Theatr na n'Og |
Theatr na n’Óg/ Theatr Mwldan- Salsa , Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog. , September 5, 2011 |
Ar y nos Iau bûm yn Theatr y Stiwt, Rhosllannerchrugog, i weld cynhyrchiad Na n’Ôg/Mwldan o Salsa! gan Geinor Styles. Mae’r gomedi ramantaidd hon yn olrhain perthynasWayne a Rhian Needy wrth iddynt ymuno â dosbarth dawnsio. Mae Rhian yn rhoi’r ffidil yn y to ar ôl dim ond un wers – ond maeWayne yn darganfod talent gudd i ddawnsio Salsa, a hynny dan arweiniad Adela, yr hyfforddwraig Sbaeneg hardd… Mwynheais y ddrama hon yn aruthrol. Byddai rhaid i rywun fod â chalon o ddur i beidio â chael ei gyffwrdd gan stori fach mor dyner. Roedd pob agwedd o’r cynhyrchiad yn dra effeithiol, yn enwedig felly’r llwyfannu, y sain a’r goleuo. Pob clod hefyd i’r pum aelod o’r cast, Phyl Harries, Carwyn Glyn, Llinos Daniel, Laura Clements a Betsan Llwyd, am eu gwaith caled wrth ddawnsio. Nid creu theatr aruchel yw diben y ddrama hon, ac eto llwyddodd y cynhyrchiad i’m cael i hoffi a chydymdeimlo â’r cymeriadau. Mae yno deimladrwydd go iawn tu hwnt i’r hwyl a’r ysgafnder. Bydd Salsa! ar daith drwy Gymru cyn bo hir. Ewch i’w gweld hithau ar bob cyfri. Alla i ddim canu ei chlodydd hi ddigon. Bydd Salsa ar Daith rhwng 6 Hydref a 4 Tachwedd. Am fwy o fanylion dilynnwch y linc http://www.theatr-nanog.co.uk/productions/Salsa/showings |
Reviewed by: Gruffudd Owen i Barn |
This review has been read 2840 times There are 34 other reviews of productions with this title in our database:
|