Pinter a Iaith dan Ormes
Ddechrau Hydref roedd y dramodydd Harold Pinter yng Nghaerdydd, yn darllen ac yn trafod ei ddrama Mountain Language, sy’n ymdrin â gormes ieithyddol. Roedd EMYR EDWARDS yno.
Ar nos Wener, Hydref 7fed, yr oedd Harold Pinter yng Ngwesty’r Royal yng Nghaerdydd, yn cynnal sesiwn dan nawdd Amnesty International fel rhan o _yl Lenyddol Caerdydd. Darlleniad oedd ganddo o’i ddramodig Mountain Language, yntau’n cymryd rhan yr holl gymeriadau, ac yna drafodaeth gyda’r gynulleidfa fawr oedd yno ar natur y sgript. Lledodd y drafodaeth i gynnwys yr haen wleidyddol sydd wedi dod yn fwyfwy amlwg yn ei waith dros y blynyddoedd, ac yn arbennig yn y ddramodig uniongyrchol wleidyddol hon.
Fe dyfodd y syniad ar gyfer Mountain Language o ymweliad y dramodydd â Thwrci, lle bu’n trafod gyda’r Cwrdiaid ormes y Twrciaid sydd yn graddol geisio eu dilyn oddi ar fap y byd. Rhan o’r gormes yma yw’r ymgais i ddileu iaith y Cwrdiaid. Dangos y modd y mae militariaeth yn gweithredu’r fath ormes y mae Mountain Language. Nid yw wedi’i lleoli yn Nhwrci nac yn sôn am y Cwrdiaid, ond mae’n ymdrin â sefyllfa sy’n berthnasol i unrhyw fan yn y byd lle mae dynion yn gormesu ei gyd-ddyn, am ba bynnag reswm. Mae’n ddramodig fach ysgytwol.
Ar ddechrau’r ddrama y mae gwerinwragedd wedi aros am oriau y tu allan i garchar er mwyn gweld eu dynion sy’n gaeth y tu mewn. Mae milwyr yn cadw golwg ar y gwragedd. Mae un hen werinwraig yn disgwyl i gael gweld ei mab. Cafodd hi ei chnoi gan gi’r milwyr. Mae gwraig ifanc hyddysg yno hefyd, hithau’n disgwyl i weld ei g_r. Mae hi’n herio’r milwyr yngl_n â chyflwr yr hen wraig, ac maent hwy’n ei gwawdio hi, gan arddangos ochr anifeilaidd a chras i’w cymeriadau. Yn yr ail olygfa, mae’r hen werinwraig yn ceisio siarad â’i mab yn eu hiaith eu hunain, iaith y bryniau, ond yn cael eu hatal. Yn y drydedd olygfa, y mae’r wraig hyddysg yn gorfod wynebu ei g_r sydd wedi ei arteithio. Yn y bedwaredd olygfa, y mae mab y werinwraig yntau erbyn hyn wedi ei arteithio, yn ceisio siarad â’i fam. Mae milwr, o’r diwedd, yn dod â’r wybodaeth y gall y gwerinwyr siarad eu hiaith oherwydd newid yn y rheolau. Mae’r fam a’r mab yn awr yn cael siarad iaith y bryniau. Ond mae’r fam wedi ei thrywanu’n fud gan holl erchylltra’r sefyllfa. Mae ei mudandod hithau yn siarad cyfrolau ar derfyn y ddrama hon.
Yn y sgript wreiddiol yn Saesneg, ac mewn fersiwn ohoni yn y Gymraeg, nid oes gwahaniaeth iaith yn neialog y gormeswyr a’r sawl sydd yn cael eu gormesu. Canolbwyntio ar y syniad a’r weithred o ormesu a wneir, yn hytrach na chyflwyno un iaith yn gormesu’r llall.
Rydw i wedi cael y profiad o gynhyrchu Mountain Language mewn tair gwahanol ffurf gyda myfyrwyr, sef yn y Saesneg gwreiddiol, mewn cyfieithiad Cymraeg, ac yna yn y Saesneg ond gan adael i’r mab a’i fam, sydd yn cael eu gwahardd rhag siarad eu mamiaith, lefaru yr ychydig ddeialog sydd ganddynt hwy yn y Gymraeg.
Yn y ddwy fersiwn gyntaf yn y Saesneg wreiddiol ac yn y Gymraeg, canolbwynt y ddrama oedd y trais geiriol a chorfforol, a’r gormes meddyliol. Ond wrth berfformio’r ddrama yn y ddwy iaith, gan adael i’r Saesneg fod yn iaith y gormeswyr, a’r Gymraeg fod yn iaith y sawl a ormesir, y mae canolbwynt y ddrama yn newid yn llwyr, wrth i’r gormes ieithyddol gael y flaenoriaeth.
Soniais wrth Pinter am hyn, gan ofyn iddo beth oedd ei adwaith at y fath driniaeth o’i ddrama. Atebodd y buasai wedi hoffi gweld y cynhyrchiad dwyieithog. Gofynnodd wedyn a oedd y gormes yma’n nodweddiadol o sefyllfa’r iaith yng Nghymru. Ymatebodd rhai yn y gynulleidfa drwy gyfeirio at y Welsh Not yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg, tra soniodd eraill am enghreifftiau o’r Gymraeg yn cael ei sathru heddiw hefyd, ym myd masnach a busnes.
Nid oedd Pinter, mae’n amlwg, yn ymwybodol o gwbl o’r sefyllfa ieithyddol yng Nghymru. Y mae gormes, fodd bynnag, yn rhan o’i brofiad fel Iddew ac yntau, pan oedd yn llanc yn ystod y rhyfel yn Llundain, wedi cael ei fygwth gan gangiau o blant Ffasgaidd ar y strydoedd. Y mae gormes a thrais yn trydar ac yn sisial o dan yr wyneb, ac ar brydiau’n ffrwydro i fywydau’r cymeriadau yn ei ddramâu’n gyffredinol. Mountain Language, meddai Pinter yn ystod y drafodaeth yng Nghaerdydd, yw ei waith mwyaf uniongyrchol wleidyddol hyd yn hyn.
Mewn fersiwn ddwyieithog y mae’r ddrama yn sicr yn magu arwyddocâd sy’n berthnasol iawn i’n hamgylchiadau a’n hir brofiad ni yng Nghymru.
awdur:Emyr Edwards
cyfrol:383, Tachwedd 1994
I archebu copïau o'r cylchgrawn cysylltwch â'r cyhoeddwyr:
bARN
Gwasg Dinefwr
Heol Rawlings
Llandybie
Sir Gaerfyrddin
SA18 3YD
ffôn: 01269 851640
ffacs: 01269 851046
swyddfa@cylchgrawnbarn.com
www.cylchgrawnbarn.com