Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Chwerthin anaddas

Aeth NIC ROS i weld cynhyrchiad Whare Teg o Perthyn Meic Povey a chael ei siomi.

Yn y pymtheg mlynedd prysur a basiodd ers perfformiad cyntaf Perthyn, sefydlodd Meic Povey ei hun yn brif ddramodydd y wlad yn ddiamheuol. Ond wrth wylio ail gynhyrchiad proffesiynol y ddrama, fe’n hatgoffir mai gwaith cyw ddramodydd i raddau yw Perthyn sydd, o’i gymharu â’i waith aeddfed, cryno, yn hirwyntog ac yn ansicr ei ffocws ar adegau. Gwaith pontio yw Perthyn, yn meddu ar lawer o rinweddau cyfarwydd, ond sydd hefyd yn dwyn i gof sioc theatrig y ddrama gynnar Y Cadfridog.

Felly mae rhai o wendidau’r cynhyrchiad i’w priodoli i ffaeleddau’r ddrama ei hun. Yr amlycaf o’r rhain yw rhan y seiciatrydd, cymeriad sy’n parablu’n ddiddiwedd mewn seicobabl heb gynnig damcaniaeth unedig. Mewn cyfweliad ym Mhrifysgol Bangor y llynedd, cyfaddefodd Povey mai ‘pregethwrol’ yw’r rhan, ac mewn rhannau o’r ddrama gellir hepgor y rôl. Ond ar ddechrau’r ddrama yn enwedig dadlennir gwybodaeth dyngedfennol ac ni ellir ei golli’n llwyr. Cyfaddawd sy’n plesio neb yw ateb Whare Teg, lle y diflanna Seic Christine Pritchard o’r ail hanner. Awgryma hyn fod diffyg amynedd Gwen gyda’i nonsens seciatryddol yn llygad ei le, ond rhy syml yw gadael i Gwen Sue Roderick dra-arglwyddiaethu. Wedi’r cyfan, yn ail hanner y testun gwreiddiol mae Gwen yn datguddio’r manylyn cefndirol pwysicaf i’r Seic: ‘O leia ma’ dadi’n gwenu tra mae o’n eich chwara chi...’. Ond ffigwr o hwyl yw’r Seic yn y cynhyrchiad yma gyda chwerthin aflafar y gynulleidfa ar ei phen wrth i Gwen ei gwawdio yn yr ail olygfa. Yn anffodus, roedd ymateb nerfus Christine Pritchard i’r chwerthin ym Mangor yn ildio’r momentwm yn llwyr i Gwen. Yn anffodus gosododd yr olygfa gynnar hon gynsail o chwerthin anghymwys a barodd drwy’r perfformiad, ac na ellir ei briodoli’n unig i nerfusrwydd parhaus y gynulleidfa ynghylch y pwnc.

Camgymeriad cyntaf amlwg y noson yw’r set realistig, a rennir yn ddau i ddynodi swyddfa’r seiciatrydd uwchben lolfa’r cartref. Felly mae gennym gefndir crfedadwy ar gyfer ar gyfer dau leoliad. Yn anffodus mae’r ddrama yn digwydd mewn o leiaf pump lleoliad gwahanol, sy’n golygu bod dros hanner y golygfeydd mewn gofod sy’n anghywir. A dylanwad y sgrîn fach mor amlwg ar ei waith, camgymeriad hawdd yw gweld Povey fel dramodydd llwyfan naturiolaidd. Mae ei ddeialog yn naturiol, ond mae ei strwythur yn episodig, yn neidio rhwng cyfnodau a lleoliadau. Nid oes rhwystr yn ein gosod yn lolfa’r teulu, ond tasg amhosib i’r cynllunydd golau mwya’ medrus yw dangos lleoliadau megis rhai y tu fas ar set sydd mor amlwg o ddomestig. Mae’n gwyrdroi’r olygfa olaf, sydd i fod i ddigwydd ar ochr bryn yng ngolwg cartref teuluol Tom, o bathos i ffars. Fel Wyneb yn Wyneb a Tair, dramâu sy’n rhannu’r strwythur episodig yma, set awgrymog minimal yw’r unig ffordd i lwyfannu Perthyn.

Am resymau cwbl wahanol mae’r fideo yn un mor anghymwys. Mae’n bosib bod y defnydd o fideo yn deillio o strwythur peisodig y ddrama, ond mae’n llawer haws credu mai nawdd Derwen yw’r unig reswm dros bresenoldeb y sgrîn enfawr y tu ôl i’r set. Dyma elfen arall sy’n cael ei hanghofio hanner ffordd drwy’r noson, fel petai amser ymarfer yn prinhau, a bod yn rhaid hepgor yr elfennau ‘atodol’. Mae’r deunydd fideo yn llwyddo i bedio â bod yn llythrennol ar y dechrau, ond mae hefyd yn amherthnasol: yn yr olygfa gyntaf gwelir golygfeydd slow motion o ferch fach mewn cae chwarae, gyda deialog Tom a Gwen yn cael ei leisio’n fyw drostynt. Ond ni lwyddodd y fideo i fod yn wirioneddol ryngweithiol gyda’r actorion, ac fe ddatblygodd yn rhyw fath o lawfer ar gyfer ôl-fflachiadau i’r gorffennol. O osod confensiwn ar ddechrau cynhyrchiad rhaid ei ddilyn, ond ni ellir wneud hyn gyda Perthyn am fod cymaint o’r ddrama yn digwydd yn y gorffennol, ac nid oes modd i gynhyrchiad byw defnyddio cymaint ar fideo. O leiaf roedd y defnydd cyntaf yma’n uchelgeisiol, er yn fethiant, ond fe wrthgyferbynnodd yn llwyr gyda’r deunydd dilynol, a oedd yn ystrydebol o amlwg: nid oes angen close-ups i’n hatgoffa cystal actorion teledu yw Bryn Fôn a Sue Roderick

Rhinwedd mwyaf y cynhyrchiad yw ei gast, a thrueni mawr yw llwyfdra’r cynhyrchwyr yn cyfyngu ar ddangos y cyfnodau gwahanol yn natblygiad y cymeriadau diddorol. Anodd credu mai pleidlais o ddiffyg ffydd yn y cast cyffredinol ardderchog a geir yma, ond yn hytrach ofni herio’r gynulleidfa. Mae tynnu rhai o olygfeydd tyngedfennol datblygiad Mari o’r llwyfan yn ein gadael heb adnabyddiaeth gynhwysfawr o’i chymeriad crwn a chymhleth, ac yn lleihau ein hymateb emosiynol i berfformiad addawol Iola Hughes. Heb weld yr hyn a’i ffurfiodd, mae Mari yn ymddangos yn oriog a phwdlyd. Felly mae’r fflach o ddicter a ddaw yn ystod ei haraith, ‘Ddylwn i newid fy siampw?’, yn deillio o ddim byd, heb fod yna gyd-destun digonol. Mae presenoldeb Bryn Fôn yn anorfod yn awgrymu bod Tom yn rhagflaenydd i Les Talcen Caled, ac mae ei statws israddol yn amlwg wrth i Gwen gawrio drosto. Dyma berfformiad aeddfed a chynnil tu hwnt, gydag un eithriad anffodus. Ar ddechrau’r ail hanner yn y ddrama wreiddiol ceir golygfa lle mae Tom yn adrodd hanes cyfarwydd ei Dad wrth Mari. Ceisio gosod cynsail i fod yn agos yn gorfforol a wna Tom yma, ond yn y cynhyrchiad hwn mae Tom yn treisio Mari. Gellir dadlau fod yr olygfa yn ddi-angen, o bosib yn wrthdröedig, ac yn sicr nid dyma ysgrifennodd Povey. Yn sicr fe greodd sioc yn y gynulleidfa, ond siom a dicter ynof i. Nid dyma a wna Tom, am ei fod yn rhy wan. Mewn ffordd, mae’n wir, mae’n treisio Mari, ond rhaid i ffordd Tom o wneud hyn yn adlewyrchu ei wendid: ‘stori ddagrau’ sydd ganddo i ennyn cydymdeimlad Mari unwaith eto. Y cyfarwyddo (gan Dafydd Hywel) yn hytrach na’r actio sydd megis morthwyl yma a gwaetha’r modd yn nodweddiadol o’r cynhyrchiad cyfan.

Wrth weithio ar y ddrama Wyneb yn Wyneb, darganfyddiad mwyaf syfrdanol yr awdur oedd mai ‘drama’r fam ydy hi’. Bron y gellir priodoli’r un gosodiad i Perthyn ar ôl y cynhyrchiad hwn hwn. Dyma i mi lwyddiant mwyaf y noson, gyda pherfformiad Sue Roderick fel y fam Gwen yn ddirdynnol ac yn ganolbwynt i’r holl ddigwydd. Mae fwy o syndod ar ôl y dechreuad ansicr a chomig i’r noson a gawn wrth iddi ddilorni’r seic. Camp neilltuol yw sicrhau cydymdeimlad i gymeriad sydd yn ymddangosiadol oeraidd ac sydd yn y pen draw bron yr un mor euog â Tom am yr hyn a ddigwydd i Mari. Dyma ran a ystyrir gan rai actoresau yn sarhaus, felly mae medr Sue Roderick, yn enwedig yn ei haraith am ‘ildio iddo fo’, yn sicrhau ymateb emosiynol gan y gynulleidfa mewn portread sy’n lled esbonio, os nad yn esgeuluso, ei hymddygiad. Beth bynnag yw gwendidau’r cyfanwaith, mae creadigaethau teuluol Povey bob tro’n ddiddorol ac yn llawn gwrthddywediadau, ac yn cynnig her a hanner i’n hactorion gorau ni hyd yn oed.

Cynhyrchiad o wrthgyferbyniadau oedd hwn, gyda llawer iawn o ragoriaethau’r actorion ar goll mewn cyd-destun anghyson ac anghynnil. Mae’r ymdriniaeth o uchafbwyntiau yn gorbwysleisio yn y mannau anghywir. Yn sicr mae grym dramatig yng nghymhariaeth Mari o’i thynged hi a thynged ei brawd: ‘Ddaru Dad rioed ffwcio Edward’, ond mae’n llawer rhy amlwg iddi fod yn ei weiddi, ac nid oedd ambell bwff o chwerthin o du’r gynulleidfa yn syndod. Yn gyferbyniol, ni wnaed digon o eiliad fwyaf dadlennol y testun, sef wrth i Gwen ymwrthod â ch_yn ei ferch am ei thad gyda ‘Gwna baned imi, gwael’. Yn yr eiliad yma rydym i fod i sylweddoli dyfnder ymwybyddiaeth Gwen o dynged ei merch(ed).

Cwtogwyd y testun, ac anodd anghytuno gyda’r egwyddor yma, ond roedd prinder deinameg yn perthyn i’r noson. Er dyled amlwg Povey i Harold pinter, nid oes angen yr holl amser coll rhwng golygfeydd chwaith, a lanswyd gan y gerddoriaeth. Fel y fideo, roedd yr elfen gerddorol yn aml yn ddiangen, yn bresennol am ei bod wedi’i gomisiynu. Yn anffodus, roedd cyfraniad y cerddor dawnus Siôn Williams yn feichus o lythrennol: yn araf, yn brudd, fel teledu gwael. Mae’n sumptomatig o gynhyrchiad gwachul sy’n tanseilio cymaint ar waith cast arbennig. Er cystal y perfformiadau, roedd y cyfanwaith yn fethiant esthetig oedd mor hyll â’r digwyddiadau sy’n ganolbwynt i Perthyn.

awdur:Nic Ros
cyfrol:477, Hydref 2002

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk