Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), A FERSIWN CYMRAEG, Cer i Grafu...Sori...Garu! – GAN CARYS ELERI YN PARATOI AM DAITH LEDLED CYMRU DROS YR HYDREF ENGLISH AND WELSH VERSIONS OF CARYS ELERI’S Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff) PREPARE |
![]() Wedi’i hysgrifennu a’i pherfformio gan Carys Eleri, mae Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)/Cer i Grafu… sori… GARU! yn sioe orfoleddus ond personol iawn am niwrowyddoniaeth cariad ac unigrwydd, yn taclo’r themâu cyfoes lles ac iechyd meddwl gyda thrac sain gwreiddiol a chaneuon aml-genre. Dyma’r sioe gyntaf i Carys ysgrifennu – mae hi’n fwy adnabyddus efallai am ei rôl yng nghyfres S4C– Parch - a chafodd ei henwebu am wobr BAFTA yn 2018 am y rôl honno. Datblygwyd Lovecraft o’r dechrau gyda chefnogaeth Canolfan Mileniwm Cymru. Cafodd Lovecraft ei berfformio am y tro cyntaf yn ystod Gŵyl y Llais Canolfan Mileniwm Cymru ym mis Mehefin 2018 ac yna aeth i Ŵyl Ymylol Caeredin – gŵyl gelfyddydol fwyaf y byd. Fe aeth ymlaen i ennill y wobr Cabaret Gorau yng Ngŵyl Ymylol Adelaide – ail ŵyl Ymylol fwyaf y byd – ym mis Mawrth 2019. Dychwelodd y sioe i Ŵyl Ymylol Caeredin ym mis Awst eleni fel rhan o raglen Cyngor Celfyddydau Cymru Dyma Gymru, cyn cychwyn ar daith ledled Cymru gyda’r ddau fersiwn dros yr hydref. Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig y Ganolfan: “Dyma sioe gyfoes, ddisglair sy’n rhoi cyfle i Carys – sy’n gyflym yn dod yn enw adnabyddus yng Nghymru – i ledu’i esgyll creadigol. Ac am y tro cyntaf i’r Ganolfan, mae gennym ni ddau fersiwn – un yn y Gymraeg ac un yn Saesneg – ar daith chwe wythnos o amgylch Gymru, yn perfformio mewn 11 o leoliadau mwyaf mawreddog y wlad. Mae Canolfan Mileniwm Cymru’n ymroddedig i greu gwaith arloesol a chyfoes sy’n dangos Cymru ar ei orau i’r byd, a dyma enghraifft wych o’r uchelgais yma. Rydyn ni’n hynod gyffrous i rannu’r sioe yma, sydd wedi swyno cynulleidfaoedd yng Nghaerdydd, Caeredin ac Adelaide yn barod, gyda chynulleidfaoedd ar draws Cymru gyfan.” Dywedodd Carys Eleri: “Rwy’n hynod gyffrous i allu teithio o gwmpas gwlad fwyaf secsi’r byd gyda’r sioe-wyddonol mwyaf secsi sydd erioed wedi cael ei chreu ynddi. P’un ai yn y Gymraeg neu yn Saesneg, dewch i ymuno yn yr hwyl fy hyfryd ffrindiau fel ein bod ni’n gallu chwalu’r epidemig unigrwydd unwaith ac am byth. Cwtsho yw’r ateb.” Fresh from its second run at the Edinburgh Festival Fringe, Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff), a unique, one-woman, science-comedy musical from BAFTA Award-nominated, Welsh actress and singer Carys Eleri, will take on a 11-venue tour of Wales this autumn alongside a brand new, Welsh language adaptation called Cer i Grafu… sori… GARU! Written and performed by Carys Eleri, Lovecraft (Not the Sex Shop in Cardiff)/Cer i Grafu… sori… GARU! is a joyous but deeply personal show about the neuroscience of love and loneliness, tackling the most current themes of wellbeing and mental health with a soundtrack of original, multi-genre songs. It is Carys’ debut as a writer – she is perhaps best known as the lead actor in S4C’s hit series Parch, for which she was nominated for a BAFTA in 2018 – and it was developed from scratch with the support of Wales Millennium Centre. Lovecraft made its debut at Wales Millennium Centre’s Festival of Voice in June 2018 followed by a run at the 2018 Edinburgh Festival Fringe – the world’s largest arts festival. It went on to win a Best Cabaret Fringe Award at the Adelaide Fringe - the world’s second largest annual fringe festival – in March 2019. It returned to the Edinburgh Festival Fringe in August this year as part of Arts Council of Wales’ This is Wales programme, before it embarks, in two versions, on its Wales-wide autumn tour. Graeme Farrow, the Centre’s Artistic Director, said: “This is a dazzlingly contemporary show that gives Carys – who’s fast becoming a household name in Wales – a chance to flex all her creative muscles at once. And in a first for the Centre, we’re taking two versions – one in Welsh, one in English – on a six-week tour of Wales, performing in 11 of its most prestigious venues. Wales Millennium Centre is committed to creating innovative work that showcases Wales to the world, and this is one of our best examples of that ambition. We can’t wait to share this show, which has charmed theatregoers in Cardiff, Edinburgh and Adelaide already, with audiences the length and breadth of Wales.” Carys Eleri said: “I cannot wait to tour across the sexiest country in the world with the sexiest science-show that ever came out of it. Whether it’s in Welsh or English, come join the fun my darlings to so we can kick this loneliness epidemic in the teeth. Cwtch is King.” |
Aberystwyth Arts Centre web site: https://www.aberystwythartscentre.co.uk |
Marketing Dept Aberystwyth Arts Centre e-mail: artscentre-marketing@aber.ac.uk |
Wednesday, September 4, 2019![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999