Hanes teulu, tynged fferm
|
Penderfyniadau mawr am ddyfodol fferm, etifeddiaeth a ffordd o fyw yw themâu’r ddrama deledu Tir ar S4C nos Sul, 16 Mehefin. Yn addasiad teledu o sgript cynhyrchiad theatrig Tir Sir Gâr, Theatr Genedlaethol Cymru, mae darlledu'r ddrama Tir yn uchafbwynt wythnos Cynefin S4C.
Mae Tir yn adrodd stori un teulu sy'n sydyn yn wynebu dyfodol ansicr wrth i'r tad fynd yn ddifrifol sâl. O amgylch bwrdd cegin yr aelwyd, mae'r fam a'i phedwar o gywion yn ymgynnull i drafod y dyfodol.
Gyda'r actores brofiadol Rhian Morgan yn chwarae rhan y fam, mae'r cast hefyd yn cynnwys pedwar actor ifanc: Catherine Ayers, Siôn Ifan, Gwydion Rhys a Lucy Hannah. Mae pob un yn cyflwyno eu dadl eu hunain dros dynged y fferm - brwydro 'mlaen, arallgyfeirio, neu werthu a gadael - gyda salwch y tad yn gysgod parhaol.
"Mae Tir yn drafodaeth ynglŷn â ffermio, rôl ffermwyr yn ein cymdeithas a'r pwysau mawr a'r drafferth maen nhw'n ei gael i gynnal bywoliaeth. Yn bennaf y brif thema yw beth sy'n digwydd pan mae pobl yn gadael a beth yw effaith hynny ar gefn gwlad," meddai awdur Tir Roger Williams, sydd hefyd yn ysgrifennu'r gyfres boblogaidd Gwaith/Cartref.
Magwyd Roger yn nhref Caerfyrddin ac wrth baratoi i ysgrifennu'r stori bu'n treulio amser yng nghwmni teuluoedd yng nghefn gwlad Sir Gâr - gan hefyd dorchi llewys i helpu gyda shifft odro. Dysgodd fod nifer fawr o deuluoedd amaethyddol wedi wynebu'r un dewisiadau sy'n cael eu trafod yn y ddrama.
"Roeddwn i'n ymwybodol wrth greu'r sioe ein bod ni'n delio gyda rhywbeth oedd yn agos at galonnau pobl. Fel rhywun sydd ddim yn perthyn i'r byd ffermio, doeddwn i ddim ishe mynd ati i gam-gynrychioli’r byd hwnnw. Doeddwn i ddim am roi rhywbeth ar y sgrin a phobl yn meddwl nad oedd e'n swnio'n iawn, neu ddim yn digwydd fel 'na," meddai Roger.
Mae un o’r ffermydd lle ffilmiwyd Tir yn enghraifft o fferm sydd wedi arallgyfeirio. Roedd y fferm ar gyrion Caerfyrddin, gyda golygfeydd ysblennydd o Ddyffryn Tywi, yn hen fferm laeth, sydd wedi rhoi'r gorau i odro ers rai blynyddoedd a bellach yn rhentu ei thir i'r ffermydd cyfagos.
"Roeddwn i'n hyderus 'na fyddem ni'n cael trafferth yn dod o hyd i fferm addas ar gyfer y ffilmio, achos mae cynifer o ffermydd yr ardal wedi bod drwy broses o roi’r gorau i’r gwaith o ffermio. Rwy'n gobeithio mai dyma sy'n mynd i fod yn bwysig am y prosiect teledu, adlewyrchu profiad cymaint o bobl sydd wedi wynebu’r penderfyniad o werthu tir a ffarm. Mae lot o bobl wedi cael cyfle i etifeddu ffarm, ac wedi penderfynu mynd mas i weithio yn lle. Dyma'r dewisiadau mae pobl wedi gorfod gwneud o ran eu hetifeddiaeth nhw ac mae'n destun emosiynol i nifer o bobl."
Tir
Nos Sul 16 Mehefin 8.30, S4C
Isdeitlau Saesneg
Cynhyrchiad Joio ar gyfer S4C |
web site: |
e-mail: |
Friday, June 14, 2013 |
|
|
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999