Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Nodiadau

O hyn ymlaen, bydd GARETH MILES yn llunio colofn ddrama reolaidd i theatr. Y tro yma, mae’n beio trafferthion diweddar polisi drama Cyngor Celfyddydau Cymru ar gyfuniad dieflig o Seisnigrwydd a masnach.

Rhyw ddwy flynedd yn ôl cefais wahoddiad gan Adran Addysg Cwmni Opera Cenedlaethol Cymru i fynd i bencadlys y cwmni yng Nghaerdydd i drafod y posibilrwydd o lunio libreto ar gyfer opera gymunedol a fyddai’n adrodd hanes Glaniad y Ffrancwyr yn Sir Benfro yn 1797, a buddugoliaeth Jemima Nicholas a’i byddin fenywaidd drostynt. Dywedodd yr ymholydd iddi gael ar ddeall fy mod i’n meddu’r cymwysterau a fyddai’n angenrheidiol ar gyfer y gwaith: diddordeb yn Hanes Cymru, adnabyddiaeth o’r Ffrangeg a hoffter o ddefnyddio cerddoriaeth yn fy nramâu.

Gan fod gen i ddiddordeb gwirioneddol yn y berthynas rhwng drama a cherddoriaeth ac am fy mod yn falch o weld ein Cwmni Opera Cenedlaethol yn ymroi i boblogeiddio celfyddyd mor freiniol, derbyniais y gwahoddiad.

Petawn i wedi bod yn berffaith onest, buaswn wedi diolch i’r ddynes am ei sylwadau caredig a chyfaddef fod un peth yn fy anghymwyso’n llwyr, sef, fy mod yn gresynu ac yn cywilyddio na fuasai Jemeima a’i chriw wedi rhoi croeso mwy Gwyddelig i filwyr y Weriniaeth ffrengig a’u cynorthwyo i drechu’r Arglwydd Cawdor a’i farchilwyr adweithiol. Fe wnes i hynny tua diwedd y cyfweliad, gan ychwanegu, braidd yn wamal, y gallasai bendithion gastronomig a thwristaidd dirifedi fod wedi deillio i’r ardal o fuddugoliaeth Ffrengig.

Yn ôl a ddeallaf, bu’r prosiect yn llwyddiant mawr ac mae’r Cwmni Opera a’r bobl leol a gymrodd ran yn y cynhyrchiad i’w llongyfarch yn galonnog. Dylid cadw hynny mewn cof wrth ddarllen y feirniadaeth ganlynol.

Daeth rhyw wyth o gynrychiolwyr y Cwmni Opera i’r cyfarfod. Dim ond un o’r rhain oedd yn Gymro. Americanwyr, Albanwyr a Saeson oedd y gweddill. Pan ddywedais fy mod yn cymryd yn ganiataol y byddai’r cyfansoddwr yn Gymro Gymraeg, atebwyd nad oedd hynny’n dilyn o reidrwydd. Gorau oll pe byddai’r cyfansoddwr a ddewisid yn dod o Gymru ac yn deall Cymraeg ond efallai y bernid fod cerddor o du allan i’r Dywysogaeth yn fwy cymwys.

Pan dybiais, yn ddigon diymhongar, fod y berthynas annweledig ond hanfodol rhwng y gerddoriaeth a’r geiriau a genir yn mynnu fod cyfansoddwr opera yn siarad iaith y liberto anghytunodd pawb â mi, ac eithrio’r Cymro, na ddywedodd air ar y pwnc nag ar nemor ddim byd arall gydol y cyfarfod.

Rwy’n meddwl mai’r profiad hwn a enynnodd ynof gyntaf ymdeimlad dwfn o gyflwr trefedigaethol ein diwylliant, yn enwedig y gweddau hynny a reolir gan sefydliadai ‘cenedlaethol’.

Sefydliad cenedlaethol Prydeinig sydd â’i bencadlys yn digwydd bod yng Nghymru yw’r WNO. Ac mae’r un peth yn wir am ein Hamgeueddfa Genedlaethol, Prifysgol Cymru, BBC Cymru, gan gynnwys Cerddorfa ‘Genedlaethol Gymreig’ y BBC, HTV Cymru, Theatr Clwyd/Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru. Diau mai Cymry Cymraeg yw penaethiad rhai o’r cyrff hyn ond ceir llawer nad ydynt yn Gymry o gwbl yn rhengoedd uchaf yr arweinyddiaeth a’u tueddiad naturiol hwy yw denu ei tebyg atynt, fel y digwydd yn wastadol mewn trefedigaeth.

Wn i ddim sut y byddai Michael Baker yn diffinio ei genedligrwydd ond rwyf i wedi edrych arno fel Cymro Cymraeg er pan gwrddais ag ef gyntaf, flynyddoedd yn ôl. Cefais ef bob amser yn gyfeillgar ac yn gefnogol i’r prosiectau y bûm yn gysylltiedig â hwy er na fedrai, wrth reswm, droi ei gefnogaeth yn nawdd ariannol bob tro. Dim ond un g_yn benodol sydd gen i yn ei erbyn, sef, na chadwodd at yr addewis a roes, ddwywaith, i’r Academi Gymreig ac i Undeb yr Ysgrifenwyr, y byddai’r Adran Ddrama’n cyllido cyhoeddi sgriptiau detholiad o ddramâu Cymraeg yr ugain mlynedd diwethaf, ar ôl cytuno y dylai hynny fod yn un o’i flaenoriaethau.

Ond ni ellir symud y drafodaeth yngl_n â dyfodol y theatr yng Nghymru yn ei blaen heb ymateb i awgrym Mr. Baker, mewn cyfweliad teledu diweddar, nad ydym ni actorion, cyfarwyddwyr ac awduron sy’n beirniadu diffyg gweledigaeth Cyngor y Celfyddydau yn byw yn y ‘byd go-iawn’. Ai breuddwydio yr wyf fod gweinyddu’r rheilffyrdd, y gwasanaeth iechyd, yr ysgolion a’r celfyddydau yn unol ag egwyddorion cyfrifyddol llym wedi arwain at lanast yn y meysydd hyn i gyd ac nad oes disgwyl i’r un o’r cwangocratiaid sy’n gyfrifol am redeg y gwasanaethau hynny dderbyn y mymryn lleiaf o gyfrifoldeb am y difrod a wnaed? Ai dychmygu yr wyf fod arian y dylid ei wario ar wella rheilffyrdd, ysgolion, ysbytai, y celfyddydau a.y.y.b yn mynd i boced ymgynghorwyr, awduron adroddiadau a threfnwyr cynadleddau a gyflogir i geisio argyhoeddi’r cyhoedd fod y gwasanaeth dirywiedig presennol yn well na dim byd a gafwyd erioed o’r blaen?

Fe ddylai artistiaid a noddir o bwrs y wlad fod yn atebol i’r cyhoedd trwy gyfrwng asiantaeth sydd, yn ei thro, yn atebol i’r corff democrataidd a etholwyd gan y trethdalwyr. Yng Nghymru, dylai’r asiantaeth honno gyfryngu rhwng y gymuned greadigol, y cyhoedd a’r Cynulliad. Nid yw Cyngor Celfyddydau Cymru, ar hyn o bryd, yn atebol i neb nac yn gwrando ar neb.

Edmygais Federico Garcia Lorca (1899-1936), fel bardd a dramodydd, ers blynyddoedd ond hyd nes i mi ddarllen, yn ddiweddar, fywgraffiad rhagorol y Gwyddel Sbaenaidd, Ian Gibson, anghyflawn oedd f’adnabyddiaeth o hanes ei fywyd.

Diddorol fyddai cymharu ymweliadau Lorca a T. H. Parry-Williams â’r Unol Daleithiau, Cuba ac America Ladin; Catholigiaeth Lorca a Saunders Lewis a’u hagweddau gwrthgyferbyniol at fenywod; Paganiaeth Lorca a R. Williams-Parry. Rhywoliaeth Lorca a’r tri Chymro.

Er bod awen Lorca yn wahanol iawn i eiddo Bertolt Brecht, ystyriau yntau ei hun yn ddramodydd chyldroadol. Sefydlodd La Barraca/Y Cwt, cwmni teithiol, cymunedol, cenedlaethol o fyfyrwyr, a nodwydd gan y Weriniaeth. Cynddeiriogid yr Adwaith yn fwy gan eu dehongliadau o glsuron y theatr Sbaenaidd, gan gynnwys dramâu crefyddol, na chan eu agit-prop Sosialaidd.

awdur:Gareth Miles
cyfrol:443/444, Ionawr 2000

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk