24 HOURS OF CULTURE: MAJOR SURVEY TO SNAPSHOT WHAT SOUTH EAST WALES LOVES TO DO |
![]() The short questionnaire will go live at www.24hourculture.wales and is set to celebrate events, venues, organised activities and clubs that respondents might have attended. The survey is also interested in hearing about interests that people undertake, sometimes without even consciously identifying them as cultural, which might include reading a book or watching a film, hearing music, singing or writing poetry. The initiative is commissioned by What Next? Cardiff and What Next? Valleys, a collective of key arts organisations and individuals in Wales, which has members ranging from large national bodies to independent practitioners. Laura Drane, Co-founder of What Next? Cardiff said: "This is a chance for everyone right across ten local authorities to share what they enjoy doing. We know how important arts and culture can be, and so, we are looking to highlight the what, where and why from individuals, to shine the spotlight on the impact and value that activities have on people's lives. We are looking to capture story-rich responses, as well numerical data to paint a picture." Over twenty partners are behind the event, which stretch across a whole range of organisations involved in the arts, from city councils, broadcasters and venues to community organisations, festivals and freelancers. The ambition is for thousands of people aged 16+ who live in, or engage in arts and cultural activity based in the survey area to take a few moments of their time during and just after the 24 hour period to complete the survey at www.24hourculture.wales, where responses are anonymous. It is anticipated that links to the event will be rolled out across the region via networks, social media and mailing lists of local authorities, arts organisations, libraries, sports associations and many more, in a call to encourage large response rates. Organisers Good Thing Creative are also putting a call out for 24 volunteers to have their 24 hours of arts and culture choices profiled in a little more detail for an online gallery. The website has more details of how to sign up. There is also still time for professionals and organisations to get involved with the promotion of the event via their networks, or by contributing resources including funding. Please contact organisers via www.24hourculture.wales. For updates, follow @24HrCulture on Twitter and see Facebook.com/24HourCulture. The official website also features a whole selection of events and activities for inspiration, taking place across South East Wales, which reaches areas including Merthyr and Monmouth to Bridgend and Blaenau Gwent. 24 Hour Culture: Read, Watch, Dance, Make, Play, Sing - What do you do? DIWYLLIANT 24 AWR: AROLWG MAWR FYDD YN NODI’R HYN Y MAE DE-DDWYRAIN CYMRU WRTH EI BODD YN EI WNEUD Bydd arolwg mawr a elwir yn Diwylliant 24 Awr yn lansio fis nesaf, fydd yn nodi sut a pham mae pobl yn cael profiad o’r celfyddydau a diwylliant yn eu bywydau pob dydd ar draws De-Ddwyrain Cymru. Gofynnir i ymatebwyr pa weithgareddau diwylliannol y maent wedi cymryd rhan ynddynt mewn cyfnod o 24 awr, o hanner dydd ddydd Gwener 21 Hydref tan ddydd Sadwrn, 22 Hydref. Bydd yr holiadur byr yn fyw ar www.diwylliant24awr.cymru ac mae disgwyl iddo ddathlu digwyddiadau, lleoliadau, gweithgareddau wedi’u trefnu a chlybiau gall fod yr ymatebwyr wedi’u mynychu. Mae gan yr arolwg hefyd ddiddordeb mewn dod i wybod am ddiddordebau pobl, hyd yn oed heb sylwi eu bod yn weithgareddau diwylliannol weithiau, all gynnwys darllen llyfr neu wylio ffilm, i wrando ar gerddoriaeth neu ysgrifennu cerddi. Mae'r blaengarwch yn cael ei gomisiynu gan What Next? Caerdydd a What Next? Y Cymoedd, sef casgliad o sefydliadau ac unigolion celfyddydol allweddol yng Nghymru, sy'n cynnwys aelodau sy'n amrywio o gyrff cenedlaethol mawr i ymarferwyr annibynnol. Dywedodd Laura Drane, Cyd-sylfaenydd What Next? Caerdydd: "Mae hwn yn gyfle i bawb ar draws y deg awdurdod lleol i rannu'r hyn y maent yn mwynhau ei wneud. Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae’r celfyddydau a diwylliant yn gallu bod, ac felly, rydym am bwysleisio’r beth, ble a pham a nodir gan unigolion, i dynnu sylw a effaith a budd y gweithgareddau ar fywydau pobl. Rydym am gael ymatebion stori-gyfoethog, yn ogystal â data meintiol i beintio llun." Mae dros ugain o bartneriaid tu ôl i'r digwyddiad, sy'n ymestyn ar draws sbectrwm o sefydliadau sy'n ymwneud â'r celfyddydau, o gynghorau dinas, darlledwyr a lleoliadau i sefydliadau cymunedol, gwyliau a gweithwyr llawrydd. Y bwriad yw i filoedd o bobl dros 16 oed sy'n byw yn ardal yr arolwg , neu’n cymryd rhan mewn celfyddydau a gweithgareddau diwylliannol a leolir yn yr ardal honno i gymryd ychydig o funudau o'u hamser yn ystod, ac yn union ar ôl y cyfnod o 24 awr i gwblhau'r arolwg ar www.diwylliant24awr.cymru. Mi fydd yr ymatebion yn ddienw. Rhagwelir y bydd y cysylltiadau i'r digwyddiad yn cael eu cyflwyno ar draws y rhanbarth trwy rwydweithiau, cyfryngau cymdeithasol a rhestrau postio o awdurdodau lleol, sefydliadau y celfyddydau, llyfrgelloedd, cymdeithasau chwaraeon a llawer mwy, mewn ymgais i annog cyfraddau ymateb mawr. Mae’r trefnwyr, Good Thing Creative, hefyd yn rhoi galwad allan i annog 24 o wirfoddolwyr i gael eu 24 awr o ddewisiadau celfyddydau a diwylliant wedi eu proffilio mewn ychydig mwy o fanylder mewn oriel ar-lein. Mae yna fwy o wybodaeth ar y wefan ar sut i gofrestru. Mae yna amser o hyd i bobl broffesiynol a sefydliadau i gymryd rhan yn y gwaith o hyrwyddo'r digwyddiad trwy eu rhwydweithiau, neu drwy gyfrannu adnoddau gan gynnwys cyllid. Cysylltwch â threfnwyr drwy www.diwylliant24awr.cymru. Am y newyddion diweddaraf, dilynwch @24HrCulture ar Trydar ac ewch i Facebook.com/24HourCulture. Mae’r wefan swyddogol yn cynnwys detholiad cyfan o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’ch ysbrydoli chi, fydd yn digwydd ar draws De Ddwyrain Cymru, gan gynnwys Merthyr a Threfynwy i Ben-y-bont ar Ogwr a Blaenau Gwent. Diwylliant 24 Awr: Darllen, Gwylio, Dawnsio, Creu, Chwarae, Canu – beth ydych chi'n 'wneud? |
Arts & Business Cymru web site: contactus@aandbcymru.org.uk |
e-mail: contactus@aandbcymru.org.uk |
Monday, September 26, 2016![]() |
Older news
stories have been carefully archived.
2006 | 2005 | 2004 | 2003 | 2002 | 2001 | 2000 | 1999