Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Lyshio

Aeth GWENAN MARED i weld cynhyrchiad Cwmni Bara Caws o ddrama newydd Aled Jones Williams, Lysh, yn yr Eisteddfod.

Drwy’r ffenasd mae’r lleuad fel medalion ar frest bownsar y nos. A tat_s y goleuadau hyd freichiau’r ddinas. A ‘ma lysh yn galw. YN GALW...’.

Gallaf glywed Phil Reed yn dweud y geiriau yn fy mhen, gweld ystym ei gorff sydd rhywle rhwng anobaith a her, a chlywed s_n y tonnau’n torri yn fy isymwybod. Trwy gornel llygaid f’ymennydd gallaf weld Maldwyn John yn igian crio yn ei gwrcwd tu ôl i’r jiwcbocs a Betsan Llwyd ar ei gwallgof orau yn siglo ar ei cheffyl pren. Mae’r mise en scène grymus wedi ei brintio ar f’ymwybod, ond y tro yma dwi’n gallu chwarae mantais.

Yn lle dibynnu ar fy nghof yn unig wrth adolygu’r ddrama newydd hon, mi ges i rhywbeth gwell. Ac nid am un o’r ‘video phones’ ffansi ‘na rydw i’n paldaruo chwaith, ond rhywbeth llawer mwy defnyddiol. Mi ges i brynu testun Lysh yn lle rhaglen, a mynd â fo adref efo fi. Dwi’n cofio cael gwneud yr un fath yn Stratford rai blynyddoedd yn ôl, a meddwl mor berffaith fyddai’r trefniant hwnnw yng Nghymru lle mae cael cofnodi drama newydd ar gof a chadw yn beth mor brin, a’r mwyafrif o gynnyrch gwreiddiol y theatr Gymraeg yn mynd i ebargofiant.

Hwyrach mod i’n swnio dros ben llestri braidd wrth sôn am beth mor syml, ond yn achos y ddrama yma, roedd y syniad yn gweddu i’r dim. Fe ddywedwn i mai ‘bardd o ddramodydd’ yw Aled Jones Williams, - er mai teitl a roddwyd i ddramodydd arall oedd dipyn yn rhy hoff o’i ddiod oedd hwnnw’n wreiddiol- ac mae’n bleser cael cyfle i weld ei ieithwedd unigryw mewn print. Gellir dweud hyn yn enwedig gan mai drama am eiriau yw hon i raddau helaeth, am y ‘conundrum’ hwnnw sydd wedi drysu llenorion ers dechrau amser, sef sut mae cyfleu cymhlethdod emosiwn o fewn hualau iaith.

‘Rhaid i chdi ddeall semantics lysho’, meddai Ifor yn y ddrama hon, ac mae Aled Jones Williams wedi troi ei du mewn briwedig am allan mewn ymdrech i wneud yr union beth hynny, - cyfleu’r profiad o fod yn alcoholig i’r gwyliwr, cyfleu artaith ac anobaith y cyflwr, yn ogystal â’r hyn sy’n denu ac yn dallu’r rheswm wrth ddychwelyd dro ar ôl tro at y botel. Mae o’n gwneud hynny mewn ieithwedd sy’n swyno ac yn synnu, yn siocio, yn troi’r stumog yn aml iawn, ac sy’n cyffwrdd y man tyner hwnnw yn nwfn ym mherfedd rhywun:

Mae yna geudwll yno-i.

Chwarel yn fy emosiyna-i.

Rhyw dwll Dorothea diafol

Y mae’n rhaid i mi ei lenwi fo...

Ond peidiwch â’m camddeall i, dydw i ddim yn awgrymu mai drama eiriol yn unig yw Lysh. Mae yma waith llawn amser i’r glust, y llygaid, yr emosiwn a’r ymennydd. Gyda’r cyfan yn chwarae ar ei hyd heb fwlch, does ‘na ddim cyfle chwaith i orffwyso’r bambocs a thalu sylw am ysbaid fer i bethau mwy syml fel hufen iâ ‘cornetto’ neu jin a tonic (os nad ydach chi’n meddwl fel Ifor am wrth gwrs, ‘bod tonic fatha condom. Ym merwino’r gic.’) Byddwn i’n amau mai cadw’r momentwm angerddol hwn ar hyd y ddrama yw’r sialens fwyaf i’r actorion, gan nad oes yma strwythur bendant lle mae’r stori yn cyrraedd uchafbwynt a thro. Dim ond profiadau y pedwar cymeriad a geir, fel petaent yn llifo yn ôl ac ymlaen ar y môr sy’n gefnlun i’r ddrama, gyda dim ond cerddoriaeth y jiwcbocs yn aml yn gwahanu un llif meddwl oddi wrth y llall. Nid yw’r set yn cynnig atebion, dim ond cliwiau, gyda defnydd cynnil o symbolau bob dydd mewn sefyllfaoedd anghyfarwydd, a’r goleuo a’r symud wedi ei cynllunio gyda gofal eithriadol, gan fod arwyddocâd i’r pethau lleiaf mewn drama amwys fel hon.

Mae cymeriad y ferch, Sandra, i ryw raddau yn egluro’r digwydd gan weithredu, fel y’i labelir yn nhestun y ddrama, fel Corws. Er hynny, mae iddi hithau ei phryderon a’i chysgodion ac mae’n llifo o rôl i rôl o fewn y digwydd. Byddai’n hawdd dadlau mai agweddau ar un person mewn gwirionedd yw gweddill cymeriadau’r ddrama, sef y tri dyn, gan fod pob un yn cynrychioli cyfnod. Ceir Jona Fodca ym mhresennol cymhleth y clinig rehab, Ifor yng ngorffenol bariau, clybiau a chyfrinachau’r alcoholig, a Santa Clos druan ar goll yng ngorffenol pell plentyn na chafodd gariad mam. Digon amlwg bod mwy na chysgod tafod mewn boch o’r awdur yn y cymeriadau gan fod Ifor yn paratoi i draddodi darlith am ‘ddramâu Jonathan Watkin Ellis- neu i’w ffrindiau – y bosom pals... Jona Fodca!’

 drama yn ddrych o fywyd yn ôl Ibsen gynt, a gyda’r holl ddrychau oedd yn rhan o’r set swreal, sut brofiad tybed oedd gwylio’r ddrama hon i’w hawdur? Un digon annifyr, mae’n siwr gen i, ac nid i’r awdur yn unig. ‘Full frontal’ a geir yma ac nid yw Lysh yn ddrama hawdd i’w gwylio. Er bod ynddi chwerthin chwithig ar adegau, mae’r pwnc difrifol yn pwyso ar y gwyliwr, ei realiri cignoeth yn anodd ac aflednais. Dyna g_yn ambell un fu i’w gweld – ei bod hi’n rhy drwm a ‘dipresing’. Ac er nad ydw i’n cytuno efo’r farn honno, efallai y gellid bod wedi cwtogi rhyw ychydig tua’r diwedd, tua’r adeg y ceir bwrw bol anghynnil Sandra, tua’r adeg hwnnw mae pobl yn dechrau gwingo yn eu seddi ac edrych faint o’r gloch ydi hi, tua’r adeg mae pobl yn dechrau meddwl eu bod nhw’n ffansi peint. A hwyrach mai dyna grynswth yr anesmwythyd, ‘there but for the grace of God...’ efallai?

Clywais hefyd y farn gan un gwyliwr mai hon oedd y ddrama orau iddi gweld ers blynyddoedd. Ac mae’n rhaid cyfaddef bod yma lawer i’w ganmol yn y cynhyrchiad. Roedd yr actio yn arbennig, a hynny mewn drama anodd, emosiynol. Llwyddodd y pedwar i ennyn edmygedd a chydymdeimlad, ac roedd Maldwyn John, sy’n arfer bod mor ddoniol, fel petai wedi llyncu cymeriad Jona Fodca i’w enaid. Roedd proffesionoldeb caboledig i’w weld yma ym mhob agwedd ar y cynhyrchiad a chlo syml y ddrama lle cyfeirir at ‘y bywyd brau, prydferth hwn’ yn dod â deigryn i’r llygaid.

Roedd hi’n biti nad oedd cynulleidfa fawr yno i werthfawrogi’r perfformiad ond hwyrach nad oedd y lleoliad ym metropolis Casnewydd yn helpu rhyw lawer; (wel, aeth hi bron yn sgrech ar Mam a Dad wrth i ni chwilio am y theatr yng nghanol y dref, syniad pwy oedd cael ‘family outing’ i’r theatr dwn i ddim!) Er bod yma ddrama ddewr a gonest ni fydd Lysh at ddant pawb, ac mae hynny’n broblem yn y Gymru Gymraeg lle mae adnoddau yn awgrymu y dylai popeth blesio pawb. Ond dyna lôn beryg, lle gall amrywiaeth a chreadigrwydd edwino ar fin y ffordd. Hyd y gwela i nid yw Aled Jones Williams yn awdur sy’n poeni’n ormodol am farn pobl eraill, mae ganddo’i gythreuliaid personol i ymladd â nhw a fawr o amser dros ben i ymboeni am gythraul yr adolygydd na’r sylwebydd. A pha waeth iddo boeni, gyda chyfoeth yr iaith yn ymsugno drwy ei ddramâu a’i ymwybod,

Yn Gymraeg dwi’n yfad.

Brawddegau’r iaith fel wiars

Lectrig yn cario shoc byw.

Dyna drydan y dramodydd unigryw hwn, ac mae o’n sgleinio fel polyn Nebo!

awdur:Gwenan Mared
cyfrol:502, Tachwedd 2004

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk