nghymru. D’yn ni ddim yn siarad man hyn am ‘bytu cwpwl o ffermwyr yn y mart â Woodbines yn eu penne, ni’n siarad ‘bytu dynion busnes caled iawn sy’n fuddsoddwyr arian o fri, a’u dealltwriaeth nhw o’r economi wledig gyda’r ddealltwriaeth fwya’ dwfwn sydd i’w cha’l.’

Wrth seilio Bontlwyd ar gop amaethyddol, roedd modd nid yn unig drafod rhai o’r problemau sy’n rhan o fywyd cefn gwlad ond hefyd ddangos cymuned yn gweithredi drosti ri hun wrth ymateb i’r problemau hynny. Polisi anysgrifenedig Theatr Felin-fach yw cydnabod argyfyngau lleol ond gan ganolbwyntio ar yr un pryd ar y cadarnhaol a’r gobeithiol. Mae comedi’n ffordd ddelfrydol o fynegi rhwystredigaethau. ‘Sbengllyd’ yw’r gair lleol i ddisgrifio’r math o hiwmor dychanol sy’n nodweddu’r pantomeim blynyddol, er enghraifft, lle gwneir rhywun neu rywbeth sy’n bygwth cefn gwlad yn gocyn hitio. Yn Bontlwyd hefyd, mae i ddigwyddiadau bach doniol a throeon trwstan le pwysig. Ond y gobaith yw fod y cyfan yn gwneud i bobl feddwl yn adeiladol, trwy godi cwestiynau a hyd yn oed gynnig atebion ambell gwaith.

Yn niwedd yw wythdegau, pan gyhoeddwyd fod Hufenfa Felin-fach i gau, roedd hi’n anochel fod y theatr yn ymateb i hynny. Roedd yr hufenfa dafliad carreg oddi wrth y theatr a nifer fawr o’r staff yn bobl sy’n weithgar yn y theatr. Yn y theatr y cynhaliwyd y cyfarfodydd i drafod sut i ddatrus yr argyfwng, ac roedd llawer o’r brotest ei hun yn digwydd trwy gyfryngau creadigol. Rhan o’r rali brotest fawr oedd canu baled a pherfformio meim cyfochrog, yn gwneud sbort am ben y Dairy Trades Federation. Mewn ymate b i’r argyfwng y sefydlwyd y CIC! Cwmni Theatr Ieuenctid yr Urdd, Ceredigion, a dyma’r cyfnod y dechreuwyd ar broses o gomisiynu dramâu, gyda’r comisiwn cyntaf i dri awdur yn gofyn am waith yn ymwneud â sefyllfa lle roedd ardal yn colli ei phrif gyflogwr.

Bellach mae pedair ffatri gaws wedi cymryd lle’r hufenfa, ond mae argyfwng parhaus y byd amaeth yn golygu nad yw problemau lleol fyth yn diflannu oddi ar agenda’r theatr. I Euros Lewis, dau beth sy’n mynd law yn llaw yw adferiad economaidd ac adferiad cymdeithasol, diwylliannol.

‘Nid mater o droi anffawd lleol yn adloniant yw ystyr theatr gymunedol i ni. Ein cyfrifoldeb ni yw defnyddio drama fel arf yn y frwydr i gynnal y gymdeithas ry’n ni’n rhan ohoni.’

Mae canmol prif arianwyr y theatr, sef yr awdurdodau lleol, sef Cyngor Sir Ceredigion, am gefnogi’r weledigaeth honno, ond yn honni mai golwg dra gwahanol ar bethau sydd gan Gyngor y Celfyddydau. Mae eu nawdd nhw i Theatr Felin-fach wedi’i gyfyngu i berfformiadau, ac mae’n ofni eu bod nhw’n edrych ar y celfyddydau, neu ddiwylliant, fel rhywbeth ychwanegol at fywyd y gymdeithas yn hytrach na fel rhan hanfodol ohono.

Mae’n poeni hefyd am agwedd arall ar ariannu’r celfyddydau yng Nghymru, yn wyneb yr ail don o fewnfudwyr sy’n symud i’r gorllewin ar hyn o bryd. Mae’r mewnfudwyr newydd hyn, meddai, yn fwy o fygythiad i’r bywyd diwylliannol Cymraeg na’r rhai a ddaeth yn yr wythdegau, a hynny oherwydd eu bod yn fwy penderfonol o wthio eu diwylliant eu hunain ar y brodorion. Yn ôl Euros Lewis, maent yn gallu cael gafael ar yr arian i wneud hynny yn llawer rhy rwydd oherwydd dyfodiad ffynonellau nawdd newydd a natiur y rheiny.

‘Yr hyn sy’n achos pryder yw nad grantie lleol sydd wedi’u ca’l trwy ddemocratiaeth leol yw’r arian hyd ma’n nhw’n ei ga’l, ond yn hytrach arian sydd wedi dod yma trwy Gaerdydd neu Lundain – arian Loteri neu o Gronfa’r Mileniwm. Mi fydde’r garfan flaenorol o fewnfudwyr wedi gorfod ca’l cefnogaeth y gymuned, ond mae’r rhain yn gallu mynd yn syth at y cronfeydd hyn, ca’l yr arian a chreu dinistr. Mae’n digwydd, ac mae’n rhannu cymunede. Mae ;da ni enghreifftie lle mae hi wedi mynd yn frwydr rhwng y Cymry a’r mewnfudwyr. Ni’n sôn am fynycha’ am genhedlaeth h_n o Gymry, gyda’u gwerthoedd a’u gweithgaredde traddodiadol.

‘Nawr, fe all rhywun fod yn eitha’ spengllyd o’r math yna o ddiwylliant, ond y gwir yw taw dyna’r unig faes gwarchod naturiol sy ‘da’r bobl hyn ar ôl, sef y pethe ma’n nhw wedi arfer â nhw. Ac ar y llaw arall mae’r mewnfudwyr hyderus ‘ma sy’n gwybod eu hawlie.’

Y strategaeth orau yn wyneb bygythiadau o’r fath, yn ôl Euros Lewis, yw sicrhau bod y diwylliant cynhenid, Cymraeg yn rhywbeth byw, atyniadolo, deinameg. Yr her fawr, meddai, yw cael y cyrff ariannu i weld mai’r ffordd i gynnal diwylliant yng nghefn gwlad yw cefnogi’r potensial sydd yno’n barod yn hytrach na gwthio prosiectau estron, amherthnasol ar y lle. Mae’n gweld gobaith am newid meddylfryd cyffredinol os bydd yr Undeb Ewropeaidd, yn ôl y disgwyl, yn rhoi Statws Amcan Un i Ogledd a Gorllewin Cymru. Mae hefyd wedi’i galonogi gan bwyslais cynyddol y rhai sy’n rhannu arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru ar ardaloedd o ddiffyg darpariaeth. Dadl criw Theatr Felin-fach yw fod Cymru wledig gyfan yn ardal o ddiffyg darpariaeth, yn enwedig lle mae gweithgareddau Cymraeg yn y cwestiwn.

Y ddadl honno yw sail eu cais diweddaraf nhw eu hunain am arian loteri. Y bwriad, os bydd y cais yn llwyddiannus, yw ailddatblygu’r safle mewn modd a fydd yn galluogi’r theatr i gryfhau ei gwasanaeth i ardaloedd gwledig ledled Cymru. Ond sut gall un sefydliad yng nghanol Ceredigion, a hwnnw’n sefydliad mor lleol ei bwyslais, wneud hynny? Ateb Euros Lewis yw eu bod nhw wedi hen arfer troi’r lleol yn genedlaethol.

‘Mae’r peth yn digwydd ar hyn o bryd. Ry’n ni’n cydweithio gydag asiantaethe cenedlaethol, yn darparu fideos hyfforddi a phatryme gwaith, yn sgwennu llawlyfre ar ddrama yn y gymuned, ac yn rhoi arweiniad i gwmnïe theatr ieuenctid mewn llefydd eraill. Ond ar hyn o bryd, mae’r gweithgaredd yna’n digwydd ar yr ymyl. Mae eisiau llawer mwy o ofod gwaith arnon ni. Os cawn ni hynny, mae’r potensial yno i wneud llawer, llawer mwy, ac mae hynny’n gyfforddus iawn.’

awdur:Menna Baines
cyfrol:431/432, Ionawr 1999

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk