Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Nes na'r hanesydd

Yn 1916 carcharwyd 1800 o Wyddelod mewn hen ddistylldy whisgi yn Frongoch ger y Bala, yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Nulyn. Hanes y gwersyll carchar hwn yw cefndir y ddrama ddiweddar gan Ifor ap Glyn, Frongoch.

Does dim byd llawer i’w weld yn Frongoch. Dim amgueddfa, dim adfeilion. Os ydych chi’n ceisio hanes y gwersyll carchar rhaid mynd i fyd yr archifydd a’r cofiannydd. Ynteu i fyd y dychymyg? Pan oedd Hywel Teifi Edwards yn trafod ‘Pentrefi Gwyn Cymru’ yn ei gyfrol ddiweddar O’r Pentre Gwyn i Gwmderi, dywedodd: ‘Fel llefydd yn y meddwl yr oeddent yn cyfrif.’

Efallai fod yr un peth yn wir am Frongoch. Mae’r hanesydd Jon Parry wedi disgrifio sut y gafaelodd Frongoch yn nychymyg y Cymry yn y cyfnod diweddar. ‘As a section of the Welsh people began to discover Ireland in their quest to lose England, so they looked to the history of the Irish struggle, of which Frongoch was their nearest symbol’. Ac os dwi’n onest â mi fy hun, dyna’n sicr lle tarddodd fy niddordeb i yn y pwnc.

Felly roedd derbyn comisiwn gan Llwyfan Gogledd Cymru i sgrifennu amdano yn apelio’n syth. Syniad Ian Rowlands, cyfarwyddwr y cwmni, oedd hyn. Ac yntau wedi gweithio yn Iwerddon droeon fel actor, awdur a chyfarwyddwr, roedd wedi bod yn chwilio ers nifer o flynyddoedd am brosiect fasai’n pontio’n naturiol rhwng Cymru ac Iwerddon a chynnig llwyfan ar gyfer trafodaeth rhwng ein dwy wlad. ‘Frongoch’ ydi’r prosiect hwnnw.

Mae’r prosiect yn pontio ar sawl lefel: mae’r criw technegol yn hanu o Gymru ac o Iwerddon ac mae’r ddrama ei hun yn dairieithog. Tri phrif gymeriad sydd yn y ddrama ‘Frongoch’; a rheini’n cael eu chwarae gan Gymro (Richard Elfyn) Gwyddel (Caoimhín Ó Conghaile) a Sais (Michael Atkinson).

Yn y ddrama gwelir dau genedligrwydd nerthol yn mynd benben â’i gilydd; y Gwyddelod a’r Saeson, dau o’r ‘brand-leaders’ yn y maes fel petai. Ond mae cenedligrwydd Cymreig yn rhan o’r drafodaeth hefyd. Yn wir, Dr. Peters y cymeriad Cymraeg yw canolbwynt y ddrama. Drama hanes ydi hi ond mae’r hanes dal yn berthnasol, nid yn unig mewn dwy wlad fel Iwerddon a Chymru sy’n dal yn gorfod delio â chysgod hir imperialaeth Brydeinig, ond hefyd mewn byd ehangach lle mae gennym lefydd fel Bae Guantanamo o hyd.

Darllenais i unwaith fod y dramâu gorau yn cyfuno testun adain dde gyda sgwennu adain chwith. Dwn i ddim lle mae adain chwith neu dde ynddi hefo ‘Frongoch’, ond heb os, mae’r testun wedi ’ngorfodi i fynd i’r afael â safbwyntiau sy’n groes i’m daliadau personol. Wrth sgwennu drama sy’n delio hefo imperialaeth Seisnig, fiw i chdi roi’r leins gorau i’r hogiau sy’n gwrthwynebu imperialaeth Seisnig! (Wel, ddim i gyd!)

Rhaid gochel hefyd rhag i ddadansoddiad dramatig 2005 gamliwio hanes 1916. Daw’r argyfwng yn y ddrama wrth i’r doctor gael ei ddal rhwng y Gwyddelod a’r awdurdodau Seisnig; ond dilema moesol ydyw iddo, nid dilema gwleidyddol. Go brin, meddech chi, y base unrhyw gydymdeimlad gwleidyddol gan Gymro lleol fel Doctor Peters gyda’r bradwyr o wrthryfelwyr hyn? Na fase, mae’n debyg, ond dyna drwydded y dramodydd. A rhag i neb farnu fod agwedd Peters at ei gleifion Gwyddelig yn anacronistiaeth lwyr, cofiwch hyn: nid rhywbeth a ddigwyddodd mewn faciwm mo’r adfywiad cenedlaethol Cymreig yn y 20au. Dyma ddywedodd un papur Cymraeg yn syth ar ôl gwrthryfel y Pasg:

(N)id pobl wedi gweithredu mewn byrbwylldra mo’r Sinn Feiniaid.

Maent hwy yn onest yn eu credo ac yn llawer mwy teyrngar

i’w gwlad na’r beilchion Seisnig sy’n britho heolydd Llundain mewn

khaki ar hyn o bryd.

Mae Frongoch wedi’i llwyfannu’n uchelgeisiol o aml-gyfrwng. Yn ogystal â’r tri phrif gymeriad cig a gwaed ar y llwyfan, gwneir defnydd effeithiol o fideo er mwyn cyflwyno corws Groegaidd o Aelodau Seneddol a chymeriadau hanesyddol mwy adnabyddus, fel Michael Collins a Dick Mulcahy. Yn Frongoch y daeth Collins a Mulcahy i amlygrwydd, ond y dynion bach yw canolbwynt y ddrama hon; y dynion sy’n cael eu cario gyda cherrynt hanes, nid y rhai sy’n ceisio eu llywio. Mae’r cymeriadau fideo fel ysbrydion ar gyrion byd y cymeriadau byw. Mae hynny’n hyfryd o addas yn fy nhyb i, gan fod Frongoch hefyd yn ddrama am fydoedd yn dadfeilio, am ddyletswydd a gwneud dyletswydd, ac am ddiolch ac am wneud pethau’n ddi-ddiolch.

Gyda drama sy’n teithio mewn dwy wlad mae’n ddiddorol cymharu’r gwahanol ymateb. Mae’r Cymry a’r Gwyddelod yn chwerthin am ben pethau gwahanol yn y ddrama, heb os. (Nid bod ’na lawer o ‘laffs’ mewn hanes o’r fath.) Diddorol hefyd oedd gweld sut mae ymateb y wasg yn y ddwy wlad yn cymharu, ac dwi’n ofni fod mwy o ddidordeb wedi bod o du’r Gwyddelod. Gellid dadlau fod y testun yn apelio fwy atyn nhw, ond dwi’n amau fod hyn yn dweud mwy am dlodi ein diwylliant papur newydd yng Nghymru, nac am gryfder y testun. Dwi’n amau y base drama am handbag Lloyd George yn cael mwy o sylw yn Iwerddon nac yng Nghymru.

Mae gormod o bapurau Cymru yn bodloni ar argraffu’r datganiad i’r wasg air am air, ac maen nhw’n anfodlon gwneud adolygiad wedyn, achos maen nhw wedi rhoi sylw i’r ddrama un waith yn barod, yn do? Ond fase’r un Golygydd yn dweud, ‘wnawn ni ddim redeg stori am Roy Keane bore ’ma – achos wnaethon ni stori am Gary Neville ddoe’. Wrth gwrs, mae pêl-droed yn wahanol i’r theatr, mae pêl-droed yn bwysig - ond mae adolygiadau hefyd yn bwysig; i ddramodydd, i gwmni theatr, i’n diwylliant yn gyffredinol.

Does ’na ddim byd llawer i’w weld yn Frongoch. Cofeb fechan wrth ymyl y lôn. Un cwt a achubwyd o’r gwersyll. Ysgol gynradd yn eironig ddigon sydd wedi ei chodi ar safle Prifysgol y Chwyldro Gwyddelig. Ond mae ’na Frongoch yn y meddwl o hyd. Ac os oedd Frongoch yn fath o ‘bair dadeni’ i un genedl Geltaidd yn 1916, roedd yr afon sy’n rhedeg heibio yn fodd i ddeffro cenedl arall, rai degawdau’n ddiweddarach. Cymeriad Dr. Peters gaiff y gair olaf:

Mi ân nhw adre, Gododdin o ddynion cyffredin, i gyd yn rhan o

jigso’r chwyldro. Frongoch yw’r Pentecost ar ôl eu Pasg, mi ân nhw o’ma a’u tafode’n dân, er bydd rhai yn dweud o hyd, mai wedi meddwi ydynt...

Arhoswn ninne yn y merddwr, â gwreiddie’r Gymraeg yn ein

cydio’n styfnig at y lan, tra bod y Gwyddelod yn marchogaeth

rhyferthwy’r afon, yn herio rhyfyg y lli yng nghwch papur dewr eu

chwyldro.

Mi ân nhw adre o Frongoch, ond arhoswn ninne... nes i’n cartrefi ein gadael ni. Nes i’r afon hon fedyddio cenedl gyfan...

awdur:ifor ap glyn
cyfrol:507 ebrill 2005

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk