Theatre in Wales

Archif atodiadau theatr bARN ers 1992

Ar ein liwt ein hunain

GWYNETH GLYN yw un o awduron Anterliwt yr Ynys Las, anterliwt wleidyddol am yr argyfwng tai a’r mewnlifiad. Yma, mae’n ystyried sut beth yw llwyfannu drama gymunedol heb arian cyhoeddus, a’r ffin fregus rhwng celfyddyd a phropaganda.

‘Dogn helaeth o fraster, o serthedd, o gyfeiriadau anllad ac o ffaligrwydd.’ Na, nid disgrifiad o Sioe Glybiau Bara Caws, ond yn hytrach ‘hanfodion y ffurf draddodiadol’ o’r Anterliwt yn ôl G.G.Evans (yn ei gyfrol Elis y Cowper.) Dau brif gynhwysyn anterliwt dda, ys dywed yr anterliwtwyr eu hunain, oedd ‘Gwagedd a Maswedd’, eilradd oedd unrhyw blot neu foeswers a ddigwyddai fod yn gefnlen i’r chwarae; y brif ddiben oedd difyrru’r gynulleidfa. Ond wrth i awduron yr anterliwtiau ymateb yn fwy uniongyrchol i argyfyngau crefyddol, cymdeithasol a gwleidyddol eu hoes, esblygodd yr anterliwt i fod yn gerbyd propaganda heb ei ail.

Cyfoeswyd un o anterliwtiau enwocaf Twm o’r Nant; Tri Chryfion Byd, gan Gwmni Drama Llwyndyrys ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst 1989; diweddarwyd yr un anterliwt gan Emlyn Roberts i Gwmni Theatr Gwynedd ym 1998 (Pres Mawr, Pennau Bach) ac ers hynny ysgrifennodd John Glyn anterliwt wreiddiol Y Mawr, y Bach, a’r Llai Byth i gwmni Arad Goch. A hithau bellach yn ganrif gron ers i’r Diwygiad Methodistaidd roi stop ar wagan wleidyddol yr Anterliwt draddodiadol, aeth pum bardd bonheddig, un gantores ddiguro, a minnau, ati i roi’r olwynion gwichlyd i droi unwaith eto.

Ennill arian a hwyl oedd dau brif gymhelliad yr anterliwtwyr cynharaf, ac fel hwythau, aethom ninnau o fod heb geiniog o un, i fod yn gyforiog o’r llall. Ond er ein bod yn rhannu diffyg nawdd cyhoeddus yr hen chwaraewyr, mae’n debyg bod cryn elw i’w gael o’r fenter yn yr 17eg a’r 18fed ganrif. Dywed Twm o’r Nant am ei Interlute yntau, Ynghylch Cyfoeth a Thlodi; ‘mi a ganlynais honno dros flwyddyn, ymhell ac yn agos, ac enillais lawer o arian.’ Nid syndod ma hynny chwaith, â hithau’n anterliwt i ddim ond dau chwaraewr, a’r ddau yn cael rhannu’r holl elw!

Un elfen gyson yn y rhan fwyaf o’r anterliwtiau traddodiadol, yn ôl Thomas Parry (Hanes ein Llên) oedd ‘y cybydd yn cwyno yn erbyn caledi ei fyd, a’i fab yn llanc gwastraffus ac yn gwario arian ei dad.’ A dyma union ddechreuad ein hanterliwt ninnau, sef Anterliwt yr Ynys Las. Mae’r Ff_l, neu’r Gweinidog Gwirioneddau (neu Twm Morys) yn ein cyflwyno i Idwal Iwros; ffarmwr cybyddlyd (a chwaraeir gan Myrrdin ap Dafydd). Mae’r hen Idwal yn mynnu gwerthu adfail fferm Yr Ynys Las am arian mawr, er gwaethaf taerineb ei fab (Ifor ap Glyn) sydd ar fin colli’r garafan y bu yn ei rhentu hefo’i gariad, Olwen (a chwaraeir gan yr hyfryd Marian Evans o Lanystumdwy):

Mae yna betha yn dwad o bell,

Ac yn fodlon talu rhenti gwell,

chwedl Olwen. I wneud pethau’n waeth, mae’r gwerthwr tai gor-eiddgar, Bob-Puw-Parry-Tudor (Meirion MacIntyre Hughes), ar dân am i’r lle gael ei brynu gan Saesnes optimistaidd, Jenny Cash-in-Hand (fi), a sylwodd ar adfail Yr Ynys Las dros y We:

JENNY:

Just press here to send your price:

All so easy, sweet and nice!

GWEINIDOG GWIRIONEDDAU:

Mae hon yn hollol honco!

Wedi prynu heb ei weld o!

Fel mewn sawl anterliwt draddodiadol, mae marwolaeth y cybydd yn gryn uchafbwynt, ac fe roir yr hen Idwal Iwros i orwedd dan fendith (neu felltith) y Parchedig Hedd Troseifawnog (Dewi Prysor):

Carai heniaith wych ei dadau

Fel y carai Pero’i gi;

Gwerthodd hwnnw, hefo’r cathod,

I ryw restront bwyd tseinî.

Teg dweud mai ynghudd yn yr hiwmor y mae’r ergydion; mai haws llyncu pilsen gwirionedd pan fo hylif melys chwerthin yn ei chanlyn. Dyma wers a ddysgodd yr anterliwtiwr William Roberts, clochydd Llannor, Ll_n, awdur ‘Interlude Morgan y Gorgwr ar Cariadogs neu Ffrewyll y Methodistiaid yn dair act.’ Fel yr awgryma’r enw, nid mwyniant gwamal-wirion mo anterliwt William Roberts; i’r gwrthwyneb; disgrifiai Roberts Jones, Rhos-lan, y ‘coeg-chwareu’ fel ‘y modd mwyaf gwarthus, erlidgar, a rhyfygus, ag a gallai inc a phapur osod allan’ (Elis y Cowper). Nid adlonni cynulleidfa, ond ymosod ar Fethodistiaid, oedd blaenoriaeth y clochydd o Lannor; fel a ddywed G.G. Evans, ‘yn y cyhuddiadau enllibus y clywid yr elfen ffalig’, ac yn hynny o beth, achlysur digon sychlyd ac amhoblogaidd fu’r anterliwt honno.

Nid felly Anterliwt yr Ynys Las! Nid chwaith ymosodiad unllygeidiog ar yr un Jenny Cash-in-hand na’r un Idwal Iwros, na’r un Bob Puw-Parry-Tudor. Bwriad Twm, Myrddin a minnau wrth fynd ati i lunio’r sgript, oedd defnyddio hiwmor helaeth a stereoteipio comig, i wneud y neges mor glir â phosib; nid trwy fychanu slapstig-aidd a delweddau anweddus (y prop mwyaf ffalig-ei-naws oedd ffon-wialen y Parchedig Hedd Troseifawnog) ond yn hytrach trwy iaith liwgar, heriol, a dweud gonast. Mae sawl elfen o’r cynhyrchiad yn ennyn chwerthin; y gwrthgyferbyniad cynhenid rhwng ambell gymeriad, y gyfeiriadaeth leol sy’n taro tannau yn y gynulleidfa, yn ogystal â mân betheuach eraill, e.e. wig dyn-gwyllt-o’r-coed y Parchedig, llais canu nid persain y gwerthwr tai, a’r ffaith bod Idwal Iwros yn aml i’w weld yn syllu’n angerddol ar ei raw balu, ble y glynwyd yn gyfleus dudalen o’i sgript!

Hawdd deall sut y gellid labelu’r fath ddigwyddiad yn bropaganda, ond onid propaganda, mewn un ystyr o’r gair, yw pob drama wleidyddol? Yn sicr tydi’r ffaith bod rhyw ddrama arbennig yn wleidyddol, yn mennu dim ar ei pherthnasedd na’i phwysigrwydd; i’r gwrthwyneb, fe rydd yr elfen wleidyddol arwyddocâd a phwrpas ehangach iddi. Felly hefyd anterliwtiau.

Nid cyfrwng wedi ei chyfyngu i un safbwynt wleidyddol neu gymdeithasol yw’r anterliwt serch hynny. Daw caleidosgop o safbwyntiau i’r fei yn anterliwtiau’r gorffennol; gwelir ymosodiadau gwrthweriniaethol yn anterliwtiau’r bardd a’r brenhinwr Huw Morys o’r Perthillwydion yn Nyffryn Ceiriog. Defnyddia awdur Pendefig a Hwsmon y ffugenwau ‘Bardd o Wynedd’ a ‘Poeta’, oherwydd mai ‘propaganda ydoedd ynghylch y gwrthdaro chwerw yn Nyffryn Clwyd... a’r Deon Shipley o Lanelwy yn asgwrn y gynnen’ (G.G. Evans). Aiff Evans cyn belled â galw’r anterliwt honno yn ‘arf mewn ymrafael’, a’i phriodoli i Twm o’r Nant. Yn sicr, byddai’r arddull honno’n cydsynio ag arddull un arall o’r anterliwtiau, Pedair Colofn Gwladwriaeth, ble yr ymdrinia â chwestiynau gwleidyddol a chymdeithasol.

Os propaganda, yna propaganda hefo pwyslais ar y prop, gan mai un o’r ychydig brops a ddefnyddir yn Anterliwt Yr Ynys Las, yw taflen Cymuned, ‘A Modest Proposal’, sy’n codi ymwybyddiaeth mewnfudwyr o fodolaeth a natur diwylliant Cymraeg, ac o’r iaith sydd yn rhan annatod ohono. Tra’r oedd Twm o’r Nant yn gwneud elw helaeth drwy argraffu a gwerthu ei anterliwtiau (neu yn y cyd-destun yma, ei bamffledi propaganda,) yr unig bamffled a ddosberthir gan Twm o’r Cwt Certiau (Morys) yw taflen Cymuned; wrth i Weinidog y Gwirioneddau gyflwyno honno i Jenny Cash-in-hand, ac i hithau ei darllen yn ofalus,

Dyma hi’n ffeindio yn Abersoch

Fod y Gymraeg fel y wiwer goch.

A Jenny hithau’n ymwybodol o’r angen i warchod rhywogaethau prin, mae hi’n penderfynu bod yn ymwelydd â’r ardal, yn hytrach nag yn fewnfudwraig. Trwy alw ar gefnogaeth y gynulleidfa wrth bicedu’r gwerthwr tai ystyfnig, mae’r ffîn denau rhwng yr actorion a’r gwir, yn cael ei dymchwel; a hynny am y rheswm syml na fedrwn ni, yn yr argyfwng cymdeithasol sydd ohoni, fforddio credu mai rhith ydi’r hyn sy’n digwydd i’n cymunedau ni. Os mai drych yw drama, yna gellid dadlau mai drych gwyrdröedig, grotesg, ac eto llawn gwirionedd, yw’r Anterliwt. Os felly, o weld siâp difrodedig a bregus eu hadlewyrchiad, cyflyrir y gynulleidfa, fel yr actorion, i weithredu er mwyn newid y darlun. Nid codi gwrychyn, fel yn achos llawer o’r anterliwtiau cynnar, ond codi drych, a thrwy wneud hynny, codi ymwybyddiaeth, a’r awydd i weithredu.

GWEINIDOG GWIRIONEDDAU:

Amen, amen, amen, amen;

Mae pob dim da yn dod i ben.

(Ond tydi’r Anterliwt heb ddarfod;

Dewch i’w gweld hi yn y Sdeddfod!)

awdur:Gwyneth Glyn
cyfrol:486/487, Gorffenaf/Awst 2003

I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com

Privacy Policy | Contact Us | ©2006 keith morris / red snapper web designs / keith@artx.co.uk